Estyniadau
a newidiadau i dŷ presennol.
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Gareth T Jones
Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol
Penderfyniad:
Gohirio
Cofnod:
Estyniadau a newidiadau i dŷ presennol.
a) Ymhelaethodd yr Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu
ar gefndir y cais gan nodi
bod sawl elfen i’r
cais ar gyfer
estyniadau ac addasiadau i dŷ deulawr
presennol
·
Codi
estyniad llawr cyntaf ar flaen yr annedd
·
Newid estyniad llawr
gwaelod ar flaen / ochr yr
eiddo i gael
to gyda “hip” yn hytrach na tho
gyda thalcen
·
Dymchwel y simdde
·
Codi estyniad llawr cyntaf ar gefn
yr eiddo
·
Amnewid dau estyniad
unllawr cefn to brig presennol gydag estyniad to fflat - byddai’r estyniad newydd yn ymestyn
1.2m ymhellach i’r cefn na’r estyniad
presennol
·
Creu balconi ar
ben yr estyniad to fflat gyda wal
wydr o’i amgylch a sgrin 1.8m o uchder
Eglurwyd bod yr eiddo yn dŷ
ar wahân mewn ardal anheddol
o fewn ffin datblygu Morfa Nefyn, yn cefnu
ar gaeau glas cefn gwlad
agored gyda chefnau'r tai i’w gweld o’r brif
lôn rhwng Morfa Nefyn ac Edern.
Trafodwyd yr addasiadau bwriadedig
drwy gyfeirio at y cynlluniau a oedd
yn cymharu’r agweddau presennol gyda’r dymunol. Eglurwyd bod y cynlluniau yn manylu ar
y cymariaethau gan fod yr asiant
yn ceisio ymateb
i sylwadau a dderbyniwyd gan y Cyngor Tref a sylwadau o’r ymgynghoriad
cyhoeddus bod y datblygiad yn or ddatblygiad o’r safle. Amlygwyd
nad oedd
maint y bwriad yn cynyddu’r safle
yn sylweddol.
Tynnwyd sylw at fwynderau cyffredinol a phreswyl gan nodi bod argymhelliad
i osod amod
i sicrhau sgrin i atal
gwelededd o’r balconi. Adroddwyd bod cymysgedd tai a dyluniadau yn yr ardal
anheddol a chyfeiriwyd at bolisïau PCYFF3 sydd yn asesu
materion dylunio, deunyddiau ac effaith gweledol unrhyw ddatblygiad a PCYFF2 sydd yn asesu effaith
andwyol sylweddol iechyd, diogelwch neu fwynderau meddianwyr
eiddo lleol.
Ystyriwyd bod y cais cynllunio yn cwrdd gyda
gofynion polisi cynllunio lleol a chenedlaethol.
b)
Yn
manteisio ar yr hawl i
siarad nododd asiant ar ran yr
ymgeisydd y wybodaeth gefndirol a’r cyfiawnhad
dros y dyluniad.
·
Yn
gais am; 1. Adfywio a chreu cartref parhaol yn unol â ‘safonau
cartref oes’ 2. gwelliannau thermol
a thrwsio problemau gollwng dŵr, 3. Uchafu goleuni naturiol 4. Ail-siapio'r ffasâd plaen a digymeriad a chynnig wyneb o ansawdd uchel fyddai’n adlewyrchu nodweddion lleol.
·
Cyflwyno
cyfuniad gwell o ddeunyddiau yn hytrach na’r gorffeniad
presennol
·
Cynhaliwyd
dadansoddiad llawn er mwyn sefydlu’r
nodweddion sydd yn cynnig cyfraniad
positif i hunaniaeth y pentref ac yn ogystal i
gymeriad brodorol yr ardal. Defnyddiwyd
y wybodaeth i ffurfio’r cynigion dan sylw.
·
Er
bod yr eiddo i'w weld yn glir
o Lôn Las, ni ystyriwyd fod y cynigion yn cyfrannu
at effaith negyddol, ond i'r gwrthwyneb
byddai’r dyluniad yn cynnig gwelliant
sylweddol
·
Byddai’r
newid mwyaf nodedig ar yr
edrychiad cefn sef to fflat a balconi gyda gorchudd
gwair sedwm ynghyd a chynnydd mewn arwynebedd gwydr - yn cynnwys
wyneb tebyg i’r hyn sydd
wedi ei ganiatáu
gerllaw.
·
Bod y bwriad yn gofyn am ganiatâd
i gynyddu'r arwynebedd llawr 14%, sydd yn sylweddol
is na phrosiectau
tebyg sydd wedi ei ganiatáu
yn ddiweddar.
·
Bod y dyluniad wedi ei ddatblygu
yn sympathetig gan ail-ddefnyddio rhannau o'r eiddo
sydd wedi ei ddatblygu yn
barod yn hytrach na
defnyddio mwy o'r cwrtil.
·
Mewn
ymateb i bryderon ynghylch 'gorddatblygu', ystyriwyd nad yw’r
cynnydd o 14% yn gyfystyr â gorddatblygu. Nodwyd bod y cynigion yn sylweddol is na'r cynnydd cyfartalog
sydd wedi ei ganiatáu yn
yr ardal dros y misoedd diwethaf.
·
Gan
ystyried bod y cynigion yn defnyddio tir
a ddatblygwyd yn flaenorol, bydd arwynebedd gros y cwrtil ond yn
gostwng 35 metr sgwâr (sy’n ostyngiad
o lai na 1%) - hyn yn dystiolaeth
bellach nad yw’r bwriad yn
or-ddatblygiad o’r eiddo.
b)
Yn
manteisio ar yr hawl i
siarad nododd yr Aelod Lleol
y pwyntiau canlynol:
·
Bod y tŷ yn dŷ deulawr,
4 llofft, sylweddol ei faint - yn fodern
a digonol
·
Blaen
y tŷ yn cydweddu tai cyfagos, ond y cefn yn
wahanol iawn i bob tŷ arall
ar Lon Las - nid oes yr un gyda
balconi
·
Y balconi a llawer o’r estyniad
cefn yn wydr,
yn sefyll allan ac i’w weld yn glir – yn
ddolur llygad
·
Derbyn
bod tai eraill gyda balconi, ond rhain
yn llai amlwg
ac yn anymwthiol
·
Pryder
am effaith y newid ar fwynderau'r tai cyfagos - byddai angen sgrin uchel
a hyll i sicrhau preifatrwydd
·
Dim ‘peth goredrych‘ fel y nodir yn yr
adroddiad ond ‘goredrych sylweddol’ dros eiddo cymdogion
– sgrin neu beidio
·
Byddai
sgrin yn annhebygol o wrthsefyll gwyntoedd cryfion
·
Byddai’r
datblygiad yn orddatblygiad ac yn achosi niwed arwyddocaol
sylweddol
·
Cais
i’w wrthod oherwydd nodweddion ymwthiol.
ch) Cynigiwyd ac eiliwyd i wrthod
y cais ar sail effaith ar fwynderau
pobl gyfagos a bod y bwriad yn orddatblygiad
o’r safle
c) Yn ystod
y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol
gan aelodau:
·
Bod y bwriad yn orddatblygad o’r safle
·
Byddai’n
effeithio ar fwynderau gweledol
·
Bod angen cymryd sylw o bryderon
lleol
·
Bod gosod sgrin yn amhriodol
·
Bod yr addasiadau
yn tacluso’r adeilad presennol er nad yw’r
dyluniad yn briodol
·
Dim problem gyda’r estyniadau, ond y balconi yn creu
effaith ar gymdogion
dd) Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â chynnal trafodaethau pellach gyda’r ymgeisydd i drafod
nodweddion y balconi, nododd y Rheolwr Cynllunio bod y balconi yn rhan o’r
cynllun gerbron ac er bod posib cynnal
trafodaethau pellach ynglŷn â’r balconi ni fydd
ai hyn yn
datrys y gwrthwynebiadau / sylwadau eraill a ddaeth i law.
d)
Cynigiwyd
ac eiliwyd gwelliant i’r cynnig i
ohirio’r penderfyniad fel bod modd cael
gwell dealltwriaeth o effaith y balconi a chynnal trafodaethau pellach gyda’r ymgeisydd am y balconi.
PENDERFYNWYD:
Gohirio
· mwy o wybodaeth ei angen am effaith y balconi
· trafod
gyda’r ymgeisydd i weld os oes modd tynnu’r balconi o’r cynlluniau
Dogfennau ategol: