Lleoli 5 pod pren ar gyfer
gwersylla tymhorol, codi uned gawod / toiledau, gosod gwaith trin carthion
domestig a gwaith tirlunio.
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Anwen J Davies
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i'r amodau
canlynol:
Nodyn - Gwasanaeth Tân, Cyfoeth Naturiol Cymru, Uned Draenio Tir
Cofnod:
Lleoli 5 pod pren ar gyfer gwersylla tymhorol, codi uned gawod /
toiledau, gosod gwaith trin carthion domestig a
gwaith tirlunio
a) Amlygodd
y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd ar gyfer lleoli 5 pod
pren ar gyfer gwersylla tymhorol ar lain o dir coediog ger Boduan. Byddai’r
gwaith yn cynnwys codi adeilad ar gyfer cawodydd / toiledau, gosod gwaith trin carthion a gwaith tirlunio. Amlygwyd bod y cais wedi ei
gyflwyno i bwyllgor 22 Tachwedd, 2021 a 21 Mawrth 2022 pryd y gohiriwyd gwneud
penderfyniad ar gais yr ymgeiswyr er mwyn caniatáu iddynt ddarparu rhagor o
wybodaeth i gefnogi eu cynnig. Adroddwyd bod y wybodaeth isod bellach wedi ei
ychwanegu at y cais.
• Cynlluniau safle diwygiedig
gan gynnwys cynlluniau o fynedfa amgen
• Asesiad ecolegol cychwynnol
• Arolwg ansawdd coed
• Cynllun diogelu coed
Mynegwyd bod Polisi TWR 5 yn datgan y dylai safleoedd ar gyfer llety
gwersylla amgen dros dro a’r polisi yn gosod cyfres o feini prawf ar gyfer
caniatáu datblygiadau o’r fath.
Adroddwyd bod maen prawf 1 polisi TWR 5 yn datgan y dylai unrhyw
ddatblygiad arfaethedig fod o ansawdd uchel o ran dyluniad, gosodiad ac
edrychiad ac y dylai fod wedi’i guddio’n dda gan nodweddion presennol y dirwedd
a / neu mewn lle gellir cydweddu’r unedau teithiol yn hawdd i’r dirwedd mewn
modd nad yw’n peri niwed sylweddol i’w hansawdd weledol.
Ystyriwyd bod y bwriad arfaethedig wedi ei leoli mewn safle oedd yn
guddiedig o’r rhan fwyaf o welfannau cyhoeddus ac yn
safle sydd eisoes wedi ei blannu gydag oddeutu 1000 o goed gyda bwriad o
reoli’r coed trwy frysgoedio (coppicing).
Ategwyd nad oedd y safle o fewn yr AHNE ond fe saif o fewn yr Ardal Tirwedd
Arbennig. Oherwydd ffurfiant y tir a natur goediog y safle, ni ystyriwyd y
byddai’r datblygiad yn achosi niwed arwyddocaol i ansawdd y tirweddau dynodedig
Ystyriwyd bod y cynnig yn cwrdd gyda’r anghenion ar gyfer datblygu safle
gwersylla tymhorol newydd fel y’i nodir ym Mholisi TWR 5 y CDLl
ac o osod amodau priodol yn sicrhau na ddefnyddir y fynedfa briffordd tua'r
gogledd (i'r A497) o gwbl at ddibenion y busnes ynghyd a chamau lliniaru ar
gyfer amddiffyn rhag llygredd a diogelu bioamrywiaeth, y byddai'r datblygiad yn cwrdd gyda gofynion
polisïau perthnasol y CDLl.
a) Yn manteisio ar yr hawl i siarad,
nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:
·
Cais ydoedd i gael maes gwersylla bach o 5 pod
gwersylla wedi'u lleoli mewn coedwig hardd yng nghefn y tŷ.
·
Bod yr holl adroddiadau bioamrywiaeth bellach wedi cadarnhau bod y
coed sydd angen eu dymchwel yn rhai sydd ag afiechyd. Nad oedd bwriad clirio
coed ar gyfer y prosiect, dim ond bod angen iddynt ddod i lawr gan eu bod yn
beryglus
·
Wedi ystyried pod gwersylla amgen yn
hytrach na strwythur pren. Bydd yn haws i’w symud pan fydd angen ei storio ar
ddiwedd y tymor.
·
Bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cymeradwyo’r system trin carthion fyddai’n welliant aruthrol i’r system tanciau
septig sydd yno ar hyn o bryd.
·
Bod hawl mynediad dros y cae yng nghefn
y tŷ - hwn gyda hawl tramwy
cyfreithiol a’r ffordd wreiddiol i fferm Nant. Bydd modd dargyfeirio traffig y
ffordd honno a pharcio wrth y giât. Byddai hyn yn osgoi traffig o ffordd
Pwllheli Nefyn.
·
Bod effaith ar lygredd sŵn a golau
a lles yr ystlumod wedi ei ystyried
·
Bwriad gwarchod a gofalu am yr amgylchoedd hardd sydd yn y Nant -
byddai’r safle yn cynnig profiad cadarnhaol i'r sector twristiaeth ym Mhenrhyn
Llŷn
c) Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y
cais
ch) Yn ystod
y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol gan aelod:
·
Bod creu trac o’r newydd yn ei hun yn
creu llygredd
Mewn
ymateb i gwestiwn ynglŷn â bod y safle yn ‘bell o wasanaethau’, nodwyd bod
y safle yn agos at y brif rwydwaith ffyrdd a bod bysiau yn cynnig opsiwn
cludiant cyhoeddus i’r safle. Y bwriad yn cwrdd â gofynion y polisi.
PENDERFYNWYD:
Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i'r amodau canlynol:
1. Cychwyn o fewn 5 mlynedd.
2. Unol â chynlluniau a gyflwynwyd.
3. Dim defnyddio'r fynedfa i'r
gogledd sy'n cysylltu'n uniongyrchol gyda'r A497 o gwbl at ddibenion y busnes
4. Nifer o unedau ar y safle ar unrhyw un adeg
ar y safle hwn i’w cyfyngu i 5
5. Cyfyngu tymor i rhwng 1 Mawrth a 31 Hydref.
6. Defnydd gwyliau yn unig.
7. Cadw cofrestr o ddefnyddwyr
8. Dim cadw'r
unedau ar y safle y tu allan i'r tymor
9. Yr holl arwyddion mewnol ac
allanol i fod yn Gymraeg yn unig neu yn ddwyieithog gyda’r flaenoriaeth i’r
iaith Gymraeg.
10. Rhaid dilyn argymhellion yr Asesiad Ecolegol
Cychwynnol
11. Rhaid cyflwyno Cynllun Atal Llygredd
fydd yn cynnwys manylion ar gyfer monitro ansawdd y dŵr a ollyngir i
ffosydd
Nodyn - Gwasanaeth
Tân, Cyfoeth Naturiol Cymru, Uned Draenio Tir
Dogfennau ategol: