Newid defnydd adeilad o ddefnydd Dosbarth B1 (swyddfeydd) i Ddefnydd
Dosbarth D1 (sefydliadau dibreswyl) ynghyd a newidiadau i edrychiadau allanol
yr adeilad, creu ffordd fynedfa, parcio bysus a llwybrau cerdded
AELOD LLEOL: Cynghorydd Menna Baines
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD
Argymell fod yr apêl yn
cael ei wrthod ar sail:-
nid oes tystiolaeth fod y safle'n annhebygol o gael ei
ddefnyddio yn y tymor byr na hir at y diben gwreiddiol neu'r diben a
ddiogelwyd, na chwaith nad oes defnydd busnes neu ddiwydiannol hyfyw ar gyfer y
safle. Yn ogystal, nid oes gorddarpariaeth o safleoedd cyflogaeth yn y
cyffiniau; byddai defnydd addysgol yn cael effaith andwyol ar ddefnydd
cyflogaeth yn y safleoedd cyfagos ac nid yw'r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi'i
ddarbwyllo nad oes safleoedd amgen addas eraill yn bodoli at y diben a
gynigiwyd.
Cofnod:
Newid
defnydd adeilad o ddefnydd Dosbarth B1 (swyddfeydd) i Ddefnydd Dosbarth D1
(sefydliadau dibreswyl) ynghyd a newidiadau i edrychiadau allanol yr adeilad,
creu ffordd fynedfa, parcio bysus a
llwybrau cerdded
a)
Amlygodd
yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu bod cais i’r Pwyllgor gyflwyno barn ar yr
adroddiad sy’n ffurfio datganiad apêl i’r arolygiaeth cynllunio i argymell
gwrthod apêl cynllunio
Derbyniwyd cais
llawn ar gyfer newid adeilad Tŷ Menai/Technium
sydd wedi ei leoli ar safle Cyflogaeth Parc Menai ac sydd ar hyn o bryd yn wag
o’i Ddosbarth Defnydd B1 (swyddfeydd) i Ddosbarth Defnydd D1 (sefydliad
dibreswyl addysg) ynghyd a chreu ffordd fynedfa, parcio bysus, llwybrau cerdded
a newidiadau i edrychiadau allanol yr adeilad.
Adroddwyd bod y datblygiad ar raddfa sy'n
golygu y byddai wedi ei gyflwyno’r i bwyllgor cynllunio 6 Medi, 2021 ond bod yr
ymgeisydd wedi cyflwyno apêl i'r arolygiaeth gynllunio ar sail diffyg
penderfyniad. Eglurwyd, pan gyflwynir apêl am ddiffyg penderfyniad, mae cyfnod
ychwanegol i awdurdod cynllunio lleol benderfynu cais yn ystod y 4 wythnos
gyntaf o dyddiad cyflwyno’r apêl. Cyflwynwyd yr apêl ar 4 Awst 2021 ac felly
daeth 4 wythnos i ben ar 1 Medi 2021. O ystyried yr amserlen a’r ffaith nad
oedd cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio yn ystod mis Awst, nid oedd modd
penderfynu ar y cais o fewn y cyfnod 4 wythnos. O dan amgylchiadau o'r fath,
nid yw’r drefn yn caniatáu i’r Cyngor wneud penderfyniad ar y cais.
Ategwyd, fel
rhan o’r broses apêl, mae’r arolygaeth cynllunio yn rhoi cyfle i'r awdurdod
cynllunio lleol cyflwyno datganiad apêl, lle gall yr awdurdod fynegi barn ac
argymell penderfyniad. Gan nad oes gan swyddogion hawl dirprwyedig i
benderfynu’r cais, cyflwynwyd y cais i bwyllgor er mwyn derbyn eu barn. Bydd y
farn yn cael ei gyflwyno i’r arolygiaeth cynllunio fel rhan o’r datganiad apêl.
Cyfeiriwyd at brif bryderon yr Awdurdod
Cynllunio ynghyd ac Adran Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd a oedd yn cynnwys:
1.
Cynllun Adfywio Canol Dinas Bangor
Bod dinas Bangor yn wynebu sawl her gyda
chyflwr a pherfformiad canol y ddinas yn tanseilio ei swyddogaeth fel canolfan
ranbarthol. Nodwyd bod siopau mawr fel Debenhams wedi
cau ac Aldi yn adleoli i Ffordd Caernarfon wedi cael effaith
andwyol ar hyfywedd canol y ddinas. Rhan o gynllun Adfywio’r ddinas yw cynyddu
gweithgareddau a defnydd yng nghanol y ddinas.
Bod Coleg Menai
yn gyflogwr a darparwr gwasanaeth pwysig i’r ddinas. Mae’r safle presennol o
fewn cyrraedd canol y ddinas gyda mynediad a chysylltiadau hwylus. Mae pryderon
y byddai ail-leoli’r campws i gyrion y ddinas yn debygol o danseilio prysurdeb
a swyddogaeth canol y ddinas, a lleihau nifer o bobl yn ymweld â’r canol. O
ganlyniad, ystyrir y byddai’r cais yn tanseilio egwyddor ‘Canol Trefi’n Gyntaf’
2. Effaith ar Barc Menai
Bod safle Parc Menai yn un o safleoedd
cyflogaeth fwyaf llwyddiannus Gwynedd. Mae’n cynnig amgylchedd o safon ac yn
darparu safleoedd ac eiddo i ystod eang o gyflogwyr. Dylid sicrhau na fyddai’r
datblygiad arfaethedig yn cael effaith andwyol ar batrwm defnydd y stad a thrwy
hynny yn ei gwneud yn llai atyniadol a chystadleuol. Nodwyd fod Bangor wedi ei
adnabod fel ‘Ardal Twf Rhanbarthol’ yn nogfen Llywodraeth Cymru ‘Cymru’r
Dyfodol. Y Cynllun Cenedlaethol’ gyda ffocws o ail leoli datblygiadau o fewn
ardaloedd twf
3. Defnydd Cyflogaeth B1
Bod Parc Menai
wedi ei ddynodi fel Prif Safle Cyflogaeth o fewn y Cynllun Datblygu Lleol,. Ni
ystyriwyd for gor-ddarpariaeth
o eiddo cyflogaeth barod o fewn y cyffiniau, yn arbennig felly eiddo yn fwy na
2,000 metr sgwâr.
Gan ystyried yr
asesiad a’r wybodaeth a gyflwynwyd fel rhan o’r cais ni ystyriwyd y byddai
darparu cyfleuster/prif gampws addysg bellach ac ar safle sydd wedi cael ei
ddynodi a’i ddiogelu ar gyfer defnydd o fewn Dosbarth Defnydd B1 ac sydd wedi
cael ei ddynodi o fewn y CDLL fel safle Cyflogaeth Strategol Isranbarthol yn
dderbyniol ar sail polisi. Argymhelliwyd bod y Cyngor
yn cyflwyno datganiad i’r Arolygiaeth Cynllunio yn argymell fod yr apêl yn cael
ei wrthod.
b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr
ymgeisydd y rhesymau dros symud i apêl
·
Bod
Gweinidog yr Adran Economi wedi penderfynu cau Tŷ Menai ac i’w werthu i
Goleg Llandrillo Menai. Mae’r Gweinidog Addysg wedi cytuno i grant i addasu'r
adeilad ar gyfer hyfforddiant ag i roi'r offer mwyaf cyfredol mewn lle.
·
O ganlyniad, mae yna £12m o grantiau ar y bwrdd i’w
buddsoddi i greu adnodd fyddai, o’r newydd, yn costio £30m a thu allan i’n
cyrraedd. Mae’n rhaid buddsoddi a’i wario erbyn 2023. Mae ein cais wedi bod yn
wybyddus i’r adran gynllunio ers 3 mlynedd bellach felly roedd rhaid dod a’r
mater i sylw
Y Cais
·
Newid defnydd Tŷ Menai, adeilad £17m sydd
erioed wedi bod yn fwy na hanner llawn, i greu adnodd hyfforddiant i bobl ifanc
y gall Gwynedd fod yn falch ohono.
·
Rydym yn argyhoeddedig fod rhaid gadael Campws
Ffriddoedd – yr adeiladau yn
rhai gwael ac wedi’u lleoli yn anghyfleus o fewn Fangor
·
Prif
faes arbenigedd y campws newydd fyddai sgiliau digidol, busnes a chyfryngau. Mae’r
sgiliau yn gweddu yn berffaith â swyddi Parc Menai. Catalyst
i ddiwydiant fyddai bod yna! Mae enghreifftiau ar draws y wlad o addysg a
diwydiant yn cyd-leoli ac yn blodeuo.
Ymateb i sail gwrthwynebiad y swyddogion
·
Does dim gwrthwynebiad gan adrannau cludiant,
asiantaethau amgylcheddol na’r Uned Iaith - Polisi yn unig yw’r rhwystr.
·
Does
dim diffyg lle ym Mharc Menai. Mae o leiaf dros 29,000 troedfedd sgwâr ar gael
ag o bosib mwy yn dilyn newid patrwm gwaith pobl i weithio o adref yn dilyn
COVID.
·
Does
dim digon o ofod i gampws yng nghanol y ddinas - hyn wedi’i brofi yn
ddiamheuol.
·
Does dim sail i ddweud y bydd myfyrwyr yn newid
naws y parc.
·
Mae’r adeilad ar gŵr y parc.
·
Mae’r
ddau adeilad hefyd nesaf i Ysgol Glanaethwy a Llwyn
Brain
·
I unrhyw un sydd wedi bod ar gampws coleg addysg
bellach, mae’r naws yn llawer tebycach i brifysgol nac i ysgol gynradd. Mae’r
sylw yn anfri ar ymddygiad ein pobl ifanc.
Cloi
·
Bod rhaid i unrhyw bolisi alluogi cyfle unigryw
allan o’r norm gael mynd ymlaen.
·
Rydym
wedi cael barn gyfreithiol sydd yn dweud fod digon o hyblygrwydd o fewn y
polisi i gymeradwyo prosiect unigryw.
·
Bod rhaid i synnwyr cyffredin oroesi. Dwi’n sicr na
fyddai trethdalwyr Gwynedd am weld Tŷ Menai’n
troi yn adfail - y Plas Glynllifon nesaf? Gwell gan y trethdalwyr fyddai gweld
yr adnodd yn cael ei ddefnyddio i greu dyfodol i’w plant gyda champws £30m am
gost o £12m.
·
Hyderaf y byddwch yn gweld y potensial yn y cyfle
yma ac y gellir cefnogi ein cais er lles cenedlaethau i ddod.
c)
Yn
manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:
· Bod y mater yn ehangach na mater ward - yn
cynnwys goblygiadau Sirol
· Byddai’r safle yn adleoli o ‘tu fewn i’r
ffin‘ i ‘tu allan i’r ffin’
· Er nad yw‘r safle presennol o fewn ‘ffin’ Dinas Bangor, yn amlwg mae’n chwarae
rhan amlwg
· Cytuno gyda’r angen i adfywio canol
dinasoedd /trefi gan dywys tuag at y canol -rhaid ail feddwl swyddogaeth canol
trefi ar anghenion sydd ynghlwm
· Derbyn yr angen am leoliad hygyrch,
cynaliadwy, ond angen gwarchod ardaloedd cyflogaeth
· Cytuno gyda’r angen i greu addysg fodern
ac i sectorau gael
gwasanaethau da
· Yr amserlen yn dynn
· Gobeithio am ddatrysiad
d)
Cynigiwyd
ac eiliwyd i argymell fod yr apêl yn cael ei wrthod
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau
canlynol gan aelodau:
·
Nid
Parc Menai yw’r lle priodol i ail leoli Coleg Menai
·
Parc Menai yn anaddas
·
Y
lleoliad presennol yn creu problemau traffig, sbwriel ymysg trigolion - Parc
Menai yn galluogi i’r Coleg ffynnu
PENDERFYNWYD:
Argymell fod yr apêl yn cael ei wrthod ar sail:-
1. Mae’r bwriad
yn groes i Feini Prawf 1 a 2 Polisi ISA3 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd
Gwynedd a Môn (2017) sy’n rhoi gyda blaenoriaeth yn gyntaf i safleoedd addysg
bellach ac uwch bresennol neu, yn ail, i safleoedd a chanddynt gysylltiad agos
gyda champws presennol. Ar y sail yma ni ystyrir fod y bwriad yn cydymffurfio
gyda meini prawf 1 a 2 o Bolisi ISA3 o’r CDLL nac ychwaith gyda pholisïau
cenedlaethol ar sail gofynion y dogfennau ‘Cymru’r Dyfodol: Y Cynllun
Cenedlaethol 2040 (2021)’ ac ‘Adeiladu Lleoedd Gwell: Y System Gynllunio yn
Sicrhau Dyfodol Cydnerth a Mwy Disglair’ (Gorffennaf 2020).
2. Mae’r bwriad
arfaethedig yn groes i ofynion Polisi PS13 a CYF1 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar
y Cyd Gwynedd a Môn (2017) sy’n datgan gwarchodir tir ac unedau ar safleoedd
cyflogaeth bresennol (mae Parc Menai wedi ei restru yn y Polisi) ar gyfer
mentrau cyflogaeth/busnes.
3. Mae'r bwriad
yn groes i ofynion Polisi PCYF 5 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn
(2017) ynghyd a Chanllaw Cynllunio Atodol: Newid Defnydd Cyfleusterau a
Gwasanaethau Cymunedol, Safleoedd Cyflogaeth ac Unedau Manwerthu (2021) sy'n
datgan y bydd cynigion i ryddhau tir ar safleoedd cyflogaeth presennol a
ddiogelir at ddefnydd Dosbarth B1, B2 neu B8 yn unol â Pholisi PCYF1 at
ddefnydd amgen yn cael eu cymeradwyo mewn achosion arbennig yn unig. Yn
seiliedig ar y wybodaeth a gyflwynwyd gyda'r cais (a'r rheswm ar wahân dros
wrthod, yn seiliedig ar Bolisi ISA 3) nid yw'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn
ystyried fod amgylchiadau eithriadol wedi'u profi. Ymhellach, a heb weithgaredd
marchnata cadarn a thystiolaeth gadarn ynglŷn â pham na all adeiladau gael
eu haddasu i oresgyn y materion a adnabuwyd, nid oes tystiolaeth fod y safle'n
annhebygol o gael ei ddefnyddio yn y tymor byr na hir at y diben gwreiddiol
neu'r diben a ddiogelwyd, na chwaith nad oes defnydd busnes neu ddiwydiannol
hyfyw ar gyfer y safle. Yn ogystal, nid oes gorddarpariaeth o safleoedd
cyflogaeth yn y cyffiniau; byddai defnydd addysgol yn cael effaith andwyol ar
ddefnydd cyflogaeth yn y safleoedd cyfagos ac nid yw'r Awdurdod Cynllunio Lleol
wedi'i ddarbwyllo nad oes safleoedd amgen addas eraill yn bodoli at y diben a gynigiwyd.
4. Mae’r bwriad
yn groes i ofynion Polisi PCYFF2 o’r CDLL sy’n datgan gwrthodir cynigion os
ydynt:- (i) yn cael effaith andwyol sylweddol ar iechyd, diogelwch neu
fwynderau meddianwyr eiddo lleol, defnyddiau tir neu eiddo arall neu nodweddion
yr ardal leol oherwydd mwy o weithgareddau, aflonyddwch sŵn, sbwriel neu ffurfiau
eraill o lygredd neu aflonyddwch a (ii) tir sydd wedi
ei ddynodi ar gyfer datblygiadau eraill.
Rhagwelir byddai natur defnydd y cyfleuster addysg bellach ac uwch yn
cynyddu’r sŵn/aflonyddwch a symudiadau cerddwyr/myfyrwyr oddi fewn i’r
safle ac o amgylch y safle e.e. yn ystod oriau cinio neu ddarlithoedd rhydd
Dogfennau ategol: