Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr Hywel Dda , Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH ac ar Zoom

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriad.

 

Croesawyd yr Aelodau Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater brys. 

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu.

 

5.

COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 19 GORFFENNAF pdf eicon PDF 180 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar y 19 Gorffennaf 2022 fel rhai cywir.

 

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL PANEL RHIANT CORFFORAETHOL pdf eicon PDF 104 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Elin Walker Jones

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad a oedd yn adrodd ar waith y Panel Rhiant Corfforaethol ar gyfer 2021-22.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Elin Walker Jones

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad a oedd yn adrodd ar waith y Panel Rhiant Corfforaethol ar gyfer 2021-22.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod gofyn i Aelodau Cabinet fod yn ymwybodol o waith y Panel Rhiant Corfforaethol. Eglurwyd fod yr adroddiad yn nodi fod gan y Cyngor gyfrifoldeb clir i fod yn Rhiant Corfforaethol i bob plentyn yng Ngwynedd, ac i sicrhau gofal effeithiol, diogel, sefydlog ac addas i blant mewn gofal.

 

Amlygwyd y prif bwyntiau yn yr adroddiad a oedd yn cynnwys fod gostyngiad wedi bod yn nifer y plant mewn gofal dros y flwyddyn 2021-22, gyda 46 plentyn wedi dod i ofal am y tro cyntaf yn ystod y flwyddyn ac 54 wedi mynd allan o ofal. Pwysleisiwyd ei bod yn ymddangos fod y strategaeth o gadw teuluoedd gyda’i gilydd yn gweithio gyda nifer uchel o blant yn parhau i fod adref dan oruchwyliaeth neu wedi eu lleoli gyda gofalwyr maeth o fewn eu teuluoedd.

 

Tynnwyd sylw yn benodol at Geiswyr Lloches ar eu Pen eu Hunain gan nodi fod y Swyddfa Gartref wedi rhoi cyfarwyddyd i bob Awdurdod Lleol i dderbyn dyraniad o geiswyr lloches. Amlygwyd rhwng Rhagfyr a Mawrth y bu i’r Cyngor dderbyn 3 ceisiwr Lloches, a rhaid nodi fod darganfod lleoliadau addas wedi bod yn heriol o safbwynt eu hoedran, anghenion ieithyddol a diwylliannol ac yn aml iawn y trawma maent wedi ei profi. Nodwyd y cynlluniau a fydd yn cael eu blaenoriaethu gan y Panel eleni a oedd yn cynnwys ail edrych ar y strategaeth ac i barhau i glywed a gwrando ar lais y plant mewn gofal.

 

Ychwanegodd Pennaeth Adran Plant a Cefnogi Teuluoedd fod niferoedd ceiswyr lloches bellach yn 10 unigolyn, gan nodi fod yr amserlen wedi bod yn hynod dynn gyda 5 diwrnod i ddod o hyd i leoliad iddynt. Eglurwyd fod cyfrifoldeb mawr ar staff i sicrhau cefnogaeth iddynt a bellach fod un gweithiwr cymdeithasol wedi cael eu ail leoli i ganolbwyntio ar y gefnogaeth yma. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Diolchwyd am yr adroddiad a nodwyd pwysigrwydd i holl gynghorwyr Gwynedd i fynychu’r hyfforddiant am eu rôl fel Rhiant Corfforaethol.

¾     Diolchwyd am addasiadau sydd wedi ei gnwued i’r panel eleni gyda’r Prif Weithredwr bellach yn Gadeirydd y Panel, gan nodi y bydd hyn yn sicrhau fod pob adran yn ymwybodol o’i cyfrifoldeb yn y maes hwn.

 

Awdur: Dafydd Gibbard

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN CYDRADDOLDEB 2021-22 pdf eicon PDF 111 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Menna Jones

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd y cynnwys a cymeradwywyd Adroddiad Blynyddol 2021-22, Cynllun Cydraddoldeb 2020-24.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Menna Jones  

 

PENDERFYNIAD

 

Nodwyd y cynnwys a cymeradwywyd Adroddiad Blynyddol 2021-22, Cynllun Cydraddoldeb 2020-24.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai dyma ail Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-24. Eglurwyd fod y ddwy flynedd dan sylw wedi bod yn rhai anarferol ac anodd ac wedi effeithio ar y maes cydraddoldeb. Mynegwyd er nad yw’r gwasanaeth wedi gallu cyflawni popeth oeddent yn ei fwriadu yn ystod y cyfnod, mae gwaith paratoi a chynnydd wedi ei wneud ym mhob un o’r 5 amcan ac mae disgwyl i gwblhau’r holl waith o fewn oes y Cynllun.

 

Tynnwyd sylw at pob amcan yn unigol gan nodi’r prif lwyddiannau. O ran yr amcan 1: Cryfhau a dyfnhau capasiti ac ymrwymiad staff ac Aelodau Etholedig Cyngor Gwynedd ym maes Cydraddoldeb trwy sicrhau eu bod yn derbyn yr hyfforddiant cywir, nodwyd fod hyfforddiant wedi ei gynnal o bell ac fod gwaith wedi ei wneud ar yr e-fodiwl.

 

Mynegwyd gyda amcan 2: Gwella’r wybodaeth sydd gennym gan ac am bobl gyda nodweddion gwarchodedig, fod gwaith yn y maes hwn wedi cymryd mwy o amser na’r disgwyl ond eu bod wedi adnabod fod y gwaith hyn yn rywbeth sydd angen ei wneud yn barhau gan ddefnyddio gwahanol ddulliau. Wrth amlygu Amcan 3:  Adeiladu ar y gwaith sydd wedi ei wneud yn barod i wreiddio Asesiadau Effaith Cydraddoldeb fel arf i sicrhau gwell penderfyniadau, mynegwyd fod templed asesiad effaith cynhwysfawr wedi ei greu yn rhanbarthol ac wedi ei addasu ar gyfer ei ddefnyddio yng Ngwynedd. Amlygwyd mai un o’r prif lwyddiannau oedd i’r Cabinet fabwysiadu Polisi Cydraddoldeb a Chynhwysiad.

 

Nodwyd o ran Amcan 4: Gweithredu i leihau’r bwlch tâl rhwng y rhywiau ac adnabod unrhyw fwlch tâl ar sail unrhyw nodwedd arall, er fod nifer o aelodau staff a gwblhawyd holiadur cydraddoldeb wedi codi o 41.8% i 48% eglurwyd nad oedd hyn yn ddigon o gynnydd o bell ffordd ac o ganlyniad y bydd gwaith yn cael ei annog a gweithio gydag Adrannau. O ran yr amcan olaf: Gweithredu i ddenu amrediad o ymgeiswyr er mwyn cynyddu amrywiaeth ein gweithlu nodwyd fod cynllun peilot wedi ei gynnal yn yr adran Cefnogaeth Gorfforaethol i holi’r rhai oedd yn gadael y Cyngor am unrhyw rwystrau oeddent  wedi ei wynebu. Eglurwyd yn ogystal fod y Cyngor yn gweithio gyda Inclusive Employers er mwyn gwella gwasanaeth y Cyngor ar gyfer pob nodwedd.

 

Ychwanegodd y Ymgynghorydd Cydraddoldeb fod peth llithriad wedi bod gyda’r gwaith o ganlyniad i’r pandemig, ond eu bod yn symud ymlaen ac fod y gwasanaeth yn hyderus y byddant yn cyflawni o fewn amserlen y cynllun.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Diolch am yr adroddiad ac atgoffwyd pawb fod hyrwyddo cydraddoldeb yn gyfrifoldeb i bawb ac nid y gwasanaeth yma yn unig. 

 

Awdur: Delyth G Williams

8.

DIWYGIO POLISI IAITH GYMRAEG Y CYNGOR pdf eicon PDF 404 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Menna Jones

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cefnogwyd yr addasiadau a wnaethpwyd i’r Polisi Iaith ac argymhellwyd fod y Cyngor Llawn yn mabwysiadu’r Polisi diwygiedig.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Menna Jones

 

PENDERFYNIAD

 

Cefnogwyd yr addasiadau a wnaethpwyd i’r Polisi Iaith ac argymhellwyd fod y Cyngor Llawn yn mabwysiadu’r Polisi diwygiedig.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi’r penderfyniad. Nodwyd fod y Polisi Iaith yn gosod gofynion sydd yn sicrhau bod gwasanaethau a swyddogion yn gweithio mewn ffordd sy’n cyd-fynd efo gofynion Safonau’r Gymraeg. Mynegwyd ei fod hefyd yn gosod allan ble mae’r Cyngor yn mynd y tu hwnt i ofynion y Safonau, drwy weithredu mewn ffordd sydd yn rhoi y Gymraeg gyntaf, neu yn codi statws y Gymraeg

 

Eglurwyd fod angen i adolygu wedi codi yn sgil camau gweithredu a osodwyd ar ôl ymchwiliadau Comisiynydd y Gymraeg, ac hefyd sylweddoliad bod rhai pethau wedi newid yn y ffordd mae’r Cyngor yn gweithredu a cyflwyno gwasanaethau (yn enwedig defnyddio mwy o wasanaethau ar-lein). Mynegwyd fod angen adlewyrchu newidiadau mewn Prosiectau blaenoriaeth fel y Dynodiadau Iaith, a Hunanwasanaeth ac arweiniad y Prosiect Enwau Lleoedd Cynhenid Gymraeg.

 

Amlygwyd y prif newidiadau sydd i’w gweld yn yr adroddiad o ran gosod egwyddorion cyffredinol ar ddechrau pob adran, i roi arweiniad ar gyfer gweithredu yn ddigidol ble nad oedd arweiniad cynt ac i gryfhau’r arweiniad ar asesu effaith. Mynegwyd fod trafodaethau wedi ei cynnal yn fewnol gyda grwpiau staff ar yr addasiadau yma ynghyd a trafodaeth ddwy waith gyda aelodau’r Pwyllgor Iaith.

 

Nodwyd fel y camau nesaf y bydd yr Uned Iaith a Chraffu yn llunio rhaglen gyfathrebu fel bod pob adran yn ymwybodol o’r addasiadau sydd wedi eu gnwued i’r Polisi Iaith.

 

Ychwanegodd yr Ymgynghorydd Iaith fod addasiadau wedi eu gnwued i’r Polisi Iaith yn dilyn trafodaeth yn y Pwyllgor Iaith, ac mae hyn er mwyn ymateb i’r sylwadau a dderbyniwyd yn yr ymgynghoriadau a gynhaliwyd. 

 

Awdur: Gwenllian Mair Williams

9.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYFLOGAETH pdf eicon PDF 924 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Menna Jones

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd a nodwyd y wybodaeth yn yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2021/22.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Menna Jones

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd a nodwyd y wybodaeth yn yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2021/22.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn rhoi trosolwg o’r prif faterion gweithlu a oedd yn derbyn sylw y llynedd. Pwysleisiwyd fod yr adroddiad hefyd yn cyfeirio at y prif heriau sydd yn wynebu’r Cyngor fel cyflogwr dros y flwyddyn yma a’r tymor hirach.

 

Tynnwyd at y prif negeseuon yn yr adroddiad, yn gyntaf wrth ddod allan o’r pandemig, mae’r Cyngor fel pob Cyngor a chyflogwr yn gweithredu o fewn cyd-destun cyflogaeth sydd wedi newid yn sylweddol bellach. Mynegwyd fod  arferion gweithio wedi newid yn barhaol ac fod o ganlyniad ei fod yn golygu fod rhai problemau recriwtio a chadw staff yn dechrau dod i’r amlwg. Pwysleisiwyd fod mwy o ofyn nac erioed i gynllunio gweithlu yn effeithiol, ac i geisio rhagweld heriau’r dyfodol a pharatoi ar gyfer y sgiliau a pobl y bydd eu hangen i ymdopi a hynny.

 

Nodwyd fod iechyd a lles staff yn gwbl allweddol i’r Cyngor a nodwyd fod pwysau gwahanol bellach ar deuluoedd gyda’r cynnydd mewn costau byw ac mae angen i’r Cyngor fel cyflogwr fod yn fyw i sut y gall y straen hwnnw effeithio ar lesiant staff.

Mynegwyd fod y Cyngor yn parhau i ddatblygu ac arbrofi a threfniadau gwaith ‘hybrid’ ar gyfer staff, ac nodwyd y bydd trefniadau yn sefydlogi dros fisoedd y gaeaf ac yn rhoi gwell darlun o’r hyn fydd yn ei le yn y tymor hirach. Ond pwysleisiwyd mae anghenion gwasanaeth a thrigolion Gwynedd fydd yn gyrru’r trefniadau terfynol yn y pen draw.

 

Pwysleisiodd y Rheolwr Gwasanaeth fod yr adroddiad yn edrych yn benodol ar y gweithlu a themâu oedd i’w gweld yn y Cyngor dros y flwyddyn diwethaf. Ychwanegwyd fod y themâu a amlygwyd yn parhau i fod yn bwysig i’r gwasanaeth ac y byddant yn parhau i fod yn flaenoriaeth dros y cyfnod i ddod. Nodwyd fod pwysau ar wasanaethau i recriwtio a cadw staff i’w weld ar draws y Cyngor ac fod gwaith yn cael ei wneud i edrych ar hyn.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Nodwyd fod angen uchafu a hyrwyddo’r cynllun Prentisiaethau sydd i’w weld o fewn y Cyngor ac i wneud mwy o’r cynllun.

¾     Mynegwyd ei bod yn arwyddocaol fod cynnydd mawr wedi bod yn y ffigyrau o swyddi yn cael ei ail hysbysebu dros y blynyddoedd diwethaf, a nodwyd fod angen sicrhau fod y Cyngor yn edrych ar sut mae yn hysbysebu swyddi ac yn cyfleu y ddelwedd orau ar gyfer darpar ymgeiswyr. Eglurwyd fod y farchnad recriwtio wedi newid dros gyfnod y pandemig ac fod y Cyngor yn ceisio dal i fyny gyda’r oes i wella y ffordd maent yn hysbysebu.

¾     Eglurwyd fod yr aelodau yn ymwybodol o staff yn gadael y Cyngor i weithio mewn cwmnïau ac awdurdodau eraill oherwydd y gallu i weithio o adref a holwyd os yw’r Cyngor yn cynnig yr un math o delerau. Nodwyd fod gweithio yn hyblyg a  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

Awdur: Eurig Williams

10.

ADRODDIAD BLYNYDDOL IECHYD, DIOGELWCH A LLESIANT pdf eicon PDF 378 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Menna Jones

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr Adroddiad Blynyddol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Menna Jones

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd yr Adroddiad Blynyddol.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi’r penderfyniad. Nodwyd mai dyma’r ail flwyddyn olynol heriol iawn i’r adran oherwydd sefyllfa Covid-19. Mynegwyd fod yr heriau wedi bod yn wanhaol i flwyddyn gyntaf y pandemig gyda heriau yn ymwneud ag ymateb i ofynion Llywodraeth oedd yn newid yn barhaus, adfer Gwasanaethau yn ddiogel a dychwelyd staff bregus yn ôl i’w gwaith yn ddiogel. A hynny, pwysleisiwyd, tra oedd ffigyrau Covid yng Ngwynedd yn uwch nag oeddent yn y flwyddyn flaenorol.

 

Eglurwyd o ran damweiniau a digwyddiadau fod 113 achos o staff yn dal Covid yn eu gwaith wedi ei hadrodd i’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Mynegwyd o ran damweiniau fel arall ategwyd mai symud a thrin pwysau a llithro a baglu oedd y prif achosion am anafiadau. Nodwyd fod gwaith yn digwydd i daclu anafiadau symud a thrin yn benodol.

 

Mynegwyd fod Covid wedi cael effaith ar iechyd staff yn gyffredinol ac mae’r Uned Iechyd Galwedigaethol wedi gweld y nifer cyfeiriadau uchaf ers sefydlu’r Uned ac mae hyn yn wir o ran Gwasanaeth Cwnsela Medra a ffisiotherapi gyda straen, iechyd meddwl a phroblemau Cyhyrsgerbydol yn brif resymau am y cyfeiriadau.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaeth fod yr adroddiad hwn yn adrodd ar y sefyllfa  y llynedd, a nodwyd ei bod yn braf gallu adrodd fod camau breision yn cael ei gwneud i ddal i fyny efo risgiau sydd wedi eu hamlygu dros y blynyddoedd. Eglurwyd fod prosiect penodol ar Iechyd Meddwl ar hyn o bryd gan fod cyfeiriadau i Iechyd Galwedigaethol wedi bod yn uwch ynghyd â hyfforddiant i Reolwyr ac Arweinyddion Tîm am Iechyd Meddwl. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Amlygwyd fod digwyddiad yn cael ei gynnal ym mis Rhagfyr a fydd yn fandadol i Reolwyr ac Arweinyddion Tîm yn benodol ar Iechyd Meddwl, ble fydd hanner y trefniadau yn cael ei roi ar normaleiddio sgwrs am Iechyd Meddwl gyda Staff.

¾     Tynnwyd sylw yn ogystal i hyfforddiant i Ionawr i Gynghorwyr am adnabod diffygion Iechyd Meddwl.

 

Awdur: Catrin Love

11.

ADRODDIAD DRAFFT O SEFYDLOGRWYDD MARCHNAD GOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 384 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dilwyn Morgan

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd yr Adroddiad Sefydlogrwydd ar y Farchnad Gogledd Cymru 2022 ac argymell i’r Cyngor Llawn ei gymeradwyo.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dilwyn Morgan

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd yr Adroddiad Sefydlogrwydd ar y Farchnad Gogledd Cymru 2022 ac argymell i’r Cyngor Llawn ei gymeradwyo.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod Asesiad Anghenion Poblogaeth y Gogledd wedi ei gyflwyno yn ôl ym mis Mawrth eleni ac fod yr adroddiad hwn yn ddilyniant iddo. Eglurwyd ei fod ar ei daith drwy’r Pwyllgor Craffu, Cabinet ynghyd a’r Cyngor Llawn cyn mynd ymlaen i’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ac yna ei gyflwyno i’r Llywodraeth. Pwysleisiwyd fod yr adroddiad ar hyn o bryd yn parhau fel drafft gan eu bod yn disgwyl am ddata cyfredol er mwyn ei ddiweddau.

 

Mynegwyd fod yr adroddiad hwn yn un pwysig a fydd yn cael ei ddefnyddio er mwyn llywio’r broses o wneud penderfyniadau nid yn unig yng Ngwynedd ond yn rhanbarthol yn ogystal. Amlygwyd fod nifer o’r meysydd sydd wedi eu hamlygu yn yr adroddiad yn faterion sydd wedi cael eu hadnabod yn barod gan y Cyngor.

 

Ychwanegodd yr Uwch Reolwr Busnes fod yr Asesiad Anghenion Rhanbarthol yn rhestru yr anghenion tra fod yr adroddiad hwn fel asesiad y farchnad yn cyflwyno sut i gyflenwi ar gyfer gyfarch yr anghenion. Pwysleisiwyd fod y canfyddiadau yn cyd-fynd a’r materion sydd yn cael ei amlygu yng Ngwynedd fel prinder cartrefi nyrsio.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Mynegwyd fod aelodau yn aml yn ddrwgdybus o adroddiadau sydd yn cael eu gorfodi ar y Cyngor ond fod yr adroddiad hwn yn arddangos canfyddiadau ddiddorol sy’n amlygu patrymau cyflenwi a cynnydd yn y galw. Nodwyd fod y sefyllfa fregus tu hwnt i waith y Cyngor o ran cyllido a staffio, ond holwyd a fydd camau pellach yn cael ei gnwued gan y Llywodraeth yn dilyn derbyn yr adroddiad. Eglurwyd fod arwyddion yn dod gan y Llywodraeth eu bod yn rhoi mwy o bwysigrwydd i’r math yma o adroddiadau ac eu bod yn mynd i roi bwyslais i’r byrddau partneriaeth rhanbarthol.

 

Awdur: Alun Gwilym Williams

12.

PREMIWM TRETH CYNGOR AR AIL GARTREFI AC EIDDO GWAG HIRDRMOR pdf eicon PDF 393 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y gynnig posib i gynyddu’r Premiwm ar

Dreth Cyngor Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag Hirdymor tu hwnt i 100% a hyd at

300% ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24.

 

Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Cyllid mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth

Gwasanaethau Cyfreithiol i baratoi pecyn ymgynghori cyhoeddus yn unol â’r

adroddiad ac unrhyw argymhellion gan y Cabinet.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas

 

PENDERFYNIAD

 

Cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y gynnig posib i gynyddu’r Premiwm ar

Dreth Cyngor Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag Hirdymor tu hwnt i 100% a hyd at

300% ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24.

 

Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Cyllid mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth

Gwasanaethau Cyfreithiol i baratoi pecyn ymgynghori cyhoeddus yn unol â’r

adroddiad ac unrhyw argymhellion gan y Cabinet.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad hwn yn gofyn i fynd i ymgynghoriad cyhoeddus. Nodwyd fod rhaid i’r Cyngor Llawn wneud penderfyniad blynyddol ar raddfa’r Premiwm, ac er mwyn cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol, os am gynyddu’r lefel y Premiwm, mae’n rhaid cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynnig.

 

Eglurwyd fod Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 wedi caniatáu disgresiwn i’r Cyngor godi premiwm o hyd at 100% ar Dreth Cyngor rhai dosbarthiadau o ail gartrefi ac eiddo gwag hir dymor ond nodwyd  bydd yr uchafswm yma yn cynyddu o o 1 Ebrill 2023 a bydd gan awdurdodau lleol y grym i godi premiwm o hyd at 300%. Mynegwyd fod mynd i’r afael â phrinder tai fforddiadwy o fewn Gwynedd yn ogystal â’r nifer uchel o ail gartrefi yn flaenoriaeth i’r Cyngor ac mae codi Premiwm Treth Cyngor yn un o’r arfau sydd ar gael i ddelio a’r sefyllfa. 

 

Ategwyd fod Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru)  1998 yn nodi fod  'ail gartrefi' wedi'u categoreiddio i ddau ddosbarth, sef

dosbarthau A a B, tra bod dosbarth C yn cyfeirio at eiddo gwag:

·         Dosbarth A – Annedd lle nad oes trigolyn, sydd wedi’i dodrefnu’n sylweddol  lle mae'r meddiant yn cael ei wahardd am gyfnod o 28 diwrnod o leiaf yn y  flwyddyn berthnasol.

·         Dosbarth B – Annedd lle nad oes trigolyn, sydd wedi’u dodrefnu’n sylweddol a nid oes cyfyngiad cyfreithiol ar ei feddiant.

·         Dosbarth C – Annedd sydd yn ddiddeiliad a heb ei ddodrefnu’n sylweddol.

 

Nodwyd ar 13 Gorffennaf, roedd dros 4600 o dai ei destun y Premiwm ar ail gartrefi (Dosbarth B), 200 ohonynt ddim yn talu’r premiwm gan eu bod yn destun eithriadau a 760 o fewn Dosbarth A ble mae’r meddiant yn cael ei wahardd am gyfnod o 28 diwrnod o leiaf y flwyddyn berthnasol.  Mynegwyd ers cyflwyno Premiwm fod y Cyngor wedi penderfynu yn flynyddol i godi’r un lefel o bremiwm ar eiddo gwag hir dymor ac ail gartrefi, ond mae modd codi lefelau gwahanol os yw’r amgylchiadau lleol yn cyfiawnhau hynny. 

 

Eglurwyd o ran gofynion cyfreithiol fod y penderfyniad yn cael ei wneud yn flynyddol gan y Cyngor Llawn ac fod angen cyflwyno Asesiad Effaith ar Nodweddion Cydraddoldeb, y Gymraeg ac Anfantais Economaidd-Gymdeithasol i’r Cabinet a’r Cyngor Llawn. Ychwanegwyd fod gofyn i gynnal ymgynghoriad ac ymgysylltu gyda rhan ddeiliad cyn codi unrhyw bremiwm a nodwyd fod yr adran yn bwriadu ei gynnal am 28 diwrnod yn ystod mis Hydref. Yn dilyn hyn, ategwyd y bydd adroddiad i’r Cabinet ym mis Tachwedd cyn ei drafod yn y Cyngor Llawn ym mis Rhagfyr. Pwysleisiwyd y bydd y mater yn cael  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12.

Awdur: Dewi A Morgan

13.

ADOLYGU CYFANSODDIAD PWYLLGOR CYNGOR YMGYNGHOROL SEFYDLOG ADDYSG GREFYDDOL (CYSAG) GWYNEDD pdf eicon PDF 345 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Beca Brown

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd argymhelliad yr Adran Addysg a Phwyllgor CYSAG Gwynedd

fyddai newid aelodaeth Grŵp B fel a nodir :

¾    Grŵp A – Cristnogaeth a Chredoau eraill

¾    Grŵp B – cynrychiolaeth Athrawon a Phenaethiaid – Cadw nifer y seddi ar 5

Dyrannu’r seddi fel a ganlyn:

·         3 sedd i’w rhannu rhwng yr Undebau Athrawon a gydnabyddir gan Gyngor Gwynedd (NAS/UWT; UCAC ; NEU; ASCL a’r NAHT – i’w benderfynu gan Fforwm Undebau Athrawon Gwynedd)

·         1 sedd i’w llenwi gan y Grŵp Ymgynghorol Dalgylchol Cynradd ac Arbennig (GYDCA)

·         1 sedd i’w llenwi gan Grŵp Penaethiaid Uwchradd Gwynedd (GSCU)

¾    Grŵp C - Aelodau Etholedig - cadw yn 7

¾    Cyfetholedig - Pwyllgor CYSAG i gadw’r hawl i gyfethol aelodau

 

(3 pleidlais sydd sef 1 i bob Grŵp, nid oes pleidlais gan yr aelodau Cyfetholedig).

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Beca Brown

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd argymhelliad yr Adran Addysg a Phwyllgor CYSAG Gwynedd

fyddai newid aelodaeth Grŵp B fel a nodir :

¾     Grŵp A – Cristnogaeth a Chredoau eraill

¾     Grŵp B – cynrychiolaeth Athrawon a Phenaethiaid – Cadw nifer y seddi ar 5

Dyrannu’r seddi fel a ganlyn:

·         3 sedd i’w rhannu rhwng yr Undebau Athrawon a gydnabyddir gan Gyngor Gwynedd (NAS/UWT; UCAC ; NEU; ASCL a’r NAHT – i’w benderfynu gan Fforwm Undebau Athrawon Gwynedd)

·         1 sedd i’w llenwi gan y Grŵp Ymgynghorol Dalgylchol Cynradd ac Arbennig (GYDCA)

·         1 sedd i’w llenwi gan Grŵp Penaethiaid Uwchradd Gwynedd (GSCU)

¾     Grŵp C - Aelodau Etholedig - cadw yn 7

¾     Cyfetholedig - Pwyllgor CYSAG i gadw’r hawl i gyfethol aelodau

 

(3 pleidlais sydd sef 1 i bob Grŵp, nid oes pleidlais gan yr aelodau Cyfetholedig).

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi  mai cais yw’r adroddiad i adolygu cyfansoddiad CYSAG Gwynedd. Eglurwyd nad yw’r Cyngor wedi ystyried y cyfansoddiad ers 2019, ac fod newid wedi bod i’r undebau yn dilyn hyn. Mynegwyd fod angen i addasu’r Cyfansoddiad er mwyn cryfhau cynrychiolaeth athrawon ar y Pwyllgor.  

 

Ychwanegodd y Swyddog Adnoddau Cynorthwyol fod CYSAG wedi ei greu o 3 grŵp – y cyntaf Cristnogaeth a Chredoau Eraill a oedd yn destun yr adolygiad yn ôl yn 2019, Yr ail grŵp sef Cynrychiolaeth Athrawon ac Phenaethiaid ac yna y grŵp olaf sef Aelodau Etholedig. Eglurwyd mai gofyn sydd yma i addasu yr ail grŵp, ganfod un o’r undebau bellach ddim yn bodol ac o ganlyniad fod angen addasu’r seddi. Gofynnwyd i’r 5 sedd gael ei rhannu fel ganlyn:

·         3 sedd i’w rhannu rhwng yr Undebau Athrawon a gydnabyddir gan Gyngor Gwynedd (NAS/UWT; UCAC ; NEU; ASCL a’r NAHT – i’w benderfynu gan Fforwm Undebau Athrawon Gwynedd)

·         1 sedd i’w llenwi gan y Grŵp Ymgynghorol Dalgylchol Cynradd ac Arbennig (GYDCA)

·         1 sedd i’w llenwi gan Grŵp Penaethiaid Uwchradd Gwynedd (GSCU)

 

 

Awdur: Buddug Mair Huws

14.

CYMERADWYO A MAMBWYSIADU MAES LLAFUR CYTUNEDIG AR GYFER CREFYDD, GWERTHOEDD A MOESEG CYNGOR GWYNEDD pdf eicon PDF 330 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Beca Brown

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd a mabwysiadwyd Maes llafur Cytunedig Crefydd, Gwerthoedd a

Moeseg yn unol ag argymhelliad yr Adran Addysg a Chyngor Ymgynghorol Statudol ar Addysg Grefyddol (CYSAG) Gwynedd a’r Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig a Chanllawiau Llywodraeth Cymru.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Beca Brown

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd a mabwysiadwyd Maes llafur Cytunedig Crefydd, Gwerthoedd a

Moeseg yn unol ag argymhelliad yr Adran Addysg a Chyngor Ymgynghorol Statudol ar Addysg Grefyddol (CYSAG) Gwynedd a’r Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig a Chanllawiau Llywodraeth Cymru.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi  fod yr adroddiad hwn yn amlygu y newid mewn maes llafur a fydd yn symud o Addysg Grefyddol traddodiadol i fod yn Addysg Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg. Eglurwyd y bydd y maes llafur newydd yn cynnwys safbwyntiau athronyddol anghrefyddol yn ychwanegol i grefydd. Croesawyd y newid hwn gan amlygu ei fod yn gyfle i bobl ifanc adnabod yr hyn sydd yn gyffredin rhwng pawb ac i drafodaethau difyr am wahaniaethau a fydd yn hybu parch i bawb.

 

Ychwanegodd y Swyddog Adnoddau Cynorthwyol fod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno yn sgil sefydlu Cwricwlwm i Gymru. Nodwyd fod dyletswydd cyfreithiol ar bob awdurdod yng Nghymru i gynnal Cynhadledd Maes Llafur Cytunedig er mwyn adolygu’r maes llafur a bu i Wynedd ei gynnal ar 15 Chwefror 2022. Penderfyniad unfrydol y Gynhadledd oedd mabwysiadu Canllawiau Llywodraeth Cymru ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg.

 

Awdur: Buddug Mair Huws

15.

ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS ADDYSG pdf eicon PDF 635 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Beca Brown

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Beca Brown

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei bod wedi bod yn gyfnod prysur i’r adran ac fod yr adroddiad yn amlygu ystod o waith sydd yn cael ei wneud. Mynegwyd er fod ymgais yma i dynnu popeth ynghyd fod un thema i’r gweld drwy’r adroddiad sef lles, cyrhaeddiad a chynhwysiad. Eglurwyd fod y maes yma wedi bod yn bwysig erioed ond fod y pandemig wedi amlygu’r heriau sydd yn wynebu plant a pobl ifanc y sir. Pwysleisiwyd yn wyneb yr holl heriau fod yr Aelod Cabinet wedi ei rhyfeddu at wydnwch pobl ifanc ac fod yr adran yn ceisio lliniaru’r heriau ac i gefnogi y plant a pobl ifanc i gyrraedd eu llawn botensial.

 

Tynnwyd sylw at rai cynlluniau fel a ganlyn, nodwyd fod pob ysgol yn gweithredu rhaglen Cyflymu Dysgu o ganlyniad i’r pandemig ac fod gwaith arbennig yn cael ei wneud i dargedu y cyfnod cyn ac ar ôl dysgu. Pwysleisiwyd fod y gwaith o drawsnewid y gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol yn parhau ac fod blaen arolwg parodrwydd yn dangos cynnydd cryf iawn ar draws y sir i’r paratoadau sydd wedi eu gwneud eisoes.

 

Ymfalchïwyd yn y gwaith sydd wedi ei wneud i’r Strategaeth Ddigidol gyda dyfais electroneg bellach wedi ei roi i bob plentyn o flwyddyn 3 i 11 er mwyn lleihau’r anghyfartaledd rhwng plant, sydd a’r rhyddid o fynd a’r dyfais adref gydag hwy. O ran y cynllun Cinio am Ddim mynegwyd fod y sir o flaen amserlen ac yn falch ei fod yn gweithio.

 

Amlygwyd balchder yn y gyfundrefn Addysg Drochi gan fod sawl ffynhonnell ariannol wedi galluogi’r adran i gomisiynu gwaith i greu tref rhithiol a fydd yn rhoi’r cyfle i blant siarad Cymraeg yn rhithiol cyn mentro i’w ddefnyddio yn y byd ‘go iawn’. Eglurwyd fod hyn yn gwneud y gwaith o ddysgu’r iaith yn fwy tebyg i gem yn hytrach na gwers.

 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Llongyfarchwyd pobl ifanc y sir ar eu canlyniadau TGAU a Lefel A.

¾     Holwyd o ran y Strategaeth Addysg Ddigidol os pob plentyn bellach wedi derbyn eu teclynnau. Cadarnhawyd eu bod wedi rhannu’r cyflenwad olaf dros yr wythnosau diwethaf.

¾     Cwestiynwyd os o ran y teclynnau yn rhan o’r Strategaeth Ddigidol os yw disgyblion yn cael mynd a hwy adref. Mynegwyd fod yr hawl i fynd a hwy adref yn hanfodol i’r cynllun i sicrhau fod pob plentyn yn cael yr un cyfle a cael y cyfle i wneud eu gwaith cartref heb unrhyw heriau.

¾     Holwyd sut mae’r adran Arlwyo a Glanhau yn dygymod gyda’r gofynion ychwanegol o ran darpariaeth cinio ysgol ar draws y sir. Nodwyd fod galw sylweddol uwch ond fod llawer o waith wedi ei wneud i sicrhau offer a cyfleusterau cywir. O ran staffio, nodwyd fod yr adran wedi gallu ymdopi ar galw hyn yma ond ei bod yn wych gweld teuluoedd yn manteisio ar y cyfle.

 

Awdur: Garem Jackson

16.

ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS GYLLID pdf eicon PDF 368 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr aelod yn falch o nodi ar y cyfan fod perfformiad yr adran yn gyffredinol dda. Tynnwyd sylw at rai penawdau, gan gychwyn gyda Cyflawni Arbedion. Eglurwyd nad sôn am arbedion o fewn yr Adran Gyllid mae’r rhan yma o’r adroddiad ond arbedion ar draws y Cyngor, a nodwyd nad yw rhai adrannau yn gallu cyflawni £0.5miliwn o arbedion a oedd i’w ddisgwyl eleni. Mynegwyd fod disgwyliad I'r setliad ar gyfer 2023/24 gan y Llywodraeth fod yn is ac ei bod yn gynyddol debygol na fydd modd llithro cynlluniau i gael cynllun ariannol cytbwys. Nodwyd y bydd adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno dros y misoedd nesaf.

 

O ran yr Gwasanaeth Archwilio Mewnol, nodwyd fod pwysau capasiti wedi bod yn broblem, ond dros fisoedd cyntaf y flwyddyn fod y gwasanaeth wedi bod yn gwneud archwiliadau mewnol ar oddeutu 70 o Gynghorau Cymuned. Tynnwyd sylw at waith da mae’r Gwasanaeth Trethi wedi yn ei wneud yn sicrhau dosbarthu £150 i aelwydydd dros y sir, ac wedi llwyddo i’w wneud i 99% o aelwyd erbyn diwedd Mehefin. Nodwyd mai hyn oedd y ffigwr gorau yng Nghymru. Mynegwyd fod Datganiad Cyfrifon drafft y Cyngor wedi ei gyflwyno ym mis Mehefin eleni a rhyfeddwyd at allu’r adran i’w gwblhau mewn cyfnod mor fyr o amser.

 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Amlygwyd llwyddiant yr adran i sicrhau taliadau o £150 i aelwydydd y sir ac fod y gwasanaeth yn haeddu canmoliaeth yn dilyn sicrhau taliadau dros gyfnod Covid yn ogystal.

¾     Mynegwyd fod lleihau mewn cyfnod prosesu budd-daliadau a holwyd beth oedd hyd prosesu ceisiadau. Nodwyd oddeutu 13.5 diwrnod ar gyfer cais newydd a 5.5 diwrnod os addasiadau.

 

Awdur: Dewi A Morgan