Agenda item
- Cyfarfod Pwyllgor Cynllunio, Dydd Llun, 11eg Chwefror, 2019 1.00 y.h. (Item 6.)
- Y cefndir i eitem 6.
Adnewyddu caniatad rhif C08A/0568/24/LL a C09A/0532/24/LL ar gyfer codi 24 tŷ yn cynnwys 12 tŷ fforddiadwy, newidiadau i’r fynedfa bresennol a chreu lonydd stâd (cynllun diwygiedig i’r hyn a gyflwynwyd yn wreiddiol)
AELOD LLEOL: Cynghorydd Aeron Maldwyn Jones
Cofnod:
Adnewyddu caniatâd rhif
C08A/0568/24/LL a C09A/0532/24/LL ar gyfer codi 24 tŷ, yn cynnwys 12
tŷ fforddiadwy, newidiadau i’r fynedfa bresennol a chreu lonydd stad
(cynllun diwygiedig i’r hyn a gyflwynwyd yn wreiddiol).
(a)
Ymhelaethodd
y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod
y Pwyllgor a gynhaliwyd Ionawr 2018 er mwyn trafod pryderon yr Aelodau gyda’r ymgeisydd,
oedd yn ymwneud â lleoliad y llecyn agored
o fewn y safle. Yn ychwanegol, ymgynghorwyd ymhellach gyda Rheilffordd Eryri, Wales and West Utilities (nwy) ynghyd
â’r Uned Rheolaeth Adeiladu ar sail addasrwydd lleoli’r
llecyn agored yn y safle bwriadedig. Derbyniwyd barn Ymgynghorydd Iechyd a
Diogelwch y Cyngor o ran sicrwydd diogelwch.
Nodwyd bod y cais yn parhau i gynnwys 24 tŷ gyda 12 o’r tai yn rhai fforddiadwy ac amlygwyd bod yr angen am dai wedi ei gadarnhau.
Amlygwyd pryder am y pellteroedd rhwng
y tai, a chyfeiriwyd at ymateb ym mharagraffau
5.9 i 5.11 o’r adroddiad. O safbwynt tai
fforddiadwy, er mai landlord
cofrestredig fydd yn rheoli datblygiad,
bydd angen sicrhau y byddai’r 12
tŷ yn fforddiadwy am byth ac felly angen
amod priodol i hyn. Nodwyd bod y bwriad
yn un anarferol, ond y datblygiad yn cynnwys
cymysgedd addas o dai fydd yn
diwallu'r angen am dai gwahanol yn yr ardal. Ategwyd
bod datblygiad o’r fath yn un i’w
groesau.
Adroddwyd, mewn ymateb i’r prif
bryder, sef lleoliad y llecyn agored, cynhaliwyd trafodaethau pellach
gyda’r ymgeisydd. Ategwyd bod swyddogion wedi ail ymgynghori gyda Rheilffordd Eryri, Wales and West Utilities
(nwy) ynghyd a’r Uned Rheolaeth Adeiladu ac Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch y Cyngor ac roedd yr ymatebion yn
parhau i gadarnhau bod y datblygiad
yn cydymffurfio gyda holl
ofynion y cyrff ac nad oedd ganddynt wrthwynebiad i leoliad y llecyn agored. Ategwyd mai anodd felly fyddai gwrthod y
cais oherwydd bod y dystiolaeth yn groes i hyn. Nodwyd bod apêl
wedi ei gyflwyno gan yr ymgeisydd ar sail
diffyg penderfyniad gan y Pwyllgor, ac felly tynnwyd sylw mai cyfnod byr oedd gan
y Pwyllgor i wneud penderfyniad er mwyn osgoi apêl (hyn yn unol â threfniadau’r Arolygaeth Cynllunio).
Roedd y swyddogion yn parhau i
ystyried bod y bwriad yn dderbyniol o
safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol
perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.
(b) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol
gan yr aelod
lleol (nad oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-
·
Nad oedd yn anghytuno gyda’r egwyddor bod angen tai
ar y safle, ond nid yn ei ffurf bresennol. Lleoliad y llecyn chwarae yn achosi
pryder
·
Yr ymgeisydd wedi cael cyfle i addasu'r cynlluniau
yn unol â sylwadau a phryderon y Pwyllgor ar gymuned leol ond wedi dewis
anwybyddu hyn
·
Bod y llecyn agored wedi ei leoli ger y rheilffordd
ac er bod yr asiant yn nodi y byddai codi ffens atal dringo, byddai plant yn
darganfod ffordd o fynd drosodd neu o amgylch;
·
Bod y llecyn agored gerllaw is-orsaf nwy - y lleoliad yn peryglu diogelwch plant
·
Bod protest wedi ei chynnal yn lleol yn datgan bod
diogelwch plant yn bwysicach nac
adeiladu tai
·
Cynlluniau newydd wedi eu creu gan y gymuned leol
ond yr ymgeisydd heb dderbyn y gwahoddiad i drafod gyda hwy
·
Bod angen newid lleoliad y byngalo ar gyfer yr
anabl gan ei fod yn bell o’r ffordd fawr
·
Bod posib newid gosodiad y safle i gyd-fynd â
dymuniadau'r gymuned leol a sicrhau diogelwch plant sydd yn flaenoriaeth
bwysig;
·
Gofyn i’r Pwyllgor wrthwynebu’r cais oherwydd bod
lleoliad y llecyn agored yn bendant yn y lle anghywir a lleoliad y byngalo ar
gyfer yr anabl.
(c) Cynigwyd
ac eiliwyd i wrthod y cais oherwydd bod y llecyn agored mewn safle anaddas
gerllaw rheilffordd a pheipen nwy
(ch) Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y
Swyddogion:
·
Derbyn bod cefnogaeth i dai yn yr ardal
ac angen am dai fforddiadwy
·
Prif agwedd y gwrthwynebiad yw’r llecyn
agored. Ymgynghori ychwanegol wedi ei wneud gyda Wales and
West Utilities, Rheilffordd Eryri, Uned Rheolaeth
Adeiladu a Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch y Cyngor. Eu sylwadau yn dderbyniol
ac nid oeddynt yn gwrthwynebu’r datblygiad
·
Bod apêl eisoes wedi ei gyflwyno
oherwydd oediad i’r penderfyniad
·
Petai’r cais yn cael ei wrthod, byddai
gofyn i’r cynigydd a’r eilydd amddiffyn y Cyngor mewn apêl
·
Mai y cais gerbron oedd yn cael ei
drafod ac ni ddylai ystyried gwybodaeth / cynlluniau a gyflwynwyd gan
wrthwynebwyr. Pwysleisiwyd bod y cynllun gerbron yn cyd-fynd gyda pholisïau
lleol a chenedlaethol
·
Bod y llecyn agored yn fwy na’r hyn a oedd yn
ofynnol, felly roedd opsiwn i gael byffer a ffens yn ychwanegol i’r ffens a gynigir gan yr ymgeisydd;
(d) Mewn ymateb i sylw nad oedd yr ymgeisydd
wedi ail asesu'r cynllun yn unol â gofynion y Pwyllgor, nodwyd nad oedd
rheidrwydd iddynt asesu eu cynlluniau gan nad oedd unrhyw fater polisi yn gofyn
iddynt addasu
(dd) Yn ystod y drafodaeth
ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Bod yr elfen tai fforddiadwy i’w groesawu a
byddai’r datblygiad yn helpu i ddiogelu ysgolion a’r iaith Gymraeg;
·
Bod tai yn sicrhau dyfodol i blant a phobl leol
·
Bod modd lliniaru'r rhesymau gwrthod mewn dulliau
rhesymol
·
Gellid ystyried lleoliad arall o fewn y pentref ar
gyfer cae chwarae
·
Bod modd addysgu plant am bryderon y rheilffordd
·
Bod angen ystyried cynllun y gymuned a rhoi
blaenoriaeth i ddiogelwch plant
·
Awgrym i osod amod i symud y cae chwarae
·
Ni ellid derbyn bod hi’n dderbyniol cynnwys plant
mewn ardal o risg
(ff) Cynigiwyd ac
eiliwyd am bleidlais gofrestredig
Galwyd am bleidlais gofrestredig a phleidleisiodd mwy na chwarter yr
aelodau oedd yn bresennol o blaid hynny.
Yn unol â’r Rheolau Gweithdrefn, cofnodwyd y bleidlais ganlynol:-
PENDERFYNWYD gwrthod y cais oherwydd bod gosodiad y safle yn anaddas gyda’r llecyn agored yn y lleoliad
anghywir oherwydd ei agosatrwydd
at yr is orsaf nwy a’r rheilffordd a’r risg cysylltiedig i blant.
O blaid (7) : Y
Cynghorwyr Louise Hughes, Elin Walker Jones,
Eric Merfyn Jones,
Dilwyn Lloyd, Gareth A Roberts, Eirwyn Williams,
Gruffydd Williams
Yn erbyn (4) : Y
Cynghorwyr Stephen Churchman, Anne Lloyd Jones, Edgar Wyn
Owen, Cemlyn Williams
Yn atal (1) : Y Cynghorydd Huw Wyn Jones
Dogfennau ategol:
- Tir yng nghefn Tan y Celyn, Swn y Mor a Talardd, Llanwnda, Caernarfon, eitem 6. PDF 162 KB
- Cynlluniau, eitem 6. PDF 1 MB