Adeiladu 17 o dai fforddiadwy,
mynedfa, llefydd parcio, tirlunio a gwaith cysylltiol.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Cemlyn
Williams
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Dirprwyo'r hawl i ganiatáu yn ddarostyngedig i lofnodi Cytundeb 106 er mwyn
sicrhau cyfraniad ariannol i wella'r ffyrdd / gosod mesurau tawelu traffig a
darparu llecynnau agored.
Amodau:
Cofnod:
Adeiladu 17
o dai fforddiadwy, mynedfa, llefydd parcio, tirlunio a gwaith cysylltiol.
Tynnwyd sylw
at y ffurflen sylwadau hwyr
a) Amlygodd y
Rheolwr Cynllunio bod y cais yn cael ei gyflwyno i bwyllgor oherwydd byddai'r
bwriad yn golygu codi mwy na 5 o dai. Atgoffwyd yr Aelodau bod y cais wedi ei
gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio ar 10/01/22 lle penderfynwyd gohirio'r cais er
mwyn i'r Pwyllgor dderbyn gwybodaeth ychwanegol am yr isod:
·
Ymateb manylach i ymateb y Cyngor Tref
a chadarnhad am y cyfnod pan gynhaliwyd yr Asesiad Trafnidiaeth
·
Cynllun manylach yn dangos mynedfeydd cerddwyr a cherbydau i'r
ysgol
·
Ffotograffau / fideo yn dangos y safle
mewn perthynas â'r ysgol.
·
Mwy o fanylion am y cyfyngiad cyflymder
a'r mesurau tawelu traffig posib.
Mewn ymateb i'r gohirio, roedd yr asiant wedi cyflwyno'r wybodaeth
ychwanegol isod:
·
Copi o’r Archwiliad Diogelwch sydd wedi
ei gynnal ac y cyfeirir ato yn yr Asesiad Trafnidiaeth.
·
Datganiad gan Cadarn Consulting, Peirianwyr Priffyrdd arbenigol a gynhaliodd yr
asesiad trafnidiaeth mewn ymateb i Bryderon y Pwyllgor a'r Cyngor Tref.
·
Cynllun a manylion am y mynedfeydd i
gerbydau a cherddwyr i'r ysgol.
·
Datganiad ychwanegol yng nghyswllt pa
mor ddibynadwy yw'r ffigyrau cyfrif traffig a chanfyddiadau'r arolwg cerddwyr a
wnaed ar 7 Chwefror 2022
Cyfeiriwyd
at ymateb i’r pryderon trafnidiaeth ac o’r amser y cynhaliwyd yr arolwg. Nodwyd
bod yr asesiad wedi ei gynnal drwy ddefnyddio 'Automated
Traffic Counter', a osodwyd
ger y safle ar ffordd Bethel am gyfnod o saith diwrnod (dros gyfnodau o 24 awr)
rhwng 21/06/21 - 28/06/21. Mewn ymateb i
bryder bod yr asesiad wedi ei gynnal oddi fewn i gyfyngiadau covid cadarnhaodd y wybodaeth ychwanegol a
dderbyniwyd gan arbenigwyr priffordd yr ymgeisydd ar adeg yr arolwg traffig,
bod yr ysgolion yn agored ac roedd nifer yr achosion covid
yn isel.
Cyfeiriodd y datganiad at ddata traffig hanesyddol
ar gyfer y B4366 o'r Adran Drafnidiaeth (DfT) ddaeth
o'r orsaf cyfrif traffig maniwal a leolwyd tua 250m
i'r Gorllewin o'r safle arfaethedig, oedd wedi casglu data traffig 10 mlynedd.
Roedd y traffig blynyddol cyfartalog cymedr (AADT) o'r data 10 mlynedd gan y DfT i'r ffordd yma wedi ei gyfrif fel 5,389 ( cyfrif AADT
o'r data cyfrif traffig awtomatig a gasglwyd yn ystod arolwg Mehefin 2021 wedi
ei gynnwys yn yr adroddiad)
Mewn
ymateb i bryderon yr aelodau ynghylch amseroedd brig yr ysgol a cherddwyr, fe
wnaeth ymgynghorwyr priffyrdd yr ymgeisydd asesiad cerddwyr ar 7 Chwefror 2022.
Darganfu’r asesiad fod mwyafrif y disgyblion yn defnyddio'r pafin gorllewinol i
gerdded i'r ysgol ond bod 90% yn cael eu gollwng yn yr encilfa ddwyreiniol gan
ddefnyddio'r ddarpariaeth croesi ddiogel ar y ffordd. Dylid nodi na fydd y
bwriad yn arwain at golli darpariaeth parcio. Darperir parcio o fewn y safle i
ddisodli'r ardal a gollir ar yr encilfa.
Adroddwyd
bod Cyngor Tref Caernarfon yn parhau i bryderu am y cais gan awgrymu gohirio
penderfyniad fel bod modd cael mwy o wybodaeth a chais i gyfarfod gyda
Swyddogion yr Adran Priffyrdd ar y safle. Nodwyd mai dyletswydd yr ymgeisydd yw
cyflwyno gwybodaeth i alluogi’r Awdurdod Cynllunio Lleol asesu cais cynllunio
ac yn yr achos yma ystyriwyd bod yr ymgeisydd wedi mynd tu hwnt i’r anghenion
polisi i asesu effaith y bwriad a darparu gwybodaeth ychwanegol, wedi ei gynnal
gan beirianwyr priffordd cymwys mewn ymateb i bryderon y pwyllgorau. Ategwyd
bod yr ymgeisydd wedi cynnig cyfraniad ariannol i'r Gwasanaeth
Trafnidiaeth fel bod modd rhoi mesurau tawelu traffig / gwelliannau priffyrdd
yn eu lle i wella diogelwch y briffordd.
Ystyriwyd
y byddai’r bwriad i ddatblygu 17 o dai fforddiadwy yn ymateb positif i
anghenion tai amrywiol sydd wedi’u hadnabod yn yr ardal. Nid oedd gwrthwynebiad
i ddyluniad y tai ac ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn cael effaith sylweddol
ar fwynderau preswyl tai cyfagos. Nodwyd bod yr Uned Trafnidiaeth y Cyngor wedi
cyflwyno sylwadau yn datgan na fyddai'r bwriad yn amharu yn andwyol ar
ddiogelwch ffyrdd er y cydnabuwyd y sylwadau a dderbyniwyd yn gwrthwynebu’r
cais ar sail diogelwch ffyrdd. Gydag amodau a nodiadau perthnasol er mwyn
sicrhau bydd y gwaith yn cael ei gwblhau i safonau statudol a chyfraniad
ariannol trwy gytundeb 106 i sicrhau gwelliannau ffyrdd, ystyriwyd fod y bwriad
yn dderbyniol ar sail gofynion Polisi ISA 1, TRA 2 a TRA 4 o’r CDLL.
b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol yn sylwadau
canlynol:
·
Ei fod yn diolch am yr adroddiad
cynhwysfawr
·
Ei fod yn diolch i’r swyddogion am y
wybodaeth ychwanegol ac am y berthynas dda roedd wedi ei feithrin gyda
swyddogion Adra
·
Bod diogelwch y plant yn parhau yn
bryder iddo
Cyflwynodd fideo o daith mewn car ar hyd y ffordd o
flaen yr ysgol yn ystod cyfnodau prysur
c) Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais
d) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Diolchwyd i’r Aelod Lleol am y fideo –
cyfraniad defnyddiol iawn
·
Er cydymdeimlad, bod pob cais sy’n cael
ei wrthod am resymau trafnidiaeth bob amser yn cael eu colli ar apêl
·
Bod trafnidiaeth yn achosi problemau o flaen pob ysgol
·
Bod gwir angen am dai fforddiadwy yn yr ardal - hyn yn cyd-fynd
gyda Strategaeth Tai Cyngor Gwynedd
·
Angen osgoi apêl a chostau i’r Cyngor
·
Y wybodaeth ychwanegol wedi bod yn fuddiol
·
Bodlon bod y materion trafnidiaeth yn
dderbyniol a diogel
PENDERFYNWYD:
Dirprwyo'r hawl i ganiatáu yn ddarostyngedig i lofnodi Cytundeb 106 er mwyn
sicrhau cyfraniad ariannol i wella'r ffyrdd / gosod mesurau tawelu traffig a
darparu llecynnau agored.
Amodau:
1. Pum mlynedd.
2. Yn unol â’r cynlluniau a’r dogfennau a
gyflwynwyd gyda'r cais.
3. Llechi naturiol.
4. Amodau priffyrdd.
5. Cynllun plannu coed.
6. Amodau mesurau lliniaru bioamrywiaeth i
gynnwys cydymffurfio gyda gofynion yr asesiad Ecolegol Rhagarweiniol; darparu
Cynllun Atal Llygredd; sicrhau bod y safle yn hydraidd i ddraenogod a chyflwyno
cynllun gwelliannau bioamrywiaeth.
7. Cyfyngu oriau gweithio rhwng
08:00-18:00 Dydd Llun i Ddydd Gwener, 08:00-13:00 Dydd Sadwrn a ddim o gwbl ar
Ddydd Sul a Gŵyl y Banc.
8. Cytuno ar fanylion parthed enw Cymraeg
i'r datblygiad ynghyd ag arwyddion sy'n hysbysu ac yn hyrwyddo'r datblygiad o
fewn ac oddi allan y safle.
9. Tynnu hawliau datblygu o'r tai
fforddiadwy.
10. Sicrhau cynllun/trefniadau ar gyfer
darparu'r tai fforddiadwy.
11. Cyflwyno Cynllun Rheoli Amgylcheddol i
gynnwys sŵn, dirgryniad a llwch.
12. Sicrhau cydymffurfiaeth â Safon Prydeinig
rhif BS 5837:2012.
13. Samplau o'r deunyddiau a'r lliwiau ar
gyfer y tai a'r tirlunio caled a meddal.
14. Sicrhau cyfraniadau ariannol ar gyfer
gwelliannau ffyrdd a llecynnau agored.
15. Gosod ffens ar hyd y terfynau.
Dogfennau ategol: