Diwygio amod 4 ar ganiatad cynllunio C15/0901/39/LL er diwygio dyluniad y tŷ arfaethedig.
AELOD LLEOL: Y Cynghorydd
Dewi Wyn Roberts
Cofnod:
Diwygio amod 4 ar ganiatâd cynllunio
C15/0901/39/LL er diwygio dyluniad y tŷ arfaethedig.
(a) Ymhelaethodd y Swyddog Gorfodaeth ar gefndir y cais, gan nodi
mai dyluniad y tŷ yn unig oedd dan ystyriaeth, ynghyd â mân newidiadau i’r
trefniant o fewn y safle. ‘Roedd egwyddor y datblygiad eisoes wedi ei dderbyn
gyda chaniatâd cynllunio ar gyfer y tŷ wedi ei roi yn barod.
Nodwyd bod y cynllun diwygiedig yn
golygu y byddai’r tŷ yn parhau yn yr un lleoliad ond byddai ei ongl yn
newid ychydig, ail leoli’r llwyfan ar y llawr cyntaf, cynnydd bychan i faint y
tŷ, yn ogystal â dwy ffenestr gromen ar y drychiad gogleddol yn lle un yn
flaenorol. Adroddwyd bod y modurdy a ddangosir ar y cynllun a gyflwynwyd yn
wreiddiol nawr wedi ei dynnu o’r cais gan gynllun diwygiedig a dderbyniwyd ar
15 Chwefror.
Yn sgil yr ymgynghoriad cyhoeddus derbyniwyd
gwrthwynebiadau i’r cais ar sail mwynderau a phreifatrwydd trigolion lleol,
effaith y modurdy ar goed aeddfed, ac nad oedd angen darparu llwyfan fel rhan o’r
cais. Roedd y modurdy wedi ei dynnu o’r cais, felly tybir fod hyn yn ateb y
pryderon a godwyd gan y cyhoedd a swyddogion Bioamrywiaeth. Nid oedd pryder
ynglŷn ag effaith y bwriad ar fwynderau trigolion cyfagos.
Ystyrir fod y newidiadau a gynigir
yn dderbyniol ac argymhellir caniatáu’r cais gyda’r amodau a restrir yn yr
adroddiad.
(b) Yn manteisio ar
yr hawl i
siarad nododd asiant yr ymgeisydd
y prif bwyntiau canlynol:-
·
Bod caniatâd cynllunio yn
bodoli a bod y cais ar gyfer man newidiadau i’r dyluniad;
·
Trafodwyd y cais gyda’r
swyddogion;
·
Bod 3 hogyn lleol wedi dod at
ei gilydd ar gyfer y datblygiad er mwyn creu arian;
·
Bod newid yn y dyluniad a brig
to is yn welliant o’r cynllun a ganiatawyd yn wreiddiol.
(c) Gwnaed y prif
bwyntiau canlynol gan yr aelod
lleol (nad oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-
·
Bod y bwriad yn cynnwys
grisiau allanol a balconi;
·
Pryder y Cyngor Cymuned o ran
preifatrwydd cymdogion cyfagos;
·
Pryder y byddai’r balconi yn
cael ei ddefnyddio ar gyfer adloniant a bod amod wedi ei osod ar y caniatâd
cynllunio gwreiddiol nad oedd i’w ddefnyddio ar gyfer adloniant. Anodd i
orfodi’r amod;
·
Nad oedd y newidiadau yn
tawelu pryderon trigolion lleol;
·
Gofyn i’r Pwyllgor wrthod y
cais neu osod amod ychwanegol o ran atal defnydd y balconi ar gyfer adloniant.
(ch) Mewn ymateb i sylwadau’r aelod
lleol, nododd y Rheolwr Cynllunio:
·
Bod grisiau allanol a
balconi yn nodwedd eithaf cyffredin yn y cyffiniau;
·
Bod tai cyfagos
tua 19 medr i ffwrdd a ni fyddai gor-edrych
uniongyrchol oherwydd gosodiad/ongl y tai;
·
O ran yr amod atal
defnydd y balconi ar gyfer adloniant, bod maint y balconi yn cyfyngu’r defnydd
a ellir ei wneud ohono.
(d) Cynigiwyd ac
eiliwyd i ganiatáu’r cais.
Nododd aelod ei phryder o ran y nifer o geisiadau a
dderbynnir i newid dyluniad a ganiatawyd yn wreiddiol.
Nododd
aelod bod y dyluniad yn well na’r dyluniad gwreiddiol.
PENDERFYNWYD caniatáu gyda’r amodau canlynol:
1.
5 mlynedd
2.
Unol gyda chynlluniau diwygiedig dyddiedig 04/01/2018 a
24/01/2018
3.
Llechi i do y tŷ a’r modurdy.
4.
Cytuno gorffeniad allanol.
5.
Cynllun tirlunio
6.
Amodau Dŵr Cymru.
Dogfennau ategol: