Datblygiad preswyl o 9 tŷ fforddiadwy.
AELOD LLEOL: Y Cynghorydd
Sian Wyn Hughes
Cofnod:
Datblygiad
preswyl o 9 tŷ fforddiadwy.
(a) Ymhelaethodd
y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi mai cais amlinellol oedd gerbron ar gyfer
ystyried egwyddor o ddatblygu’r safle ynghyd â mynediad. Er hyn, roedd y cynllun dangosol o osodiad
arfaethedig y safle wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais. Ers cyflwyno’r cais yn wreiddiol roedd wedi
cael ei ddiwygio sawl gwaith a nodwyd ymhellach bod asiant yr ymgeisydd wedi
gofyn am ohirio’r cais. Lleolir y safle
yng nghefn gwlad ac eglurwyd nad oedd llinell goch y cais yn cyffwrdd gyda ffin
ddatblygu Morfa Nefyn yn y Cynllun Datblygu Lleol. Nodwyd bod y tir tua’r gogledd o’r safle wedi
dechrau cael ei ddatblygu gyda 6 o dai wedi eu hadeiladu.
O safbwynt egwyddor y datblygiad, nodwyd bod mapiau cynigion
CDLl ar gyfer pentref Morfa Nefyn yn dangos bod y
safle yn gorwedd y tu allan i ffin ddatblygu’r pentref ac ystyrir bod hyn
gyfystyr â chodi tŷ newydd yng nghefn gwlad. Tynnwyd sylw at bolisi TAI16 sy’n ymwneud a
chynigion am dai fforddiadwy ar safleoedd eithrio gwledig a phwrpas y polisi
ydoedd rhyddhau safleoedd ar gyrion aneddleoedd ar gyfer darparu tai
fforddiadwy lle na fyddai tai yn cael eu caniatáu yn arferol. Noda’r polisi
hefyd bod safle eithrio wedi ei leoli yn union gerllaw’r ffin ddatblygu a’i fod
yn ffurfio estyniad rhesymegol i’r anheddle.
Saif safle’r cais gerllaw safle ystâd o dai sydd yn rhannol wedi ei
hadeiladu. Fodd bynnag, o edrych ar y
map ar gyfer Morfa Nefyn gwelir nad yw safle’r cais wedi ei leoli yn union
gerllaw’r ffin ddatblygu. Tynnwyd sylw
at baragraff 5.4 o’r adroddiad ynglyn â hanes
cynllunio hir a maith i’r tir gerllaw safle’r cais. Gwelir bod lle ar gael gan
yr ymgeisydd i ddatblygu tai tu mewn i’r ffin cyn hyd yn oed ystyried datblygu
tir y tu allan i’r ffin. Hyd yn oed pe
byddai cyfiawnhad am dai fforddiadwy ar safle eithrio gwledig nodwyd bod gan y
datblygwr dir sydd yn cyffwrdd y ffin ddatblygu ac felly nid oes gofyn am
ddatblygu’r safle sy’n destun y cais cynllunio gerbron. Deallir gan yr Uned Polisi ar y Cyd bod y
banc tir ar gyfer tai sydd wedi eu darparu neu gyda chaniatâd ar gyfer Morfa
Nefyn yn fwy na’r cyflenwad dangosol ar gyfer y pentref. Oherwydd y sefyllfa bresennol, ni ystyrir y
byddai datblygu’r tir dan sylw yn ddatblygiad rhesymegol i’r anheddle gan fod
tir gwag i’w gael rhwng y tai presennol ar ystâd Maes Twnti
â safle’r cais ac o ganlyniad yn gwneud datblygiad ynysig gyda thir gwag
rhyngddo a'r tai presennol ym Maes Twnti. Ni ellir ei ystyried fel safle eithrio
gwledig ac yn golygu adeiladu tai newydd yng nghefn gwlad ac nid yw’r angen
lleol am dai fforddiadwy wedi ei brofi .Ystyrir felly bod y bwriad yn groes i
ofynion polisïau perthnasol ac argymhelliad y swyddogion cynllunio ydoedd
gwrthod y cais am y rhesymau a restrir yn yr adroddiad.
(b) Yn ei habsenoldeb, nodwyd nad oedd yr Aelod Lleol yn
gwrthwynebu.
(c) Cynigwyd ac eilwyd i wrthod y cais yn
unol ag argymhelliad y swyddogion cynllunio.
(ch) Nododd sawl Aelod na ddylid caniatáu y math yma o ddatblygiad ar y
safle dan sylw gan y byddai’n ymyrraeth
i gefn gwlad agored.
PENDERFYNWYD yn
unfrydol, gwrthod am y rhesymau isod:
1.
Byddai’r bwriad yn golygu adeiladu
tai newydd yng nghefn gwlad
ble nad oes
ei angen ar gyfer menter
wledig. Mae’r bwriad felly yn groes i
Bolisi Strategol PS 17 a Pholisi PCYFF 1 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026
(31 Gorffennaf 2017) ynghyd
â Pholisi Cynllunio Cymru (Argraffiad 9 Tachwedd 2016) a Nodyn Cyngor Technegol 6: Cynllunio ar gyfer
Cymunedau Gwledig Cynaliadwy.
2. Nid yw’r angen lleol am dai fforddiadwy wedi ei brofi ac na fyddai’n bosibl darparu’r ddarpariaeth tu mewn i ffin ddatblygu. Yn ogystal nid yw safle’r cais wedi ei leoli yn union gerllaw’r ffin ddatblygu ac nid yw’n ffurfio estyniad rhesymegol i’r anheddle ac felly ni ellir ei ystyried fel safle eithrio gwledig. Ystyrir y bwriad yn groes i ofynion Polisi TAI 16 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026 (31 Gorffennaf 2017).
Dogfennau ategol: