Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:- · Dafydd
Wyn Williams (Cyngor Gwynedd) gyda Gerwyn Jones yn dirprwyo · Darren
Williams (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) gyda Gwen Thomas yn dirprwyo) · Iwan
Evans (Swyddog Monitro) · Dewi
Morgan (Swyddog Cyllid) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. |
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 16 Rhagfyr 2024 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol a
gynhaliwyd ar 16 Rhagfyr 2024 fel rhai cywir. |
|
ADRODDIAD CHWARTEROL YR IS-BWYLLGOR TRAFNIDIAETH STRATEGOL Alwen
Williams (Prif Weithredwr Dros Dro y CBC) ac David Hole (Arweinydd Gweithredu
Rhaglen y CBC) i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: Cymeradwyo’r Adroddiad Chwarterol gan:
Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Brif Weithredwr Dros Dro CBC y Gogledd ac Arweinydd Gweithredu
Rhaglen y CBC. PENDERFYNWYD Cymeradwyo’r
Adroddiad Chwarterol gan: 1.
Argymell i Gyd-bwyllgor
Corfforedig y Gogledd gynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru er mwyn derbyn
diweddariad o’r trefniadau i gyllido prosiect Diwygio Bysiau ac Masnachfreinio. 2.
Mynegi pryder am barhad gwasanaeth
wrth i brosiect Diwygio Bysiau a Masnachfreinio gael ei ddatblygu ymhellach. 3.
Gofyn am drafodaeth bellach ar
gyfer cyllido gwasanaeth bws (coets) o ddwyrain i orllewin Cymru a hefyd
gwasanaeth bws Gogledd Cymru i’r De, i gyd fynd gyda gwasanaethau rheilffordd
drawsffiniol, heb amharu ar wasanaethau lleol. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Cymeradwywyd y
Cylch Gorchwyl yng nghyfarfod yr Is-bwyllgor ar 1 Hydref 2024. Mae’r
Is-bwyllgor wedi cyfarfod ar ddau achlysur, ac ystyrir ei bod yn briodol
adolygu’r gwaith a wnaed a sicrhau bod yr adnoddau cywir yn eu lle i ddiwallu
datblygiadau yn y dyfodol. TRAFODAETH Adroddwyd
mai dyma’r adroddiad chwarterol cyntaf sydd yn
manylu ar ddatblygiadau, yn unol â dyletswydd
gyfreithiol Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd wrth ddatblygu Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol. Ymhelaethwyd bydd adroddiad chwarterol yn cael ei
gyflwyno i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig pob chwarter er mwyn manylu ar brosiectau penodol, perfformiad ariannol yr Is-bwyllgor a’r datblygiadau
sydd ar y gweill. Atgoffwyd bod y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn cynorthwyo awdurdodau
lleol gyda datblygiadau ac nid oes ganddo bwerau
dros gynlluniau ffyrdd a rheilffordd strategol sydd y tu hwnt i
reolaeth yr awdurdodau hynny. Diolchwyd
i’r Is-bwyllgor ac i’r holl rhan-ddeiliaid
am eu cymorth i gyflawni’r holl
ddatblygiadau a welwyd o fewn yr adroddiad. Cadarnhawyd bod cyfnod ymgynghori
ar y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol draft wedi cychwyn ers 20 Ionawr 2025 ac yn parhau nes 14 Ebrill
2025. Eglurwyd bod y gwaith
yn cael ei
arwain gan ARUP ar ran y Cyd-bwyllgor, gan nodi hefyd bod cydweithio wedi digwydd gyda
Thrafnidiaeth Cymru. Diweddarwyd
bod dros 1120 o bobl wedi ymateb i’r
ymgynghoriad hyd yma, gyda’r disgwyliad
bydd y niferoedd hyn yn parhau
i gynyddu’n raddol hyd at ddiwedd
y cyfnod ymgynghori. Ymhelaethwyd bod ARUP wedi canfod themâu yn
codi mewn nifer o’r ymatebion,
ac yn eu casglu gyda'i gilydd
er mwyn ymateb yn effeithiol i
unrhyw bryder neu syniad a gyflwynwyd gan y cyhoedd. Tynnwyd
sylw bod timau cyfathrebu’r awdurdodau lleol wedi cefnogi’r
gwaith o hyrwyddo’r ymgynghoriad cyhoeddus hwn. Ymhellach, mae’r Cyd-bwyllgor Corfforedig ac ARUP wedi cymryd pob cam er mwyn sicrhau bod cymaint o bobl â phosib gyda Mynediad i’r ymgynghoriad megis rhif ffôn
dwyieithog, Ystafell ymgynghori
ddigidol a hefyd drwy ddatblygu fersiwn hawdd ei
ddarllen o’r ymgynghoriad er mwyn cefnogi unrhyw un a all gael heriau
i ddeall a chymryd rhan yn
yr ymgynghoriad hebddo. Eglurwyd bod ARUP yn asesu’r holl ymatebion i’r ymgynghoriad cyhoeddus gan gadarnhau y byddent yn cyflwyno adroddiad ynghylch yr atebion pan yn amserol. Manylwyd bod cwestiynau meintiol wedi cael eu cynnwys yn yr ymgynghoriad a fydd yn cael ei asesu er mwyn canfod niferoedd a ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
Alwen
Williams (Prif Weithredwr Dros Dro y CBC) ac Andy Roberts (Swyddog Cynllunio
Datblygu Strategol Rhanbarthol) i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: ·
Derbyn yr Adroddiad gan nodi’r cynnydd ar y Cynllun Datblygu Strategol
a’r berthynas gyda’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol hyd yma. ·
Rhaglennu Adroddiad pellach i’r Is-bwyllgor hwn er rannu gwybodaeth
gydag aelodau o gynlluniau, megis bws trydan, a geir o fewn prosiect
Anturiaethau Cyfrifol Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Brif Weithredwr Dros Dro CBC y Gogledd a Swyddog Cynllunio
Datblygu Strategol Rhanbarthol. PENDERFYNWYD · Derbyn yr Adroddiad gan nodi’r
cynnydd ar y Cynllun Datblygu Strategol a’r berthynas gyda’r Cynllun
Trafnidiaeth Rhanbarthol hyd yma. · Rhaglennu Adroddiad pellach i’r
Is-bwyllgor hwn er rannu gwybodaeth gydag aelodau o gynlluniau, megis bws
trydan, a geir o fewn prosiect Anturiaethau Cyfrifol Cyd-bwyllgor Corfforedig y
Gogledd. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Sicrhau bod yr Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol yn
gwbl ymwybodol o’r cynnydd gyda’r Cynllun Datblygu Strategol o gyfnod cynnar, i
hyrwyddo ymgysylltiad rheolaidd ac ymagwedd integredig at gynllunio strategol. TRAFODAETH Croesawyd y Swyddog Cynllunio Datblygu
Strategol Rhanbarthol i’w gyfarfod cyntaf. Darparwyd
diweddariad o’r broses o ddatblygu Cynllun Datblygu Strategol a’r camau
gweithredu sydd angen eu cyflawni.
Ymhelaethwyd ar ystyriaethau
amserlenni a gofynion cyfreithiol wrth fynd ati i
ddatblygu’r Cynllun. Nodwyd
bod datblygu’r cynllun yn sicrhau bod Cyd-bwyllgor Corfforedig y
Gogledd yn ymateb i ofynion statudol
o fewn Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 am faterion
lles economaidd rhanbarthol, cynllunio gofodol a chynllunio trafnidiaeth. Ymhelaethwyd bod Llawlyfr
Cynllun Datblygu Strategol wedi cael ei
gyflwyno i Awdurdodau Cynllunio Lleol gan Lywodraeth Cymru yn 2022 gan ddarparu
arweiniad ar sut i ddatblygu Cynllun.
Cadarnhawyd y disgwylir y byddai’n cymryd 5 mlynedd i gynhyrchu
Cynllun Datblygu Strategol
lawn. Pwysleisiwyd bod gwaith
yn mynd rhagddo
er mwyn ystyried os all Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd wneud addasiadau i weithdrefnau
er mwyn cyflymu’r broses ble’n briodol. Eglurwyd
bod y Cynllun Datblygu Strategol
yn un hirdymor a all fod yn
weithredol am hyd at 25 mlynedd. Cadarnhawyd bod hyn yn caniatáu’r
gallu i edrych
ymlaen at ddatblygiadau’r dyfodol a sicrhau bod y materion hanfodol yn cael eu
datblygu ar gyfer y rhanbarth cyfan. Tynnwyd sylw bod y Cynllun yn rhedeg
ar y cyd gyda phrosiectau eraill Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd
er mwyn sicrhau llesiant economaidd a bod isadeiledd addas ar gyfer cyrraedd targedau a gwireddu datblygiadau newydd. Cadarnhawyd mai’r cam cyntaf wrth ddatblygu’r Cynllun bydd i
baratoi Cytundeb Cyflawni. Ymhelaethwyd bydd y Cytundeb yn manylu ar sut
bydd y Cynllun yn cael ei
ddatblygu yn ogystal â chadarnhau sut gall rhan-ddeiliaid a’r gymuned fod
yn rhan o’r
broses datblygu. Manylwyd
ar amserlen gychwynnol y
broses ddatblygu gan nodi
bod 8 prif gam ar gyfer datblygu’r Cynllun. Adroddwyd ar amserlen ddangosol y Cytundeb Cyflawni, gan nodi y gobeithir bydd Cyd-bwyllgor Corfforedig y
Gogledd yn ei fabwysiadu’n ffurfiol ym mis Gorffennaf 2025 cyn gofyn i
Lywodraeth Cymru ei fabwysiadu. Pwysleisiwyd bydd y Cynllun Datblygu Strategol wedi cael ei ffurfioli
yn dilyn y camau hyn a bydd
mor ei ddatblygu ymhellach, gan dderbyn adborth Llywodraeth Cymru ar amserlen fanwl y Cynllun Datblygu Strategol maes o law. Tynnwyd sylw y gobeithir bydd amserlen datblygu’r Cynllun hwn yn
cyd-fynd gyda Chynlluniau Datblygu Lleol yr Awdurdodau Lleol. Adroddwyd bod y berthynas glos rhwng y Cynllun Datblygu Strategol a’r Cynllun Trafnidiaeth Strategol yn sicrhau bod dull integredig cydweithredol yn cael ei ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |