Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Gweddarllediad: Gwylio'r gweddarllediad

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Stephen Churchman, Elwyn Edwards, Simon Glyn, Annwen Hughes,  Aled W Jones, Linda Morgan a Mike Stevens

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

Datganodd yr aelod canlynol fuddiant personol, yn yr eitem ganlynol am y rheswm a nodir:

 

·         Y Cynghorydd Gethin Glyn Williams yn eitem 8  ar y rhaglen oherwydd bod ganddo berthynas sydd yn berchennog tŷ haf

 

Roedd yr Aelod o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawsant y Siambr          yn ystod y drafodaeth.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 87 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd Medi 26ain 2019 fel rhai cywir  

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar Fedi 26ain 2019 fel cofnod cywir o’r cyfarfod.

 

5.

DIWEDDARIAD BLYNYDDOL GAN Y BARTNERIAETH DIOGELWCH CYMUNEDOL (GWYNEDD A MÔN) pdf eicon PDF 115 KB

Aelod Cabinet: Cynghorydd Dafydd Meurig

 

I ystyried yr adroddiad

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Uwch Swyddog Gweithredol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd a Môn yn diweddaru’r Pwyllgor ar faes gwaith y Bartneriaeth. Eglurwyd bod gofyn i’r Bartneriaeth adrodd yn ffurfiol i’r Pwyllgor yn flynyddol i gyflwyno trosolwg o brif ddatblygiadau strategol y Bartneriaeth dros y flwyddyn ynghyd a’r gwaith comisiynu sydd yn gosod fframwaith i’r blaenoriaethau sydd yn seiliedig ar asesiad strategol. Ategwyd bod hyn yn sicrhau bod y Bartneriaeth yn cyflawni ei hymrwymiadau yn unol ag adrannau Deddf Cyfiawnder Troseddol a’r Heddlu 2006, drwy gydweithio gyda’r Heddlu, y Gwasanaeth Iechyd, y Gwasanaeth Prawf a’r Gwasanaeth Tân ac Achub. Tynnwyd sylw at y prif negeseuon oedd yn deillio o weithgarwch 2018/2019 ynghyd a phrif lwyddiannau’r flwyddyn.

 

Amlygwyd y prif gerrig milltir ar gyfer 2019 – 2020 a gofynnwyd i’r Pwyllgor Craffu gefnogi’r blaenoriaethau oedd wedi eu rhestru yn yr adroddiad ynghyd â chyfeiriad y gwaith i’r dyfodol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chynnydd o 13.5% yn y troseddau sy’n seiliedig ar ddioddefwyr yng Ngwynedd, dengys y dadansoddiad mai cynnydd yn effeithlonrwydd y broses o gofnodi'r troseddau yw hyn yn hytrach na chynnydd yn y nifer troseddau. Ategwyd bod y newidiadau i’r broses o gofnodi rhai achosion, megis stelcio ac aflonyddu wedi cyfrannu at y cynnydd oherwydd bellach mae pob cam o’r drosedd /achos perthnasol yn cael ei gyfrif yn hytrach nac fel un trosedd / achos. Nodwyd hefyd bod cynnydd yn y nifer o bobl sydd yn dod ymlaen i adrodd ar droseddau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r Grwpiau Mwyaf Tebyg, sef Grŵp o Siroedd tebyg o ran lefelau troseddu, adroddwyd bod 8 sir yn y grŵp a bod gwybodaeth lawn am y grŵp ar gael ar wefan y Swyddfa Gartref. Ategwyd bod y wybodaeth yn cael ei ddiweddaru yn chwarterol.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â bwriad y defnydd o geisio adnabod safle newydd ym Mangor ar gyfer triniaeth cam-ddefnyddio sylweddau, cywirwyd y sylw mai adeilad i’r gwasanaethau Camddefnyddio Sylweddau weithio ynddo yw’r bwriad sydd yn gynllun sydd yn cael ei arwain gan y  Bwrdd Iechyd.

 

Mewn ymateb i statws cwblhau hyfforddiant ar gam-drin domestig yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru adroddwyd bod gweithredu’r hyfforddiant yn heriol a bod pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau bod holl staff y Cyngor yn cwblhau haen safonol yr hyfforddiant. Nodwyd bod yr hyfforddiant yn statudol a’i fod yn cael ei gyflwyno drwy wasanaeth E-ddysgu - ategwyd bod angen ceisio ffyrdd gwell o gyrraedd y nod ac ystyried dulliau arloesol i wneud hynny. Bydd y Cyngor yn adrodd  i Lywodraeth Cymru ar y nifer sydd wedi cwblhau’r hyfforddiant a’r Uned Dysgu a Datblygu yn cadw cofnod.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â phryderon dylanwad gangiau ar gymunedau lleol, adroddwyd bod yr Heddlu yn gweithio yn galed i daclo County Lines. Awgrymwyd y byddai’n fuddiol i’r heddlu gyflwyno gwybodaeth ar y gwaith i’r Aelodau.

 

            PENDERFYNWYD

·         derbyn yr adroddiad

·         cefnogi blaenoriaethau a chyfeiriad gwaith y Bartneriaeth i’r dyfodol.

 

 

6.

STRWYTHUR LLYWODRAETHIANT A THREFNIADAU CYFLAWNI BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS GWYNEDD AC YNYS MÔN pdf eicon PDF 108 KB

Aelod Cabinet: Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

I ystyried yr adroddiad

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet Dyfrig Siencyn yn amlinellu’r hyn a gyflawnwyd dros y 6 mis diwethaf gan Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn. Atgoffwyd yr aelodau bod y Bwrdd wedi cytuno ar feysydd blaenoriaeth fyddai’n gwella llesiant economaidd, amgylcheddol a diwylliannol y ddwy sir ac wedi sefydlu is-grwpiau i weithredu swyddogaethau’r Bwrdd.

 

Adroddwyd bod y Bwrdd yn derbyn yr angen i ganolbwyntio ar yr hyn y gellid ei gyflawni yn yr hinsawdd sydd ohoni gan fod adnoddau’r corff cyhoeddus o dan bwysau a bygythiadau pellach mewn arbedion. Er hynny, drwy gydweithio gellid manteisio  ac adnabod cyfleoedd i weithio mewn ffyrdd gwahanol a chyflwyno dulliau arloesol o weithredu.

 

Rhoddwyd diweddariad byr ar y datblygiadau o fewn y chwe maes blaenoriaeth.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

·         Tlodi – mynegwyd siom a phryder nad oedd is-grŵp yn arwain ar y gwaith yn bresennol

·         Awgrym i adolygu cyfansymiau rent tai cymdeithasol

·         Bod angen cynnwys cefnogaeth i deuluoedd / gofalwyr ym maes gwaith Iechyd a Gofal Oedolion

·         Newid Hinsawdd - graddfa’r effaith angen mwy o gefnogaeth. A yw’r Llywodraeth yn ymateb i’r hyn y mae’r Bwrdd yn ceisio ei weithredu?

·         Newid Hinsawdd yn fater byd eang ond, ym maes llifogydd a oes modd addysgu pobl ynglŷn â’r effaith / i arafu newid hinsawdd yn hytrach na derbyn bod hyn yn digwydd?

·         O ystyried tangyflawniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, angen sicrhau bod blaenoriaethau’r Is-grŵp Iechyd yn cael eu harwain yn effeithiol gan gynrychiolydd o’r Bwrdd Iechyd

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â sicrhau arweiniad effeithiol ar yr agweddau iechyd nodwyd bod yr is-grŵp yn cyfarch dwy flaenoriaeth a bod y Bwrdd Iechyd a’r ddwy Sir yn cydweithio yn arbennig o dda. Ategwyd mai rôl yr Awdurdodau Lleol a’r Bwrdd Iechyd yw darparu gwasanaeth effeithiol ac mai rôl y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yw ychwanegu gwerth i’r hyn sydd eisoes yn digwydd gan y cyrff cyhoeddus yn unigol.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â diffyg gwaith yn y maes tlodi, nodwyd mai trefniadau budd-daliadau Llywodraeth San Steffan a’u gallu cyllidebol sydd yn creu sefyllfaoedd o dlodi ac mai cyfyng yw gallu’r Awdurdod Lleol i adnabod darn o waith / prosiect penodol i geisio gwneud argraff yn y maes. Derbyniwyd y sylw bod gwaith angen ei wneud i adnabod maes gwaith /darganfod prosiectau all gyflawni a gwneud gwahaniaeth. Mewn perthynas a’r Bwrdd Gwasnaethau Cyhoeddus cytunwyd i ystyried y gwaith sydd eisoes ar y gweill gan yr Awdurdodau Lleol yn y maes tlodi cyn ystyried beth gall y Bwrdd wneud i ychwangeu gwerth i hynny. Bydd yr Awdurdodau Lleol yn darparu cyflwyniad ar gynnydd yn y maes tlodi yn ystod cyfarfod nesaf y Bwrdd ym mis Mawrth.

 

Mewn  ymateb i sylw ynglŷn â gwir effaith Newid yr Hinsawdd, nodwyd bod Ymgynghori aeth Gwynedd eisoes yn gwneud gwaith da yn lleol a’r dyletswyddau hynny yn cynyddu wrth i’r broblem gynyddu. Awgrymwyd bod Llywodraeth Cymru drwy gydweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru wedi newid agwedd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

CYNIGION ARBEDION YR ADRAN AMGYLCHEDD, ADRAN PRIFFYRDD A BWRDEISTREFOL AC YR ADRAN YMGYNGHORIAETH I DDYGYMOD GYDA'U CYFRAN O'R BWLCH £2M POSIB YNG NGHYLLIDEB 2020/21. pdf eicon PDF 63 KB

Aelodau Cabinet:     

 

Cynghorydd Gareth Griffith            Adran Amgylchedd

 

Cynghorydd Catrin Wager               Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol ac Ymgynghoriaeth Gwynedd

 

 

I ystyried yr adroddiad

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yn manylu ar gynigion arbedion fyddai’n cyfrannu tuag at y bwlch ariannol posib yng nghyllideb 2020/21. Atgoffwyd yr Aelodau nad yw’r grant blynyddol, a dderbynnir gan Lywodraeth Cymru wedi bod yn ddigonol ers y 12 mlynedd diwethaf ac o ganlyniad wedi arwain  at sefyllfa lle mae’r Cyngor yn gorfod cynllunio ar gyfer llenwi’r bwlch ariannol. Ar gyfer 2020/21 penderfynwyd cynllunio ar gyfer bwlch £2m gan ofyn i’r holl adrannau ddarganfod eu cyfraniad hwy i’r swm. Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried cynigion yr Adran Amgylchedd, Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol ac yr Adran Ymgynghoriaeth ynghyd a’r goblygiadau.

 

Ymhelaethodd yr Aelodau Cabinet a Phenaethiaid yr Adrannau ar gynnwys yr adroddiad, gan  ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr Aelodau. Diolchodd yr Aelodau Cabinet i’r Adrannau am ddarganfod arbedion pellach na fyddai’n effeithio yn uniongyrchol ar drigolion Gwynedd.

 

Arbedion Adran Ymgynghoriaeth

 

Croesawu’r ymarfer o gynyddu’r adnoddau o fewn Unedau Ymgynghoriaeth Gwynedd i alluogi’r Adran i gynyddu incwm sydd o ganlyniad yn cadw pobl yn gyflogedig mewn swyddi sgiliau uchel o fewn y Sir drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Arbedion Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol

 

Mewn ymateb i awgrym ynglŷn ar gallu i leihau / dorri i lawr gostau contractio allanol fel bod modd i gwmnïau llai / lleol gystadlu am y gwaith (o dan y rhiniog) derbyniwyd y gellid gwneud mwy i gadw’r budd yn lleol a rhoi cyfleoedd i fusnesau lleol ymgeisio am y gwaith.

 

Mewn ymateb i wybodaeth ynglŷn â chost a threfniant gwastraff masnachol eglurwyd bod yr Adran yn gwasanaethu dros 2,000 o fusnesau ar draws Gwynedd drwy roi cynnig unigryw i ailgylchu neu waredu eu gwastraff gweddilliol. Bydd y gwasanaeth yn dewis a dethol gwastraff y gellid eu hailgylchu ym Mharc Adfer yn Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy. Ategwyd bod hwn yn rhoi cyfle i’r Adran wella’r gwasanaeth drwy ddenu ac annog mwy o gwmnïau i aros. Nodwyd hefyd y bydd deddf newydd yn gofyn i Awdurdodau Lleol ailgylchu mwy a bydd y trefniant presennol o  ailgylchu gwastraff masnachol yn fantais i Wynedd. Y bwriad yw cynnig gwasanaeth gwyrdd / cyfrifol gan edrych i ddatblygu'r gwasanaeth yma ymhellach

 

Arbedion Adran Amgylchedd

 

Mewn ymateb i frawddeg bod ‘yr effaith ar drigolion yn lleihau oherwydd cydweithio agosach gyda’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol’, ac y dylai hyn fod yn ffordd naturiol o weithio beth bynnag, nodwyd bod yr Adrannau yn cynnal trafodaethau traws adrannol i geisio adnabod cyfleoedd o gydweithio o fewn meysydd cyffredin fel bod modd osgoi dyblygu gwaith.

 

 

Sylwadau cyffredinol:

·         Ystyried arbedion drwy ddefnyddio ymgynghorwyr lleol yn hytrach na rhai allanol

·         Gosod dirwy am dorri amodau cynllunio – hyn yn gyfle i greu incwm.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo cynigion yr adrannau i gwrdd â’u cyfran o arbedion perthnasol

 

8.

TAI HAF A CHYNLLUNIO pdf eicon PDF 58 KB

Aelod Cabinet: Cynghorydd Gareth Griffith

 

I ystyried yr adroddiad

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Pennaeth Cynorthwyol yr Amgylchedd yn diweddaru’r Pwyllgor ar y gwaith ymchwil manwl y mae’r Cabinet wedi cytuno i’r Adran ei wneud mewn perthynas â thai haf. Pwrpas y gwaith yw ceisio cyfarch sut y byddai modd cyfyngu faint o dai y gellid eu defnyddio at ddibenion gwyliau, gan edrych ar fesurau sydd yn weithredol mewn llefydd eraill a sut byddai modd newid deddfwriaethau cynllunio er mwyn eu gweithredu yng Nghymru.

 

Adroddwyd bod pryderon ers rhai blynyddoedd yng Ngwynedd ynglŷn â’r nifer o dai haf a’i sgil effeithiau ar gymunedau’r Sir. Nodwyd bod y diwydiant twristiaeth wedi esblygu yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf yn enwedig yn y ddarpariaeth o lety gosod byr dymor.

 

Amlygwyd mai’r bwriad oedd penodi tîm amlddisgyblaeth i wneud y gwaith ymchwil a gwahoddwyd ymgeiswyr i gyflwyno tendr ym mis Hydref 2019. Er na dderbyniwyd  cais am dendr, penderfynwyd parhau gyda’r gwaith ymchwil gan gyflawni hynny mewn partneriaeth gyda Chyngor Caerdydd a’r Sefydliad Cynllunio Trefn Brenhinol (RTPI). Ategwyd bod yr Adran Cynllunio yn llunio cynllun a rhaglen ar gyfer y gwaith ymchwil a bod bwriad rhoi diweddariad i’r Pwyllgor Craffu wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen.

 

Rhoddwyd cyflwyniad ffurfiol i’r Pwyllgor yn egluro’r cyd-destun ar  gyfer y gwaith.

 

            Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol gan Aelodau Unigol:

·         Croesawu’r gwaith ymchwil – mawr obeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi ystyriaeth i’r argymhellion / canfyddiadau

·         Bod pryderon wedi eu hamlygu ers blynyddoedd ac erbyn hyn yr effaith yn amlygu’r angen i weithredu

·         Bod angen rheolau a phrosesau yn ei lle i reoli’r sefyllfa yn well

·         Awgrym i gyflwyno trefn gofrestru neu drwydded ar gyfer tai haf – hyn yn incwm posib

·         Cyflwyno trefn o ddirwyo llym os yw amodau cynllunio yn cael eu torri

·         Cyfle i drafod defnydd / rheolaeth tai gwyliau  / cyfle i gydweithio gyda chymdeithasau tai / prynu  tai marchnad gwyliau i’w cadw yn lleol

·         Bod tai haf yn cael effaith negyddol ar drigolion lleol

·         Croesawu'r syniad o osod cap ar y niferoedd tai haf mewn ardaloedd penodedig

·         Bod angen ystyried nifer ‘ail dai’ sydd hefyd yn cael effaith ar stoc tai'r Sir

·         Derbyn yr angen i gasglu tystiolaeth er mwyn pwyso am newid

 

Mewn ymateb, nododd Pennaeth Cynorthwyol yr Amgylchedd ei fod yn cydweld a’r sylwadau gan nodi’r angen i ddatblygu polisïau newydd a sefydlu deddfwriaethau ar y cyd (megis trethi a chynllunio) fel eu bod yn gyson yn eu diffiniadau i osgoi amheuaeth.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad, croesawu’r gwaith ymchwil a derbyn diweddariad wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen.