Bwriad
i greu 6 fflat gwyliau i'w gosod drwy drosi ac ymestyn y prif adeilad a
dymchwel yr annedd presennol i'r cefn o'r safle a codi blociau llety newydd yn
ei le
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Dewi Roberts
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Gwrthod y cais
Rhesymau:
Cofnod:
Dymchwel adeilad presennol
ac adeiladu 6 tŷ preswyl newydd
Tynnwyd
sylw at y ffurflen sylwadau hwyr.
a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan
nodi mai cais ydoedd i greu 6 fflat gwyliau hunangynhaliol. Byddai 3 uned wyliau hunangynhaliol yn cael
eu creu drwy drosi ac ymestyn y gwesty/bwyty presennol a byddai’r 3 uned arall
yn cael eu creu trwy ddymchwel yr annedd bychan yng nghefn y safle a chael
gwared â charafán sefydlog a chodi adeilad deulawr ac unllawr newydd yn eu lle.
Eglurwyd bod defnydd presennol y safle yn cynnwys gwesty 5 ystafell wely a
bwyty mewn adeilad traddodiadol a sylweddol ei faint a thŷ annedd bychan a
charafán ar gyfer defnydd staff y gwesty yng nghefn y safle.
Adroddwyd bod y
bwriad yn annerbyniol oherwydd ei raddfa, colled o dŷ o’r stoc dai,
lleoliad y safle o fewn ardal breswyl a bod gormodedd o’r math yma o lety yn yr
ardal ble mae 42.29% o’r stoc dai yn ail gartrefi. Ystyriwyd y bwriad yn groes i feini prawf ii,
iii, iv a v o bolisi TWR 2 o’r CDLl (gan na fyddai’n creu datblygiad o ansawdd
uchel o ran dyluniad, gosodiad na lleoliad) a hefyd i Ganllaw Cynllunio Atodol:
Llety Gwyliau (Gorffennaf, 2011)
Yng nghyd-destun
materion ieithyddol, nid oes gofyn cyflwyno Datganiad Iaith Gymraeg o dan
Bolisi PS1 CDLL. Fodd bynnag, yn unol
gyda chynnwys y Canllaw Cynllunio Atodol: Cynnal a Chreu Cymunedau Nodedig a
Chynaliadwy anogir ymgeisydd i gyflwyno cofnod am sut y rhoddwyd ystyriaeth i’r
iaith Gymraeg wrth lunio’r cais cynllunio.
Mae barn gryno’r Uned Iaith yn datgan eu bod yn
anghytuno gyda chasgliadau'r datganiad ieithyddol a gyflwynwyd gan nodi y
byddai effaith negyddol yn fwy tebygol oherwydd ei fod yn ddatblygiad unedau
gwyliau yn hytrach na chyfrannu at stoc dai sefydlog mewn ardal ble mae’r
Gymraeg yn fregus. Derbyniwyd sylwadau y byddai cwmni lleol yn cael cytundeb
iaith, y byddai enwau Cymraeg ar yr unedau, yn gosod arwyddion dwyieithog ac y
byddai unedau gwyliau o bosib yn gallu arwain pobl i gefnogi busnesau lleol
wrth ymweld gyda’r ardal. Fodd bynnag
roedd yr Uned Iaith o’r farn nad oedd y datganiad a gyflwynwyd yn dangos unrhyw
ddealltwriaeth o sefyllfa ieithyddol yr ardal leol. Gan fod gwrthwynebiad
sylfaenol i’r bwriad nid yw’r swyddogion cynllunio wedi codi’r pryderon hyn
gydag asiant yr ymgeisydd gan na fyddai derbyn Datganiad Iaith ddiwygiedig yn
goresgyn y pryderon polisi eraill sydd wedi’u hamlygu yn yr asesiad.
Yng nghyd-destun mwynderau gweledol tynnwyd sylw at
ofynion y meini prawf ac ystyriwyd nad oedd y bwriad yn ychwanegu at, nac yn
gwella cymeriad ac ymddangosiad y safle, yr adeilad na’r ardal o ran ei
osodiad, ymddangosiad, graddfa, uchder a mas.
Ystyriwyd y byddai’n creu nodwedd ymwthiol a dominyddol i gefn y safle.
Wrth ystyried materion cyffredinol a phreswyl nodwyd y byddai’r bwriad yn
achosi niwed andwyol sylweddol i ddeiliaid tai cyfagos ynghyd a defnyddwyr yr
unedau gwyliau eu hunain ar sail mwy o weithgareddau, aflonyddwch, sŵn,
gor-edrych a cholled o breifatrwydd. Y bwriad felly yn groes i faen prawf 7 o
Bolisi PCYFF 2 CDLL.
Amlygwyd bod yr Uned Drafnidiaeth hefyd yn nodi nad
yw'r ddarpariaeth barcio ar y safle yn ddigonol i wasanaethau’r bwriad a'i fod
yn arwain at barcio ar y stryd a hynny mewn pentref ble mae’r ddarpariaeth
parcio eisoes dan bwysau yn arbennig yn ystod y tymor gwyliau.
b)
Cynigiwyd ac eiliwyd i wrthod y cais
PENDERFYNWYD:
Gwrthod y cais
Rhesymau:
1.
Mae’r bwriad yn
annerbyniol oherwydd ei raddfa, colled o dŷ o’r stoc dai, lleoliad y safle
o fewn ardal breswyl a bod gormodedd o’r math yma o lety yn yr ardal gyda
42.29% o’r stoc dai yn ail gartrefi.
Ystyrir y bwriad felly yn groes i feini prawf ii, iii, iv a v o bolisi
TWR 2 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn. O ganlyniad i hyn ni ystyrir y byddai’r
bwriad yn creu datblygiad o ansawdd uchel o ran dyluniad, gosodiad na lleoliad
a'i fod felly yn groes i ofynion polisi TWR 2 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y
Cyd Gwynedd a Môn a hefyd i Ganllaw Cynllunio Atodol: Llety Gwyliau
(Gorffennaf, 2011)
2. Nid
yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi ei argyhoeddi y byddai’r mesurau fel
arwyddion dwyieithog ac enwau Cymraeg yn fesurau lliniaru digonol o ran gwella
a chyfrannu yn bositif tuag at yr Iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig mewn
ardal sydd o dan bwysau eisoes o ran sgiliau ieithyddol ynghyd ac ailgartrefi /
unedau gwyliau. Ar sail y wybodaeth sydd
wedi ei dderbyn, ystyrir fod y bwriad felly yn groes i bwynt 3 polisi PS 1 CDLL
gan fod y bwriad yn debygol o achosi niwed i gymeriad a chydbwysedd iaith y
gymuned mewn modd na ellir osgoi neu ei liniaru yn foddhaol.
3. Ni
fyddai’r bwriad yn ychwanegu at nac yn gwella cymeriad ac ymddangosiad y safle
na’r ardal o ran ei osodiad, ymddangosiad, graddfa, uchder a mas ac y byddai’n
creu nodwedd ymwthiol a dominyddol ar eiddo cyfagos ac nad ydyw felly yn parchu
cyd-destun y safle. Ystyrir y bwriad
felly yn groes i feini prawf 1 a 2 o Bolisi PCYFF 3 Cynllun Datblygu Lleol ar y
Cyd Gwynedd a Môn.
4. Byddai’r bwriad yn achosi niwed andwyol
sylweddol i ddeiliaid tai cyfagos ynghyd a defnyddwyr yr unedau gwyliau ar sail
mwy o weithgareddau, aflonyddwch, sŵn, gor-edrych a cholled o breifatrwydd
ac mae’r bwriad felly yn groes i faen prawf 7 o Bolisi PCYFF 2 Cynllun Datblygu
Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn.
5. Nid
yw’r ddarpariaeth barcio ar y safle yn ddigonol i wasanaethu’r bwriad ac mae’n
debygol felly y bydd y bwriad yn arwain at barcio ar y stryd a hynny mewn
pentref ble mae’r ddarpariaeth parcio o dan bwysau yn arbennig yn ystod y tymor
gwyliau gan amharu ar ddiogelwch ffyrdd ac felly yn groes i ofynion Polisi TRA
2 a TRA 4 CDLL
Dogfennau ategol: