Cais ar gyfer
newid defnydd tir i faes carafanau teithiol 19 uned gan gynnwys darparu adeilad
toiledau a chawod, trac a lle chwarae o fewn y safle
AELOD LLEOL: Cynghorydd Anwen J Davies
Dolen
i'r dogfennau cefndirol perthnasol
Penderfyniad:
Gohirio fel bod modd cynnal trafodaethau pellach gyda'r
ymgeisydd
COFNODION:
Cais ar gyfer newid defnydd tir i faes carafanau
teithiol 19 uned gan gynnwys darparu adeilad toiledau a chawod, trac a lle
chwarae o fewn y safle
Tynnwyd sylw at y ffurflen
sylwadau hwyr
a) Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar
gyfer datblygu maes carafanau teithiol newydd. Byddai’r bwriad yn cynnwys
defnyddio cae amaethyddol ar gyfer gosod 19 carafán deithiol, adeilad toiledau,
gwella mynedfa bresennol a gwaith tirlunio ar hyd clawdd / gwrych presennol.
Disgrifiwyd y cae ble bwriedir lleolir y carafanau teithiol fel un gweddol
wastad gyda’r unedau wedi ei gosod ar hyd y terfyn gogledd dwyreiniol a de
ddwyreiniol y safle. Eglurwyd bod yr
egwyddor o greu safle carafanau teithiol wedi ei selio ym Mholisi TWR5 o’r CDLl
lle caniateir y fath ddatblygiadau os gellid cydymffurfio gyda’r meini prawf.
Nodwyd bod y cynllun yn dangos bod yr unedau teithiol
wedi eu lleoli ar hyd terfyn gogledd dwyreiniol a de ddwyreiniol cae ble mae
coed a gwrychoedd yn bodoli ar hyn o bryd; sylweddolir y byddai'r llys dyfiant
hwnnw yn creu sgrin er lleihau effaith y bwriad ar y tirlun, fodd bynnag, nid
yw llystyfiant o’r fath yn nodwedd barhaol a byddai eu trin, torri neu ladd yn
creu safle amlwg iawn o’r ffordd sirol gyfochrog ac yn amharu yn sylweddol ar y
tirlun. Sylweddolir bod yr ymgeisydd wedi datgan bodlonrwydd i dewychu a
chryfhau'r gwrychoedd presennol drwy blannu ychwanegol. Er hynny, ni ystyriwyd
y byddai hynny yn creu mesurau digonol na pharhaol i gyfarfod amcanion y
polisi.
Yn dilyn derbyn sylwadau cychwynnol gan yr Uned
Bioamrywiaeth derbyniwyd asesiad ecolegol rhagarweiniol. Amlygwyd bod yr Uned
Bioamrywiaeth wedi darparu sylwadau pellach yn cadarnhau'r angen am asesiad
ecolegol llawn oherwydd effaith cronnus datblygiadau eraill ar y safle a’r
gwaith lefelu tir diweddar. Nid oedd yr adroddiad ecolegol yn ymateb i bryderon
y Cyngor o ran effaith ar goed na
chyfiawnhau datblygiad o dan PAMG 6 o warchod safleoedd bywyd gwyllt.
Ar sail yr asesiad a sylwadau hwyr yr Uned
Bioamrywiaeth, ystyriwyd bod y bwriad yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu
Lleol oherwydd effaith weledol y datblygiad, diffyg gwybodaeth er mwyn asesu’r
effaith ar fioamrywiaeth a choed a diffyg cyfiawnhad am ddatblygu safle bywyd
gwyllt.
b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y sylwadau
canlynol:
·
Bod yr ymgeisydd yn
wreiddiol o Swydd Stafford ac wedi symud i Gymru yn Rhagfyr 2020 ar ôl prynu
Gefail Y Bont. Wedi treulio blynyddoedd lawer ar wyliau yng Ngogledd Cymru ond
erbyn hyn wedi gwneud y penderfyniad i symud yma yn barhaol.
·
Bod datblygiad y safle
yn cynnwys cyflogi contractwyr lleol i adeiladu bloc toiledau a chawodydd ynghyd
a phlannu coed, codi ffensys ac adeiladu waliau cerrig newydd
·
Bod y datblygiad, os
caiff ei gymeradwyo, yn cyflogi 3 aelod staff lleol llawn amser ar gyfer
glanhau, cynnal a chadw a derbyn archebion
·
Y safle mewn lleoliad
delfrydol ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2023.
·
Y safle wedi'i leoli
mewn lleoliad gwych, yn ddelfrydol i deuluoedd dreulio amser yn gweld adar,
bywyd gwyllt yn y coed neu losgi egni yn rhedeg o amgylch y maes
·
Nid yw'r safle'n rhy
bell o draethau lleol. Mae'n agos at dafarndai lleol, siopau a bwytai.
·
Y safle wedi'i
gysgodi'n dda gan wrych aeddfed ger y briffordd fydd yn cael ei gynnal i
isafswm uchder o 10 troedfedd
·
Ychydig o safleoedd
carafanau teithiol sydd yn yr ardal.
·
Mae’n gyfleus gyda
mynediad hawdd i Nefyn, Pwllheli, Criccieth a Porthmadog.
·
Yn lleoliad perffaith
ar gyfer llwybrau beicio Abersoch, Nefyn, Caernarfon a Chwilog a theithiau
cerdded llwybr arfordirol Penllyn
·
Y safle'n elwa o fod
mewn lleoliad sydd i ffwrdd o unrhyw anheddau preswyl eraill ac felly ni fydd
yn achosi niwsans sŵn i unrhyw breswylwyr.
·
Y safle mewn lleoliad
delfrydol i ymweld a chefnogi atyniadau a busnesau lleol megis; Parc Glasfryn,
Parc Antur Eryri, Parc Gweithgareddau'r Ddraig, y Fferm Cwningod, pentref
Portmeirion ynghyd a chestyll, traethau a llynnoedd pysgota. Hyn yn cefnogi’r
economi leol.
·
Y safle ychydig oddi ar
yr A497, felly’n hawdd ei gyrraedd a gwelededd o'r safle i'r briffordd yn
rhagorol. Bydd y gwaith o adeiladu pont newydd ac alinio ffyrdd cyfagos yn
fanteisiol
·
Gellid gorchuddio'r
adeilad atodol gydag estyll pren crwn yn hytrach na chladin llwyd
·
Cynhaliwyd asesiad
ecolegol rhagarweiniol gan Cambrian Ecology ar 24/09/21. Fe’i cyfeiriwyd ymlaen
at Gyngor Gwynedd ar y 05/10/2 - derbyniwyd e-bost yn cadarnhau
c) Cynigwyd ac eiliwyd gohirio’r cais
d) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Angen rhoi mwy o
ystyriaeth i’r cais - cynnal trafodaethau pellach gyda’r ymgeisydd i weld os
oes modd datrys rhai o’r rhesymau gwrthod
·
Nid yw’r safle yn
ymwthiol, nid yw’n agored ac nid oes materion gweledol
·
O fod wedi gweld y
safle o’r ffordd, y rhesymau gwrthod yn annelwig
PENDERFYNWYD
gohirio fel bod modd cynnal trafodaethau pellach
gyda'r ymgeisydd
Dogfennau ategol: