Trosi ty preswyl 3 llawr i
ddau fflat
Aelod Lleol: Cynghorydd Dylan
Bullard
Penderfyniad:
Dirprwyo’r
hawl i’r Pennaeth Cynorthwyol i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i dderbyn
asesiad canlyniadau llifogydd derbyniol, cymeradwyaeth CNC i’r asesiad
canlyniadau llifogydd
Amodau:
Nodyn:
Dŵr
Cymru
Gofynion
Deddf Wal Rhannol
Cofnod:
Trosi
tŷ preswyl 3 llawr i ddau fflat
Tynnwyd sylw at y
ffurflen sylwadau hwyr.
a) Amlygodd
y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer trosi eiddo preswyl presennol
i fod yn ddwy uned byw hunangynhaliol. Eglurwyd bod yr adeilad presennol, wedi
ei leoli o fewn ffin datblygu Pwllheli, yn un tri
llawr ac ar ben rhes o dai cyffelyb.
Yn
benodol mae'r gosodiad mewnol yn cynnig:
·
Uned Un
- Llawr daear
– cyntedd/mynediad wedi ei rannu, ystafell wely, lolfa, cegin, ystafell ymolchi
·
Uned Dau
- Llawr
cyntaf – lolfa/cegin, ystafell ymolchi, ystafell iwtiliti
- Ail lawr –
dwy ystafell wely
Nodwyd bod yr
asesiad yn un helaeth, yn amlygu tystiolaeth a
chyfiawnhad o’r angen, yn ogystal â’i fod yn cwrdd â gofynion polisi TAI 9 sydd
yn caniatáu isrannu eiddo presennol yn unedau llai heb yr angen am estyniadau
addasiadau allanol sylweddol. Amlygwyd
bod y datblygiad yn rhan o Gynllun Gweithredu Tai y Cyngor fyddai’n cael ei
ddefnyddio i gyfrannu at geisio cyfarfod yr angen am dai
i drigolion lleol ardal Pwllheli. Ategwyd bod cadarnhad o safbwynt y galw
cydnabyddedig am unedau o’r math a maint yma yn yr ardal. Byddai’r unedau yn
cael eu gosod i drigolion yn unol â pholisi gosod y Cyngor.
O safbwynt
mwynderau cyffredinol a phreswyl, eglurwyd bod y safle wedi ei leoli mewn man
prysur yn agos i ganol tref Pwllheli gyda thai annedd
o’i amgylch. Mae edrychiad blaen presennol yr adeilad yn edrych dros y ffordd
brysur gyhoeddus i'r blaen gyda bwriad o osod ffens 1.8m ar hyd ffiniau’r safle
er mwyn sicrhau fod mwynderau preswyl yn cael eu gwarchod. Nid oes newidiadau
allanol yn cael eu cynnal i’r adeilad ei hun fyddai’n creu unrhyw oredrych
uniongyrchol newydd neu yn fwy na’r sefyllfa bresennol.
Adroddwyd bod
pryder wedi ei amlygu am finiau fyddai yn cael eu cadw ar y tu blaen i’r
tŷ fyddai’n effeithio'r palmant a symudiadau presennol. Wrth gyfeirio at y
cynlluniau, bwriedig,
amlygwyd bod gofod penodol wedi ei ddynodi ar gyfer storio biniau yn yr iard
sydd yn ffurfio rhan o’r safle. Ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn achosi niwed
arwyddocaol i fwynderau’r gymdogaeth leol yn fwy na'r hyn a geir yn bresennol .
Yng nghyd-destun
materion trafnidiaeth a mynediad, adroddwyd nad oedd man parcio
presennol i'r tŷ ac na fwriedir cynnwys llecynnau i'r ddau fflat newydd
ychwaith. Adroddwyd bod llecynnau parcio di rwystr ar hyd rhan helaeth o’r
ffordd ynghyd a meysydd parcio cyhoeddus cymharol agos a chysylltiadau
trafnidiaeth gyhoeddus hwylus iawn. Ar y sail yma, ni
wrthwynebwyd y bwriad gan yr Uned Drafnidiaeth.
Cadarnhaodd yr
Uned Iaith fod yr unedau yn cael eu gosod ar rent cymdeithasol fforddiadwy fel
rhan o’r Cynllun Gweithredu Tai, sydd yn rhan o gynlluniau ehangach y Cyngor i
sicrhau cartrefi i drigolion y sir, a thrwy hynny gyfrannu at ddiogelu a hybu’r
iaith.
Amlygwyd bod y
safle yn rhannol o fewn parth llifogydd C1 fel y nodir ar fapiau cyngor
datblygu a ddaw gyda’r NCT15: Datblygu a Pherygl o Lifogydd. Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno asesiad o
ganlyniad llifogydd (ACLl) cyfyngedig yn unol â’r canllawiau a nodir yn Nhabl
A1.15 o NCT 15 a’r asesiad hwnnw wedi ei drafod gan Cyfoeth Naturiol Cymru -
cyfeiriwyd at yr ymateb yn y ffurflen sylwadau hwyr
Cydnabuwyd bod
pryder yn lleol wedi ei amlygu ynglŷn â defnydd yr unedau ac y byddant yn
cael eu gosod i unigolion bregus. Nid yw hyn yn ystyriaeth cynllunio
berthnasol. Eglurwyd bod defnydd preswyl wedi ei sefydlu ar y safle yn barod ac
ni ystyriwyd y byddai’r defnydd bwriedig yn dwysau
defnydd y safle i’r fath raddau ei fod yn cael effaith annerbyniol ar fwynderau
preswylwyr cyfagos na’r ardal yn ehangach.
Wedi trafod yr
holl faterion cynllunio perthnasol, gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a
chenedlaethol perthnasol ynghyd a’r holl sylwadau a dderbyniwyd, ystyriwyd fod
y bwriad yn dderbyniol ac yn unol gyda gofynion y polisïau perthnasol.
b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd cynrychiolydd
gwrthwynebwyr i’r cais y pwyntiau canlynol:
·
Bod arwydd yn hysbysu’r cais wedi ei leoli ar bostyn
yr ochor arall i’r stryd o rif 20, ac yn amhosib i’w
weld os yn cerdded am gyfeiriad pen llyn. Roedd postyn llawer iawn mwy amlwg
ychydig lathenni o’r eiddo ar yr un ochor o’r lon, ar
y pafin mae’r trigolion i gyd yn defnyddio. Yn ogystal, papur heb ei
lamineiddio oedd yr arwydd. Nid oedd yr hysbyseb yn weladwy ac er derbyn e-bost oddi
wrth swyddog cynllunio yn honni fod ‘lleoliad yr arwydd yn weladwy er mwyn
hysbysu’r bwriad.’
·
Dim ond pedwar llythyr a
yrrwyd, a hynny i’r cymdogion agosaf, rhifau 18, 19, 21 a 22. Yr adran wedi
ymddiheuro am beidio gyrru llythyrau i dai eraill
cyfagos ond beth oedd y rheswm am hyn? Dylai mwy o ymdrech fod wedi ei wneud i
gysylltu â phreswylwyr y teras sydd am gael eu
heffeithio gan y datblygiad.
·
Bod Cyngor Gwynedd wedi prynu rhif 20 cyn i’r eiddo
dderbyn caniatâd cynllunio i’w newid yn ddau fflat - hyn yn awgrymu eu bod yn
hyderus fod y cais am lwyddo, neu pam felly gwario arian cyhoeddus? Dylent fod
wedi pwyllo ac ystyried cael hawl cynllunio ar dir sy’n eiddo i’r Cyngor ger
Plas y Don yn hytrach na phrynu tŷ preifat neu
brynu tŷ Cyngor yn ôl.
·
Yn cydymdeimlo gyda phobl leol digartref sydd wedi
disgyn ar amser caled
·
Bod Pennaeth yr Adran Tai ac Eiddo wedi ceisio eu cysuro trwy ddweud mai ‘pobl
leol Pwllheli fydd yn cael blaenoriaeth bob amser’ i’r fflatiau yma, ond bod y
Polisi Tai yn bandio ymgeiswyr o un i bedwar yn ddibynnol ar eu hamgylchiadau (
band un - pobl sydd wedi eu cam-drin ac sydd mewn perygl o niwed. Heb newid
polisi yn gyfan gwbl, pobl fel hyn fydd yn cael eu cartrefu yn y fflatiau
·
Bod Cyngor Gwynedd am ‘gadw golwg ar y ddwy uned ‘-
sut? Nid oes gobaith cadw’r addewid yma. Pe byddai rhywun yn afreolus, pa mor hir fyddai’n cymryd i’w cael allan o’r fflat.
·
Bod llawer o bobl leol, ifanc Cymraeg yn byw yn y
teras - nifer ohonynt yn deuluoedd gyda phlant ifanc sydd wedi prynu eu tai. Bydd y rhain yn sicrhau Cymreictod i’r rhan yma o’r
dref fel yr ydym yn ei ddymuno, er lles y gymuned a’r iaith.
·
Bwriad Cyngor Gwynedd yw lleoli dwy fflat i’r digartref yng nghanol y cartrefi
hyn. Pa effaith fydd hyn yn gael ar brisiau eu tai?
Mae’r bwriad yn hollol anaddas.
·
Bod y ddau eiddo i’r gorllewin o rif 20, sef
21 a 22, mewn cyflwr gwael iawn, gyda thyllau enfawr yn eu toeau gyda cholomennod yn hedfan i mewn ac
allan. Pam bod Cyngor Gwynedd wedi prynu tŷ
ynghlwm a’r tai yma? A’r bwriad yw eu prynu yn rhad gan ychwanegu
fflatiau eraill i’r portffolio?
·
Anodd credu nad yw’r Adran Priffyrdd a Chyngor Tref Pwllheli
wedi gwrthwynebu’r cais - diffyg llefydd parcio yn chwerthinllyd, gyda thua 50
o dai yn ceisio am tua 20 lle parcio. Os yw’r Cyngor Tref yn gweld bod y
cynllun yn addas mewn ardal barchus o’r dref, duw a’n helpo ni.
·
Debyg bod gwrthwynebiadau llym i’r cynllun yn siomedig
iawn i’r Adran Cynllunio, gan ei fod yn amlwg eu bod yn gobeithio gwthio’r cais
drwodd yn ddistaw bach. Cywilydd mawr ar y ffordd maent wedi ymddwyn, ac am yr
hyn maent yn wneud i Bwllheli drwy gartrefu pobol mor
ddrwg yn ein gwestai.
c)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol
y pwyntiau canlynol:
·
Cytuno gyda’r angen i gartrefu’r digartref ond ansicr
os yw’r lleoliad yn addas / diogel
·
Nifer o deuluoedd lleol yn ysu am dai cymdeithasol ac
efallai angen ystyried eu teimladau am y prosiect
·
Os caniatáu, angen sicrwydd 100% bod y cyfeiriad yn
cael ei fonitro yn ddyddiol (er gweld yn anodd cyflawni hyn)
·
Fel Pwyllgor, dylid mynnu mai preswylwyr addas y dylid
eu cartrefu yn yr eiddo ac nid rhai fuasai yn creu problemau i'r preswylwyr
cyfagos, y Cyngor a’r Heddlu
·
Angen sicrhau diogelwch i’r gymuned a gwrando ar
bryderon y gymuned
·
Dyletswydd fel Aelod Lleol yw bod lles pobl ei ward
ddim yn cael ei roi mewn perygl a’u preifatrwydd yn cael eu cynnal
·
Derbyn bod
dewisiadau amgen i’r cais
ch) Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais
d)
Cynigiwyd ac eiliwyd i ohirio’r cais fel bod modd i’r
ymgeisydd ail ymgynghori gyda’r gymuned ynglŷn â’r bwriad
dd) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y
sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Bod angen ail rannu gwybodaeth gyda’r gymuned
ynglŷn â’r bwriad
·
Bod cymdogion angen bod yn sicr o’r bwriad – awgrym i
gynnal trafodaethau gyda’r Aelod Lleol fel bod pawb yn cael bod yn rhan o’r
broses
·
Mater o ymarfer da fuasai ail ymgynghori yn llawn
gyda’r gymuned - hyn i’w wneud ar y cyd gyda’r Gwasanaeth Cynllunio a’r Adran
Tai
·
Derbyn bod gofynion statudol wedi eu gweithredu o ran
ymgynghori, ond angen ymgysylltu pellach gyda’r gymuned fel bod modd i’r
swyddogion ddwyn perswâd
·
Dim lle parcio
·
Bod yr adroddiad yn gamarweiniol yng nghyd-destun
defnydd - angen eglurder
·
Bod y tŷ wedi ei brynu gyda phwrpas i ail addasu
- cymryd yn ganiataol felly byddai cais cynllunio yn cael ei ganiatáu
·
Y cais yn ymddangos fel ei fod yn cael ei ruthro -
angen cydymffurfio a’r broses
·
Dim addasiadau allanol
·
Nid mater cynllunio yw dewis pwy sydd yn byw yn y
fflatiau
·
Pwysig cael tai fforddiadawy i bobl lleol a cefnogi’r
strategaeth tai
·
Dim angen stigma digartref – angen rhoi cyfle i bawb
·
Mai cais cynllunio i addasu tŷ oedd yn cael ei
drafod
·
Cyngor Cymuned yn gefnogol i’r cais
·
Cynnig amod bod y tai / fflatiau yn fforddiadwy am
byth
e)
Mewn ymateb i’r sylwadau ynglŷn ag ail
ymgynghori, nododd y Rheolwr Cynllunio bod y broses ymgynghori ar y cais wedi
cwrdd gyda’r gofynion statudol sy’n ymwneud gyda hysbysebu ceisiadau Cynllunio
ac fod 4 eiddo cyfagos wedi eu llythyru a rhybudd statudol wedi ei osod ar y
stryd. Ategodd y Pennaeth Cyfreithiol bod nifer o sylwadau wedi eu derbyn a bod
hyn yn dystiolaeth bod ymgynghori digonol wedi digwydd.
Ategodd Pennaeth
Cynorthwyol Amgylchedd nad oedd sail cynllunio i
wrthod y cais - mai cais ydoedd am ddwy uned fforddiadwy oedd yn ymateb i’r
angen gyda thystiolaeth ddigonol i wneud penderfyniad
f)
Pleidleisiwyd ar y cynnig i ohirio
Disgynnodd y cynnig
ff) Pleidleisiwyd ar y cynnig i ganiatáu
PENDERFYNWYD:
Dirprwyo’r
hawl i’r Pennaeth Cynorthwyol i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i dderbyn
asesiad canlyniadau llifogydd derbyniol, a chymeradwyaeth CNC iddo, a hefyd yn
ddarostyngedig i’r amodau canlynol:
1. Amser
2. Cydymffurfio gyda chynlluniau
3. Cwblhau triniaeth ffin cyn trigo yn yr
unedau
4. Amod safonol cynllun tai fforddiadwy
Nodyn:
Dŵr
Cymru
Gofynion
Deddf Wal Rhannol
Dogfennau ategol: