Materion a gadwyd yn ôl o ganiatad amlinellol C14/1248/11/AM i godi 4 bloc o fflatiau yn cynnwys 70 uned byw
AELOD LLEOL: Cynghorydd
Keith Jones
Cofnod:
Materion a gadwyd yn ôl o ganiatâd amlinellol
C14/1248/11/AM i godi 4 bloc o fflatiau yn cynnwys 70 uned byw.
(a) Ymhelaethodd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais,
gan nodi bod y cais yn ymwneud â materion a gadwyd yn ôl a oedd yn cynnwys
graddfa, golwg a thirweddu’r safle. Nodwyd bod y bwriad yn darparu 24 uned 1
llofft a 46 uned 2 llofft. Eglurwyd bod y caniatâd amlinellol ar gyfer 77 uned,
ond i gydymffurfio gyda safonau adeiladu cymdeithasau tai (safon ‘DQR’) ac mewn
ymateb i newid yn y farchnad dai, roedd arwynebedd llawr yr unedau wedi eu
cynyddu gan olygu gostyngiad o 7 uned ar y safle.
Amlygwyd bod y cynlluniau wedi eu haddasu ers cyflwyno’r
cais yn wreiddiol, er mwyn:
·
Diwygio lleoliad ffenestri i
osgoi a lleihau gor-edrych.
·
Diwygiadau i’r dyluniad, yn
bennaf i resymoli’r siâp a ffurf yr adeiladau.
·
Addasiadau i’r deunyddiau a
lliwiau a fwriedir defnyddio.
·
Newidiadau i drefniadau unedau
er mwyn sicrhau safon byw dderbyniol i bob uned e.e. ffenestri a golau
naturiol.
Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.
Nodwyd nad oedd y datblygiad yn llety myfyrwyr pwrpasol nac
ar gyfer darparu unedau amlfeddiannaeth ac nid oedd hawl cynllunio ar gyfer y
fath defnyddiau ar y safle.
Cyfeiriwyd at y trawstoriadau ac edrychiadau, a dderbyniwyd
gan yr ymgeisydd, a oedd yn dangos sut y byddai’r datblygiad yn eistedd o fewn
y safle a’i berthynas gydag adeiladau cyfagos. Ymhelaethwyd y derbyniwyd
montage i ddangos edrychiad y datblygiad o olygfeydd pellach ar draws y ddinas.
Tynnwyd sylw at y montage a oedd yn dangos bod y defnydd o liwiau llwyd ar
rannau uwch y blociau yn elfen bwysig iawn i alluogi’r datblygiad i ymdoddi
mewn modd derbyniol. Nodwyd yr ystyriwyd bod bloc 2 angen cladin llwyd ary
lloriau uwch, fel y dangoswyd ar y montage, er mwyn lleihau amlygrwydd y
lloriau o edrychiadau pellach ac fe ellir gosod amod i sicrhau hyn.
Nodwyd y derbyniwyd gwrthwynebiadau o ran mwynderau preswyl
gan gynnwys gor-edrych, cydnabuwyd y byddai effaith ond roedd y newidiadau a
wnaed i’r cynlluniau yn ddigonol i fodloni’r polisïau.
Amlygwyd y derbyniwyd nifer fawr o wrthwynebiadau ar sail
diffyg llefydd parcio o fewn y safle a phroblemau parcio oedd eisoes yn bodoli
yn yr ardal. Nodwyd bod y bwriad yn darparu 70 uned byw gyda chymysgedd o unedau un a dwy lofft a
bod y cynllun safle yn dangos 67 llecyn parcio. Eglurwyd bod y safonau parcio
yn gofyn am un llecyn parcio ar gyfer pob uned byw ond yn cyfeirio at uchafswm
ac yn cydnabod mewn rhai llefydd fod nifer llai yn gallu bod yn dderbyniol.
Nodwyd o ystyried lleoliad y safle mewn dinas a’r cysylltiadau gyda
thrafnidiaeth gyhoeddus a chyfleusterau eraill, ystyriwyd fod 67
llecyn parcio yn ddigonol ac yn dderbyniol a byddai effaith y datblygiad yn
annhebygol o achosi trafferthion parcio ychwanegol ar strydoedd cyfagos.
Adroddwyd bod trafodaethau wedi eu cynnal efo’r ymgeisydd
yng nghyswllt darpariaeth storio biniau. Nodwyd ni dderbyniwyd cynllun yn
cadarnhau’r bwriad o ran yr elfen yma ond bod yr ymgeisydd yn nodi yn y
trafodaethau y byddai llefydd storio biniau efo ffensys o’u hamgylch.
Cadarnhawyd bod y cynlluniau yn dangos ei fod yn bosib gwireddu hyn ond bod
angen derbyn cadarnhad gan yr ymgeisydd.
Argymhellwyd i’r Pwyllgor awdurdodi’r Uwch Reolwr Gwasanaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd i gymeradwyo’r cais yn ddarostyngedig i dderbyn
cynllun tirweddu meddal manwl ynghyd â chynllun a manylion yn dangos trefniadau
ar gyfer storio biniau gydag amodau.
(b) Yn manteisio ar
yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-
·
Bod lleoliad ac agosrwydd yr
adeiladau i’r tai cyfagos wedi ei gadarnhau;
·
Byddai’r datblygiad yn
gwella’r safle yn unol â gofynion polisïau lleol a chenedlaethol;
·
Bod Dŵr Cymru wedi
cadarnhau bod y bwriad yn dderbyniol;
·
Byddai lleoliadau dynodedig ar
gyfer storio biniau ar y safle;
·
Gwnaed newidiadau i’r dyluniad
mewn ymateb i bryderon lleol;
·
Bod y nifer o unedau wedi
gostwng o 77 i 70, gan wella maint yr unedau a lleihau’r effaith o ran parcio
10%;
·
Yn unol â hyn a nodir yn yr
adroddiad, byddai’r ddarpariaeth o fflatiau newydd yn gyfraniad positif i’r
stoc tai, gan gwrdd gyda’r anghenion a adnabuwyd, ac yn cyfrannu at anghenion
tai fforddiadwy;
·
Nid oedd yr Uned Drafnidiaeth
yn gwrthwynebu’r bwriad;
·
Byddai budd adfywio yn deillio
o’r datblygiad gan ei fod yn diwallu anghenion tai a adnabuwyd.
(c) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn
aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-
·
Bod gormod o dai mewn
amlfeddiannaeth yn ward Hirael;
·
Bod problemau parcio yn ward
Hirael eisoes gyda nifer yn gweithio yn y Stryd Fawr yn parcio yno, byddai’r
datblygiad yn ychwanegu at y broblem;
·
Bod blociau 2 lawr yn addas
i’r safle o ystyried adeiladau yn yr ardal ac yn ddigonol o ystyried maint y
safle;
·
Bod bloc 4 llawr gyda rhai
unedau efo balconi, yn deall o ran gweld yr olygfa ond mi fyddai gor-edrych;
·
Byddai’r datblygiad yn sefyll
allan yn y dirwedd, fel y dangosir yn y montage;
·
Cwestiynu fforddiadwyedd yr
unedau o ystyried cyfartaledd cyflog yn yr ardal;
·
Bod Bangor yn ddinas myfyrwyr,
ddim yn gweld sut y gellir atal myfyrwyr rhag byw yno;
·
Pryder y byddai’r datblygiad
yn cael effaith negyddol ar wasanaethau gan gynnwys casglu sbwriel;
·
Ei fod yn fodlon siarad gyda’r
datblygwr a’i fod yn gobeithio y rhoddir ystyriaeth i safbwynt trigolion lleol.
(ch) Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais ar sail uchder y ddau floc o fflatiau 4
llawr (sef bloc 2 a 3) oherwydd eu bod allan o gymeriad gyda’r ardal, ac
effaith tebygol y balconïau ar fwynderau trigolion tai cyfagos.
Nododd y Rheolwr Cynllunio bod egwyddor y datblygiad wedi ei
ganiatáu a’i fod yn cynnwys uchafswm uchder y blociau. Atgoffwyd yr aelodau mai
cais materion a gadwyd yn ôl oedd o dan ystyriaeth, gellir rhoi sylw i raddfa a
golwg y datblygiad a allai gynnwys swmp y datblygiad. Cyfeiriodd at sylwadau’r
aelod lleol, gan nodi ei fod yn deall y pryder o ran tai mewn amlfeddiannaeth
ond byddai angen caniatâd i’r defnydd hwn. Ychwanegodd bod lleihau’r nifer o
unedau wedi galluogi’r datblygiad i gydymffurfio gyda safonau adeiladu
cymdeithasau tai (safon ‘DQR’) gan sicrhau fforddiadwyedd yr unedau i’r dyfodol.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Bod y montage yn dangos y
byddai’r datblygiad yn edrych yn fawr yn y dirwedd;
·
Cydymdeimlo efo’r aelod lleol.
Bod Cyngor Dinas Bangor yn nodi bod y llawr ychwanegol yn arddangos fel
gor-ddatblygiad ac yn groes i gymeriad yr ardal gyfagos a dylai’r cais cael ei
drin fel cais o’r newydd;
·
Bod y safle angen ei ddatblygu
ond roedd y datblygiad dan sylw yn fodern ac allan o gymeriad yr ardal. Roedd
graddfa’r datblygiad yn anghywir;
·
O ran newid o do mansard i do
fflat, oedd effaith ar yr uchder?
·
Bod uchder y blociau i’w
ystyried fel rhan o raddfa'r datblygiad;
·
Yn gwrthwynebu’r cais ar ran
swmp y datblygiad a’i fod allan o gymeriad yr ardal.
(d) Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y swyddogion:
·
Nodi’r pryder o
ran graddfa a golwg, fe allai newidiadau i’r dyluniad oresgyn pryderon;
·
Bod y cynlluniau a
gyflwynwyd fel rhan o’r cais amlinellol yn dangos bloc 4 llawr gyda tho mansard
a ffenestri gromen. O ganlyniad i gynnydd yn arwynebedd llawr yr unedau, roedd
y cynlluniau a gyflwynwyd efo’r cais yma yn dangos to fflat. Roedd y dyluniad
yn wahanol ond nid oedd cynnydd yn yr uchder felly yn unol â’r amodau ar y
caniatâd amlinellol;
·
Nid oedd y newid o do
mansard i do fflat wedi cael effaith ar yr uchder ond roedd effaith ar swmp y
datblygiad;
·
Bod uchder y blociau yn
ystyriaeth o ran graddfa datblygiad, ond bod uchafswm uchder y blociau wedi ei
benderfynu o dan y caniatâd amlinellol;
·
Fe allai’r Pwyllgor
ohirio’r cais er mwyn cynnal trafodaethau efo’r ymgeisydd.
PENDERFYNWYD gwrthod y cais.
Rheswm:
Ar sail ffurf a graddfa'r ddau floc o fflatiau 4 llawr (sef bloc 2 a 3) oherwydd eu bod allan o gymeriad gyda’r ardal, ac effaith tebygol y balconïau ar fwynderau trigolion tai cyfagos.
Dogfennau ategol: