Agenda item

Cais amlinellol gyda'r holl faterion wedi eu cadw yn ôl i godi 9 newydd gyda modurdai integredig.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Gareth A. Roberts

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Cais amlinellol gyda’r holl faterion wedi eu cadw yn ôl i godi 9 tŷ newydd gyda mordurdai integredig.

 

(a)      Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y cynlluniau mynegol wedi eu cyflwyno sy’n awgrymu maint, gosodiad ac edrychiadau tebygol y datblygiad – sy’n cynnwys 3 rhes o 3 ty trillawr gyda 3 llofft yr un. Byddai 7 o’r unedau ar gyfer marchnad agored a 2 yn cael eu cynnig fel tai fforddiadwy.

 

Lleolir y safle o fewn ffin ddatblygu dinas Bangor ond heb ei ddynodi ar gyfer unrhyw ddefnydd penodol.  Eglurwyd bod y tir yn codi mewn uchder o’i flaen sydd yn ochri a’r ffordd fynediad bresennol tuag at stad Maes Berea i’r de a’r gorllewin. Mae’r stad bresennol yn sefydliedig ac yn cynnwys oddeutu 55 o dai sy’n gymysgedd o dai deulawr a thrillawr.

 

Tynnwyd sylw at y polisiau cynllunio perthnasol a’r ymatebion i’r  ymgynghoriadau a oedd wedi eu nodi yn yr adroddiad.

 

Derbyniwyd llythyrau yn gwrthwynebu’r bwriad fel sydd wedi ei nodi yn yr adroddiad.

 

Nodwyd bod egwyddor y bwriad yn dderbyniol a’r bwriad yn estyniad rhesymegol i’r stad bresennol ac fe welir fod y cynlluniau mynegol yn cyfleu ag adlewyrchu’r hyn sydd eisoes wedi ei ganiatau ac adeiladu o fewn gweddill y stad.

 

Cynigir 2 allan o’r 9 uned  yn dai fforddiadwy. Derbyniwyd sylwadau ychwanegol gan yr Uned Polisi ar y Cyd sy’n datgan yr angen ar gyfer tai sydd wedi ei adnabod gan Tai Teg yn 2018. Awgryma’r ystadegau mai tai 1-3 llofft sydd yn mynd i fod yn fwy tebygol o gyfarch y galw cyfredol a’r galw a ragwelir yn y dyfodol o ran tai marchnad a thai fforddiadwy. Nodwyd nad oedd y dystiolaeth angenrheidiol ar hyn o bryd i gefnogi argymhelliad i wrthod y cais ar sail cymysgedd tai gan gofio fod y bwriad yn paratoi 2 uned fforddiadwy fel rhan o’r bwriad.

 

Nid oedd gan yr Uned Drafnidiaeth unrhyw wrthwynebiad i’r bwriad

 

Oherwydd graddfa’r cais a’i leoliad ynghyd â’i nodweddion naturiol presennol ystyrir fod y bwriad yn cydymffurfio gyda’r polisiau lleol a chenedlaethol perthnasol.  Argymhellir felly i ddirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostynedig i gwblhau cytundeb 106 i sicrhau fod 2 o’r 9 tŷ sy’n destun y cais hwn yn fforddiadwy ac i amodau cynllunio perthnasol.

 

(b)     Cynigwyd ac eilwyd i ganiatáu’r cais.

 

(c)     Tynnwyd sylw bod Tai Teg wedi nodi ar y ffurflen sylwadau ychwanegol am yr angen o 180 o unedau 2 ystafell wely yn erbyn 124 o unedau 3 stafell wely, felly gofynnwyd pam nad oedd cymysgedd gwell o dai ar y safle dan sylw. 

 

(ch)   Mewn ymateb, cyfeiriodd y Rheolwr Cynllunio at sylwadau Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd ar y ffurflen sylwadau ychwanegol a’r ffaith nad oedd swyddogion yn ffyddiog bod ganddynt y dystiolaeth angenrheidiol ar hyn o bryd i gefnogi argymhelliad i wrthod y cais ar sail cymysgedd.  Amlygwyd fod y safle ym Mangor ac fod nifer uchel o dai wedi eu caniatau yn ddiweddar gyda cymysgedd dda o ddarpariaeth ar gael. Nodwyd hefyd mai cais amlinellol oedd gerbron. 

 

(a)       Ymatebodd i ymholiadau ychwanegol fel a ganlyn:

 

·         Na fyddai’r cais materion a gadwyd yn ól o reidrwydd yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ond byddai’n rhaid i’r ymgeisydd gyflwyno cais o fewn amser penodol

·         Mai 20% ydoedd y disgwyliad o dai fforddiadwy ym Mangor a Gogledd / De Arfon yn unol á’r Cynllun Datblygu Lleol.

 

Penderfynwyd:             Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i gwblhau Cytundeb 106 i sicrhau fod 2 o'r 9 tŷ sy'n destun y cais hwn yn fforddiadwy ac i amodau perthnasol yn ymwneud â:-

 

1. Amser

2. Materion a gadwyd yn ôl

3. Manylion lefelau tir a lloriau

4. Deunyddiau gan gynnwys y defnydd o lechen naturiol

             5. Tirlunio.

             6. Priffyrdd.

             7. Tynnu hawliau datblygiad a ganiateir oddi ar y 2 dŷ fforddiadwy.

             8. Amod Dŵr Cymru parthed cynllun draenio.

             9. Bioamrywiaeth

 

Dogfennau ategol: