Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng. Dewi Owen (Cyngor Gwynedd), Cyng. Gwynfor Owen (Cyngor
Gwynedd), Cyng. Elfed Wyn ab Elwyn (Cyngor Gwynedd), Cyng. Louise Hughes
(Cyngor Gwynedd), Cyng. Richard Glyn Roberts (Gwynedd), Cyng Alwyn Evans
(Cyngor Sir Powys), Cyng.
Trevor Roberts (Pwyllgor Rheilffordd
Amwythig / Aberystwyth), Liz Saville Roberts
(AS Dwyfor Meirionnydd), Mabon ap Gwynfor (AS Dwyfor Meirionnydd), Llio
Hughes (Swyddfa Plaid Cymru), Delyth Griffiths (Swyddfa Plaid Cymru,
Dolgellau), Joyce Watson (Aelod Seneddol Canolbarth a Gorllewin Cymru), Gwyn
Rees a Tomos Roberts (Network
Rail) a Clare Britton (Rheilffordd Ffestiniog). Nodwyd bod y Cyng. Alwyn Evans wedi ei benodi fel cynrychiolydd Cyngor Sir
Powys. Nodwyd bod Tomos Roberts (Network Rail) wedi cael swydd newydd ac mai Gwyn Rees fyddai’n
cynrychioli’r cwmni i’r dyfodol agos. Diolchwyd i Tomos am ei gefnogaeth i’r
Pwyllgor. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: |
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
Cofnod: |
|
DIWEDDARIAD GAN WASANAETHAU I dderbyn diweddariad gan · Network Rail · Trafnidiaeth Cymru Amserlen 2025 - 2026 · Heddlu Trafnidiaeth Brydeinig Cofnod: Trafnidiaeth Cymru (TrC) Croesawyd Gail Jones i’r cyfarfod Rhannwyd fideo o waith diweddar Trafnidiaeth Cymru ar Reilffordd y Cambrian oedd yn cynnwys gwaith peirianneg o adnewyddu
traciau, cryfhau arglawdd a gweithgareddau cynnal a chadw allweddol rhwng yr
Amwythig a Machynlleth o 21/3/25 hyd 3/4/25. Gwnaed cais am fideo Gymraeg ac i’r fideo gael ei rhannu gyda’r Aelodau
fel bod modd iddynt ei rhannu ar gyfryngau cymdeithasol eraill. Adroddwyd bod yr aflonyddwch diweddar o ganlyniad i ddamwain yn Nhalerddig Hydref 2024 wedi dod i ben 21/3/25 gyda threnau
erbyn hyn yn rhedeg rhwng y Drenewydd ac Aberystwyth a Machynlleth i Bwllheli. Amlygwyd yr effaith ar blant sy'n mynychu Ysgol Uwchradd Tywyn ac eraill
sy'n teithio i'r Coleg yn Y Drenewydd oherwydd cau ffyrdd a chau rheilffordd ar
yr un pryd. Nodwyd bod rhai myfyrwyr heb allu mynychu’r coleg am bythefnos gan
aros adref i weithio, ond heb allu gwneud
gwaith ymarferol. Nododd y Cadeirydd, bod y gwyn yn un dilys yn creu
effaith sylweddol ar bobl leol. Pan fydd gwasanaethau ffyrdd a rheilffyrdd yn
cau mae'n gwneud bywyd yn anodd i bobl mewn ardaloedd gwledig, gyda'r
gwyriadau'n hir iawn a’r gwasanaeth bws yn aneffeithiol. Mewn ymateb i’r sylwadau, nodwyd bod y gwaith oedd yn cael ei weithredu
yn hanfodol gyda Network Rail
wedi ei gynllunio ymlaen llaw. Diolchwyd i Gail am ei chyfraniad Amserlen 2025 – 2026 Tynnwyd sylw at ostyngiadau yn amserlen Gaeaf Rheilffordd y Cambrian gan nodi bod colled y trên olaf yn un sylweddol
i’r economi leol a'r sector lletygarwch. Er bod Llywodraeth Cymru yn ceisio annog
pobl i ddefnyddio
trafnidiaeth gyhoeddus, oherwydd diffyg gwasanaeth mewn ardaloedd gwledig, mae’n rhaid defnyddio
ceir, ac wrth ddiddymu gwasanaeth y trên ola far y Cambrain, ystyriwyd bod hyn yn mynd yn
groes i bolisiau
Llywodraeth Cymru. Ategodd rhai Aelodau bod nifer o fusnesau wedi cael eu
heffeithio oherwydd colled bod gwasanaeth y trên olaf wedi
dod i ben, gan nodi bod sefydliadau megis y Magic Lantern yn Nhywyn a Theatr y Ddraig, Abermaw
wedi gorfod aildrefnu llawer o’i digwyddiadau. Nodwyd hefyd bod yr effaith ar rai yn "eithaf dinistriol." Ystyriwyd bod y
gwasanaeth gaeaf eisoes yn annigonol
a’r cysylltiadau rhwng pentrefi a threfi, erbyn hyn
yn amhosib. Cyfeiriwyd at y teithiau undydd (megis taith
i’r Amwythig am y diwrnod), ac at deithwyr yn treulio nosweithiau
ym Mhwllheli, Abermaw neu
Aberdyfi, sydd bellach yn amhosibl. Nodwyd
bod diffyg dealltwriaeth
neu werthfawrogiad o'r hyn sy'n digwydd
yn ein cymunedau
oherwydd yr hyn sy'n cael ei
reoli gan amseroedd y rheilffordd. Cyfeiriwyd at ddeiseb gyda 3500 o lofnodion oedd o blaid achub
y gwasanaethau nos, ac yn tynnu sylw
at yr anawsterau oedd yn wynebu busnesau
gydag esiamplau o golli gweithwyr ac ysgwyddo costau ychwanegol. Erfyniwyd am ddatrysiad gwell a modd o ail atgyfodi’r rheilffordd. Tynnwyd sylw at Asesiad Effaith a gwblhawyd gan staff Rheilffordd Tal-y-llyn oedd yn cynnwys gwybodaeth am effaith negyddol y gwasaneth ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
I dderbyn ymateb i gwestiynau ffurfiol a dderbyniwyd: · Cyngor Cymuned Llanbedr Cofnod: Derbyniwyd cwestiynau gan Cyngor Cymuned Llanbedr ·
Enw Talwrn Bach ar yr arwydd yn ogystal â
Llanbedr. Byddai hyn yn dderbyniol cyn yr haf. ·
Bin ger y safle – ar y cyd gyda Cyngor
Gwynedd (bin sbwriel a bin baw cŵn) ·
Barriers
diogelwch ar y ffordd. ·
Gwelliant i’r Shelter - angen cryfhau'r to
fel nad yw yn gollwng dwr. ·
Cynllun i brynu map o lwybrau cyhoeddus er
mwyn hyrwyddo'r rhain - fel yr un yn y Pentref, a’i osod ar gefn y Shelter. Mewn ymateb nodwyd bod amser wedi ei roi o’r neilltu yn
ystod cyfnod cau'r rheilffordd i fynd ati i wneud rhai o’r gwelliannu yn yr
Orsaf. Nodwyd bod trefniadau ar gyfer adeiladu gwarchodfa newydd ar y gweill ac
y byddai gwybodaeth am y warchodfa yn cael ei gyfathrebu mewn e-bost yn
uniongyrchol at y Cyngor Cymuned. Byddai hyn yn cael ei gyllido drwy Gyllideb
Cymunedol. Yng nghyd-destun cynnwys enw Talwrn Bach, nodwyd bod lle digonol ar
yr arwydd i’w gynnwys. Nid oedd ymateb wedi ei dderbyn ynglŷn â’r bin. LHE i
ail gysylltu Cyfarfod nesaf i’w gynnal Tachwedd 2025 – LHE i drefnu |