Cais
i ddiwygio amodau 2 a 13 o ganiatâd cynllunio C14/0248/03/LL yn ymwneud a
gosodiad y safle a dyluniad tai
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Linda Ann W Jones
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl
i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau
canlynol:
Nodiadau
COFNODION:
Cais i ddiwygio
amodau 2 a 13 o ganiatâd cynllunio C14/0248/03/LL yn ymwneud a gosodiad y safle a dyluniad tai
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr.
a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir
y cais gan nodi mai cais
llawn ydoedd ar gyfer newid
amod 2 (cydymffurfio gyda chynlluniau) ac amod 13 (cwblhau’r lôn stad yn
unol â’r cynlluniau) o ganiatâd cynllunio C14/0248/03/LL. Amlygwyd
bod y safle wedi ei leoli yn
ardal Manod o Flaenau Ffestiniog ac oddi mewn i’r
ffin datblygu fel y’i cynhwysir
yn y CDLl.
Byddai’r cais
presennol yn newid rhai o agweddau’r
cais blaenorol a ganiatawyd sef addasu gosodiad a dyluniad 3 o’r tai marchnad agored a rhan o’r ffordd
stad. Nid oes bwriad i
newid y nifer, y math na’r cymysgedd tai i’r hyn sydd
eisoes wedi ei ganiatáu ag sy’n parhau yn
fyw.
Yng nghyd-destun
mwynderau gweledol, mwynderau cyffredinol a phreswyl, amlygwyd bod y cais yn golygu newidiadau
i edrychiadau’r tai marchnad agored yn unig ar
sail dyluniad. Nodwyd bod y
dyluniad yn parhau i fod
yn un cyfoes a bod hynny yn cael
ei wneud drwy addasu rhai
nodweddion ar yr edrychiad blaen.
Ategwyd, yn ogystal bydd yr eiddo ar blot 5 yn cael ei
osod rhywfaint yn ôl o fewn
y safle a bod y tai ar blotiau 3 a 4 yn newid gosodiad a ffurf. Ystyriwyd bod yr addasiadau hyn
yn dderbyniol gan nad yw’n
sylweddol wahanol i'r hyn a ganiatawyd
yn flaenorol ac na fyddai'n arwain
at fwy o effaith na'r hyn sydd
wedi ei gymeradwyo.
Ystyriwyd na fydd y bwriad yn
creu strwythurau anghydnaws o fewn yr ardal leol
ac y byddai’r tai yn eistedd yn gyfforddus
yn y tirlun.
O ganlyniad,
ystyriwyd bod
y bwriad yn dderbyniol ar sail gofynion polisi PCYFF 3 o’r CDLl, gofynion
polisi NCT 12: Dylunio, ac yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau
cynllunio lleol a chenedlaethol.
b)
Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais
c)
Mewn ymateb i
gwestiwn, nodwyd nad oedd sylwadau
wedi eu derbyn
gan y Cyngor Cymuned / Tref
PENDERFYNWYD:
Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr
Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:
1. 5 mlynedd
2. Yn unol â’r cynlluniau
3. Llechi fel deunydd to
4. Samplau o’r deunyddiau a’r lliwiau ar
gyfer yr adeiladau i’w cytuno
gyda’r ACLL
5. Amodau Priffyrdd ar gyfer
parcio/mynedfa
6. Tirlunio meddal a chaled.
7. Cytuno manylion parthed enw Cymraeg ar gyfer y datblygiad ynghyd ac arwyddion sy’n hysbysu ac yn hyrwyddo’r datblygiad
o fewn ac oddi allan y safle.
8. Tynnu hawliau datblygu cyffredinol yr unedau fforddiadwy.
9. Cyflwyno cynllun draenio cynhwysfawr ar gyfer y safle
10. Materion trefn gwaith/amser
gweithio
11. Amod blychau bywyd gwyllt
Nodiadau
1. NODYN: Rhaid dylunio ac adeiladu'r ffordd/ffyrdd stadau
a'r fynedfa'n unol ac 'Arweiniad Cymru Gyfan' (mae
copïau o'r ddogfen hon ar gael i ddylunio
ffyrdd a datblygiadau stadau gan yr
Adran Priffyrdd a Pheirianneg).
2. NODYN: Cyfarwyddir
yr ymgeisydd i ysgrifennu i'r
Rheolwr Gwaith Stryd i gael
hawl o dan Adran 171/184 o'r Ddeddf Priffyrdd 1980, i gario unrhyw
waith allan o fewn y palmant / ymyl glas sydd
yn angenrheidiol i adeiladu'r fynedfa.
3. Tynnir sylw'r ymgeisydd i lythyr Dwr
Cymru ddyddiedig 23/10/20 a'r angen i
sicrhau bod y datblygiad yn cydymffurfio â'r cyngor a gynhwysir
ynddo. Mae’r llythyr i’w weld o dan gyfeirnod y cais yma ar
dudalennau dilyn a darganfod ar safle
we’r Cyngor
4. Oherwydd maint a natur y datblygiad bydd angen darparu cais
i’r Corff Cymeradwy Systemau Draenio Cynaliadwy i’w gymeradwyo cyn dechrau’r gwaith
adeiladu. Rhaid i’r systemau
hyn gael eu cymeradwyo gan
Gyngor Gwynedd yn ei rôl fel
Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy cyn y bydd gwaith adeiladu’n
dechrau.
5. NODYN: Cyfarwyddir
i’r ymgeisydd arwyddo Cytundeb 38 Deddf Priffyrdd 1980 gyda’r Cyngor os yw’n bwriadu’r ffordd gael ei mabwysiadu
6. NODYN: Tynnir
sylw'r ymgeisydd at ofynion cytundeb 106 ynghlwm a chaniatâd cynllunio C14/0248/03/LL a’r angen i sicrhau
fod y datblygiad yn gwbl unol
a manylion y cytundeb cyfreithiol yma.
1. Nodyn Bioamrywiaeth
Dogfennau ategol: