Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rebeca Jones  01286 679890

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer  2021/2022.

Penderfyniad:

ETHOL Y CYNGHORYDD RICHARD DEW YN GADEIRYDD Y PWYLLGOR POLISI CYNLLUNIO AR Y CYD AR GYFER Y FLWYDDYN 2021/22.

 

Cofnod:

Etholwyd y Cynghorydd Richard Dew fel Cadeirydd y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd am y cyfnod 2021 - 2022

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd ar gyfer  2021/2022.

 

Penderfyniad:

ETHOL Y CYNGHORYDD GARETH GRIFFITH YN IS-GADEIRYDD Y PWYLLGOR POLISI CYNLLUNIO AR Y CYD AR GYFER Y FLWYDDYN 2021/22.

 

Cofnod:

Etholwyd y Cynghorydd Gareth Griffith fel Is-gadeirydd y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd am y cyfnod 2021 – 2022.

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys

6.

COFNODION pdf eicon PDF 113 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd Mawrth 12fed 2021 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 12 Mawrth 2021 fel rhai cywir.

7.

CYFRIFION TERFYNOL AR GYFER PWYLLGOR POLISI CYNLLUNIO AR Y CYD pdf eicon PDF 256 KB

Cyflwyno adroddiad gan Uwch Reolwr Cyllid, Cyngor Gwynedd

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Derbyn a chymeradwyo’r wybodaeth:

 

 · Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw 2020/21

 · Ffurflen Flynyddol ar gyfer y Flwyddyn a Ddaeth i Ben 31 Mawrth 2021

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Ffion Madog Evans (Uwch Rheolwr Cyllid) a oedd yn ymateb i ofyniad statudol o dan Adran 12 o Ddeddf Archwilio Gyhoeddus (Cymru) 2004 i adrodd ar ddatganiad cyfrifon blynyddol ar gyfer y Gwasanaeth Polisi Cynllunio ar y Cyd. Gan fod trosiant y Gwasanaeth yn is na £2.5m, fe ystyrir yn gorff Llywodraeth Leol lai o faint, gan hynny mae gofyn cwblhau ffurflen datganiadau cyfrifon a ddarparwyd gan Archwilio Cymru i gwrdd â’r gofynion statudol. Cyfeiriwyd at Atodiad 1 sydd yn cynnwys yr adroddiad alldro ac yn egluro sefyllfa derfynol incwm a gwariant refeniw'r Gwasanaeth ar gyfer 2020/21.

 

Amlygwyd fod y gyllideb i’w weld yn y golofn gyntaf gyda’r gwariant yn yr ail, yna mae posib archwilio’r gorwariant neu'r tanwariant yn y drydedd golofn. Nodwyd fod y gwariant am 2020/21 £49,239 yn is na’r gyllideb oedd ar gael, ac felly bu modd lleihau'r cyfraniad gofynnol i Gyngor Gwynedd a Môn i £218,326 yr un, sydd yn lleihad o dros £24,600 o’i gymharu gyda’r gyllideb. Ymhellach nodwyd nad oedd rhaid defnyddio’r gronfa wrth gefn. Wrth edrych yn fanylach ar y ffigyrau fesul pennawd, mae ardrawiad effaith Covid-19 a’r cyfnod clo yn amlwg ar y ffigyrau a gwahanol benawdau’r gyllideb, wrth i staff fod yn gweithio o adra, felly'r darlun yn gyson efo’r darlun ar draws y Cynghorau.

 

Nodwyd fod y cyfrifon eisoes wedi eu hanfon i sylw Archwilwyr Allanol, Swyddfa Archwilio Cymru. Dim ond os bydd newidiadau yn dilyn yr archwiliad hynny y bydd yna fersiwn ddiwygiedig yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ar yr 22ain o Hydref, 2021. Gofynnwyd i’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd dderbyn a chymeradwyo’r cyfrifon am 2020/21 ac i’r Cadeirydd arwyddo’r ffurflen yn electroneg ar dudalen 12.

 

Materion a Godwyd

·         Cwestiynwyd y gorwariant misol o £48,000 a fod hynny’n ymddangos i fod yn eithriadol o uchel.

·         Nodwyd fod y ffigyrau yn ymddangos yn rhesymol a bod effaith a goblygiadau ariannol yn amlwg, hynny yw'r ffaith fod staff y gweithio o adra, llai o gostau o ran swyddfeydd a llai o gostau teithio. Ymhellach mynegwyd y ffaith fod yna ddefnydd da o adnoddau’r Gwasanaeth (staff) wedi cael ei wneud er mwyn cynnal tasgau gwaith penodol.

·         Nodwyd fod y balans yn ymddangos yn uchel a holwyd y rheswm am hynny.

·         Cydnabuwyd y gwariant sylweddol a fydd ei angen er mwyn cynnal yr adolygiad o’r Cynllun, holwyd gan hynny a fydd angen edrych ar gynyddu’r gyllideb.

·         Holwyd pam fod yr iaith gyfathrebu ar gyfer y Ffurflen Flynyddol wedi dewis yr opsiwn Saesneg. Ymateb 3 · Cadarnhawyd mai tanwariant dros y flwyddyn yw £49,000 (nid gorwariant) ac yn sgil hynny fod y cyfraniad ariannol gan y ddau awdurdod wedi bod yn is.

·         Nodwyd y sylw.

·         Amlygwyd fod y balans wedi ei gronni dros y blynyddoedd ac felly fod hynny’n un o’r rhesymau pam ei fod yn ymddangos yn uchel. Fodd bynnag mae’r arian hyn wrth gefn er mwyn cyfrannu at wariant yn y dyfodol. Hynny’n benodol wrth ystyried y gyllideb sydd ei angen er mwyn cynnal adolygiad o’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.