Newid defnydd cyn gartref
nyrsio preswyl i greu 4 uned
gwyliau hunan
gynhaliol, codi adeilad ar wahân
i'w defnyddio fel pwll nofio
ynghyd ag estyniadau a newidiadau i'r adeilad presennol.
AELOD LLEOL: Cynghorydd
Peter Garlick
Dolen i’r dogfennau
cefndir perthnasol
Cofnod:
Newid
defnydd cyn gartref nyrsio preswyl i greu 4 uned gwyliau hunangynhaliol, codi
adeilad ar wahân i'w defnyddio fel pwll nofio ynghyd ag estyniadau a newidiadau
i'r adeilad presennol
(a) Ymhelaethodd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais,
gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 25
Mehefin 2018 er mwyn derbyn cadarnhad pellach gan yr asiant ynglŷn â rhai
agweddau penodol o’r cais ynghyd â chynnal ymweliad safle. Nodwyd y cynhaliwyd
ymweliad safle ar 23 Gorffennaf 2018.
Cyfeiriwyd at y niferoedd aros, gan nodi y derbyniwyd
cadarnhad y byddai nifer y gwesteion yn amrywio yn ôl y tymor ond mai’r nifer
tebygol ar un adeg fyddai rhwng 50% a 60% (hyd at 70-mewn nifer) o gyfanswm
niferoedd aros yr adeilad.
Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd a oedd
yn cynnwys cadarnhad gan Wasanaeth Twristiaeth y Cyngor mai prin oedd y math
yma o ddarpariaeth yn sirol.
Nodwyd bod y ffordd i’r safle yn gul a throellog, ond ni
chredir y byddai’r bwriad yn golygu cynnydd a niwed sylweddol amlwg o ran
symudiadau traffig o gymharu â’r defnydd hanesyddol fel cartref nyrsio preswyl,
felly ni chredir fod y bwriad yn annerbyniol o safbwynt gofynion polisïau TRA2
a TRA4 o’r CDLl.
Eglurwyd nad oedd rheolaeth o ddefnydd presennol y safle ac
fe fyddai’r cais hwn yn gwella’r sefyllfa. Nodwyd yn dilyn derbyn sylwadau’r
Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd o ran mesurau lliniaru i warchod a hyrwyddo’r
Iaith Gymraeg, argymhellir gosod amod ychwanegol i’r hyn a nodwyd yn yr
adroddiad o ran cytuno arwyddion a phecynnau gwybodaeth.
Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol
perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.
(b) Yn manteisio ar
yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-
·
Bod y bwriad yn cydymffurfio
gyda Pholisi TWR2 o’r CDLl;
·
Bod y cynllun busnes a
gyflwynwyd fel rhan o’r cais yn dangos y byddai’r elw a fyddai’n deillio o’r
datblygiad yn cynyddu;
·
Bod asesiad trafnidiaeth wedi
ei gyflwyno fel rhan o’r cais;
·
Nid oedd yr Uned Drafnidiaeth
yn gwrthwynebu’r bwriad;
·
O ystyried defnydd sefydledig
y safle, ni fyddai’r sefyllfa trafnidiaeth yn waeth;
·
Bod y bwriad yn unol â
pholisïau cenedlaethol a lleol.
(c) Cynigwyd ac eiliwyd i
ganiatáu’r cais.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol
nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Bod yr adeilad yn hardd a bod
angen ei ddiogelu rhag dirywiad;
·
Pryder o ran diogelwch ffyrdd
ond gellir rheoli defnydd o’r safle gydag amodau;
·
O ystyried nad oedd preswylwyr
y cartref yn ddefnyddwyr ceir byddai’r symudiadau traffig yn sylweddol uwch.
Cwestiynu os oedd y fynedfa yn ddiogel;
·
Yn ansicr o’r bwriad gyda phryder
ei fod yn or-ddatblygiad. Byddai 4 rhan ar gyfer 120 o unigolion heb lawer o
reolaeth o’r safle. Gyda nifer uwch o unigolion, tua 200, pan gynhelir priodas
ar y safle, ddim yn gweld digon o le eistedd ar gyfer gymaint o bobl.
Mewn ymateb i ymholiad
gan aelod o ran safbwynt yr aelod lleol, nododd Arweinydd Tîm Rheolaeth
Datblygu bod gan yr aelod lleol bryder am y lôn.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.
Amodau:
1. Amser
2. Cydymffurfio
gyda chynlluniau
3. Bioamrywiaeth
4. Cyfyngu defnydd i wyliau yn unig
5. Cynllun Rheoli’r safle
6. Gwarchod Coed
7. Amodau Cyfoeth Naturiol Cymru
8. Amodau Dŵr Cymru
9. Deunyddiau
10. Cyfyngu niferoedd aros
11. Cynllun Rheoli Trafnidiaeth
12. Mesurau lliniaru effaith ieithyddol
Dogfennau ategol: