Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cyng. Dafydd Meurig, Cyng. Dilwyn Morgan ac y Cyng. Cemlyn Williams. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd datganiad o fuddiant gan Cyng.
Catrin Wager a’r Cyng. Ioan Thomas ar gyfer eitem 7 – Addysg Ôl-16 gan fod y
ddau yn aelod o’r llywodraethwyr mewn ysgolion uwchradd yn Arfon. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw
faterion brys |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu |
|
COFNODION CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 18 CHWEFROR PDF 97 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 18 Chwefror 2020 fel rhai cywir. |
|
CYNLLUN BUDDSODDI I ARBED - NEUADD DWYFOR PDF 140 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd
i:
Cofnod: Cyflwynwyd gan
Cyng. Gareth Thomas PENDERFYNIAD Penderfynwyd i: ¾
Gefnogi’r egwyddor o ddatblygu prosiect cyfalaf buddsoddi i arbed
gwerth hyd at uchafswm o £779,314 yn Neuadd Dwyfor er mwyn gwella’r
ddarpariaeth a’r cyfleusterau, gwella’r cyfleon i godi incwm a sicrhau
diogelwch defnyddiwr; ¾
Cydnabod y risg o golled incwm o ganlyniad i gau’r Neuadd yn ystod
y gwaith adeiladu os bwrir ymlaen; ¾
Cefnogi dyrannu cyfraniad un-tro o gyllideb Trawsnewid y Cyngor ar
gyfer buddsoddiad – sef hyd at £570,000 (cyfalaf); ¾
Cefnogi ail-broffilio arbedion fel a gytunwyd yn wreiddiol i’r
proffil a amlinellir yn nhabl 8.1; ¾
Cefnogi cyflwyno ceisiadau i gyrff allanol i geisio lleihau
cyfraniad y Cyngor ac uchafu gwerth buddsoddiad y Cyngor; ¾
Cefnogi adnabod a chydweithio gyda phartneriaethau a sefydliadau
lleol all gefnogi’r Neuadd i gyrraedd y targed arbediad llawn o £100,000 yn y
tymor canolig yn dilyn y buddsoddiad – a hynny drwy osod her arnynt i leihau’r
bwlch ariannol a chynorthwyo’r Cyngor i wneud arbediad parhaol o £100,000 yn y
gyllideb erbyn 2025. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr
adeilad yn cartrefu theatr, sinema a llyfrgell ym Mhwllheli
a phwysleisiwyd nad oes buddsoddiad sylweddol wedi ei wneud i’r adeilad na’i
adnoddau ers 1996. Mynegwyd fod ymgeision wedi ei wneud yn 2013-14 i
drosglwyddo’r Neuadd i fudiad ond oherwydd costau uchel o waith diweddaru ni fu
modd cytuno i wneud hyn. Mynegwyd fod y penderfyniad yn gofyn am
fuddsoddiad yn yr adeilad a bod arian wedi ei gadarnhau ar gyfer cyfran o’r
arian. Ychwanegwyd y bydd yr arian yn gwella cyfleusterau ynghyd â’r cyfleoedd
i weithio gyda phartneriaid eraill yn yr ardal. Nodwyd fod yr adeilad yn gartref i’r
Llyfrgell yn ogystal a mynegwyd fod rheolaeth yr adeilad a'r llyfrgell yn
hanesyddol wedi bod yn ddwy swydd ar wahanol. Pwysleisiwyd ym mis Rhagfyr fod
rheolaeth y ddau dîm bellach yn adrodd i’r un rheolwr. Amlygodd y Pennaeth Cynorthwyol
Diwylliant fod gwaith ymgynghori wedi ei wneud i weld beth yw dyheadau’r
trigolion lleol a bod yr ymgynghoriad hwn wedi bod yn sylfaen i’r cynllun
busnes. Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaeth Llyfrgelloedd fod y newidiadau sydd
wedi ei gwneud a gobeithir ei gwneud am sicrhau fod yr holl adeilad yn gweithio
yn fwy effeithlon, gyda thimau yn gweithio yn nes ac y bydd modd i ehangu ar
oriau agor y llyfrgell. Mynegodd yr Aelod
Lleol fod yr adeilad yn cael ei ddefnyddio i gymaint yn fwy ‘na sinema a bod y Cyngor
yn rhoi buddsoddiad yn yr adeilad yn ffordd ymlaen. Ychwanegodd pe bai’r Cyngor
yn penderfynu ei gau y byddai llawer o wariant cynnal a chadw ar yr adeilad.
Ategodd fod yr Eisteddfod Genedlaethol yn dod i’r ardal yn 2021 ac y bydd
defnydd yn cael ei wneud o’r adeilad yn ystod yr wythnos honno. Pwysleisiodd
fod y Neuadd yn agos at galon trigolion yr ardal a bod gwerth yn ei gadw a
buddsoddi ynddo. Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth ¾ Mynegwyd fod llawer o staff ifanc yn gweithio yn y Neuadd a bod cyfleodd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. Awdur: Roland Evans |
|
Cyflwynwyd gan: Cyng. Cemlyn Williams Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Penderfynwyd
rhoi caniatâd i’r adran gynnal trafodaethau gyda rhan-ddeiliad er mwyn ystyried
y ddarpariaeth bresennol ac amlygu’r ystyriaethau allweddol er mwyn cyd-adnabod
y cyfeiriad a chyfleodd i gryfhau’r ddarpariaeth addysg ôl-16 yn Arfon. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn PENDERFYNIAD Penderfynwyd rhoi caniatâd i’r adran gynnal trafodaethau
gyda rhan-ddeiliad er mwyn ystyried y ddarpariaeth bresennol ac amlygu’r
ystyriaethau allweddol er mwyn cyd-adnabod y cyfeiriad a chyfleodd i gryfhau’r
ddarpariaeth addysg ôl-16 yn Arfon. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi'r angen am
gyfundrefn ôl-16 newydd o ganlyniad i fwriad Llywodraeth Cymru i gyflwyno deddf
newydd yn ystod 2020. Ychwanegwyd y bydd hyn yn codi trafodaeth yng Ngwynedd
gan fod seiliau’r gyfundrefn yn dyddio yn ôl 40 mlynedd, ac o ganlyniad i hyn
mynegwyd ei bod yn amserol i fod yn edrych ar y gyfundrefn. Pwysleiswyd
y bydd y ffocws yn benodol ar ardal Arfon ble mae’r ddarpariaeth yn parhau mewn
ysgolion, er hyn bydd yr adran yn edrych ar y ddarpariaeth y sir. Nodwyd fod yr adroddiad yn amlygu’r achos
dros newid gan fod llawer o wahaniaethau o ran safonau ac mewn meysydd penodol.
Amlygwyd ar hyn o bryd fod y ddarpariaeth yn Arfon yn cael ei wneud drwy gonsortiwm
ac o ganlyniad fod angen trafodaeth agored ac adeiladol i greu cyfundrefn i’r
dyfodol. Ychwanegwyd fod angen cryfhau’r cyfleoedd i astudio pob pwnc drwy
gyfrwng y Gymraeg. Mynegwyd fod Llywodraeth Cymru yn edrych ar
sut maent yn ariannu cyfundrefn ôl-16 ac mae penderfyniad fod angen edrych ar y
ddarpariaeth cyn cael cadarnhau’r arian. Nodwyd mai newid cwricwlwm addysg yw’r
prif newid ac y bydd y ffocws yn cael ei bwysleisio dysgu a phrofiadau pellach.
O ganlyniad i hyn, mynegwyd fod angen edrych ar y ddarpariaeth i barhau’r daith
datblygu yma. Ychwanegwyd fod angen edrych o ran anghenion cyflogwyr fel bod
modd astudio pynciau penodol ar gyfer meysydd penodol. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾ Croesawyd yr adroddiad gan nodi yn arferol fod yr adran yn dod i’r
Cabinet gydag opsiynau ac yna y bydd ymgynghoriad ar yr opsiynau yma, ond eu
bod yn bwriadu trafod yn gyntaf cyn mynd i ddatblygu opsiynau. ¾ Mynegwyd fod yr adroddiad yn nodi pryder am ddarpariaeth bresennol a gofynnwyd
am esboniad pellach. Esboniwyd fod y gyfundrefn yn ceisio eu gorau ond fod rhai
ysgolion yn astudio gwahanol bynciau mewn ysgolion gwahanol ac o ganlyniad yn
teithio o un lle i’r llall. Mynegwyd fod angen edrych ar sicrhau fod yr un
gefnogaeth a’r un cyrsiau ar draws y sir. Nodwyd ei fod yn gyfle i greu
cyfundrefn gyffroes ac addas. ¾ O ran amserlen mynegwyd y bydd ymgynghoriad yn cael ei wneud yn y
misoedd nesaf ac y bydd adroddiad i’r Cabinet cyn diwedd yr haf. Awdur: Garem Jackson |
|
CYNLLUN CYDRADDOLDEB 2020-24 PDF 70 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd y
ddogfen. Cofnod: Cyflwynwyd gan
Cyng. Nia Jeffreys. PENDERFYNIAD Cymeradwywyd y
ddogfen. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi’r penderfyniad. Mynegwyd nad yw’r
adroddiad yn un newydd gan ei fod wedi ei gyflwyno er mwyn ymgynghori cyn y Nadolig.
Mynegwyd fod y cynllun wedi ei ysgrifennu yn unol â’r Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Ychwanegwyd fod y Cyngor yn angerddol am gydraddoldeb ac eisiau ei hyrwyddo.
Nodwyd fod gwaith ymgysylltu wedi ei wneud ar y Cynllun a bod addasiadau wedi
ei gwneud yn dilyn yr ymgynghoriad. Pwysleiswyd fod y
Cynllun yn gryf ac yn arwain at degwch i bobl Gwynedd. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾ Diolch i’r adran a’r swyddog am eu gwaith yn edrych ar ôl pobl Gwynedd. Ychwanegwyd ei bod yn ddyletswydd ar y Cyngor i gael y ddogfen hon Awdur: Delyth Gadlys |
|
CANOLFAN INTERGREDIG MAESGEIRCHEN PDF 90 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dilwyn Morgan a'r Cyng. Craig ab Iago Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cydweithio gyda’r
cymuned ym Maesgeirchen, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ac Adra i ddatblygu
cynllun posib ar gyfer Canolfan Integredig ar y stad ar gyfer gwasanaethau a
darpariaeth cefnogi teulu ac adrodd yn ôl gyda argymhellion ar gyfer y ffordd
ymlaen. Cofnod: Cyflwynwyd gan Cyng. Craig ab Iago PENDERFYNIAD Cydweithio gyda’r
cymuned ym Maesgeirchen, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ac Adra i ddatblygu
cynllun posib ar gyfer Canolfan Integredig ar y stad ar gyfer gwasanaethau a
darpariaeth cefnogi teulu ac adrodd yn ôl gydag argymhellion ar gyfer y ffordd
ymlaen. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn
gynllun cyffroes sydd yn deillio o waith ymgysylltu gyda thrigolion
Maesgeirchen. Ychwanegwyd fod y cynllun yn cael ei arwain gan y Cyngor ond y
bydd yn cael ei lunio a’i siapio drwy wrando ar ddyheadau'r trigolion. Ychwanegodd yr Aelod Lleol fod ardal
Maesgeirchen yn ardal arbennig, er bod problemau fod cryfderau mawr i’w gweld
yno. Mynegwyd yn dilyn colli'r Clwb Cymdeithasol fod cefnogaeth ar gael gan
Dŷ Cegin ynghyd â’r ysgol ond nad oes unrhyw grwpiau yn cyfarfod yn y stad
sydd wedi arwain at broblemau. Mynegwyd fod colli’r canolfan yma wedi arwain at
effaith cymdeithasol ac iechyd i drigolion. Ymhelaethodd fod buddsoddiad gan y
Loteri Genedlaethol ac o ganlyniad fod dau aelod o staff bellach yn gweithio ar
y stad ond fod angen canolfan gymunedol. Nododd fod y cynllun hwn yn cael ei
yrru gan anghenion y trigolion a bod cefnogaeth ar gael gan y Cyngor. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾ Holwyd o ran cyfraniad ariannol os yw’r arian ar gael. Nodwyd fod yr
arian wedi ei glustnodi yn barod ond nad yw’r gyllideb yn rhan o’r drafodaeth
gan ei fod yn ddibynnol ar beth yw anghenion y trigolion. Pwysleiswyd fod angen
asesiad o beth mae’r gymuned ei angen cyn penderfynu ar gyllideb bendant a bod
hyn wreiddiol i sut mae’r Cabinet yma eisiau rhedeg y Cyngor. Pwysleisiwyd fod
y cynllun yn amlygu fod y Cyngor yn cefnogi datblygiadau sydd cael eu hadeiladu
o’r gwaelod. ¾ Nodwyd ei bod yn wych fod y sgwrs yn cael ei gynnal yn gyntaf i ddeall
anghenion y trigolion cyn mynd ymlaen i gynnig opsiynau ac edrych ar gost y
cynllun. ¾ Mynegwyd fod angen i’r trigolion fod yn gefnogol i’r datblygiad. ¾
O ran
amserlen, mynegwyd nad oedd un penodol ond fod trafodaeth wedi dechrau i edrych
ar anghenion yr ardal Awdur: Catrin Thomas a Dafydd Gibbard |