Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 - Swyddfeydd y Cyngor, Cyngor Mon, Llangefni LL77 7TW. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rebeca Jones 01286 679890
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Y Cynghorwyr Richard Owain Jones (CSYM), Robin
Williams (CSYM), John Brynmor Hughes (CG), Gareth Roberts (CG) a John Pughe
Roberts (CG). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion
cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 14 Mehefin 2019, fel rhai cywir. Cofnod: Derbyniwyd cofnodion y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 14 Mehefin 2019 fel
rhai cywir. |
|
Cyflwyno adroddiad gan Bob Thomas (Arweinydd Tîm) Uned
Polisi Cynllunio ar y Cyd. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Rhoddwyd trosolwg
o beth yw pwrpas Canllawiau Cynllunio Atodol gan nodi
mae ei
brif bwrpas ydi bod o gymorth i ymgeiswyr wrth
gyflwyno a pharatoi ceisiadau cynllunio ynghyd a bod o gymorth i’r sawl fydd
yn gwneud y penderfyniad ar y cais, boed hynny’n
Swyddogion, Cynghorwyr neu yn Arolygydd
annibynnol. Yng nghyswllt y CCA dan sylw nodwyd
fod yna gyfnod
ymgynghori cyhoeddus wedi cymryd lle
rhwng Rhagfyr 2018 ac Ionawr 2019. Yn ogystal â hynny mae’r Canllaw wedi
bod trwy broses craffu yn y ddau Gyngor
ac wedi bod yn destun gwerthusiad beirniadol annibynnol gan arbenigwyr o fewn y maes
Cynllunio Iaith. Yn sgil y broses Craffu fe dderbyniwyd
adborth gan Bwyllgor Craffu Cymunedau Gwynedd ynghyd a Phwyllgor Sgriwtini Môn, mae’r tabl a gynhwysir
ym mharagraff 4.2 ac 4.3 (yn ôl eu
trefn) yn cofnodi’r ymateb yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd i’r
sylwadau a dderbyniwyd. Yn ystod y cyfnod ymgynghori cyhoeddus, dderbyniwyd 88 sylw unigol (rhain
i’w gweld yn Atodiad 1b o’r
adroddiad). Nodwyd fod rhan fwyaf
o’r sylwadau yn rhai adeiladol
a bod yna gynnig o fan ddiwygiad i gynnwys
y Canllaw yn aml yn cael
ei gynnig yn sgil sylw
a dderbyniwyd. Ble nad oes yna argymhelliad i ddiwygio’r Canllaw
yn sgil y sylw, mae yna
nodyn o eglurhad/rheswm yn cael
ei nodi dros
y penderfyniad hynny. Yn aml mae’r
rheswm hynny’n ymwneud a’r ffaith
fod y mater a gyfeirir ato o fewn y sylw
wedi ei gynnwys
mewn rhan arall o’r Canllaw. Nodwyd fod yna gopi cyflawn
o’r Canllaw wedi ei gynnwys
yn Atodiad 2, sydd wedi ymgorffori’r
newidiadau a awgrymwyd yn dilyn
yr ymgynghoriad cyhoeddus. Materion a godwyd: • Oes yna ymateb i’r
farn gyfreithiol a dderbyniwyd ar ran Cymdeithas yr Iaith. • Gofynnwyd am eglurder o ran pryd fyddai angen Asesiad/Datganiad (beth yw’r trothwyon). Cyfeiriwyd at y tabl a gynhwysir ym Mhara
4.2 o’r Canllaw a’r cwestiwn sydd
wedi cael ei godi gan
Bwyllgor Craffu Cymunedau Cyngor Gwynedd sydd yn ymwneud a’r
un mater. • Holwyd sut mae’r trothwyon
o ran pryd gofynnir i ymgeisydd gyflwyno
Datganiad/Asesiad yn cymharu hefo’r
gofynion presennol (hynny yw'r gofynion
sydd wedi ei osod allan yng Nghanllaw Cynllunio Atodol Cyngor
Gwynedd sydd yn ymwneud a Chynllunio a’r Iaith Gymraeg). • Gofynnwyd a oes yna unrhyw
enghreifftiau o ddatblygiadau
penodol ble na fyddai
ystyriaeth yn cael ei roi
i’r effaith ar yr iaith
Gymraeg. Oes yna rhai mathau
o geisiadau a fyddai’n gallu llithro drwy’r
rhwyd. • Holwyd ynglŷn â statws ‘Canllawiau Cynllunio Atodol’ gan mae
‘canllawiau’ yn unig ydynt. A oes
yna unrhyw arweiniad wedi ei gynnwys o fewn
y Canllaw o ran beth fyddai’r goblygiadau pe fyddai’r ymgeisydd
ddim yn cydymffurfio
hefo’r Canllawiau hyn. • Nodwyd y ffaith fod yna broses craffu ac ymgynghori hirfaith wedi bod wrth baratoi'r Canllaw, ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |