Cais
o dan A.73 i diddymu amod 2 (cyfyngiad amser) ac amrywio amod 3 (cynlluniau
wedi eu diweddaru ar gyfer symud deunydd, adfer ac ôl-ofal y safle) ar ganiatad
cynllunio C99M/0105/03/MW ar gyfer symud deunydd o ddyddodion gweithio mwynau
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Annwen Daniels
Penderfyniad:
Dirprwyo'r hawl i
Bennaeth Cynorthwyol yr Adran i gymeradwyo'r cais, yn ddarostyngedig i'r newid
isod i Amod 2 a 3 ar ganiatâd cynllunio C99M/0105/03/MW, i adlewyrchu'r tunelli
o fwynau wrth gefn sydd ar gael yn ardal y cais:
Daw'r gwaith o echdynnu
gwastraff a'r gweithrediadau ategol i ben erbyn 31/12/2058. Erbyn y dyddiad
hwnnw, bydd yr holl beiriannau, adeiladau a strwythurau sy'n perthyn i, neu
wedi eu lleoli o ganlyniad i'r caniatâd cynllunio hwn yn cael eu tynnu erbyn y
dyddiad hwnnw. Bydd gwaith adfer y safle
wedi ei gwblhau erbyn 31/12/2060.
Oni bai bod angen
hynny gan amod cynllunio neu gytundeb ysgrifenedig gan yr awdurdod cynllunio
lleol, bydd y datblygiad yn cael ei gwblhau yn unol â manylion Lluniadau'r cais
yn unig, Cyfeirnod ’19-404-D-002, 19-404-D-002’ a gwybodaeth ategol sydd wedi'i
chofrestru â'r awdurdod ar 27 Tachwedd 2020, Strategaeth Adfer ac Ôl-ofal a
gofrestrwyd ar 29 Rhagfyr 2020, a'r Datganiad Achos Cynllunio a gofrestrwyd ar
21 Ionawr 2021 ac unrhyw fanylion eraill o'r fath a gaiff eu cymeradwyo'n
ysgrifenedig wedi hynny gan yr awdurdod cynllunio mwynau.
Bydd y datblygiad
yn ddarostyngedig i'r un atodlen o amodau dan y caniatâd cynllunio blaenorol
C99M/0105/03/MW i reoli sŵn, llwch a gwarchod yr amgylchedd dŵr. Fodd
bynnag, diweddarwyd yr atodlen amodau gyda chytundeb yr ymgeisydd, fel a ganlyn
yn unol â'r
cynllun adfer ac ôl-ofal a gyflwynwyd
Nodyn i'r ymgeisydd yn ei
gynghori y dylai'r llwybrau cyhoeddus barhau yn agored ac i gysylltu â Hawliau
Tramwy Gwynedd pe cyfyd unrhyw broblemau.
Ymateb ymgynghoriad Cyfoeth
Naturiol Cymru i'w atodi i'r daflen penderfyniad, yn cynghori y dylid cysylltu
â hwy yn uniongyrchol mewn perthynas â'r rheolaethau amgylcheddol a gweithredol
penodol a'r ddarpariaeth o wasanaeth o fewn eu cylch gwaith.
COFNODION:
Tynnwyd sylw at y
ffurflen sylwadau hwyr.
a)
Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Cynllunio
Mwynau a Gwastraff ar gefndir y cais gan nodi mai cais ydoedd i ddiwygio amodau
ar ganiatâd presennol i ymestyn oes gwaith mwynau a symud deunydd o ddyddodion
gweithio mwynau o waith mwynau Maenofferen, Chwarel Llechwedd. Nodwyd bod y
Chwarel yn ymestyn dros 8.3 hectar o dir gweithredol ac wedi'i leoli i'r
gogledd o Flaenau Ffestiniog ar gefnffordd yr A470 tuag at Foel Bowydd a Ffridd
y Bwlch.
Eglurwyd, yn dilyn trafodaeth bellach
gyda’r ymgeisydd, cytunwyd
bod rhaid, gydag unrhyw
gais am ganiatâd cynllunio adlewyrchu’r tunelledd o ddeunydd sydd ar gael. Yn seiliedig ar lefel allbwn cyfredol,
rhagwelwyd y bydd oddeutu 3.4 miliwn tunnell o lechi ar gael
yn sicrhau cronfa wrth gefn o ddeunydd gweithiadwy am hyd at 40 mlynedd.
Cytunwyd amrywio cyfyngiad amser yr amodau presennol i sicrhau caniatâd hyd at
2058 gyda dwy flynedd ychwanegol i gwblhau cynllun adfer.
Eglurwyd bod y domen wedi ei gweithio ers
oddeutu 1999 ac fe’i disgrifwiyd fel un nad oedd yn
cynnwys gorlwyth a baw ac felly yn gynnyrch defnyddiol. Amlygwyd bod y cais yn
cynnwys cynllun adfer cyfnodol, cynhwysfawr fydd yn sicrhau bod y safle yn cael
ei adfer i gyfuniad o brysgwydd Coed Derw Uwchdirol/cymuned arloesol ynghyd a
phrysglwyni ymylon rhostir/coetir fydd yn gweithredu fel cymuned fagu. Ategwyd
y byddai amcanion allweddol y cynllun adfer yn cyfannu/cydweddu’r safle yn ei
amgylchedd; yn gwella bioamrywiaeth a chryfhau patrwm y tirlun gan gyd-fynd â'r
amcanion a amlinellwyd yn yr asesiadau cymeriad y
tirlun.
O ystyried y gweithfeydd o amgylch yr
ardal ynghyd a’r gwaith sydd wedi digwydd yno yn barod, ni
ystyriwyd y bydd fawr o newid i gymeriad yr ardal o symud y domen yng
nghyd-destun mwynderau gweledol. Ni ystyriwyd y bydd effaith andwyol ar y
dirwedd, na’r Parc Cenedlaethol nac effaith sylweddol ar
Dirwedd Hanesyddol Ffestiniog na lleoliad Safle
Treftadaeth y Byd Arfaethedig.
Tynnwyd sylw at
sylwadau hwyr gan yr Uned HawliauTramwy ynglŷn a Llwybr Cyhoeddus oedd yn
mynd drwy’r chwarel. Er nad oedd yr Uned yn gwrthwynebu’r datblygiad mewn
egwyddor, roeddynt yn argymell bod angen i’r llwybr gael ei ddiogelu yn ystod
ac yn dilyn cwblhau’r datblygiad arfaethedig. Argymhellwyd amod yn nodi y dylid
gosod arwyddion diogelwch ger trywydd y llwybr i rybuddio staff sydd yn
gweithredu ar y safle o leoliad y llwybr, a hefyd yn rhybuddio defnyddwyr y
llwybr o’r ffaith fod traffig y chwarel yn gweithredu ger/ar yr hawl tramwy.
Byddai angen cytuno ar gynnwys yr arwyddion hyn yn ysgrifenedig o fewn amser
penodol, ei lleoli ar safle a’i chadw mewn cyflwr derbyniol cyn ymgymryd ag
unrhyw waith datblygu pellach.
Adroddwyd nad oedd unrhyw faterion polisi cynllunio
arwyddocaol i gyfiawnhau gwrthod caniatâd cynllunio gyda’r materion sy’n
ymwneud â rheolaethau sŵn, aflonyddwch a llwch eisoes mewn bodolaeth i liniaru yn erbyn effeithiau amgylcheddol posib y
datblygiad. Y bwriad yw dyblygu’r amodau hyn. Nodwyd, bod yr ymgeisydd wedi
cytuno i gyfyngu ar yr oriau gweithredu presennol o '06:30awr - 20:00awr' i
'07:00awr - 19:00awr' er mwyn cydymffurfio gyda chanllawiau a ddarperir yn
Nodyn Cyngor Technegol MTAN1 i leihau lefelau sŵn yn ystod y dydd, yn
amodol ar gael peth hyblygrwydd ar gyfer gwaith cynnal a chadw hanfodol,
gwasanaethu, profi neu argyfyngau y tu allan i'r oriau hyn,
Mynegwyd
bod Polisi Cynllunio
Cymru hefyd yn hybu defnyddio deunyddiau
wedi'u hailgylchu lle fo'n bosib i leihau'r pwysau ar adnoddau sylfaenol. O ran
defnyddio defnydd cyflenwad amgen o ddefnydd e.e., gwastraff llechi sydd ar gael, mae’r egwyddor o symud y llechi yn dderbyniol yn sgil
anghenion lleol ac is ranbarthol. Cadarnhawyd bod y datblygiad yn cydymffurfio â meini
prawf cynaliadwyedd Polisi PS 22 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Ynys Môn a
Gwynedd, Meini Prawf Gweithio Mwynau MWYN 3, Polisi PCYFF 2 a Gofynion Adfer
Polisi MWYN 9.
b) Cynigiwyd
ac eiliwyd i ganiatáu y cais
PENDERFYNWYD:
Dirprwyo'r
hawl i Bennaeth Cynorthwyol yr Adran i gymeradwyo'r cais, yn ddarostyngedig i'r
newid isod i Amod 2 a 3 ar ganiatâd cynllunio
C99M/0105/03/MW, i adlewyrchu'r tunelli o fwynau wrth gefn sydd ar gael yn
ardal y cais:
Daw'r gwaith
o echdynnu gwastraff a'r gweithrediadau ategol i ben erbyn 31/12/2058. Erbyn y
dyddiad hwnnw, bydd yr holl beiriannau, adeiladau a strwythurau sy'n perthyn i,
neu wedi eu lleoli o ganlyniad i'r caniatâd cynllunio hwn yn cael eu tynnu
erbyn y dyddiad hwnnw. Bydd gwaith adfer
y safle wedi ei gwblhau erbyn 31/12/2060.
Oni
bai bod angen hynny gan amod cynllunio neu gytundeb ysgrifenedig gan yr
awdurdod cynllunio lleol, bydd y datblygiad yn cael ei gwblhau yn unol â
manylion Lluniadau'r cais yn unig, Cyfeirnod ’19-404-D-002, 19-404-D-002’ a
gwybodaeth ategol sydd wedi'i chofrestru â'r awdurdod ar 27 Tachwedd 2020,
Strategaeth Adfer ac Ôl-ofal a gofrestrwyd ar 29 Rhagfyr 2020, a'r Datganiad
Achos Cynllunio a gofrestrwyd ar 21 Ionawr 2021 ac unrhyw fanylion eraill o'r
fath a gaiff eu cymeradwyo'n ysgrifenedig wedi hynny gan yr awdurdod cynllunio
mwynau.
Bydd y
datblygiad yn ddarostyngedig i'r un atodlen o amodau
dan y caniatâd cynllunio blaenorol C99M/0105/03/MW i reoli sŵn, llwch a
gwarchod yr amgylchedd dŵr. Fodd bynnag, diweddarwyd yr atodlen amodau
gyda chytundeb yr ymgeisydd, fel a ganlyn
1.
Oriau gweithredu wedi'u haddasu i 07:00awr -
19:00awr, i adlewyrchu'r cyfyngiadau sŵn yn ystod y dydd yn MTAN1
2.
Bydd larymau bagio dull ymarferol gorau ac/neu
'sŵn gwyn' yn cael eu gosod ar beiriannau symudol a cherbydau a ddefnyddir
ar y safle.
3.
Tirffurf arfaethedig, a chynllun adfer graddol i
ffafrio prysgwydd Coed Derw Uwchdirol/cymuned arloesol gan gynnwys prysglwyni
ymylon rhostir/coetir,
yn unol â'r
cynllun adfer ac ôl-ofal a gyflwynwyd
4. Adolygiad gweithrediadau i gyd-fynd â'r
cynigion ôl-ofal a bydd yn cynnwys darpariaeth am gyfarfodydd ôl-ofal blynyddol
i drafod gofynion adfer a chynllun rheoli a monitro planhigion ymledol
5. Gwaith archeolegol i ddilyn yr
argymhellion i gofnodi'n briodol yn unol â'r cynllun archwilio archeolegol
gwreiddiol, fydd yn cael ei atodi i'r daflen penderfyniad.
6. Arwyddion llwybr cyhoeddus
Nodyn i'r
ymgeisydd yn ei gynghori y dylai'r llwybrau cyhoeddus barhau yn agored ac i
gysylltu â Hawliau Tramwy Gwynedd pe cyfyd unrhyw broblemau.
Ymateb
ymgynghoriad Cyfoeth Naturiol Cymru i'w atodi i'r daflen penderfyniad, yn
cynghori y dylid cysylltu â hwy yn uniongyrchol mewn perthynas â'r rheolaethau
amgylcheddol a gweithredol penodol a'r ddarpariaeth o wasanaeth o fewn eu cylch
gwaith.
Dogfennau ategol: