Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom
Cyswllt: Sioned Mai Jones 01286 679665
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Dewi Morgan
(Pennaeth Adran Cyllid), Karen Evans (Cyngor
Bwrdeistref Sirol Wrecsam) a Graham Boase (Cyngor Sir Ddinbych). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod
oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS I nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL PDF 128 KB Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr, 2023 fel rhai cywir. Cofnod: Cadarnhawyd fod cofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn, a
gynhaliwyd ar y 6ed o Ragfyr, 2023, yn gywir. |
|
CYLLIDEB GWE 2023/2024 - ADOLYGIAD 3YDD CHWARTER PDF 149 KB I ddiweddaru aelodau’r Cydbwyllgor ar yr
adolygiad ariannol diweddaraf o gyllideb GwE am y flwyddyn gyllidol 2023/24. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn a chymeradwyo’r adroddiad
ar adolygiad o gyllideb GwE hyd at ddiwedd Rhagfyr 2023. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad oedd yn rhoi diweddariad
ariannol i aelodau’r Cydbwyllgor am gyllideb GwE hyd at ddiwedd Rhagfyr 2023
a’r rhagolygon tuag at ddiwedd y flwyddyn ariannol. Nodwyd ar sail gwariant ac
incwm, rhagwelir y bydd gorwariant net o £59,500 erbyn diwedd y flwyddyn
ariannol 2023/24. Cadarnhawyd bod y wybodaeth yma yn parhau i fod yn gyfredol.
Nodwyd bod hyn yn cymharu â £37,000 oedd wedi ei ragolygu yn adolygiad diwedd
Medi sydd yn golygu bod y gorwariant wedi cynyddu. Nodwyd bod gorwariant o £46,000 o dan y pennawd
Gweithwyr; roedd hyn yn dilyn i GwE dderbyn targed arbedion o £102,000 o dan y
pennawd hwn yn 2023/24. Ychwanegwyd bod y gorwariant yn cael ei leihau o
ganlyniad i ddwy swydd barhaol sydd heb eu llenwi yn ogystal â throsiant staff.
Tynnwyd sylw at y tanwariant o £16,500 o dan y pennawd Cludiant, yn bennaf
oherwydd y ffyrdd newydd o weithio. Ychwanegwyd y rhagwelir gorwariant o
£23,000 dan y pennawd Cyflenwadau a Gwasanaethau gyda chostau adnewyddu offer
T.G wedi taro GwE eleni. Mynegwyd bod bwriad i ddefnyddio cronfa sydd ar
gael er mwyn cyllido’r £59,500 o’r gorwariant a ragwelir; byddai hyn yn gadael
£239,000 ar ôl yn y gronfa. Nid oedd unrhyw sylwadau. PENDERFYNWYD Derbyn a chymeradwyo’r
adroddiad ar adolygiad o gyllideb GwE hyd at ddiwedd Rhagfyr 2023. |
|
CYNLLUN BUSNES RHANBARTHOL GWE 2023/2024 - MONITRO CHWARTER 3 PDF 160 KB Cyflwyno adroddiad monitro chwarter 3 - Cynllun Busnes Rhanbarthol
2023-2024 GwE i'r Cyd-Bwyllgor. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwyo a derbyn yr adroddiad monitro ar gyfer chwarter 3.
Cofnod: Cyflwynodd Cyfarwyddwr Cynorthwyol GwE yr adroddiad
oedd yn adrodd ar gynnydd yn erbyn y Cynllun Busnes Rhanbarthol ac yn
canolbwyntio ar y cyfnod o ddiwedd Medi i Ragfyr 2023. Adroddodd bod 28 o gynlluniau manwl yn bodoli ar y ddarpariaeth sydd ar
gael i ysgolion ar draws y Rhanbarth a bod cefnogaeth gyfoethog iawn wedi ei
ddarparu i’r ysgolion hynny. Eglurodd bod Atodiad 2 yn cyfeirio at y data
rhanbarthol â’r niferoedd sydd wedi ymgysylltu gyda’r ddarpariaeth. Mynegwyd bod yr adroddiad yn gynhwysfawr a diolchwyd i’r staff am eu
gwaith i greu’r adroddiad. PENDERFYNWYD Cymeradwyo
a derbyn yr adroddiad monitro ar gyfer chwarter 3. |
|
DYFODOL GWELLA YSGOLION YNG NGOGLEDD CYMRU PDF 221 KB I ganiatáu i aelodau'r Cyd-bwyllgor wneud penderfyniadau
gwybodus am ddyfodol gwella ysgolion yng Ngogledd Cymru. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: ·
Nodi cynnwys yr adroddiad ac ystyried goblygiadau risg ar
gyfer 2024-25 a thu hwnt. ·
Bod y Bwrdd Rheoli yn cyflwyno adroddiad yng nghyfarfod
mis Mai o’r Cyd-bwyllgor ar y ffordd ymlaen fydd yn ymdrin ag amserlen a
materion llywodraethu yn ogystal â goblygiadau cyllidebol. ·
I aelodau pleidleisio’r Cyd-bwyllgor gytuno i gyflwyno
rhestr o gwestiynau i’w cyflwyno i’r Gweinidog Addysg yn y cyfarfod sydd wedi
ei drefnu ar gyfer mis Ebrill. Cofnod: Cyflwynodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE yr adroddiad gan nodi bod newid
sylweddol ar y gweill i’r hyn sydd wedi bod yn wasanaeth rhanbarthol. Mynegwyd
bod y cyfnod hwn yn y cyfnod anoddaf iddo ei brofi ers bron i 40 o flynyddoedd
yn gweithio yn y maes Addysg ac mai un o’r heriau mwyaf yw ymdopi gyda’r ansicrwydd.
Cyfeiriwyd at yr amserlen ers y 18fed o Ragfyr a’r
argymhellion a gafwyd yn dilyn adolygiad Dylan Jones. Nodwyd y bydd model
newydd o wasanaeth gwella ysgolion a bydd angen edrych ar y capasiti
o fewn y system honno; nid oes cynllun manwl am y system newydd ar hyn o bryd.
Soniwyd am yr heriau i Awdurdodau Lleol sydd wedi ei hamlygu yn rhan 3.2 o’r
adroddiad. Rhedwyd drwy’r risgiau cyffredinol a’r goblygiadau ariannol. Nodwyd y bydd yna gyfnod o newid cyn i’r model newydd fod mewn lle ac
ardrawiad newid grantiau fydd yn cael effaith ar unwaith. Eglurwyd y bydd y
gwasanaeth yn peidio â bod yn wasanaeth a rennir ar draws Gogledd Cymru. Golyga
hyn y bydd newid mawr o’r 1af o Ebrill ble bydd y gwasanaeth gwella
ysgolion yn dod yn wasanaeth comisiwn gan wahanol Awdurdodau Lleol unigol.
Amlygwyd bod angen trafodaeth ddwys am rôl y Cydbwyllgor i’r dyfodol a rôl y
Bwrdd Rheoli a bod hwn yn faes llywodraethu y bydd angen edrych arno wrth symud
ymlaen. Cyfeiriwyd at y posibilrwydd y bydd Gweinidog Addysg newydd yn dilyn
cyhoeddi’r Prif Weinidog newydd heddiw ac y gallai hynny arwain at oedi. Nodwyd
mai’r amserlen a roddwyd yw Ebrill 2025 ar gyfer cael model gwella ysgolion
newydd mewn lle. Pryderwyd y gallai’r amserlen o Ebrill 2025 fod yn heriol i
Awdurdodau Lleol. Mynegwyd cydymdeimlad at wasanaethau’r Awdurdod
lletya, gan y byddai’n golygu gwaith ychwanegol i wasanaethau Cyllid,
Cyfreithiol ac Adnoddau Dynol Cyngor Gwynedd, ynghyd â chostau ychwanegol i
bawb, megis costau cau a diswyddiadau posib. Yng nghyfarfod nesaf o’r Cydbwyllgor ym mis
mai, nodwyd y bydd angen edrych ar gyfluniad y tîm gan gysidro sut fydd y
cyllidebau erbyn mis Mawrth 2025. Bydd
angen hefyd ystyried pa swyddi gall gael eu rhyddhau ar hyn o bryd. Eglurwyd bod y gyllideb yn dynn ar bob lefel a bydd
yr arian sydd wedi ei neilltuo ar gyfer gwella ysgolion yn cael ei leihau’n
sylweddol. Pwysleisiwyd bod angen eglurder ynghylch y model dysgu proffesiynol
cenedlaethol. Cyfeiriwyd at forâl isel staff oherwydd
yr holl ansicrwydd a’r anallu i roi gwybod i staff am eu dewisiadau ar hyn o
bryd. I gloi cydnabuwyd y byddai pawb yn hoffi mwy o fanylder a mwy o
wybodaeth gan amlygu bod Cam 2 o ymholiad Dylan Jones yn cael ei gynnal ar hyn
o bryd. Nododd y Cadeirydd bod cyfarfod wedi ei drefnu gyda’r
Gweinidog Addysg ym mis Ebrill. Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Cydbwyllgor fynegi
unrhyw bryderon penodol neu gwestiynau felly y gallai’r Cadeirydd eu cyfleu yn
y cyfarfod ym mis Ebrill. Cytunwyd y byddai GwE yn coladu cwestiynau ar gyfer y
Cadeirydd. Cyflwynodd yr aelodau'r sylwadau canlynol: ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
CYLLIDEB GWE 2024/2025 (CYLLIDEB SYLFAENOL) PDF 251 KB I ystyried yr adroddiad a mabwysiadu’r gyllideb sylfaenol ar gyfer 2024/25 fel ei cyflwynir yn Atodiad 1. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Mabwysiadu’r gyllideb sylfaenol ar
gyfer y flwyddyn gyllidol 2024/25 fel y’i chyflwynir yn Atodiad 1 o’r adroddiad
sef £8,460,971. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad ar y gyllideb gan egluro ei bod yn adlewyrchu’r
newid sydd wedi bod yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i addasu’r dull o ddosbarthu
grantiau Addysg ar gyfer 2024/25. Ychwanegwyd bod y targed arbedion o 10% gan
yr Awdurdodau wedi eu cynnwys yn y gyllideb sylfaenol. Cyfeiriwyd at y newid gan Lywodraeth Cymru i drefniadau o ran grantiau
yn rhan 2.1 o’r adroddiad sy’n nodi y bydd y grant Addysg Awdurdodau Lleol yn
cael ei dalu yn uniongyrchol i’r Cynghorau neu’r ysgolion. Tynnwyd sylw at y tabl yn rhan 2.3 o’r adroddiad sy’n nodi’r penawdau
sydd ddim bellach o dan gyfrifoldeb GwE, ac yn dangos y newidiadau cyllidol yn
sgil hynny. Nodwyd bod y cyllid wedi lleihau o £6.2 miliwn yn 2023/24 i £4.5
miliwn yn 2024/25 sy’n leihad o £1.7 miliwn. Eglurwyd mai’r prif reswm yw
toriad gan Lywodraeth Cymru yn swm y grantiau.
Cyfeiriwyd at Atodiad 2 oedd yn rhoi trosolwg o’r gyllideb graidd ar
gyfer 2024/25. Eglurwyd bod y tabl yn crynhoi’r wybodaeth o ran yr arian craidd
sy’n gyfanswm o £4 miliwn. Ymhellach, cyfeiriwyd at Atodiad 1 oedd yn nodi’r
gyllideb o £8.46 miliwn sydd wedi ei osod a’n nodi’r incwm sy’n cyfateb i’r
gwariant. Mynegwyd bod cyllideb gytbwys wedi ei gosod ar gyfer GwE ar gyfer
2024/25. Yn ychwanegol, eglurwyd ar ôl ystyried chwyddiant ar holl wariant GwE ar
gyfer 2024/25, gan nad yw’r grantiau Addysg yn cael eu chwyddo yn flynyddol,
golyga hyn doriad sy’n gyfanswm o £737,000 yn hytrach na’r ffigwr o £392,000. Yn ystod y drafodaeth ddilynol, cyflwynodd yr
aelodau'r sylwadau canlynol: -
Pwysleisiwyd bod cyfraniad craidd GwE wedi lleihau 18% ac nid 10% gan
ystyried y chwyddiant y cyfeirir ato yn rhan 3 o’r adroddiad. Nodwyd y bydd hyn
yn cael ei egluro ymhellach yn y cyfarfod mis Mai ble bydd dosraniad yr arian
yn cael ei drafod. -
Mynegwyd
y bydd gwybodaeth sensitif yn cael ei drafod yn y cyfarfod nesaf yn ymwneud â
swyddi staff presennol GwE. Cadarnhawyd y bydd angen edrych ar y categori
gwybodaeth eithriedig ar gyfer rhai eitemau yn y cyfarfod nesaf a llunio’r
agenda yn unol â hynny. -
Diolchwyd
i staff Cyllid Cyngor Gwynedd am eu cefnogaeth ac am eu gwaith wrth lunio’r
gyllideb. Ategwyd bod yr amserlen cyhoeddi wedi bod yn fyr iawn a mynegwyd
gwerthfawrogiad am eu gwaith caled. PENDERFYNWYD Mabwysiadu’r gyllideb sylfaenol
ar gyfer y flwyddyn gyllidol 2024/25 fel y’i chyflwynir yn Atodiad 1 o’r
adroddiad sef £8,460,971. |
|
CALENDR CYFARFODYDD 2024-25 PDF 154 KB I wneud cais i’r Cyd-bwyllgor gytuno ar galendr cyfarfodydd
am y flwyddyn i ddod. Penderfyniad: Cymeradwyo calendr
cyfarfodydd y Cyd-bwyllgor am y flwyddyn 2024-25 Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad fel eitem er gwybodaeth er mwyn i aelodau’r
Cydbwyllgor allu nodi’r dyddiadau yn eu calendrau, gan nodi efallai y bydd
angen elfen o hyblygrwydd gan yr aelodau. Eglurwyd efallai y bydd angen rhagor
o gyfarfodydd os bydd angen gwneud penderfyniadau ar frys yn sgil y sefyllfa
bresennol. Diolchwyd i’r Cydbwyllgor am eu gwaith â’u cyfraniadau. PENDERFYNWYD Cymeradwyo
calendr cyfarfodydd y Cyd-bwyllgor am y flwyddyn 2024-25 |