Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Annes Sion 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd yr Aelodau Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriad gan Cyng. Dafydd Meurig. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater brys. |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu. |
|
COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 23 IONAWR 2024 PDF 159 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2024 fel rhai cywir |
|
ADOLYGIAD POLISI DIOGELU PDF 151 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Menna Trenholme Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Mabwysiadu'r ‘Polisi a Chanllawiau ar gyfer
Diogelu plant ac Oedolion sydd mewn perygl o gam-drin ac esgeulustod’
diwygiedig ynghyd a’r Cylch Gorchwyl ar gyfer y Panel Strategol Diogelu. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad
gan Cyng. Menna Trenholme. PENDERFYNIAD Mabwysiadu'r ‘Polisi a
Chanllawiau ar gyfer Diogelu plant ac Oedolion sydd mewn perygl o gam-drin ac
esgeulustod’ diwygiedig ynghyd a’r Cylch Gorchwyl ar gyfer y Panel Strategol
Diogelu. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad
gan ofyn i’r Cabinet fabwysiadu Polisi a chanllawiau ar gyfer diogelu plant
ac oedolion sydd mewn perygl o gam-drin
ac esgeulustod diwygiedig ynghyd a’r cylch gorchwyl ar gyfer y Panel y
Strategol Diogelu. Mynegwyd fod y polisi yn nodi sut mae’r Cyngor yn bwriadu
cyflawni ei gyfrifoldeb statudol ar gyfer diogelu plant ac oedolion sy’n wynebu
risg yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Eglurwyd fod y fersiwn bresennol yn addasiad o bolisi a grëwyd yn 2013, ac
felly roedd yn amserol i baratoi polisi o’r newydd yn hytrach na diweddaru’r
ddogfen yn unol â’r drefn arferol. Amlygwyd fod gweithdy
wedi ei gynnal yn ôl ym mis Hydref, ble mynychodd cynrychiolaeth o swyddogion
ar draws y Cyngor i drafod y Polisi
newydd a chryfhau trefniadau adrodd a monitro. Nodwyd camau nesaf sef y bydd
copi yn mynd gerbron y Cyngor Llawn ac yna gwaith pellach er mwyn hyrwyddo’r
Polisi diwygiedig ymysg holl staff y Cyngor. Ychwanegodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol fod y polisi wir angen ei ddiwygio bellach yn
amlygu’r gwahaniaeth rhwng diogelu ac amddiffyn, ac mae’r diffiniadau wedi eu nodi yn y polisi. Mynegwyd fod newidiadau
wedi eu gwneud i’r Cylch Gorchwyl y Panel gan amlygu rôl ac aelodaeth. Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth ·
Croesawyd y
polisi newydd gan bwysleisio ei bod yn holl bwysig fod pobl yn ymwybodol fod
gan bawb o fewn y Cyngor rôl i sicrhau diogelwch plant ac oedolion sy’n wynebu
risg. ·
Nodwyd
pwysigrwydd fod y polisi yn mynd o flaen y Cyngor Llawn i amlygu pwysigrwydd y
rôl sydd gan Gynghorwyr. Awdur: Huw Dylan Owen |
|
CYTUNDEB CYFLAWNI, CYNLLUN DATBLYGU LLEOL - YMATEB I'R CYFNOD YMGYNGHORI CYHOEDDUS PDF 219 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Bu i’r Cabinet gytuno i:
i.
Gyflwyno’r cytundeb Cyflawni Drafft diwygiedig i’r Cyngor Llawn ar gyfer
eu cymeradwyaeth
ii.
Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Adran wneud addasiadau golygyddol er mwyn
sicrhau cywirdeb yn ôl yr angen. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn PENDERFYNIAD Bu i’r Cabinet gytuno i:
TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai paratoi a derbyn cymeradwyaeth o’r
Cynllun Cyflawni yw’r cam cyntaf statudol yn gysylltiedig â’r broses o baratôi
Cynllun Datblygu Lleol newydd. Mynegwyd fod y Cabinet wedi penderfynu mynd i
ymgynghoriad cyhoeddus yn ôl mis Hydref
a nodwyd fod yr adroddiad yn nodi canlyniadau’r cyfnod ymgynghori hwn.
Nodwyd fod 14 o unigolion / sefydliadau wedi ymateb i’r ymgynghoriad gyda chyfanswm
o 37 sylw. Eglurwyd nad oedd unrhyw faterion sylweddol yn codi o’r sylwadau a
dderbyniwyd, a bod rhai o’r sylwadau ac awgrymiadau o ran sut i ddiwygio’r
ddogfen a nodwyd fod y diwygiadau yn ychwanegu gwerth ac eglurdeb i’r Cytundeb
Cyflawni. Mynegwyd fod y Cytundeb Cyflawni wedi ei gyflwyno i gyfarfod y Gweithgor
Polisi Cynllunio ym mis Ionawr. Amlygwyd fod y gweithgor wedi holi os oes modd
diwygio’r profion cadernid wrth ystyried yr iaith. Nodwyd nad oes angen gan fod
y gofyn yn cael ei gyfarch yn y profion ar ei ffurf bresennol a thrwy ofynion
statudol sydd ar y Cyngor. Eglurwyd y bydd y Cytundeb Cyflawni bellach yn mynd
i’r Cyngor Llawn ym mis Mawrth ac yna bydd modd dechrau ar y broses o baratoi
Cynllun Datblygu Lleol yn ffurfiol. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ·
Nodwyd fod niferoedd ymateb yn ymddangos yn isel
ond nodwydd fod nifer yr ymatebwyr yn amlygu’r cam hwn – sef sefydlu’r broses
yn hytrach ‘na datblygu’r polisi ei hun. Awdur: Gareth Jones |
|
YMGYNGHORIAD LLYWODRAETH CYMRU; 'PAPUR GWYN AR ROI DIWEDD AR DDIGARTREFEDD YNG NGHYMRU PDF 173 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd cynnwys yr ymateb drafft i ymgynghoriad y Llywodraeth ar roi
diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Craig ab Iago PENDERFYNIAD Cymeradwywyd cynnwys yr ymateb drafft i ymgynghoriad y Llywodraeth ar roi
diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod pawb eisiau rhoi diwedd ar ddigartrefedd.
Ond amlygwyd os eisiau rhoi diwedd arno fod angen ei dorri yn ddau ran, sef sut
i ddelio a digartrefedd a beth sydd yn achosi digartrefedd. Felly er bod y
ddogfen hon yn uchelgeisiol nodwyd fod Llywodraeth San Steffan wedi cynyddu
digartrefedd drwy Brexit, cyfnod o lymder ac o’i ganlyniad wedi cynyddu tlodi a
digartrefedd. Cytunwyd a sut i ddelio a’r broblem ond amlygwyd fod angen delio
a gwraidd y broblem. Ychwanegodd Pennaeth Adran Tai ac Eiddo fod Llywodraeth Cymru wedi lansio'r
ymgynghoriad yma yn ôl ym mis Hydref, gyda’r bwriad o basio'r ddeddf cyn diwedd
tymor y Senedd hon yn 2026. Mynegwyd yn gyffredinol fod yr adran yn hapus
gyda’r argymhellion ond fod gweithredu am fod yn anodd o ganlyniad i’r angen am
adnoddau ychwanegol. Amlygwyd yr angen i gael sêl bendith y Cabinet o ganlyniad
y sgil effaith posib y gall y papur gwyn yma ei gael ar adnoddau a
chyllidebau’r Cyngor. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ·
Diolchwyd am ymatebion y Cyngor sydd yn nodi pryder am
ddileu'r elfen cysylltiad lleol. ·
Mynegwyd fod angen gwneud mwy o waith er mwyn edrych
ar y rhesymau dros ddigartrefedd, a bod gweithredu yn peri pryder yn enwedig o
ganlyniad i’r sefyllfa ariannol sydd ohoni a beth fydd yn wynebu’r Cyngor dros y
blynyddoedd nesaf. Awdur: Carys Fon Williams |
|
CYMERADWYO CYNLLUN CYDWEITHIO - CANOLFAN MONITRO ARFORDIROL CYMRU PDF 172 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Berwyn Parry Jones Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Bu i’r Cabinet gytuno i: i.
Wynedd barhau i gyd-weithio gyda’r Ganolfan
Monitro Arfordirol Cymru a neilltuo adnoddau ar gyfer hynny ii.
Dirprwyo’r awdurdod i Bennaeth Adran Priffyrdd,
Peirianneg ac YGC mewn ymgynghoriad a Phennaeth Adran Gyfreithiol i
gymeradwyo’r Cytundeb Cydweithio. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Cyng. Berwyn Parry Jones PENDERFYNIAD Bu
i’r Cabinet gytuno i:
TRAFODAETH
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn gofyn i ffurfioli’r drefn sydd yn ei
le yn barod ar yn o bryd. Nodwyd y bydd y cynllun cydweithio yn gyfle i ddenu
incwm i Ymgynghoriath Gwynedd (YGC) i’r
dyfodol gan na fuasai angen cystadlu am waith. Ychwanegodd
Pennaeth Adran Priffyrdd, Peirianneg ac Ymgynghoriaeth Gwynedd fod sêl bendith
wedi ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru i ailsefydlu Canolfan Monitro Arfordirol
Cymru yn ôl yn 2018. Nodwyd fod y Cyngor wedi bod yn rhan o’r Ganolfan ers
2018, a nodwyd os na fydd angen i YGC gystadlu am y gwaith y bydd yn defnyddio
arbenigedd sydd o fewn y Cyngor. Eglurwyd fod y data sydd yn cael ei gasglu yn
rhan o gynllun hir dymor sydd wedi bod yn bwydo i mewn i strategaethau cenedlaethol.
Ategwyd fod gan y ganolfan rôl holl bwysig o ran cynlluniau newid hinsawdd. Awdur: Steffan Jones |
|
DIWYGIO’R DREFN TRETH CYNGOR - YMGYNGHORIAD LLYWODRAETH CYMRU: TRETH GYNGOR DECACH: CAM 2 PDF 488 KB Cyflwynwyd gan: Cllr. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd cynnwys yr ymateb drafft i
ymgynghoriad y Llywodraeth ar ddiwygio
Treth Cyngor yng Nghymru. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas. PENDERFYNIAD Cymeradwywyd cynnwys yr ymateb drafft i ymgynghoriad y Llywodraeth ar ddiwygio Treth Cyngor yng Nghymru. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno’r
papur i ymgynghoriad gan nodi opsiynau o ran a mor bell a pa mor gyflym y bydd
newid o ran diwygio’r drefn dreth Cyngor. Nodwyd o ran cyflymder y newid ei fod
yn amrywio o’i gwblhau erbyn Ebrill 2025 i Ebrill 2028, a bod pa mor bell y
bydd y diwygio yn ei fynd yn mynd o raddfa fach iawn i fod yn ddiwygiad
ehangach. Amlygwyd ar gyfartaledd fod pris eiddo yng Nghymru wedi cynyddu oddeutu
150% rhwng 2003 a 2022, fodd bynnag nid yw’r cynnydd ar draws Cymru wedi bod yn
gyson. Eglurwyd fod Gwynedd wedi gweld y cynnydd 7fed uchaf drwy Gymru yn ystod
y cyfnod, ac o ganlyniad y gall nifer uwch na’r cyfartalog symud i fyny o leiaf
un band yng Ngwynedd. Eglurwyd ei bod yn ymddangos y bydd mwy o drethdalwyr Gwynedd yn colli nac
a fyddai’n ennill dan unrhyw un o’r diwygiadau a gynigir, yn gyffredinol nodwyd
fod posibilrwydd cryf y buasai oddeutu 40% o bobl Gwynedd yn talu rhai cannoedd
o bunnoedd yn fwy o drethi fel canlyniad i’r diwygiadau. Mynegwyd o ran
diwygio fe ellir dadlau fod prisiau tai
wedi cynyddu mewn rhai ardaloedd ond fod cyflogau unigolion heb wneud a all
arwain at nifer o bobl yn methu fforddio talu eu bil Treth Cyngor. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ·
Nodwyd fod opsiwn 3 sef diwygiad ehangach yn arwain at
greu system decach, gyda mwy o fandiau ar gael. ·
Amlygwyd y bydd unrhyw gynnydd ar y cyfan yn sylfaen
drethiannol y Cyngor yn golygu gostyngiad yn y grant a dderbynnir gan y
Llywodraeth. Ond pwysleisiwyd nad bwriad
y diwygiadau yw codi mwy o dreth gan y bydd y cyfanswm cenedlaethol yn parhau'r
un peth ond ei fod yn decach. Awdur: Dewi A Morgan |
|
CYNLLUN CYNGOR GWYNEDD 2023-2028 - ADOLYGIAD 2024/25 PDF 203 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Bu i’r Cabinet gymeradwyo Cynllun Cyngor
Gwynedd 2023-2028 – Adolygiad 2024/25 (y Cynllun) i’w gyflwyno i’r Cyngor ar y
7fed o Fawrth 2024. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn PENDERFYNIAD Bu i’r Cabinet gymeradwyo Cynllun Cyngor Gwynedd 2023-2028 – Adolygiad
2024/25 (y Cynllun) i’w gyflwyno i’r Cyngor ar y 7fed o Fawrth 2024. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod gofyniad i gynnal adolygiad o
Gynllun Cyngor Gwynedd er mai dim ond blwyddyn sydd wedi bod ers ei basio.
Nodwyd fod yr adroddiad yn amlygu’r diwygiadau sydd i’w gweld. Bu i Reolwr Gwasanaeth Busnes y Cyngor amlygu bod adolygiad ysgafn wedi
ei gynnal er mwyn sicrhau fod y cynllun yn parhau i fod yn gyfredol.
Pwysleisiwyd fod y meysydd blaenoriaethau, a oedd yn cyd-fynd a’r amcanion
llesiant o ganlyniad i’r ddeddf a rhestr uchelgeisiau’r Cyngor yn parhau fel ac
y mae hi. Amlygwyd fod addasiadau wedi ei gwneud i brosiectau megis Cinio am Ddim yn
yr Adran Addysg gan fod y cynllun hwn bellach yn rhan o waith dydd i ddydd yr
adran. Cynllun arall sydd wedi ei dynnu allan yw adolygu’r Polisi Iaith gan ei
bod wedi ei derbyn gan y Cyngor Llawn yn ei chyfarfod cyn y Nadolig. Nodwyd fod
gwaith wedi ei wneud i ail becynnu prosiect Gofal Oedolion er mwyn symleiddio’r
disgrifiad ac i gyfuno prosiectau. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ·
Nodwyd fod addasu ac adolygu’r ddogfen yn amlygu
fod hon yn ddogfen fyw ac wedi bod yn ymarferiad da iawn i weld beth sydd wedi
ei gyflawni. ·
Pwysleisiwyd nad oes dim newid wedi bod i’r
amcanion y cynlluniau sydd wedi eu hail becynnu yn yr adran Oedolion, ond yn
hytrach ei gwneud yn haws i allu creu cerrig milltir ac o ganlyniad bydd modd
adrodd ar hynny. Awdur: Dewi Wyn Jones |
|
CYNLLUN ARBEDION 2024/25 PDF 228 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Bu I'r Cabinet
gytuno i: a)
Cymeradwyo’r
arbedion a thoriadau a restrir yn Atodiad A (£4.4M) i’w defnyddio fel cyfraniad
tuag at ein bwlch cyllidol yn 2024/25, a chomisiynu’r Adrannau i symud ymlaen i
weithredu y cynlluniau gan ddal sylw at y materion a amlygwyd yn yr adroddiad. b)
Gosod cyllideb
gytbwys yn 2024/25, cymeradwyo gwerth y toriadau ac arbedion a restrir yn
Atodiad B (£0.8M) a nodi y bydd angen camau pellach cyn gallu dod i
benderfyniad terfynol i’w gweithredu, fel amlinellir yn 2.13, gan ddefnyddio
arian wrth gefn i bontio yr arbedion na fydd yn cael eu cyflawni yn 24/25. c)
Gwneud
darpariaeth o £0.52M i gyfarch y lefel risg sydd yn ynghlwm â gwireddu y
cynllun toriadau hwn. d)
Dirprwyo’r hawl
i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet
Cyllid, i wneud addasiadau i’r Cynllun Arbedion hwn o fewn y cyfansymiau
Adrannol wrth i aeddfedrwydd y cynlluniau a restrir yn Atodiad A a B ddatblygu, o fewn y cyfansymiau cyllidol. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad Dafydd Gibbard. PENDERFYNIAD Bu i'r Cabinet gytuno i: a)
Cymeradwyo’r arbedion a thoriadau a restrir yn
Atodiad A (£4.4M) i’w defnyddio fel cyfraniad tuag at ein bwlch cyllidol yn
2024/25, a chomisiynu’r Adrannau i symud ymlaen i weithredu'r cynlluniau gan
ddal sylw at y materion a amlygwyd yn yr adroddiad. b)
Gosod cyllideb gytbwys yn 2024/25, cymeradwyo
gwerth y toriadau ac arbedion a restrir yn Atodiad B (£0.8M) a nodi y bydd
angen camau pellach cyn gallu dod i benderfyniad terfynol i’w gweithredu, fel
amlinellir yn 2.13, gan ddefnyddio arian wrth gefn i bontio'r arbedion na fydd
yn cael eu cyflawni yn 24/25. c)
Gwneud darpariaeth o £0.52M i gyfarch y lefel
risg sydd yn ynghlwm â gwireddu'r cynllun toriadau hwn. d)
Dirprwyo’r hawl i’r Prif Weithredwr, mewn
ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet Cyllid, i wneud addasiadau
i’r Cynllun Arbedion hwn o fewn y cyfansymiau Adrannol wrth i aeddfedrwydd y
cynlluniau a restrir yn Atodiad A a B ddatblygu, o
fewn y cyfansymiau cyllidol. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi tristwch ei bod bellach yn
arferol i orfod trafod eitem am arbedion cyn bod modd mynd i osod y gyllideb.
Pwysleisiwyd o ganlyniad i’r argyfwng ariannol sydd yn wynebu awdurdodau lleol,
mae’n eitem angenrheidiol. Eglurwyd fod y Cyngor yn derbyn cynnydd o 2.3% o
Grant Llywodraeth Leol, ond ei fod yn sylweddol is na lefel chwyddiant ac islaw
yn hyn fydd ei angen i gynnal lefel gwasanaethau presennol. Eglurwyd o
ganlyniad bydd angen i’r Cyngor ymdopi a bwlch ariannol o bron i £15m. Mynegwyd er mwyn gwneud hyn bydd angen i’r gyllideb gynnwys
cyfuniad o orfod cynyddu’r dreth Cyngor a chyflawni toriadau mewn cyllidebau ar
draws y Cyngor. Eglurwyd yn ôl ym mis Hydref cynhaliwyd gweithdai i holl
aelodau etholedig er mwyn blaenoriaethu cynlluniau arbedion ar gyfer 2024/25.
Nodwyd fod y cynigon a chyfanswm gwerth o oddeutu £8m. Cynhaliwyd asesiad
effaith ar bob cynnig ynghyd ac asesiad cyfreithiol ac ariannol i sicrhau eu
bod yn gynlluniau oedd posib eu cyflawni. Casgliadau’r gweithdai oedd
bod posib gweithredu oddeutu £5m o gynlluniau, a chyflwynwyd y rhestr o
doriadau ac arbedion yn ddwy ran. Eglurwyd fod rhestr A yn cynnwys cynlluniau
gellir symud ymlaen i'w gweithredu gan yr Adran. Amlygwyd y cynlluniau o dan y
penawdau megis arbedion effeithlonrwydd, cynyddu incwm a defnyddio ffynonellau
eraill i ariannu. Nodwyd fod y rhestr B yn adlewyrchu cynlluniau sydd yn
ddarostyngedig i gamau statudol neu benderfyniadau pellach cyn gellir eu
cadarnhau. Amlygwyd fod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wedi craffu'r
broses, ond wedi codi pryder am y lefel arian wrth gefn ar gyfer cynlluniau
arbedion gan ei fod wedi gostwng o 20% i 10%. Er hyn nodwyd eu bod yn fodlon a
bod y broses yn gynhwysfawr a thrylwyr. Eglurwyd fod y grant gan y Llywodraeth am fod yn lleihau dros y blynyddoedd i ddod, a bydd angen mynd ati yn syth i gychwyn cylch newydd o arbedion, gan edrych ar sut i ymdopi ac o bosib i ail ddiffinio ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12. Awdur: Dewi A Morgan |
|
Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1)
Sefydlu
cyllideb o £330,590,040 ynghyd ag unrhyw arian ychwanegol a dderbynnir yn y
setliad terfynol ar gyfer 2024/25 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £232,092,110, gan ychwanegu
unrhyw gynnydd yn y grant a dderbynnir yn y setliad terfynol, a £98,497,930 o incwm o’r
Dreth Cyngor (sy’n gynnydd o 9.54%). 2)
Sefydlu
rhaglen gyfalaf o £85,224,800 yn 2024/25 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn
Atodiad 4 i’r adroddiad. 3)
Fod y Grant Llywodraeth
ychwanegol terfynol a dderbynnir uwchlaw y £232,092,110 – a
amcangyfrifir i fod oddeutu £969,000 – yn cael ei ddefnyddio i leihau’r bwlch o
£2M sydd heb ei gyfarch yn ein cynlluniau ariannol yn 2024/25 ac yn gorfod cael
ei gyfarch o gronfeydd am eleni fel y cyfeirir ato ym mharagraff 5.4. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng.
Ioan Thomas PENDERFYNIAD 1) Sefydlu cyllideb o £330,590,040 ynghyd ag unrhyw
arian ychwanegol a dderbynnir yn y setliad terfynol ar gyfer 2024/25 i’w
ariannu drwy Grant Llywodraeth o £232,092,110, gan
ychwanegu unrhyw gynnydd yn y grant a dderbynnir yn y setliad terfynol, a £98,497,930 o incwm o’r Dreth Cyngor (sy’n gynnydd o 9.54%). 2) Sefydlu rhaglen gyfalaf o £85,224,800 yn 2024/25
i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad. 3) Fod y Grant Llywodraeth ychwanegol derfynol a
dderbynnir uwchlaw y £232,092,110 - a amcangyfrifir i fod oddeutu
£969,000 - yn cael ei ddefnyddio i leihau’r bwlch o £2M sydd heb ei gyfarch yn
ein cynlluniau ariannol yn 2024/25 ac yn gorfod cael ei gyfarch o gronfeydd am
eleni fel y cyfeirir ato ym mharagraff 5.4 TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi
fod Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi rhoi addewid o arian ychwanegol i
awdurdodau Cymru o ganlyniad i arian ychwanegol sydd wedi ei ddyrannu i
gynghorau Lloegr yn ddiweddar. Amcangyfrifir y bydd y Cyngor yn derbyn ffigwr
ychwanegol oddeutu £969,000. Yn ogystal â hyn, nodwyd fod yr adran wedi eu
hysbysu ddiwedd wythnos ddiwethaf o grantiau penodol fydd yn cael eu
trosglwyddo i’r setliad, a sydd hefyd yn cael effaith ar y ffigyrau terfynol.
Eglurwyd y bydd y ffigyrau yn derfynol erbyn cyfarfod y Cyngor Llawn ar 7
Mawrth. Nodwyd fod y penderfyniad a
geisir yn argymell i’r Cyngor yn ei gyfarfod ar 7 Mawrth 2024 y dylid sefydlu
cyllideb o £331 miliwn ynghyd ag unrhyw arian ychwanegol a dderbynnir yn y
setliad terfynol ar gyfer 2024/25 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £232
miliwn gan ychwanegu unrhyw gynnydd yn y grant a dderbynnir yn y setliad
terfynol a £98 miliwn o incwm o’r Dreth Cyngor (sy’n gynnydd o 9.54% ar dreth
anheddau unigol). Yn ogystal i sefydlu
rhaglen gyfalaf o £85 miliwn yn 2024/25
i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad. Ychwanegwyd yr amcangyfrif
byddai’r Grant Llywodraeth ychwanegol derfynol oddeutu £969k yn uwch na’r hyn
oedd yn y setliad drafft a bydd cyllid ychwanegol (yn y terfynol uwchlaw’r setliad drafft) yn cael ei ddefnyddio i leihau’r
defnyddio o £2m o gronfeydd wrth gefn y Cyngor. Pwysleisiwyd fod y gyllideb yn
cael ei argymell mewn cyfnod ble mae awdurdodau lleol Cymru yn wynebu heriau
ariannol sylweddol. Amlygwyd fod y Cyngor wedi derbyn cynnydd grant ar gyfer
2024/25 a oedd ymysg yr isaf yng Nghymru. Eglurwyd nad yw’r swm yma yn ddigonol
i gwrdd â chwyddiant, heb sôn am bwysau ychwanegol ar wasanaethau. Tynnwyd sylw at ddarpariaeth chwyddiant cyflogau o £15.1m. Mynegwyd fod y ffigwr hwn yn unol â’r mwyafrif o awdurdodau lleol eraill. Nodwyd fod y Cyngor wedi cynllunio yn ddarbodus yn 2023/24 ar gyfer cynnydd o 6%, ond roedd y cytundeb terfynol yn uwch, ac felly o ganlyniad bydd chwyddiant cyflogau yng nghyllideb 2024/25 yn cynnwys elfen i gywiro’r bwlch yma yn ogystal ag ystyried chwyddiant tybiannol o 5% ar gyfer yr holl weithlu. ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 13. Awdur: Dewi A Morgan |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS YR ECONOMI PDF 291 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siecyn a Cyng. Nia Jeffreys Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn a nodi’r
wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys PENDERFYNIAD Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi balchder yn gweld cynnydd
mewn cynlluniau ar draws yr adran, ac yr ystod eang o wasanaethau mae’r adran
yn ei gynnig. Ychwanegwyd fod y gwasanaethau yma yn holl bwysig i bobl Gwynedd
a diolchwyd i’r staff am eu gwaith. Amlygodd y Pennaeth Adran brif faterion yr adran a oedd yn cynnwys grantiau mae’r Cyngor yn
gynnig i fusnesau ar draws Gwynedd fel rhan o flaenoriaeth y Cyngor - Gwynedd
Lewyrchus. Eglurwyd drwy raglen ARFOR, Cronfa Trawsffurfio Trefi Llywodraeth
Cymru a Chronfa Ffyniant Cyffredin gan Lywodraeth Prydain fod pecyn o wahanol
gronfeydd wedi ei sefydlu. Mynegwyd fod ymateb sylweddol wedi bod i’r cronfeydd
gyda gwerth ceisiadau yn £13.26m a dim ond £3.46m oedd y gyllideb. Mae’r adran
yn parhau i weithio gyda’r busnesau a oedd yn aflwyddiannus i gynnig adborth a
chyngor pellach. Mynegwyd fod adferiad yn parhau i Gwmni Byw’n Iach gyda’r
niferoedd sy’n ymweld yn Rhagfyr 2023 yn
uwch na’r nifer ymweliadau mis Rhagfyr 2019. Eglurwyd fod y gwaith yn parhau i
annog defnydd o’r canolfannau ac e bod yn gobeithio adfer y sefyllfa yn llwyr.
Yn y Gwasanaeth Morwrol nodwyd fod y gwaith o uwchraddio maes parcio Dinas
Dinlle yn parhau a'u bod yn gobeithio y bydd yn cael ei gwblhau erbyn Mawrth
2024. Mynegwyd fod cynnydd o 4% yn nifer cwsmeriaid a chytundeb angorfa yn
harborau’r sir a bod rhagolygon ar gyfer 2024 yn galonogol iawn. Er hyn
amlygwyd fod gostyngiad yn niferoedd Hafan Pwllheli o ganlyniad i gynnydd mewn
costau byw. Er hyn nodwyd fod y rhestr aros yn parhau i fod yn gryf ar hyn o
bryd. Mynegwyd fod y gwaith i uwchraddio Amgueddfa Lloyd George yn
parhau a byddant yn adrodd ymhellach ar y prosiect i’r dyfodol. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ·
Tynnwyd sylw at gynllun Symbolau Lluniau
Cyfathrebu 'Boardmaker', sy’n adnodd i deuluoedd
plant nad ydynt yn gallu cyfathrebu'n llafar, ar gael bellach mewn tair
llyfrgell yng Ngwynedd. Awdur: Sioned Williams |
|
Cyflwynwyd gan: Cyng. Menna Trenholme Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr
adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Menna Trenholme PENDERFYNIAD Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei bod am gychwyn gydag
adroddiad perfformiad yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol. Mynegwyd fod yr
adroddiad yn amlinellu’r hyn sydd wedi digwydd hyd yma yn erbyn addewidion Cynllun
Cyngor Gwynedd. Tynnwyd sylw at rai cynlluniau yn benodol megis Merched mewn
Arweinyddiaeth. Nodwyd fod dros 40 o ferched bellach wedi bod yn dilyn y
rhaglen ddatblygol gyda 33% o’r mynychwyr wedi derbyn swydd uwch ers cwblhau’r
Rhaglen. Ychwanegwyd fod cynllun peilot ar droed i osgoi rhagfarn ddiarwybod a
sicrhau cydraddoldeb drwy gyflwyno ffurflenni cais dienw ar gyfer swyddi lefel
Arweinyddion Timau ac uwch. Fel rhan o raglen Iaith y Cyngor amlygwyd fod y Strategaeth
Iaith wedi ei fabwysiadu yn ôl ym mis Rhagfyr. Nodwyd yn sgil y gwaith ymchwil
pellach ar newid enwau strydoedd mewn dwy ardal beilot, mae nifer o
gymhlethdodau wedi eu hamlygu ac felly yn nid yw’n ymarferol bwrw ymlaen gyda’r
agwedd yma ar hyn o bryd. O ganlyniad, eglurwyd fod y gwasanaeth yn
canolbwyntio ar y cynllun gosod arwyddion ar dreflannau, pontydd a ffiniau
ardaloedd er mwyn cynyddu gwelededd y prosiect. Amlygwyd fod yr adran yn rhagweld y byddant yn gorwario
erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Eglurwyd fod cyfuniad o resymau dros y
gorwariant tebygol, megis pwysau cynyddol ar gyllideb benodol, e.e. cynnydd
mewn galw ar gwnsela a diffyg cyrraedd targed incwm ar gyfer amryw o
wasanaethau. O ran y Gwasanaeth Cyfreithiol nodwyd fod yr Aelod Cabinet
yn fodlon â pherfformiad yr adran o ddydd i ddydd. Pwysleisiwyd fod y sefyllfa
recriwtio bellach mewn lle iach gyda staff wedi eu penodi. Eglurwyd o ran
Priodoldeb fod rhaglen o seminarau am gael ei chynnal a chyff yn esbonio
hanfodion penderfyniadau mewn cyrff cyhoeddus ynghyd a’r fframwaith
cyfansoddiadol a rheoleiddio. Nodwyd fod yr adran wedi bod yn gweithio i gefnogi Swyddog
Canlyniadau a’r Swyddog Cofrestru Etholiadau er mwyn ymateb i ffiniau newydd
i’r etholaethau etholiadau DU, Deddf Etholiadau 2022 a pharatoi ar gyfer
newidiadau Etholiadol Senedd Cymru. Eglurwyd fod trefniadau ar gyfer etholiadau
yn lle bellach gyda Chyngor Conwy a Chyngor Dinbych ble mae ffiniau etholaethau
yn croesi ffiniau sirol. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ·
Nodwyd fod gwaith wedi cychwyn i ailddechrau ar gyfer
ceisio gael ardystiad lefel 2 y cynllun Hyderus o ran Anabledd, a bod gobaith y
bydd yn cael ei gwblhau erbyn diwedd Mawrth 2024. Eglurwyd fod yr adran yn
uchelgeisiol ac yn awyddus i gyrraedd lefel 3. ·
Amlygwyd fod Prosiect 15, sydd yn rhan o gynllun
Hybu Defnydd o’r Gymraeg, fod gwaith arbennig o dda wedi ei wneud, a diolchwyd
i’r unigolyn ifanc a oedd yn datblygu a creu cynnwys gwreiddio Cymraeg ar gyfer
cyfryngau cymdeithasol. ·
Amlygwyd fod gwaith Merched mewn Arweinyddiaeth
yn arloesol ac yn cael ei amlygu yn allanol yn ogystal. Awdur: Ian Jones a Iwan G Evans |