Newid defnydd tir amaethyddol i barc
carafanau teithiol arfaethedig (40rh llain) gan gynnwys bloc amwynderau, trac
mynediad a mynedfa
AELOD LLEOL: Cynghorydd Anwen J Davies
Penderfyniad:
Gohirio fel bod modd trafod cynlluniau diwygiedig yn
ymwneud a’r fynedfa
COFNODION:
Newid defnydd tir
amaethyddol i barc carafanau teithiol arfaethedig (40rh llain) gan gynnwys bloc
amwynderau, trac mynediad a mynedfa
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau
hwyr
a) Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu bod y cais yn un ar gyfer newid defnydd tir
amaethyddol, oddeutu 1/3 o gae pori presennol,
i barc carafanau teithiol. Byddai’r gwaith yn cynnwys :
·
40 llain gwair anffurfiol yn mesur o leiaf 8m x 8m
·
Ffordd fynediad 3.6m o led wedi ei greu o gerrig mâl yn ffurfio
rhwydwaith unffordd trwy’r safle - fe fyddai hefyd llecyn ar gyfer gwefru ceir
trydan.
·
Gofod chwarae diogel yng nghanol y safle.
·
Bloc amwynderau yn darparu toiledau, cawodydd a chyfleusterau golchi - fe
fyddai hwn yn adeilad pren gyda tho fflat, 11.4m x 6.8m o arwynebedd llawr a
2.6m o uchder.
·
Creu clawdd newydd ar hyd ffin orllewinol y safle - fe fydd hwn wedi ei
ffurfio o 2m o bridd gyda phlanhigion gwrych brodorol wedi eu plannu arno.
Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli mewn cefn gwlad
agored oddeutu 1.1km i’r gorllewin o glwstwr Llannor fel y'i diffinnir gan
Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd ac Ynys Môn; oddeutu 300m ar hyd
ffordd, sy’n rhannol breifat a rhannol ddi-ddosbarth, o briffordd yr A497 sy’n
arwain o Bwllheli i Nefyn.
Tynnwyd
sylw at sylwadau’r Uned
Bioamrywiaeth oedd yn nodi bod sawl cofnod o adar sydd wedi’i restru o dan
adran 7 Deddf yr Amgylchedd (2016) ar neu yn agos at y safle ac awgrymwyd bod
yr ymgeisydd yn darparu Asesiad Ecolegol Cychwynnol o’r safle. Amlygwyd pryder
hefyd ynghylch effaith gwella’r mynediad i’r safle ar y coed a gwrychoedd
gerllaw. Adroddwyd nad oedd gwybodaeth ynghylch y materion hyn wedi eu
derbyn gan yr ymgeisydd fodd bynnag,
ystyriwyd, drwy osod amodau ar gyfer sicrhau mesurau lliniaru priodol, y gall y
cynnig fod yn dderbyniol o safbwynt ei effaith bioamrywiaeth ac y gellid, yn y
pendraw, fodloni gofynion polisi PS 19.
Mewn
ymateb i sylwadau gwreiddiol yr Uned Trafnidiaeth, cyflwynwyd cynhigion pellach
ar gyfer sicrhau y gellid cael mynediad diogel at y safle. Fodd bynnag, er
gwaetha’r gwelliannau a gynigiwyd, roedd yr Uned Trafnidiaeth yn parhau i fod â
phryderon â’r cynllun. Ystyriwyd bod y datblygiad yn debygol o ddenu mwy o
draffig ar hyd y ffordd gul at y safle ac, er yn cydnabod y bwriad o gyflwyno
man pasio ychwanegol ar y ffordd ddi-ddosbarth yn ogystal â chyflwyno marciau
ffordd ar ei gyffordd gyda’r ffordd breifat, roedd y pryder ynghylch diffyg
gwelededd ar y gyffordd, rhwng y ffordd ddi-ddosbarth a’r A497 yn parhau. Nid
oedd y cynigion a wnaethpwyd megis torri’r gwrych ar yr A489 ger y gyffordd i
uchder o 1.1m am 100 lath i gyfeiriad Nefyn, yn ddigonol i oroesi problemau
diogelwch o ganlyniad i ddiffyg gwelededd ar y ffordd sy’n llawer is na’r
safonau delfrydol. Amlygwyd bod y Gwasanaeth bellach wedi derbyn cynllun
diwygiedig ar gyfer y gyffordd a bod yr argymhelliad bellach i ohirio’r
penderfyniad fel bod modd trafod y cynlluniau hyn gyda’r ymgeisydd.
b)
Cynigwyd ac eiliwyd
gohirio’r cais
PENDERFYNWYD
gohirio’r cais fel bod modd trafod cynlluniau diwygiedig yn ymwneud a’r fynedfa
Dogfennau ategol: