Penderfyniad:
PENDERFYNWYD gwrthod y cais
Rhesymau:
Cofnod:
Estyniad deulawr
a)
Ymhelaethodd
y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais
gan nodi mai cais ydoedd
ar gyfer estyniad deulawr i dŷ
presennol fyddai’n ymestyn 3.6m o’r wal bresennol. Byddai elfen unllawr
i’r estyniad, gyda tho unllethr
ar ben deheuol y strwythur; yn 5.5m o hyd gyda 1.5m ohono’n
unllawr; yn
creu lolfa ychwanegol i lawr
grisiau ac ymestyn llofft bresennol a chreu ystafell ymolchi ychwanegol ar y llawr cyntaf.
Amlygwyd bod yr eiddo yn dŷ sylweddol yn sefyll ar
wahân mewn ardal anheddol o fewn ffin datblygu
Canolfan Gwasanaeth Lleol Nefyn. Ategwyd
bod y cais yn cael ei gyflwyno
i Bwyllgor ar gais yr
Aelod Lleol.
Cyfeiriwyd at bolisi AT 3 sydd yn anelu at amddiffyn
asedau treftadaeth nad ydynt
wedi’u dynodi, ond sydd o arwyddocâd lleol.
Cydnabyddir fod peth arwyddocâd hanesyddol i Garth Hudol o’i gysylltiad
llenyddol ac yn wir ei fod
yn adeilad nodedig a deniadol sy’n werthfawr o ran ei le yn y strydlun.
Er hynny, nodwyd bod graddfa eithaf bychan i’r
estyniad arfaethedig o’i gymharu â’r
tŷ ynghyd a dyluniad sydd yn
gweddu’n dderbyniol gyda’r gwreiddiol o safbwynt nodweddion megis siâp ac uchder
y to a maint a lleoliad y ffenestri. O ganlyniad, ystyriwyd bod y datblygiad yn sympathetig i’w amgylchedd adeiledig a, thrwy amodau priodol, gellid sicrhau’r defnydd o ddeunyddiau addas er sicrhau
cysondeb gyda’r tŷ gwreiddiol. Ategwyd nad oedd
yr adeilad yn rhestredig ac nid oedd yr
adeilad, na’i nodweddion, wedi eu hamddiffyn yn
statudol.
O ystyried y byddai’r estyniad i’r gorllewin
o eiddo drws nesaf, adroddwyd y byddai’n anorfod y bydd peth colled
goleuni i ffenestri Ceris yn deillio o’r
datblygiad yn enwedig yn hwyrach
yn y dydd. Er hynny, nodwyd
bod ffenestri ochr Ceris eisoes yn
edrych ar edrychiad ochr Garth Hudol ac, yn y bôn, effaith y datblygiad fyddai dod a 5.5m o’r
edrychiad ochr 3.6m yn agosach gyda
4m yn unig yn ddeulawr. Tynnwyd
sylw pellach at y ffaith y gall Garth Hudol gwblhau datblygiadau dan hawliau datblygiad
a ganiateir a fyddai’n galluogi codi strwythur
3m o uchder yn union ger y ffin gyda’r
cymdogion.
Cydnabuwyd y byddai peth niwed
mwynderol i eiddo Ceris o safbwynt
cysgodi a cholled goleuni, ond ni ystyriwyd y byddai’r effeithiau niweidiol hynny ynddo’u hunain yn ddigon arwyddocaol
o’u cymharu â’r sefyllfa bresennol
i gyfiawnhau gwrthod y cais. Mewn ymateb i
bryderon ynghylch yr effaith ar
breifatrwydd Ceris nodwyd y byddai’r ffenestri yn edrychiad
gogleddol yr estyniad yn edrych
dros ardd y cymdogion gyda gardd flaen Ceris
eisoes yn weladwy o’r ffordd
gerllaw. O ganlyniad, ni ystyriwyd
y byddai’r estyniad yn ychwanegu’n arwyddocaol at or-edrych dros ardaloedd allanol eiddo’r cymdogion.
Wedi pwyso a mesur y cais cynllunio
yn erbyn gofynion y polisïau lleol a chenedlaethol ynghyd a’r sylwadau
ar wrthwynebiadau a dderbyniwyd, ystyriwyd fod y bwriad yn
dderbyniol.
b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr
Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:
·
Bod
hanes ynghlwm a’r adeilad
·
Bod yr estyniad o faint sylweddol
·
Pryder
o effaith ar fwynderau pobl drws nesaf
·
Gorddatblygiad o’r safle
·
Yr estyniad o faint ‘tŷ
fforddiadwy’
c)
Cynigiwyd
ac eiliwyd i wrthod y cais, yn groes i’r
argymhelliad
ch) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Bod yr adeilad
yn un trawiadol gyda chysylltiadau hanesyddol
·
Byddai
unrhyw ychwanegiad yn cael effaith
ar fwynderau cymdogion
·
Byddai
estyniad yn newid cymeriad a golwg y tŷ
·
Yn
amharu ar oleuni tŷ drws nesaf - yn
rhy agos i Ceris
·
Yr
estyniad yn sylweddol ar dŷ
sydd eisoes yn sylweddol o ran maint
d) Mewn ymateb
i gwestiwn ynglŷn â hawl gwrthod estyniad ‘mwy niweidiol’ o dan hawliau ‘datblygiad a ganiateir’ nodwyd na
fyddai angen caniatâd cynllunio am estyniad fyddai’n mesur hyd at 3m o uchder.
PENDERFYNWYD: gwrthod y cais am y rhesymau isod;
·
Estyniad sylweddol yn newid gwedd
ac edrychiad y tŷ presennol gan gael effaith andwyol ar ei
gymeriad.
·
Agosatrwydd yr estyniad
arfaethedig yn cael effaith andwyol/niweidiol ar fwynderau'r
tŷ cyfochrog (Ceris) drwy dywyllu’r
ffenestri ochr
Dogfennau ategol: