Agenda item

Lleoli 4 uned llety gwyliau tymhorol ar ffurf cwt bugail ynghyd a cwt cawod (cais diwygiedig i'r hyn a wrthodwyd o dan gyfeirnod C18/0393/20/LL)

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Wyn Griffith

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

(a)      Lleoli 4 uned llety gwyliau tymhorol ar ffurf cwt bugail ynghyd a chwt cawod (cais diwygiedig i'r hyn a wrthodwyd o dan gyfeirnod C18/0393/20/LL)

 

         Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd

 

         Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi mai cais llawn ydoedd ar gyfer lleoli 4 uned llety gwyliau tymhorol ar ffurf cytiau bugail ynghyd a chwt cawod. Ategwyd y byddai’r bwriad hefyd yn golygu plannu coed a llwyni ynghyd a chreu llecyn parcio. Amlygwyd bod y cais yn gynllun diwygiedig i’r un a wrthodwyd ym mis Mehefin 2018 o dan yr hawliau dirprwyedig oherwydd bod yr unedau gwyliau wedi eu lleoli mewn llinell oddi fewn i’r safle cais. Gosodir y cytiau ar ffurf hanner cylch yn y cynllun diwygiedig.

 

         Eglurwyd bod y safle yn sefyll ar lecyn o dir sydd yng nghornel cae amaethyddol gyda golygfeydd agored tua’r Fenai (sydd yn ardal cadwraeth arbennig) ac Ynys Môn (gyda glannau’r Fenai wedi eu lleoli o fewn yr AHNE). Bydd mynediad i’r safle oddiar rhwydwaith ffyrdd preifat. Nodwyd bod tir amaethyddol ac anheddau preswyl Llanfair Hall wedu eu lleoli  i’r gogledd o’r safle ac i’r de lleolir tir amaethyddol agored ac annedd Llanfair Old Hall.

 

         Adroddwyd bod egwyddor o sefydlu llety gwyliau dros dro newydd wedi ei selio ym Mholisi TWR5 o’r Cynllun Datblygu Lleol. Ategwyd bod y math yma o ddatblygiadau yn cael eu caniatáu os gellid cydymffurfio gyda nifer o feini prawf. Gofynnir i’r datblygiad arfaethedig fod o ansawdd uchel o ran dyluniad, gosodiad ac edrychiad a’i fod wedi ei leoli mewn lleoliad anymwthiol. Dengys, er bod bwriad lleoli'r datblygiad yng nghornel y cae, byddai datblygiad o’r fath ar lecyn o dir agored ei natur a’i naws yn ddatblygiad a ystyriwyd yn ymwthiol yn y tirlun yn creu strwythurau anghydnaws yn y tirlun agored.

 

         Nodwyd yn hanesyddol, mai tirlun a adnabuwyd fel parcdir fyddai y rhan yma o’r tirlun gyda chymeriad a naws agored yn perthyn iddo ac er bod datblygiadau eraill wedi cymryd lle yn lleol, datblygiadau ar raddfa ddomestig oeddynt yn hytrach na datblygiadau wedi eu lleoli o fewn y tirlun agored.

 

Wedi ystyried natur a gosodiad diwygiedig yr unedau llety gwyliau, y llecynnau parcio, y taclau cysylltiedig ynghyd a chyflwyno gweithgareddau dynol o natur twristiaeth i’r tirlun byddai effaith gronnus yr elfennau hyn o’r datblygiad yn parhau i fod yn gyfystyr a chreu datblygiad ymwthiol yn y dirwedd a’r tirlun lleol. Dylid lleoli unrhyw gyfleusterau atodol mewn adeilad presennol, neu, os nad yw hyn yn bosib, bod unrhyw gyfleuster newydd yn gymesur a graddfa’r datblygiad. Ystyriwyd y byddai ychwanegu’r strwythur ymolchi a thŷ bach i’r 4 uned llety gwyliau ddim yn gymesur a graddfa’r datblygiad gan y byddai yn dwysau ar niferoedd yr unedau ar y safle o 20%.  

 

Mae polisi PS14 o’r Cynllun Datblygu Lleol hefyd yn adlewyrchu amcanion Polisi TWR5 ar sail graddfa a diogelu mwynderau gweledol. Atgoffwyd yr Aelodau, er i’r safle sefyll yng nghornel cae agored ei natur ar arfordir ger glannau'r Fenai er gwaethaf nad yw’r ardal gyfagos wedi ei chydnabod na’i dynodi fel tirlun arbennig ac na fyddai’r datblygiad yn cael effaith sylweddol ar ddynodiant AHNE arfordir Ynys Môn, ystyriwyd y byddai’r bwriad yn parhau i amharu’n andwyol ar gymeriad a naws agored y tirlun/parcdir lleol gan y byddai’n creu datblygiad ymwthiol o fewn tirwedd cefn gwlad.

 

Yng nghyd-destun mwynderau preswyl a chyffredinol derbyniwyd nifer o wrthwynebiadau i’r cais gyda nifer yn cynnwys aflonyddwch a sŵn. Ystyriwyd bod y safle, ar hyn o bryd, yn safle gellid ei ddisgrifio a chymeriad a naws gwledig, distaw a thawel iddo. Byddai lleoli unedau llety gwyliau ar y llecyn tir hwn yn anochel o darfu ar gymeriad distaw y rhan yma o’r dirwedd wledig gan danseilio mwynderau preswyl a chyffredinol deiliaid cyfagos ar sail aflonyddwch sŵn/lleisiau, gweithgareddau allanol a symudiadau ceir.  Yng nghyd-destun mwynderau gweledol roedd pryder wedi ei ddangos gan drigolion lleol ynglŷn ag ad-drawiad y bwriad ar agweddau a mwynderau gweledol y tirlun. 

 

Yng nghyd-destun diogelwch y ffyrdd, ystyriwyd na fydd cynnydd sylweddol yn y drafnidiaeth fydd yn defnyddio’r rhodfeydd preifat ynghyd a’r fynedfa i’r ffordd sirol dosbarth III cyfagos. Nid oedd gan yr Uned Drafnidiaeth bryder ynglŷn ag effaith y bwriad ar ddiogelwch ffyrdd yn ddarostyngedig ar greu llecyn pasio ychwanegol ger safle’r cais.

 

Wedi ystyried yr holl faterion cynllunio perthnasol gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol yn ogystal â’r gwrthwynebiadau a’r sylwadau a dderbyniwyd ni ystyrir fod y bwriad yn dderbyniol ar sail egwyddor, ei effaith andwyol ar fwynderau gweledol ynghyd ag effaith andwyol y datblygiad arfaethedig ar fwynderau preswyl a chyffredinol deiliaid cyfagos.

 

(b)     Yn manteisio ar ei hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:

·         Mai menter ydoedd i arallgyfeirio oherwydd ansicrwydd dyfodol i fyd amaeth

·         Bod dyluniad y cytiau bugail yn un traddodiadol

·         Bod gosod y cytiau ar ffurf hanner cylch yn lleihau effaith weledol

·         Bydd y cytiau yn cael ei gosod ar olwynion ac felly bydd modd eu symud yn ystod y gaeaf

·         Na fyddai unrhyw ad-drawiad sylweddol ar osodiad adeiladau rhestredig Llanfair Hall a dim ad-drawiad sylweddol o’r golygfeydd a geir o’r adeiladau hyn.

·         Derbyn yr angen i greu man pasio ychwanegol

·         Menter bersonol sydd yn sicrhau dyfodol i’r fferm

 

(c)      Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol ei fod yn gefnogol i’r cais a mynegodd y prif bwyntiau canlynol:

·       Bod yr ymgeisydd wedi cael cyfle i ail edrych ar y cais yn dilyn penderfyniad i        wrthod ym mis Mehefin a bod y cytiau bellach yn cael eu hail leoli

·       Nad oedd lluniau’r swyddogion yn dangos y safle yn glir

·       Bod coes trwchus rhwng y safle a Llanfair Hall

·       Cytiau tymhorol, symudol yw’r bwriad

·       Bod yr ymgeisydd yn byw ar y safle

·       Nad oedd y bwriad yn groes i bolisïau

·       Nad oedd y swyddfa cadwraeth wedi gwrthod

·       Derbyn pryderon Llanfair Hall ond trefniadau rheoli gwastraff wedi eu hystyried

·       Datblygiad bychan

 

(ch)  Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd yr Uwch Reolwr Cynllunio mai’r prif faterion dros argymell gwrthod oedd pryderon am effeithiau gweledol a mwynderau preswyl. Ategodd bod elfennau derbyniol i’r cais.

 

(d)     Cynigiwyd ac eiliwyd i gynnal ymweliad safle

 

PENDERFYNWYD trefnu ymweliad safle.

Dogfennau ategol: