Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan:- ·
Y
Cynghorydd Dyfrig Siencyn (Cyngor Gwynedd) gyda’r Cynghorydd Nia Jeffreys yn
dirprwyo; ·
Y
Cynghorydd Llinos Medi Huws (Cyngor Sir Ynys Môn) gyda’r Cynghorydd Gary
Pritchard yn dirprwyo; ·
Y
Cynghorydd Ian Roberts (Cyngor Sir y Fflint) gyda’r Cynghorydd David Healey yn
dirprwyo; ·
Dafydd
Evans (Grŵp Llandrillo Menai); ·
Yana Williams (Coleg Cambria); ·
Yr
Athro Edmund Burke (Prifysgol Bangor) gyda Bryn Jones
yn dirprwyo; ·
Dafydd
Gibbard (Cyngor Gwynedd) gyda Sioned Williams yn dirprwyo; ·
Ian
Bancroft (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) gyda
David Fitzsimon yn dirprwyo. Croesawodd y
Cadeirydd y dirprwyon i’r cyfarfod. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Datganodd Bryn Jones fuddiant personol yn eitem 7 gan fod Prifysgol
Bangor yn noddwr y Prosiect Egni. Roedd o’r farn bod y
buddiant yn rhagfarnu, a gadawodd y cyfarfod yn ystod yr eitem yn ei
chyfanrwydd. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Ni chodwyd unrhyw faterion
brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL PDF 113 KB Bydd y Cadeirydd
yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 17
Tachwedd, 2023 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol a gynhaliwyd ar 17 Tachwedd, 2023 fel rhai cywir. |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y
dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr
eitemau canlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i
diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972
Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol
(yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny). Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig
mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol
cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau
ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei
chyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn a materion ariannol a busnes
ynghyd â thrafodaethau
cysylltiedig. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn
gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r Cynghorau ac yn tanseilio hyder
rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Gytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar
gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr
allbwn cyfansawdd gorau. Cofnod: PENDERFYNWYD cau
allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau
canlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i
diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 -
Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol
(yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny). Mae budd cyhoeddus
cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a
materion ariannol cysylltiedig.
Cydnabyddir, fodd bynnag, fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a
masnachol cyhoeddus, fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei chyhoeddi. Mae’r adroddiadau yn benodol ynglŷn â
materion ariannol a busnes ynghyd â thrafodaethau cysylltiedig. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif
o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r Cynghorau ac yn
tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud â’r Cytundeb Twf i rannu gwybodaeth
sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn
yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau'r allbwn cyfansawdd gorau. |
|
GWAITH TREULIO ANAEROBIG GLANNAU DYFRDWY - ACHOS BUSNES AMLINELLOL Elgan Roberts
(Rheolwr Rhaglen Ynni Carbon Isel) i gyflwyno’r adroddiad (sydd wedi’i
gylchredeg i’r aelodau ar wahân). Penderfyniad: 1.
Bod y Bwrdd yn cymeradwyo'r Achos Busnes Amlinellol ar
gyfer y prosiect Gwaith Treulio
Anaerobig Glannau Dyfrdwy, yn amodol ar The Circular Economy Developments
Limited yn ymdrin â'r materion a amlinellir yn yr adroddiad, fel y'u disgrifir
yn Adran 7, ac yn argymell i'r Bwrdd Uchelgais Economaidd fod Achos Busnes
Llawn yn cael ei baratoi i'r Bwrdd ei ystyried yn dilyn cwblhau'r broses
gaffael a'r broses ganiatâd. 2.
Bod y Bwrdd yn nodi fod y
broses gaffael gychwynnol ar gyfer y prosiect eisoes wedi'i chwblhau ac ar ôl
cymeradwyo’r Achos Busnes Amlinellol y bwriad yw y bydd Achos Busnes Llawn yn
cael ei gyflwyno i’r Bwrdd ym mis Chwefror 2024 am gymeradwyaeth. 3.
Bod y Bwrdd yn nodi fod y model ariannu arfaethedig ar
gyfer y prosiect yn 50% grant a 50% benthyciad yn ddarostyngedig i gadarnhad
o'r sefyllfa rheoli cymhorthdal wrth gymeradwyo'r Achos Busnes Llawn, ac yn
cymeradwyo mewn egwyddor fod y llog o'r benthyciad, unwaith y bydd cost
taliadau benthyca ar gyfer yr elfen benthyciad wedi'i dalu, yn cael ei ddyrannu
i gronfa i'w defnyddio i ariannu'r Swyddfa Rheoli Portffolio yn y blynyddoedd i
ddod. 4.
Bod y Bwrdd yn awdurdodi'r
Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151 a Swyddog Monitro
yr Awdurdod Lletya i gytuno ar delerau ariannu drafft yn unol â'r adroddiad hwn
fel sail i'r trefniadau ariannu terfynol ar gyfer y prosiect, gytunir gan y
Bwrdd yn ystod y cam Achos Busnes Llawn. 5.
Bod y Bwrdd yn dynodi’r penderfyniad fel mater brys y
gellir ei weithredu ar unwaith yn unol â pharagraff 2.9 o’r Protocol Craffu yng
Nghytundeb Llywodraethu 2. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Elgan Roberts (Rheolwr Rhaglen Ynni) a Hedd Vaughan-Evans
(Pennaeth Gweithrediadau). PENDERFYNWYD 1. Bod y Bwrdd yn cymeradwyo'r Achos Busnes
Amlinellol ar gyfer y prosiect Gwaith
Treulio Anaerobig Glannau Dyfrdwy, yn amodol ar The Circular
Economy Developments Limited yn ymdrin â'r materion a amlinellir yn yr
adroddiad, fel y'u disgrifir yn Adran 7, ac yn argymell i'r Bwrdd Uchelgais
Economaidd fod Achos Busnes Llawn yn cael ei baratoi i'r Bwrdd ei ystyried yn
dilyn cwblhau'r broses gaffael a'r broses ganiatâd. 2. Bod y Bwrdd yn nodi fod y broses gaffael gychwynnol ar gyfer y prosiect
eisoes wedi'i chwblhau ac ar ôl cymeradwyo’r Achos Busnes Amlinellol y bwriad
yw y bydd Achos Busnes Llawn yn cael ei gyflwyno i’r Bwrdd ym mis Chwefror 2024
am gymeradwyaeth. 3. Bod y Bwrdd yn nodi fod y model ariannu
arfaethedig ar gyfer y prosiect yn 50% grant a 50% benthyciad yn ddarostyngedig
i gadarnhad o'r sefyllfa rheoli cymhorthdal wrth gymeradwyo'r Achos Busnes
Llawn, ac yn cymeradwyo mewn egwyddor fod y llog o'r benthyciad, unwaith y bydd
cost taliadau benthyca ar gyfer yr elfen benthyciad wedi'i dalu, yn cael ei
ddyrannu i gronfa i'w defnyddio i ariannu'r Swyddfa Rheoli Portffolio yn y
blynyddoedd i ddod. 4. Bod y Bwrdd yn awdurdodi'r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â
Swyddog Adran 151 a Swyddog Monitro yr Awdurdod Lletya i gytuno ar delerau
ariannu drafft yn unol â'r adroddiad hwn fel sail i'r trefniadau ariannu
terfynol ar gyfer y prosiect, gytunir gan y Bwrdd yn ystod y cam Achos Busnes
Llawn. 5. Bod y Bwrdd yn dynodi’r penderfyniad fel
mater brys y gellir ei weithredu ar unwaith yn unol â pharagraff 2.9 o’r
Protocol Craffu yng Nghytundeb Llywodraethu 2. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Ceisio
cymeradwyaeth y Bwrdd Portffolio i Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y prosiect
Gwaith Treulio Anaerobig Glannau Dyfrdwy. TRAFODAETH Trafodwyd yr eitem. |
|
EGNI - ACHOS BUSNES AMLINELLOL Elgan Roberts (Rheolwr Rhaglen Ynni Carbon Isel) i
gyflwyno’r adroddiad (sydd
wedi’i gylchredeg i’r aelodau ar wahân). Penderfyniad: 1. Bod y Bwrdd yn cymeradwyo'r Achos Busnes Amlinellol ar
gyfer y prosiect Egni, yn amodol ar Brifysgol Bangor yn ymdrin â'r materion a
amlinellir yn yr adroddiad, fel y'u disgrifir yn Adran 7, ac yn argymell i'r
Bwrdd Uchelgais fod Achos Busnes Llawn yn cael ei baratoi i'r Bwrdd ei ystyried
yn dilyn cwblhau'r broses gaffael a'r broses ganiatâd. 2. Bod y Bwrdd yn dirprwyo i'r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn
ymgynghoriad â'r Cadeirydd a'r Is-gadeirydd, gymeradwyaeth derfynol o'r
strategaeth gaffael a'r fanyleb gaffael a'r meini prawf gwerth cymdeithasol i'w
cynnwys gan Brifysgol Bangor yn eu proses gaffael. 3. Bod y Bwrdd yn awdurdodi'r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â
Swyddog Adran 151 a Swyddog Monitro'r Awdurdod Lletya i gytuno ar delerau drafft yn unol â'r
adroddiad hwn fel sail i'r trefniadau ariannu terfynol ar gyfer y prosiect,
fydd yn sail i’r cyllid a gytunir gan y Bwrdd yn ystod y cam Achos Busnes
Llawn. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Elgan Roberts (Rheolwr Rhaglen Ynni) a Hedd Vaughan-Evans
(Pennaeth Gweithrediadau). PENDERFYNWYD 1. Bod y Bwrdd yn cymeradwyo'r Achos Busnes Amlinellol ar
gyfer y prosiect Egni, yn amodol ar Brifysgol Bangor yn ymdrin â'r materion a
amlinellir yn yr adroddiad, fel y'u disgrifir yn Adran 7, ac yn argymell i'r
Bwrdd Uchelgais fod Achos Busnes Llawn yn cael ei baratoi i'r Bwrdd ei ystyried
yn dilyn cwblhau'r broses gaffael a'r broses ganiatâd. 2. Bod y Bwrdd yn dirprwyo i'r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn
ymgynghoriad â'r Cadeirydd a'r Is-gadeirydd, gymeradwyaeth derfynol o'r
strategaeth gaffael a'r fanyleb gaffael a'r meini prawf gwerth cymdeithasol i'w
cynnwys gan Brifysgol Bangor yn eu proses gaffael. 3. Bod y Bwrdd yn awdurdodi'r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â
Swyddog Adran 151 a Swyddog Monitro'r Awdurdod Lletya i gytuno ar delerau drafft yn unol â'r
adroddiad hwn fel sail i'r trefniadau ariannu terfynol ar gyfer y prosiect,
fydd yn sail i’r cyllid a gytunir gan y Bwrdd yn ystod y cam Achos Busnes
Llawn. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Ceisio
cymeradwyaeth y Bwrdd Portffolio i Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y prosiect
Egni. TRAFODAETH Trafodwyd yr eitem. |
|
AIL AGOR Y CYFARFOD I'R WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig bod y wasg a'r cyhoedd yn cael eu gwahodd yn ôl i’r cyfarfod. Cofnod: PENDERFYNWYD
ail-agor y cyfarfod i’r wasg a’r cyhoedd. |
|
CYNLLUN GWEITHREDU ADOLYGIAD PORTH (PAR) PDF 253 KB Alwen
Williams (Cyfarwyddwr portffolio) a Hedd Vaughan-Evans (Pennaeth Gweithrediadau)
i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1.
Bod
y Bwrdd yn cefnogi'r cynllun gweithredu a ddatblygwyd gan y Cyfarwyddwr
Portffolio a'r amserlenni i'w gweithredu mewn ymateb i argymhellion Adolygiad
Porth (PAR) 2023. 2.
Bod
y Bwrdd yn nodi y gall fod gofyn i addasu'r cynllun gweithredu yn sgil yr
adolygiad Sicrwydd Cynllun Gweithredu (AAP) dilynol ym mis Rhagfyr, ac yn hynny
o beth, y byddai'r Cyfarwyddwr Portffolio yn ymgynghori â'r Cadeirydd a'r
Is-gadeirydd ar yr addasiadau hynny. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Alwen Williams (Cyfarwyddwr Portffolio) a Hedd Vaughan-Evans
(Pennaeth Gweithrediadau). PENDERFYNWYD 1.
Bod y Bwrdd yn cefnogi'r cynllun gweithredu a
ddatblygwyd gan y Cyfarwyddwr Portffolio a'r amserlenni i'w gweithredu mewn
ymateb i argymhellion Adolygiad Porth (PAR) 2023. 2.
Bod y Bwrdd yn nodi y gall fod gofyn i
addasu'r cynllun gweithredu yn sgil yr adolygiad Sicrwydd Cynllun Gweithredu
(AAP) dilynol ym mis Rhagfyr, ac yn hynny o beth, y byddai'r Cyfarwyddwr Portffolio
yn ymgynghori â'r Cadeirydd a'r Is-gadeirydd ar yr addasiadau hynny. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Mae'n ofynnol i Gynllun Twf Gogledd
Cymru ymateb i'r argymhellion a nodir yn yr adroddiad Adolygiad Porth. TRAFODAETH Mynegwyd
gwrthwynebiad chwyrn i’r sylw yn yr Adolygiad Porth nad oedd y Bwrdd Cyflawni
Busnes yn herio’r prosiectau a phwysleisiwyd na ddylid derbyn yr argymhellion
yn ddi-gwestiwn fel y ffordd gywir ymlaen. Holwyd pwy fyddai’n
talu am y Cyfarwyddwr Anweithredol i’r Bwrdd Uchelgais a pha fath o berson a
geisid ar gyfer y rôl, o gofio bod yr arbenigedd yn bodoli eisoes o fewn y
bartneriaeth. Awgrymwyd bod yr
holl fiwrocratiaeth yn dal pethau yn ôl ac y dylem gael mwy o ymreolaeth fel
ein bod yn gallu symud ymlaen yn gyflymach. Croesawyd y ffaith
bod modd cynnal cyfarfodydd arbennig ychwanegol o’r Bwrdd os oes angen gwneud
penderfyniadau brys. Nodwyd, er mai
Cadeirydd y Bwrdd sydd wedi’i nodi fel perchennog gweithredu’r argymhelliad i
benodi Cyfarwyddwr Anweithredol i’r Bwrdd, y byddai’n fuddiol petai’r 6
Arweinydd yn rhan o’r drafodaeth ynglŷn â hynny, gan nad yw’n amlwg o’r
adroddiad beth fyddai’r opsiynau, ayb. O ran yr
argymhelliad ynglŷn â hyfforddiant o gwmpas caffael cymdeithasol yn y
sector gyhoeddus, nodwyd na ddeellid beth oedd ar goll gennym gan fod pawb o
amgylch y bwrdd yn hyddysg iawn yn y materion hynny, a holwyd a oedd yna unrhyw
beth y gallem fod wedi’i wneud yn wahanol neu’n well. Nodwyd ymhellach fod y bar wedi’i osod yn
uchel o safbwynt gofynion gwerth cymdeithasol, ac roedd yna ofynion o ran sero
net hefyd. Nid mater hawdd fyddai dod o
hyd i dendrwyr sy’n cyrraedd y trothwyon hynny i gyd, a holwyd a roddwyd
ystyriaeth i hynny fel rhan o’r trafodaethau. Mewn ymateb i rai
o’r sylwadau a’r cwestiynau, nodwyd:- ·
Er bod Cadeirydd y Bwrdd wedi’i nodi fel perchennog
gweithredu’r argymhelliad i benodi Cyfarwyddwr Anweithredol i’r Bwrdd, bod y
ddogfen yn amlygu bod y penodiad yn fater i’r Bwrdd cyfan. ·
Bod gan y Bwrdd a’r Swyddfa Rheoli Portffolio fynediad i
arbenigedd caffael yn ôl yr angen a bod ein prosesau yn cael eu sgriwtineiddio
ar lefel broffesiynol cyn cyrraedd y Bwrdd er mwyn sicrhau bod y prosesau hynny
yn cael eu dilyn yn iawn. ·
Nad oeddem yn derbyn yr argymhellion yn ddi-gwestiwn a’n
bod yn cymryd ein hamser i ystyried sut orau y byddem, fel Bwrdd, ac fel Tîm,
yn dymuno cyfarch y pryderon y tu ôl i rai o’r argymhellion hynny. · Bod rhaid cofio bod unrhyw adolygiad allanol o’r math yma yn giplun mewn amser. Ar adeg ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
EGWYDDORION DENU BUDDSODDIAD PDF 230 KB Alwen
Williams (Cyfarwyddwr Portffolio) i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: 1.
Bod
y Bwrdd yn cefnogi'r egwyddorion sylfaenol fel sail i'r strategaeth
fydd yn gosod allan y dull o gyflawni’r amcanion buddsoddi ar gyfer Cynllun Twf
Gogledd Cymru. 2.
Bod
y Bwrdd yn nodi y bydd y strategaeth fuddsoddi gynhwysfawr, sy’n cynnwys yr egwyddorion
sylfaenol a’r cynllun cyflawni, yn cael ei gyflwyno
i’r Bwrdd yn Chwefror 2024. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Alwen Williams (Cyfarwyddwr Portffolio). PENDERFYNWYD 1.
Bod y Bwrdd yn cefnogi'r egwyddorion sylfaenol fel sail i'r strategaeth fydd yn gosod allan
y dull o gyflawni’r amcanion
buddsoddi ar gyfer Cynllun Twf Gogledd Cymru. 2.
Bod y Bwrdd yn nodi
y bydd y strategaeth fuddsoddi gynhwysfawr, sy’n cynnwys yr
egwyddorion sylfaenol a’r cynllun cyflawni,
yn cael ei gyflwyno i’r Bwrdd
yn Chwefror 2024. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD I ategu datblygiad y strategaeth fanwl a fydd yn adeiladu ar y sicrwydd o’n huchelgais ar y cyd i gyflawni’r
Cynllun Twf gwerth £1bn ar gyfer Gogledd
Cymru. TRAFODAETH Nododd y Swyddog Monitro,
o glywed y cyflwyniad ac o ddeall y byddai yna adroddiad manwl i’r Bwrdd ym mis
Chwefror, nad oedd ganddo sylwadau i’w hychwanegu. Ategodd y Pennaeth
Cyllid y sylw, gan nodi y byddai unrhyw wybodaeth gyllidol yn cael ei hystyried
yn nes ymlaen, ac felly nad oedd ganddo unrhyw beth i’w ychwanegu ar hyn o
bryd. |