Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Courtney Leigh Jones E-bost: courtneyleighjones@gwynedd.llyw.cymru
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
unrhyw ymdiheuriadau. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriad gan Y Cynghorydd Jina Gwyrfai. |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
datganiad o fuddiant gan y Cynghorydd Elin Walker Jones. Nid oedd yn fuddiant
oedd yn rhagfarnu ac ni adawodd y cyfarfod. |
|
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys
ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w
nodi. |
|
|
CYNLLUN YMATEB I'R ADRODDIAD CYFIAWNDER TRWY EIN DEWRDER Sicrwydd o
ran gweithrediad y Cynllun Ymateb. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1) Nodi’r rhaglen waith 2) Gofyn am adroddiad cynnydd mewn 6 mis ar y
rhaglen waith gan gynnwys gwybodaeth am y polisi canu’r gloch a’i weithrediad 3) Gofyn am adroddiad ar y gwaith o sicrhau statws
Sir Plentyn Gyfeillgar a dod yn Gyngor Trawma Wybodus 4) Gofyn i’r Cabinet ystyried
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Arweinydd y Cyngor, gan ddiolch i aelodau’r
pwyllgor am y cyfle i ddod a’r Cynllun Ymateb i’r Adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein
Dewrder i graffu, cyn iddo gael ei fabwysiadu’n ffurfiol gan y Cabinet.
Ymddiheurwyd eto i’r holl ddioddefwyr sydd wedi cael eu heffeithio gan droseddu
erchyll Neil Foden, a chydnabuwyd bod y Cyngor wedi
eu methu, ac ni chafodd lleisiau plant eu clywed. Pwysleisiwyd ymrwymiad y
Cyngor i weithredu a sicrhau bod pethau yn newid. Dywedwyd bod y Cyngor yn
blaenoriaethu’r addewid i ddysgu a newid, er mwyn sicrhau ni fydd methiannau
o’r un fath byth yn digwydd eto. Amlygwyd bod y Cynllun Ymateb yn gam ar y
daith hir ymlaen i adfer hyder ymhlith y cyhoedd, trigolion a staff, a nodwyd
bod tryloywder yn hanfodol i hyn. Nodwyd bod y Cynllun Ymateb yn ddogfen fyw,
ac yn gyhoeddus. Nodwyd bod cofnodion cyfarfod y bwrdd rhaglen hefyd yn
gyhoeddus, felly bydd modd i weld a monitro’r cynnydd sydd yn digwydd.
Cydnabuwyd nad yw’r mater hwn yn fater hawdd i drafod, a chydnabuwyd bod
canfyddiadau’r adroddiad yn erchyll. Diolchwyd am barodrwydd yr aelodau i
graffu’r pwnc anodd yma, ac i gyfrannu at wellhad gweithdrefnau diogelu plant
er mwyn sicrhau ni fydd hyn yn digwydd byth eto yng Ngwynedd. Diolchwyd am
arweiniad arbennig yr athro Sally Holland, Cadeirydd
y Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb. Nodwyd bod cynnydd i weld mewn sawl adran yn y Cynllun, a nodwyd ei fod
yn enghraifft o gydweithio trawsadrannol i gyrraedd yr un nod, sef i wella
trefniadau diogelu yng Ngwynedd. Mynegwyd bod y Cyngor yn cydnabod bod gwarchod
a diogelu plant rhag niwed yn gyfrifoldeb ar bawb, a chroesawyd sylwadau,
awgrymiadau ac unrhyw feirniadaeth gan aelodau er mwyn adeiladu a gwella’r
Cynllun ac i sicrhau bod y Cyngor yn ymateb yn gyflawn ac yn drwyadl.
Pwysleisiwyd pwysigrwydd mewnbwn aelodau i gryfhau’r Cynllun Ymateb ac i helpu
llunio dyfodol mwy diogel i blant a phobl ifanc y sir. Manylwyd ar y Cynllun Ymateb gan y Prif Weithredwr. Nodwyd bod y Cynllun
Ymateb cyntaf wedi ei gyhoeddi dros flwyddyn yn ôl, ymhell cyn cyhoeddiad yr
adolygiad ymarfer plant. Nodwyd bod llawer wedi ei gyflawni yn ystod y cyfnod
yma, gan nodi bod oddeutu 42 i 43 o dasgau gwaith gwahanol wedi eu cyflawni
dros y flwyddyn ddiwethaf er mwyn ceisio mynd i’r afael a’r hyn mae’r Cyngor yn
ei wynebu. Esboniwyd fod cydnabyddiaeth wedi bod o’r cychwyn y byddai angen ail
edrych ar y Cynllun Ymateb yn dilyn cyhoeddiad yr Adolygiad Ymarfer Plant, er
mwyn gweithredu ar yr argymhellion priodol. Cyfeiriwyd at atodiad 2 sydd yn cynnwys adroddiadau sydd yn rhoi trosolwg o’r gwaith ymateb i’r adolygiad, crynhoi beth sydd wedi newid ac yn amlygu’r pethau pwysig ar y gweill. Tynnwyd sylw’r aelodau at atodiad 3, sydd yn cynnwys y rhaglen waith byw sydd ar waith gan y Cyngor i fonitro’r cynnydd sydd yn digwydd ymhob adran mewn ymateb i’r argymhellion. Manylwyd ar y rhaglen waith, gan nodi ei fod yn cynnwys bob argymhelliad ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |