Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting

Cyswllt: Jasmine Jones  01286 679667

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2025/26.

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd Nicola Roberts yn Gadeirydd yr Is-bwyllgor ar gyfer 2025/26.

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Nicola Roberts yn Gadeirydd yr Is-bwyllgor ar gyfer 2025/26.

2.

IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2025/26.

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd Hugh Jones yn Is-gadeirydd yr Is-bwyllgor ar gyfer 2025/26.

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Hugh Jones yn Is-gadeirydd yr Is-bwyllgor ar gyfer 2025/26.

3.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Dewi Morgan (Prif Swyddog Cyllid).

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Nid oedd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

5.

MATERION BRYS

Cofnod:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

6.

CYLCH GORCHWYL YR IS-BWYLLGOR CYNLLUNIO STRATEGOL pdf eicon PDF 190 KB

Adolygu'r Cylch Gorchwyl ar gyfer yr Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol (Atodiad 1).

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadwyd y Cylch Gorchwyl.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Dirprwy Swyddog Monitro.

 

PENDERFYNWYD

 

Mabwysiadu'r Cylch Gorchwyl.

 

Y RHESYMAU AM Y PENDERFYNIAD

 

Rhaid i'r Is-bwyllgor weithredu'r rheolau a'r gweithdrefnau hynny fel y cawsant eu mabwysiadu gan y CBC ac a nodir yn y Cylch Gorchwyl – dyma'r pwerau sydd wedi eu dirprwyo i'r Is-bwyllgor. Rhaid i unrhyw ddiwygiad i'r telerau hyn gael ei gymeradwyo gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig.

 

TRAFODAETH

Cymeradwyodd y Cyd-bwyllgor Corfforedig (CBC) sefydlu'r Is-bwyllgor Cynllunio Strategol, er mwyn cyflawni'r swyddogaeth o ddatblygu a chynhyrchu Cytundeb Cyflawni a Chynllun Datblygu Strategol (SDP) ar gyfer y CBC. Cadarnhawyd y byddai'r pŵer i fabwysiadu neu adolygu'r cynllun yn cael ei gadw i'r CBC.

Fe ddirprwywyd i'r Is-bwyllgor gyflawni'r swyddogaethau fel yr amlinellir yn y Cylch Gorchwyl. Nodwyd bod y swyddogaethau hyn yn adlewyrchu'r cyfrifoldebau a nodir yn Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Strategol) (Cymru) 2021. Tynnwyd sylw at y ffaith fod natur strategol rôl yr Is-bwyllgor yn ei gwneud yn bosib i ddatblygu cynllun ar sail ranbarthol, mewn cydweithrediad ag Awdurdodau Lleol a phartneriaid eraill, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol cyfansoddol, y Parc Cenedlaethol, a rhanddeiliaid allweddol eraill.

Eglurwyd mai un rhan allweddol o gyflawni'r cynllun oedd rôl yr Is-bwyllgor o ran darparu cyngor strategol i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig i gydlynu cynllunio, datblygu a chyflawni'r cynllun, yn unol â'r swyddogaethau a nodir yn y Cylch Gorchwyl. Nodwyd ymhellach fod yr Is-bwyllgor hefyd yn gyfrifol am fonitro ac adolygu cynnydd a gwneud argymhellion i'r CBC.

Cadarnhawyd y byddai'r Is-bwyllgor yn cael ei gefnogi gan Grŵp Swyddogion Cynllunio (POG) sy'n cael ei arwain gan swyddogion. Amlinellwyd y byddai'r Grŵp Cynghori hwn yn cael ei arwain gan swyddog o'r Cyngor a gynrychiolir drwy'r Cadeirydd etholedig. Nodwyd y byddai'r swyddog arweiniol hwn yn cadw cysylltiad â'r Cadeirydd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglennu gwaith a chyflawni'r prosiect, gyda chefnogaeth swyddogion o'r CBC.

Holwyd, mewn perthynas â chadw golwg ar y gwaith o gynhyrchu'r SDP, a fyddai ymgynghori'n digwydd ar draws y gogledd i gyd neu ddim ond yn yr ardaloedd hynny lle roedd cynlluniau yn cael eu cynnig neu eu rhagweld. Mewn ymateb, nodwyd, gan y byddai'r cynllun yn cael ei gynhyrchu ar sail ranbarthol, y byddai'r ymgynghoriad hefyd yn cael ei gynnal ar sail ranbarthol. Eglurwyd y byddai hyn yn sicrhau proses deg ac agored, gan roi cyfle i bob unigolyn a chymuned ymgysylltu.

Holwyd a fyddai'r broses ymgynghori yn cynnwys cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu yn cael ei chynnal ar-lein yn unig. Mewn ymateb, nodwyd y byddai'r holl ddulliau cyfathrebu sydd ar gael ac sy'n ymarferol yn cael eu hystyried yn ystod y broses ymgynghori, gyda'r nod o gyrraedd cymaint o unigolion a rhanddeiliaid perthnasol â phosibl. Fodd bynnag, eglurwyd y byddai technoleg ddigidol a dulliau ar-lein yn debygol o chwarae rhan allweddol wrth hwyluso'r gwaith ymgynghori fesul rhanbarth, yn dibynnu ar yr adnoddau sydd ar gael i bob awdurdod lleol. Pwysleisiwyd y byddai'r holl ddulliau cyfathrebu ar gael, gan ddefnyddio'r dull fyddai'n gweddu orau i faint y gynulleidfa.       

 

7.

BLAEN GYNLLUN GWAITH YR IS-BWYLLGOR CYNLLUNIO STRATEGOL pdf eicon PDF 174 KB

Ystyried y Blaen Gynllun Gwaith ar gyfer yr is-bwyllgor cynllunio strategol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

I gytuno ar y Blaen Gynllun Gwaith.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Dirprwy Swyddog Monitro.

 

PENDERFYNWYD

 

Cytuno ar y Blaen Gynllun Gwaith.

 

Y RHESYMAU AM Y PENDERFYNIAD

 

Mae'r Blaen Gynllun Gwaith yn nodi calendr o gyfarfodydd ar gyfer y cyfnod hyd at fis Rhagfyr 2025 ac mae'n cyd-fynd â dyddiadau cyfarfodydd y CBC a'r amserlen bresennol a fabwysiadwyd i gynhyrchu Cytundeb Cyflawni a'r camau cynllunio cychwynnol.

 

TRAFODAETH

Nodwyd y byddai'r aelodau'n cael eu holi maes o law ar gyfer dyddiadau cyfarfodydd Is-bwyllgor posibl yn y dyfodol. Eglurwyd, wrth i'r rhaglen ddatblygu, y byddai'r flaen raglen waith yn cael ei harwain gan y Cadeirydd a'r aelodau, yn unol â chyfrifoldebau'r Is-bwyllgor.

Gofynnwyd ai aelodau'r Is-bwyllgor fyddai'n penderfynu ar yr eitemau o fewn y flaen raglen waith. Mynegwyd pryder ynglŷn â'r pwnc tai, yn enwedig o ran y berthynas rhwng twf y farchnad dai yn y dyfodol a'r defnydd o Erthygl 4 yng Nghyngor Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri. Mynegwyd bod awydd i drafod y pwnc hwn cyn gynted â phosibl oherwydd natur brys y mater.

Mewn ymateb, nodwyd bod y cynllun yn parhau i fod yn y cam rhagarweiniol. Cytunwyd bod penderfyniadau ynglŷn â ble a faint o dwf a ddylai ddigwydd yn ganolog i ddatblygiad y Cynllun Datblygu Strategol. Pwysleisiwyd bod yn rhaid i dwf o'r fath fod yn strategol ei natur, gan dargedu ardaloedd penodol ar gyfer datblygiadau priodol.

Mynegwyd bod pryder ynghylch canlyniadau posibl mabwysiadu Erthygl 4 gan Barc Cenedlaethol Eryri, ac yn benodol y gallai gynyddu'r pwysau ar Gyngor Conwy a Chyngor Sir Ynys Môn i ganiatáu datblygu tai haf newydd. Nodwyd y gallai hyn gael effaith niweidiol ar yr economi leol ac ysgolion, ac y gallai gyfrannu at ddadleoli'r boblogaeth leol.

Holwyd pa bryd y byddai'r aelodau yn gweld y Cytundeb Cyflawni drafft ar gyfer yr SDP. Holwyd ymhellach a oedd awdurdodau lleol wedi'u dynodi fel ymgynghorwyr allweddol. Mewn ymateb, nodwyd bod y Cytundeb Cyflawni ar hyn o bryd yn ei gam drafft cyntaf a bod cynnydd sylweddol wedi'i wneud i gyrraedd y pwynt hwn. Nodwyd bod ymgynghori anffurfiol wedi dechrau yn ystod yr wythnos ddiwethaf, yn dilyn y gofyniad i Lywodraeth Cymru adolygu'r cynllun i ddechrau. Nodwyd ymhellach y byddai'r ddogfen yn cael ei chylchredeg i bob un o'r awdurdodau cynllunio lleol yn fuan, a hefyd yn uniongyrchol i aelodau'r Is-bwyllgor ac i'r swyddogion polisi ym mhob Cyngor. Cadarnhawyd bod Awdurdodau Lleol yn ymgynghorwyr allweddol, ac y byddai cydweithio yn hanfodol os am gynhyrchu'r SDP yn llwyddiannus.

Mynegwyd y byddai dogfen sy'n amlinellu'r berthynas rhwng Cynlluniau Datblygu Strategol a Chynlluniau Datblygu Lleol (CDLl) o werth i'r aelodau, yn enwedig i helpu i egluro eu synergedd ac unrhyw oblygiadau cyfreithiol sy'n codi rhwng y ddau. Mewn ymateb, nodwyd bod hwn yn argymhelliad defnyddiol ac y byddai'n cael ei flaenoriaethu yn y dyfodol, gyda dogfennaeth electronig i'w cylchredeg gyda'r nod o ffurfio eitem agenda i'w thrafod yn y dyfodol.

Cwestiynwyd a oedd yr amserlen pum mlynedd ar gyfer cynhyrchu'r SDP yn realistig. Mewn ymateb, nodwyd mai syniad o amserlen oedd hynny a  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Y DULL AR GYFER CYNHYRCHU'R CYNLLUN DATBLYGU STRATEGOL (SDP) I OGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 200 KB

Rhoi cyflwyniad i'r Is-bwyllgor Cynllunio Strategol ar y cynnydd o baratoi Cytundeb Cyflawni (DA) ar gyfer Cynllun Datblygu Strategol (SDP) Gogledd Cymru, yn ogystal â thynnu sylw at y rhaglen eang ar gyfer datblygu'r SDP, a rhai o'r materion allweddol y mae angen iddo eu hystyried.

Penderfyniad:

I derbyn yr adroddiad.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Brif Weithredwr Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd a'r Swyddog Cynllunio Datblygu Strategol Rhanbarthol.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn yr adroddiad.

 

Y RHESYMAU AM Y PENDERFYNIAD

 

Sicrhau bod yr Is-bwyllgor Cynllunio Strategol yn gwbl ymwybodol o'r dull i'w gymryd gyda'r SDP a'r prif gamau sy'n gysylltiedig â'r broses o ddrafftio cynlluniau.

 

TRAFODAETH

 

Eglurwyd mai pwrpas yr adroddiad oedd rhoi trosolwg cychwynnol i'r Is-bwyllgor o'r broses, gan amlinellu'r sefyllfa bresennol a'r rhesymau pam fod cynnydd eisoes wedi'i wneud cyn y cyfarfod cyntaf hwn. Y gobaith oedd y byddai'r aelodau'n gweld y gwerth o wneud hynny, yn enwedig gan fod y CBC hwn yn un o ddim ond pedwar ledled Cymru, gyda dim ond rhanbarth Caerdydd wedi symud ymlaen yn ddigon pell i ddatblygu ac ymgynghori ar Gytundeb Cyflawni drafft. Nodwyd, felly, fod y rhanbarth hwn tua 9 i 10 mis y tu ôl i Gaerdydd, ond cydnabuwyd serch hynny bod y cynnydd mewn ardaloedd CBC eraill wedi bod hyd yn oed yn fwy heriol.

 

Nodwyd bod yr adroddiad yn cynnwys y cefndir deddfwriaethol yn ogystal â'r cyd-destun ehangach ar gyfer cynhyrchu SDP, sy'n dyddio'n ôl i Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 ond na chafodd ei ddeddfu trwy reoleiddiad tan 2021 o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru). Pwysleisiwyd mai'r prif sbardun ar gyfer dechrau gwaith ar Gytundeb Cyflawni drafft oedd y gofyniad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru i bob CBC gyflwyno cytundeb o'r fath erbyn diwedd 2024.

 

Nodwyd bod amserlen saith pwynt yn bodoli ar gyfer cynhyrchu, cytuno a chyflwyno'r Cytundeb Cyflawni, a bod y cam roeddem ni arno yn disgyn rhwng pwyntiau dau a phedwar. Cadarnhawyd bod hyn yn parhau i fod yn unol â'r amserlen ddangosol, fwy neu lai. Eglurwyd bod y Cytundeb Cyflawni drafft eisoes wedi'i gynhyrchu a'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru, ac y byddai'n cael ei gylchredeg i randdeiliaid allweddol yn ystod yr wythnosau nesaf. Yn dilyn hynny, byddai ymgynghoriad ehangach yn ystod mis Mai a Mehefin, gyda'r bwriad o geisio cymeradwyaeth i gyflwyno'r cytundeb, yn amodol ar ystyriaethau cyllid ac adnoddau, erbyn mis Gorffennaf. Nodwyd ymhellach fod yr amserlen arfaethedig yn nodi y byddem yn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Awst.

 

Nodwyd bod dau gyfarfod allweddol wedi'u nodi yn y flaen raglen waith: y cyntaf ddiwedd mis Mehefin neu ddechrau mis Gorffennaf, i gyd-fynd â'r adborth a geir o'r ymgynghoriad ar y Cytundeb Cyflawni; a'r ail ym mis Hydref neu Dachwedd, pan fyddai diweddariad pellach yn cael ei ddarparu ynglŷn â chymeradwyaeth Llywodraeth Cymru a chychwyn y broses o gynhyrchu'r SDP.

 

Tynnwyd sylw at y ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys trosolwg eang o'r rhaglen wyth cam ar gyfer datblygu'r cynllun, a gafodd ei siapio gan y rheoliadau perthnasol sy'n llywodraethu cynhyrchu SDPs. Nodwyd hefyd fod yr adroddiad yn adnabod nifer o agweddau cadarnhaol a chyfleoedd sydd ar gael i'r Is-bwyllgor trwy gynhyrchu'r SDP ar y cyd fel rhanbarth, dros amserlen hirach ac ar lefel strategol uwch.

 

Gofynnwyd, mewn perthynas â'r archwiliad ffurfiol o gadernid yr SDP, a fyddai'r broses hon yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.