Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting
Cyswllt: Jasmine Jones 01286 679667
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd ar gyfer 2025/26. Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd Nicola Roberts yn Gadeirydd yr Is-bwyllgor ar gyfer 2025/26. Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Nicola Roberts yn Gadeirydd yr Is-bwyllgor ar gyfer 2025/26. |
|
IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2025/26. Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd Hugh Jones yn Is-gadeirydd yr Is-bwyllgor ar gyfer 2025/26. Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Hugh Jones yn Is-gadeirydd yr Is-bwyllgor ar gyfer 2025/26. |
|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Cafwyd
ymddiheuriadau gan Dewi Morgan (Prif Swyddog Cyllid). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Nid
oedd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Cofnod: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. |
|
CYLCH GORCHWYL YR IS-BWYLLGOR CYNLLUNIO STRATEGOL Adolygu'r Cylch Gorchwyl ar gyfer yr Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol (Atodiad 1). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Mabwysiadwyd y Cylch Gorchwyl. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan y Dirprwy Swyddog Monitro. PENDERFYNWYD Mabwysiadu'r Cylch
Gorchwyl. Y RHESYMAU AM Y PENDERFYNIAD Rhaid i'r Is-bwyllgor weithredu'r rheolau
a'r gweithdrefnau hynny fel y cawsant eu mabwysiadu gan y CBC ac a nodir yn y
Cylch Gorchwyl – dyma'r pwerau sydd wedi eu dirprwyo i'r Is-bwyllgor. Rhaid i
unrhyw ddiwygiad i'r telerau hyn gael ei gymeradwyo gan y Cyd-bwyllgor
Corfforedig. TRAFODAETH Cymeradwyodd y Cyd-bwyllgor Corfforedig
(CBC) sefydlu'r Is-bwyllgor Cynllunio Strategol, er mwyn cyflawni'r swyddogaeth
o ddatblygu a chynhyrchu Cytundeb Cyflawni a Chynllun Datblygu Strategol (SDP)
ar gyfer y CBC. Cadarnhawyd y byddai'r pŵer i fabwysiadu neu adolygu'r
cynllun yn cael ei gadw i'r CBC. Fe ddirprwywyd i'r Is-bwyllgor gyflawni'r
swyddogaethau fel yr amlinellir yn y Cylch Gorchwyl. Nodwyd bod y swyddogaethau
hyn yn adlewyrchu'r cyfrifoldebau a nodir yn Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref
(Cynllun Datblygu Strategol) (Cymru) 2021. Tynnwyd sylw at y ffaith fod natur
strategol rôl yr Is-bwyllgor yn ei gwneud yn bosib i ddatblygu cynllun ar sail
ranbarthol, mewn cydweithrediad ag Awdurdodau Lleol a phartneriaid eraill, gan
gynnwys Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol cyfansoddol, y Parc Cenedlaethol, a
rhanddeiliaid allweddol eraill. Eglurwyd mai un rhan allweddol o gyflawni'r
cynllun oedd rôl yr Is-bwyllgor o ran darparu cyngor strategol i'r Cyd-bwyllgor
Corfforedig i gydlynu cynllunio, datblygu a chyflawni'r cynllun, yn unol â'r
swyddogaethau a nodir yn y Cylch Gorchwyl. Nodwyd ymhellach fod yr Is-bwyllgor
hefyd yn gyfrifol am fonitro ac adolygu cynnydd a gwneud argymhellion i'r CBC. Cadarnhawyd y byddai'r Is-bwyllgor yn cael
ei gefnogi gan Grŵp Swyddogion Cynllunio (POG) sy'n cael ei arwain gan
swyddogion. Amlinellwyd y byddai'r Grŵp Cynghori hwn yn cael ei arwain gan
swyddog o'r Cyngor a gynrychiolir drwy'r Cadeirydd etholedig. Nodwyd y byddai'r
swyddog arweiniol hwn yn cadw cysylltiad â'r Cadeirydd i roi'r wybodaeth
ddiweddaraf am raglennu gwaith a chyflawni'r prosiect, gyda chefnogaeth
swyddogion o'r CBC. Holwyd, mewn perthynas â chadw golwg ar y
gwaith o gynhyrchu'r SDP, a fyddai ymgynghori'n digwydd ar draws y gogledd i
gyd neu ddim ond yn yr ardaloedd hynny lle roedd cynlluniau yn cael eu cynnig
neu eu rhagweld. Mewn ymateb, nodwyd, gan y byddai'r cynllun yn cael ei
gynhyrchu ar sail ranbarthol, y byddai'r ymgynghoriad hefyd yn cael ei gynnal
ar sail ranbarthol. Eglurwyd y byddai hyn yn sicrhau proses deg ac agored, gan
roi cyfle i bob unigolyn a chymuned ymgysylltu. Holwyd a fyddai'r broses ymgynghori yn
cynnwys cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu yn cael ei chynnal ar-lein yn unig. Mewn
ymateb, nodwyd y byddai'r holl ddulliau cyfathrebu sydd ar gael ac sy'n
ymarferol yn cael eu hystyried yn ystod y broses ymgynghori, gyda'r nod o
gyrraedd cymaint o unigolion a rhanddeiliaid perthnasol â phosibl. Fodd bynnag,
eglurwyd y byddai technoleg ddigidol a dulliau ar-lein yn debygol o chwarae
rhan allweddol wrth hwyluso'r gwaith ymgynghori fesul rhanbarth, yn dibynnu ar
yr adnoddau sydd ar gael i bob awdurdod lleol. Pwysleisiwyd y byddai'r holl
ddulliau cyfathrebu ar gael, gan ddefnyddio'r dull fyddai'n gweddu orau i faint
y gynulleidfa. |
|
BLAEN GYNLLUN GWAITH YR IS-BWYLLGOR CYNLLUNIO STRATEGOL Ystyried y Blaen Gynllun
Gwaith ar gyfer yr is-bwyllgor cynllunio strategol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: I gytuno ar y Blaen Gynllun Gwaith. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan y Dirprwy Swyddog Monitro. PENDERFYNWYD Cytuno ar y Blaen Gynllun Gwaith. Y RHESYMAU AM Y PENDERFYNIAD Mae'r Blaen Gynllun Gwaith yn nodi calendr o
gyfarfodydd ar gyfer y cyfnod hyd at fis Rhagfyr 2025 ac mae'n cyd-fynd â
dyddiadau cyfarfodydd y CBC a'r amserlen bresennol a fabwysiadwyd i gynhyrchu
Cytundeb Cyflawni a'r camau cynllunio cychwynnol. TRAFODAETH Nodwyd y byddai'r aelodau'n cael eu holi
maes o law ar gyfer dyddiadau cyfarfodydd Is-bwyllgor posibl yn y dyfodol.
Eglurwyd, wrth i'r rhaglen ddatblygu, y byddai'r flaen raglen waith yn cael ei
harwain gan y Cadeirydd a'r aelodau, yn unol â chyfrifoldebau'r Is-bwyllgor. Gofynnwyd ai aelodau'r Is-bwyllgor fyddai'n
penderfynu ar yr eitemau o fewn y flaen raglen waith. Mynegwyd pryder
ynglŷn â'r pwnc tai, yn enwedig o ran y berthynas rhwng twf y farchnad dai
yn y dyfodol a'r defnydd o Erthygl 4 yng Nghyngor Gwynedd a Pharc Cenedlaethol
Eryri. Mynegwyd bod awydd i drafod y pwnc hwn cyn gynted â phosibl oherwydd
natur brys y mater. Mewn ymateb, nodwyd bod y cynllun yn parhau
i fod yn y cam rhagarweiniol. Cytunwyd bod penderfyniadau ynglŷn â ble a
faint o dwf a ddylai ddigwydd yn ganolog i ddatblygiad y Cynllun Datblygu
Strategol. Pwysleisiwyd bod yn rhaid i dwf o'r fath fod yn strategol ei natur,
gan dargedu ardaloedd penodol ar gyfer datblygiadau priodol. Mynegwyd bod pryder ynghylch canlyniadau
posibl mabwysiadu Erthygl 4 gan Barc Cenedlaethol Eryri, ac yn benodol y gallai
gynyddu'r pwysau ar Gyngor Conwy a Chyngor Sir Ynys Môn i ganiatáu datblygu tai
haf newydd. Nodwyd y gallai hyn gael effaith niweidiol ar yr economi leol ac
ysgolion, ac y gallai gyfrannu at ddadleoli'r boblogaeth leol. Holwyd pa bryd y byddai'r aelodau yn gweld y
Cytundeb Cyflawni drafft ar gyfer yr SDP. Holwyd ymhellach a oedd awdurdodau
lleol wedi'u dynodi fel ymgynghorwyr allweddol. Mewn ymateb, nodwyd bod y
Cytundeb Cyflawni ar hyn o bryd yn ei gam drafft cyntaf a bod cynnydd sylweddol
wedi'i wneud i gyrraedd y pwynt hwn. Nodwyd bod ymgynghori anffurfiol wedi
dechrau yn ystod yr wythnos ddiwethaf, yn dilyn y gofyniad i Lywodraeth Cymru
adolygu'r cynllun i ddechrau. Nodwyd ymhellach y byddai'r ddogfen yn cael ei chylchredeg
i bob un o'r awdurdodau cynllunio lleol yn fuan, a hefyd yn uniongyrchol i
aelodau'r Is-bwyllgor ac i'r swyddogion polisi ym mhob Cyngor. Cadarnhawyd bod
Awdurdodau Lleol yn ymgynghorwyr allweddol, ac y byddai cydweithio yn hanfodol
os am gynhyrchu'r SDP yn llwyddiannus. Mynegwyd y byddai dogfen sy'n amlinellu'r
berthynas rhwng Cynlluniau Datblygu Strategol a Chynlluniau Datblygu Lleol
(CDLl) o werth i'r aelodau, yn enwedig i helpu i egluro eu synergedd ac unrhyw
oblygiadau cyfreithiol sy'n codi rhwng y ddau. Mewn ymateb, nodwyd bod hwn yn
argymhelliad defnyddiol ac y byddai'n cael ei flaenoriaethu yn y dyfodol, gyda
dogfennaeth electronig i'w cylchredeg gyda'r nod o ffurfio eitem agenda i'w
thrafod yn y dyfodol. Cwestiynwyd a oedd yr amserlen pum mlynedd ar gyfer cynhyrchu'r SDP yn realistig. Mewn ymateb, nodwyd mai syniad o amserlen oedd hynny a ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Y DULL AR GYFER CYNHYRCHU'R CYNLLUN DATBLYGU STRATEGOL (SDP) I OGLEDD CYMRU Rhoi cyflwyniad i'r Is-bwyllgor Cynllunio Strategol ar y cynnydd o baratoi Cytundeb Cyflawni (DA) ar gyfer Cynllun Datblygu Strategol (SDP) Gogledd Cymru, yn ogystal â thynnu sylw at y rhaglen eang ar gyfer datblygu'r SDP, a rhai o'r materion allweddol y mae angen iddo eu hystyried. Penderfyniad: I derbyn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Brif Weithredwr Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd a'r Swyddog Cynllunio Datblygu Strategol Rhanbarthol. PENDERFYNWYD Derbyn yr
adroddiad. Y RHESYMAU AM Y
PENDERFYNIAD Sicrhau bod yr Is-bwyllgor Cynllunio
Strategol yn gwbl ymwybodol o'r dull i'w gymryd gyda'r SDP a'r prif gamau sy'n
gysylltiedig â'r broses o ddrafftio cynlluniau. TRAFODAETH Eglurwyd mai pwrpas yr adroddiad oedd rhoi
trosolwg cychwynnol i'r Is-bwyllgor o'r broses, gan amlinellu'r sefyllfa
bresennol a'r rhesymau pam fod cynnydd eisoes wedi'i wneud cyn y cyfarfod
cyntaf hwn. Y gobaith oedd y byddai'r aelodau'n gweld y gwerth o wneud hynny,
yn enwedig gan fod y CBC hwn yn un o ddim ond pedwar ledled Cymru, gyda dim ond
rhanbarth Caerdydd wedi symud ymlaen yn ddigon pell i ddatblygu ac ymgynghori
ar Gytundeb Cyflawni drafft. Nodwyd, felly, fod y rhanbarth hwn tua 9 i 10 mis
y tu ôl i Gaerdydd, ond cydnabuwyd serch hynny bod y cynnydd mewn ardaloedd CBC
eraill wedi bod hyd yn oed yn fwy heriol. Nodwyd bod yr adroddiad yn cynnwys y cefndir
deddfwriaethol yn ogystal â'r cyd-destun ehangach ar gyfer cynhyrchu SDP, sy'n
dyddio'n ôl i Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 ond na chafodd ei ddeddfu
trwy reoleiddiad tan 2021 o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru).
Pwysleisiwyd mai'r prif sbardun ar gyfer dechrau gwaith ar Gytundeb Cyflawni
drafft oedd y gofyniad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru i bob CBC gyflwyno
cytundeb o'r fath erbyn diwedd 2024. Nodwyd bod amserlen saith pwynt yn bodoli ar
gyfer cynhyrchu, cytuno a chyflwyno'r Cytundeb Cyflawni, a bod y cam roeddem ni
arno yn disgyn rhwng pwyntiau dau a phedwar. Cadarnhawyd bod hyn yn parhau i
fod yn unol â'r amserlen ddangosol, fwy neu lai. Eglurwyd bod y Cytundeb
Cyflawni drafft eisoes wedi'i gynhyrchu a'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru, ac y
byddai'n cael ei gylchredeg i randdeiliaid allweddol yn ystod yr wythnosau
nesaf. Yn dilyn hynny, byddai ymgynghoriad ehangach yn ystod mis Mai a Mehefin,
gyda'r bwriad o geisio cymeradwyaeth i gyflwyno'r cytundeb, yn amodol ar
ystyriaethau cyllid ac adnoddau, erbyn mis Gorffennaf. Nodwyd ymhellach fod yr
amserlen arfaethedig yn nodi y byddem yn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis
Awst. Nodwyd bod dau gyfarfod allweddol wedi'u
nodi yn y flaen raglen waith: y cyntaf ddiwedd mis Mehefin neu ddechrau mis
Gorffennaf, i gyd-fynd â'r adborth a geir o'r ymgynghoriad ar y Cytundeb
Cyflawni; a'r ail ym mis Hydref neu Dachwedd, pan fyddai diweddariad pellach yn
cael ei ddarparu ynglŷn â chymeradwyaeth Llywodraeth Cymru a chychwyn y
broses o gynhyrchu'r SDP. Tynnwyd sylw at y ffaith fod yr adroddiad yn
cynnwys trosolwg eang o'r rhaglen wyth cam ar gyfer datblygu'r cynllun, a
gafodd ei siapio gan y rheoliadau perthnasol sy'n llywodraethu cynhyrchu SDPs.
Nodwyd hefyd fod yr adroddiad yn adnabod nifer o agweddau cadarnhaol a
chyfleoedd sydd ar gael i'r Is-bwyllgor trwy gynhyrchu'r SDP ar y cyd fel
rhanbarth, dros amserlen hirach ac ar lefel strategol uwch. Gofynnwyd, mewn perthynas â'r archwiliad ffurfiol o gadernid yr SDP, a fyddai'r broses hon yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |