Cais i newid
amodau 2 a 21 o ganiatad cynllunio C19/0014/19/LL er mwyn symud plot 14 a 29 a
symud modurdy plot 17, lleihau lefel slab plotiau 18 a 26 a tynnu rhan o'r
llwybr troed i'r 'hammerhead'
AELOD LLEOL: Cynghorydd Peter Garlick
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD: Caniatáu y cais yn ddarostyngedig i’r amodau isod:
1.
Amser
2.
Cydymffurfio gyda chynlluniau perthnasol a’r
holl adroddiadau
3.
Deunyddiau/llechi - manylion yn unol â’r hyn a gytunwyd o dan
C19/0994/19/AC
4.
Tirlunio a ffiniau'r safle - manylion yn unol â’r hyn a gytunwyd o dan
C19/0994/19/AC, C19/1082/19/RA ac C20/0226/19/RA
5.
Priffyrdd CEMP - manylion yn unol â’r hyn a gytunwyd o dan C19/0994/19/AC
6.
Draenio
7.
Bioamrywiaeth a rheoli effeithiau amgylcheddol - manylion yn unol â’r hyn a
gytunwyd o dan C19/0994/19/AC
8.
Archaeoleg - manylion yn unol â’r hyn a gytunwyd o dan C19/1082/19/RA
9.
Cynllun
Rheolaeth Adeiladu
10.
Tynnu
hawliau datblygu cyffredinol oddi ar y tai fforddiadwy
11.
Tynnu
hawliau datblygu cyffredinol oddi ar blotiau 14, 15, 16, 17 (gan gynnwys gosod
ffenestri ychwanegol a ffenestri to)
12.
Cytuno gwydr afloyw i ffenestr llofft sydd ar
gefn plot 14 a chytuno dull agor
13.
Enw
Cymraeg i’r stad a’r tai
14.
Manylion
ac amserlen gosod offer o fewn y llecyn agored.
15.
Cytuno ar drefniadau sicrhau tai fforddiadwy. - manylion yn unol â’r hyn a
gytunwyd o dan C19/0994/19/AC
Nodyn
SUDS
Cofnod:
Cais
i newid amodau 2 a 21 o ganiatâd cynllunio C19/0014/19/LL er mwyn symud plot 14
a 29 a symud modurdy plot 17, lleihau lefel slab plotiau 18 a 26 a thynnu rhan
o'r llwybr troed i'r 'hammerhead'
Tynnwyd sylw at
y ffurflen sylwadau hwyr
a) Ymhelaethodd
y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi mai cais ydoedd ar gyfer newid
amodau 2 a 21 o ganiatâd cynllunio C19/0014/19/LL. Adroddwyd bod caniatâd
cynllunio gwreiddiol C19/0014/19/LL ar gyfer codi 29 uned byw ynghyd â chreu
mynedfa gerbydol newydd, llecynnau parcio, gwaith tirlunio a chreu ardal
gyhoeddus agored.
Tynnwyd sylw bod
cais ar gyfer newid di-faterol ar gyfer y newidiadau gerbron wedi ei gyflwyno o
dan gyfeirnod C20/0198/19/DA ac wedi ei wrthod oherwydd bod symud plot 14 yn
debygol o gael effaith ar eiddo cyfagos sydd angen ei asesu fel rhan o gais
ffurfiol. Nodir fod gweddill y newidiadau yn ddi-faterol ac yn destun y cais
yma o ran hwylustod delio gyda’r holl faterion gyda’i gilydd.
Atgoffwyd
yr Aelodau bod yr egwyddor o ddatblygu’r safle yma eisoes wedi derbyn caniatâd
cynllunio o dan C19/0014/19/LL, ac nad oedd y newidiadau i’r bwriad gerbron yn
cael unrhyw effaith ar leoliad, cyfanswm nifer, y canran o dai fforddiadwy,
cymysgedd tai na chynllun cyffredinol y safle ac felly ystyriwyd fod y bwriad
yn parhau i gydymffurfio gyda gofynion polisïau PS 16, PS 17, PCYFF 1, TAI 3 a
TAI 15 o'r CDLL fel y cadarnhawyd yn y cais blaenorol. Ategwyd bod y gwaith
adeiladu eisoes wedi dechrau ar y safle
Amlygwyd
bod y bwriad yn golygu symud plot 14 oddeutu 1m yn agosach i blot 15 (sydd
union ddrws nesaf) er mwyn pellhau’r eiddo oddi wrth y gwrych sy’n ffinio o
gwmpas y safle i gyd. Cyfeiriwyd at
eiddo ‘Tywyn’ sydd wedi ei leoli gydag ochr y safle ac yn ffinio a chefnau plotiau 14, 15 ac 16,
gyda chefn plot 14 yn wynebu gardd gefn Tywyn. Byddai symud plot 14 fel y
cynigir yn y cais yma yn golygu y byddai’r ffenestr oriel ar gefn eiddo plot 14
yn edrych dros ran fechan o gornel ben draw ardd gefn eiddo Tywyn. Ystyriwyd
fod yr ardal yma mor fychan â chan ei fod wedi ei leoli o fewn cornel ym mhen
draw’r ardd (sydd yn ardd eang ac oddi wrth y rhannau union gerllaw tŷ
‘Tywyn’) ni ystyriwyd y byddai’n cael effaith andwyol sylweddol ar breifatrwydd
eiddo Tywyn. Amlygwyd bod perchennog Tywyn yn gwrthwynebu’r bwriad ar sail
unrhyw or-edrych dros ei eiddo. Er hynny, yn yr achos yma ystyriwyd fod y
goredrych posib yn lleiafrifol ac o’i gymharu â’r ardal eang o ardd eiddo
Tywyn, nad yw’n cael ei effeithio - ni fyddai’n rhesymol i wrthod y bwriad ar y
sail yma. Nodwyd mai lleoliad eiddo plot 14 o fewn y plot yn unig oedd yn
destun y cais, ac mae ei ddyluniad a lefel llawr yn unol â’r hyn sydd eisoes
wedi ei ganiatáu o dan y cais blaenorol. Cadarnhawyd nad oedd unrhyw newid i
leoliad y plotiau eraill sydd wedi eu lleoli ar hyd y terfyn yma gydag eiddo
‘Tywyn’.
Eglurwyd
bod yr asesiad wedi rhoi ystyriaeth lawn i’r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn
ystod cyfnod ymgynghoriad cyhoeddus y cais. Ni ystyriwyd fod unrhyw
wrthwynebiad cynllunio materol wedi’i gynnig oedd yn gorbwyso’r polisïau
cynllunio perthnasol a nodwyd yn yr asesiad ac felly ystyriwyd bod y cynnig yn
cwrdd â gofynion perthnasol y polisïau lleol a chenedlaethol.
b) Cynigiwyd
ac eiliwyd i ganiatáu y cais
c) Yn
ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol gan aelodau:
·
Sylw bod angen i’r perchennog fod yn hapus gyda’r
addasiadau
PENDERFYNWYD
caniatáu y cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:
1. Amser
2.
Cydymffurfio gyda
chynlluniau perthnasol a’r holl adroddiadau
3.
Deunyddiau/llechi - manylion yn unol â’r hyn a gytunwyd o dan
C19/0994/19/AC
4.
Tirlunio a ffiniau'r safle - manylion yn unol â’r hyn a gytunwyd o dan
C19/0994/19/AC, C19/1082/19/RA ac C20/0226/19/RA
5.
Priffyrdd CEMP - manylion yn unol â’r hyn a gytunwyd o dan C19/0994/19/AC
6.
Draenio
7.
Bioamrywiaeth a rheoli effeithiau amgylcheddol - manylion yn unol â’r hyn a
gytunwyd o dan C19/0994/19/AC
8.
Archaeoleg - manylion yn unol â’r hyn a gytunwyd o dan C19/1082/19/RA
9.
Cynllun Rheolaeth Adeiladu
10.
Tynnu hawliau datblygu cyffredinol oddi ar y tai
fforddiadwy
11.
Tynnu hawliau datblygu cyffredinol oddi ar blotiau
14, 15, 16, 17 (gan gynnwys gosod ffenestri ychwanegol a ffenestri to)
12. Cytuno gwydr afloyw i ffenestr llofft sydd
ar gefn plot 14 a chytuno dull agor
13. Enw Cymraeg i’r stad a’r tai
14. Manylion ac amserlen gosod offer o fewn y
llecyn agored.
15. Cytuno ar drefniadau sicrhau tai fforddiadwy
- manylion yn unol â’r hyn a gytunwyd o dan C19/0994/19/AC
Nodyn
SUDS
Dogfennau ategol: