Agenda item

Cyflwyno gwybodaeth i aelodau'r Cyd-bwyllgor ar ein dull gweithredu gyda datblygu rhwydweithiau lleol a rhanbarthol Cwricwlwm i Gymru er mwyn cefnogi pob ysgol a lleoliad i weithredu'r Cwricwlwm i Gymru.

 

Penderfyniad:

Derbyn a chymeradwyo'r adroddiad.

Cofnod:

PENDERFYNIAD  

 

Derbyn a chymeradwyo'r adroddiad. 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Reolwr Gyfarwyddwr GwE a chyfeiriodd at y ddogfen a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth ar ddechrau’r tymor a oedd yn nodi’n glir iawn y dewis ar gyfer disgyblion yn y sector Uwchradd.

 

Ategodd eu bod yn ymgynghori ar strategaeth GwE ac un o brif linynnau’r strategaeth yw cefnogaeth ar gyfer y cwricwlwm. Nododd bod yr Athro Graham Donaldson yn eistedd yn y grwpiau rhanbarthol yn cynghori ar gyfeiriad yr ymgynghoriad.

 

Eglurodd bod ysgolion yn amrywio o ran sut maent wedi ymgymryd â’r newidiadau ar gyfer y cwricwlwm a bod y sefyllfa bresennol wedi rhoi cyfle i ganolbwyntio ar addysgeg a sgiliau digidol. Ategodd bod tystiolaeth o gydweithio ardderchog ar draws y Gogledd ag eglurodd bod gwahoddiad agored i ysgolion ar draws y rhanbarth i adnabod aelodau blaenllaw yn eu cynghreiriau i fod yn rhan o rwydweithiau. Ategodd bod y rhain ar gyfer y meysydd dysgu profiad, rhwydwaith arall ar ddylunio cwricwlwm ac un arall ar gyfer asesu.

 

Gan ymestyn ar y pwynt yma, nododd bod oddeutu 600 o ymarferwyr yn rhan o’r rhwydweithiau a rhagwelir bydd y niferoedd yn tyfu wedi i’r cyfnod cyntaf. Eglurodd y bydd angen modd o gyllido hyn ac awgrymodd y dylai fod hyn yn brif fwriad defnydd arian wrth gefn.

 

Mewn perthynas â’r drefn asesu, nododd eu bod yn aros am ganllaw pellach gan y Llywodraeth.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

 

-       Diolchwyd am yr adroddiad diddorol, balch o weld Yr Athor Graham Donaldson yn rhan o’r gwaith.

-       Ategwyd bod yr adroddiad yn dangos eglurder ar beth sydd angen ar ein disgyblion

-       Holwyd a ydi’r brwdfrydedd yn parhau yn weledol o fewn y rhwydweithiau, ymysg yr ymarferwyr.

-       Nodwyd pryder gyda’r drefn o ddisgwyl i ysgolion darparu staff i fynychu’r sesiynau fel rhan o’r rhwydweithiau os oes diffyg staff oherwydd Covid-19.

-       Gofynnwyd am eglurder ar asesiadau er mwyn sefydlu os yw ysgolion Uwchradd angen mwy o amser i benderfynu pa bryd i gychwyn ar y cwricwlwm newydd.

-       Ategodd aelod y bwriedir i ysgolion Uwchradd Sir Ddinbych gychwyn yn 2022.

 

Mewn ymateb nododd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE y pwyntiau canlynol:

 

-       Yn gyffredinol mae ysgolion yn awyddus i fod yn rhan o’r agenda i’w symud yn ei flaen.

-       Ategodd bod rhwystrau am godi o fod yn rhan o’r rhwydweithiau oherwydd amgylchiadau’r pandemig yn yr ysgolion, yn arbennig ysgolion bach. Fodd bynnag, pwysleisiodd bwysigrwydd bod y drafodaeth yn digwydd ar lefel clwstwr fel bod aelod sydd yn mynychu yn adrodd yn ôl i’r rhai na ellir gwneud.

-       Ar yr un trywydd, ychwanegodd y rhagwelir y bydd mwy yn dod i mewn unwaith y byddant yn gweld ymarferoldeb yr agenda.

-       O ran safbwynt cynllunio pa bryd i gychwyn, nododd bod modd i wneud yn 2022 neu 2023. Ategodd bod angen gweithio efo’r ysgolion fel bod modd esblygu’n raddol i’r drefn newydd.

-       Cytunodd a’r aelod a nododd bod llawer o ysgolion Uwchradd wedi nodi eu dymuniad i gychwyn y cwricwlwm yn 2022, lle bo eraill yn dibynnu ar amgylchiadau a’u parodrwydd.

 

 

 

Dogfennau ategol: