Dymchwel
storfa allanol bresennol, addasiadau i'r prif dŷ presennol ac estyniad
rhannol unllawr, rhannol deulawr i'r ochr a'r cefn i greu rhagor o ofod byw
Aelod
Lleol: Cynghorydd Gruffydd Williams
Penderfyniad:
Gohirio
er mwyn ystyried sylwadau’r Cydbwyllgor AHNE fel rhan o asesiad y swyddog
COFNODION:
Dymchwel storfa allanol bresennol, addasiadau i'r prif dŷ presennol ac estyniad rhannol unllawr, rhannol deulawr i'r ochr
a'r cefn i greu rhagor
o ofod byw
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr.
a) Amlygodd yr
Uwch Swyddog bod y cais yn un
i addasu ac ehangu’r eiddo presennol ac yn ail-ddyluniad o gynllun a wrthodwyd gan y Pwyllgor yn flaenorol
(C20/0022/42/DT). Nodwyd bod y cynllun
gerbron yn ymgais i ymateb
i’r rhesymau gwrthod a diwygiwyd y cynllun ymhellach mewn ymateb i
sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y broses ymgynghori.
Cyflwynwyd y cais
gerbron y Pwyllgor ar gais yr
aelod lleol.
Saif yr
eiddo ar lethrau Mynydd Nefyn mewn cefn
gwlad agored, oddeutu 340m i’r dwyrain o ffin ddatblygu Canolfan Gwasanaeth Lleol Nefyn a 50m y tu allan i Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn.
Eglurwyd y byddai’r
datblygiad yn cynnwys:
·
Dymchwel
adeilad allanol presennol ac adleoli wal gerrig er
mwyn creu safle parcio a lle troi
·
Dymchwel
estyniad deulawr cefn ac estyniad gwydr ochr
·
Codi estyniad deulawr cefn ar
ffurf cilgant gyda thair ffenestr
gromen yn yr edrychiad blaen
a ffenestri to yn yr edrychiad cefn
ynghyd a chodi estyniad unllawr gyda tho llechi
unllethr ar hyd ei flaen.
·
Gosod
balconi ar dalcen y tŷ presennol
Dangoswyd sleidiau yn amlygu
gosodiad y tŷ presennol, y cynllun a wrthodwyd ynghyd a chynlluniau diwygiedig ochr yn ochr.
Nodwyd bod graddfa a maint y bwriad wedi ei leihau,
ac er ei fod yn parhau
yn fawr, bod y ffenestri gromen yn adlewyrchu dyluniad
traddodiadol gyda’r porth yn lleihau
amlygrwydd y gwydr. Ategwyd bod yr ymgeisydd yn ymgeisio
i ymateb i bryderon blaenorol
y pwyllgor.
Wedi ystyried y sylwadau a’r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd, awgrymwyd bod y bwriad yn welliant
ar y cynllun a wrthodwyd yn flaenorol
o safbwynt ei effaith ar y tirlun
a’i fod yn
cwrdd gyda gofynion polisi cynllunio lleol a chenedlaethol.
b)
Yn
manteisio ar yr hawl i
siarad noddodd perthynas i’r ymgeisydd
y pwyntiau canlynol:
·
Bod yr ymgeiswyr
eisiau troi Tan y Mynydd yn gartref
teuluol parhaol ac wedi breuddwydio cael bod yn berchen
ar eiddo ym mhentref prydferth
Nefyn.
·
Treuliodd
yr ymgeisydd ei gwyliau cyntaf
yn Nefyn yn yr hen westy
ym Mhistyll, ac mae ei theulu wedi preswylio
ar Barc Gwyliau
Aberafon yn Nefyn ers hynny. Gyda theulu ym Morfa
Nefyn, yn aelodau oes o glwb
hwylio a chlwb golff Nefyn ac yn gwsmeriaid rheolaidd
yn yr hyn
oedd The Sportsman ers talwm. Maent erbyn
hyn yn gyfranddalwyr
Tafarn yr Heliwr, Nefyn.
·
Nid
cais am gartref gwyliau arall nac
am eiddo i’w rentu yw’r bwriad.
Hwn fydd eu cartref parhaol
– eu breuddwyd. Maent yn edrych
ymlaen at dreulio llawer mwy o flynyddoedd
yn y gymuned gyda'u plant a'u hwyrion.
·
Wrth
lunio'r cais roeddynt yn ymwybodol
iawn o harddwch y dirwedd a’r eiddo
cyfagos. Maent yn awyddus i'w
cartref ymdoddi i'r dirwedd ac wedi dewis defnyddio,
nid yn unig
adeiladwyr a masnachwyr lleol ond cyflenwadau
lleol hefyd.
·
Yn
sgil y pryderon a fynegwyd ar ôl
cyflwyno’r cais gwreiddiol, aethant i'r
afael â'r pryderon hynny yn ofalus gan
newid nifer o agweddau’r cynllun arfaethedig.
·
Mae'r
ymgeiswyr yn byw yng Nghymru
ers dros 30 mlynedd. Mae eu plant yn Gymry ac mae eu busnesau
wedi'u lleoli yng Ngogledd Cymru.
Maent yn cyflogi oddeutu 30 o bobl ac yn gwasanaethu'r gymuned leol.
·
Maent
yn angerddol iawn am Nefyn. Gydag atgofion melys a hapus o’r ardal-
maent yn gobeithio am lawer mwy! Nid ydynt eisiau
i’r tŷ fod yn ddolur
llygad - eu dymuniad yw creu
cartref hardd i'w rannu gyda
theulu a ffrindiau gan werthfawrogi'r hyn mae harddwch
Pen Llŷn yn
ei gynnig.
·
Mae Tan y Mynydd wedi sefyll yn
wag ac wedi dadfeilio dros y blynyddoedd diwethaf. Maent yn awyddus i’w
adfywio fel cartref rhyfeddol sy’n eistedd ar
ochr y mynydd ac sy'n gweddu i’r
cyffiniau.
c) Yn manteisio
ar yr hawl
i siarad nododd yr Aelod
Lleol y pwyntiau canlynol:
·
Mai ail gais ydoedd i ail wampio’r
tŷ
·
Er
‘mân addasiadau’ i’r cais gwreiddiol,
byddai’r adeilad yn amharu ar
adeiladau cyffiniol
·
Llywodraeth
Cymru yn pwysleisio’r angen i warchod yr
AHNE fel Parc Cenedlaethol - polisïau ynghlwm â’r AHNE yn gwarchod golygfeydd
i mewn ac allan o’r AHNE
·
Rhaid
gwarchod y tai traddodiadol
·
Rhaid
sicrhau nad oes niwed arwyddocaol
i olygfeydd - polisi A1
·
Cyfarfod
arbennig o gydbwyllgor yr ANHE wedi penderfynu
yn unfrydol i wrthod y cais
oherwydd niwed arwyddocaol ar osodiadau'r AHNE - sylwadau heb eu cynnwys
yn yr adroddiad
ac felly heb eu hystyried yn llawn
(wedi eu cynnwys ar y ffurflen
sylwadau hwyr)
·
Angen
ystyried Polisïau HP2 (Dwysedd Tai), HP3 (Datblygiad Tai
Newydd), HP4(Cynigion Tai)
HP6 (Anheddau yng nghefn gwlad agored)
a PP3 (Awyr Dywyll)
·
Byddai’r
bwriad yn gosod cynsail fyddai’n
creu effaith bellach ar yr
AHNE - os caniatáu, bydd y llifddorau yn agor i
geisiadau tebyg
·
Byddai
hyn yn ‘boneddigeiddio’r’
ardal
·
Gofyn
i’r Pwyllgor wrthod y cais ar
sail y polisïau a restrwyd i warchod yr
AHNE
d) Cynigwyd ac eiliwyd
i ohirio penderfyniad ar y cais fel bod modd
ystyried sylwadau’r Cydbwyllgor AHNE fel rhan o asesiad y swyddog
dd)
Mewn ymateb i’r cynnig,
nododd y Swyddog bod sylwadau’r Cydbwyllgor AHNE wedi eu cynnwys
ar y ffurflen sylwadau hwyr a ddosbarthwyd
21/5/21. Ategwyd bod y sylwadau
wedi cael eu hystyried yn
llawn, ond nad oedd
y sylwadau hynny yn ddigonol i
newid argymhelliad y Gwasanaeth Cynllunio.
PENDERFYNWYD: Gohirio er mwyn
ystyried sylwadau’r Cydbwyllgor AHNE fel rhan o asesiad y swyddog
Dogfennau ategol: