Cyflwyno adroddiad Rheolwr
Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli
Penderfyniad:
Nodi
a derbyn yr adroddiad a chytuno i’r Aelod Cabinet godi mater y Ddeddfwriaeth
Newydd o Amgylch Badau Dwr Personol gyda y Gymdeithas Llywodraeth Leol.
COFNODION:
Cyfeiriwyd at yr adroddiad oedd wedi ei
chreu gan Reolwr Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli
gan adrodd fel a ganlyn :
1.1
Cod
Diogelwch Morol Porthladdoedd
Atgoffwyd y Pwyllgor bod Barry Davies
(Rheolwr Gwasanaeth Morwrol) yn ymddeol 31/3/23 a’i fod wedi bod yn greiddiol
yn y gwaith morwrol a’r Hafan am dros 27mlynedd. Nododd y Pwyllgor ei ddymuniad
i ysgrifennu ato i ddiolch am ei holl waith ar achlysur ei ymddeoliad.
1.2
Carthu’r
Sianel
Cadarnhawyd bod y gwaith yn mynd rhagddo i
gael gwared a hanner y carthion, ac nad oes effaith andwyol ar y Parc Gwyliau o
wneud hyn. Cadarnhawyd y bydd y gwaith
yn parhau hyd ddiwedd y mis a bod arolwg hydrograffeg wedi ei gynnal.
Mewn ymateb i gwestiwn a yw y grwyn yn gweithio, cadarnhawyd ei bod yn parhau i fod yn
sefyllfa heriol iawn, ond bod ymgais i dynnu 20,000 o dunelli erbyn diwedd y mis,
ac y byddai hyn yn rhywbeth i’w wneud yn flynyddol.
Atgoffwyd y Pwyllgor o’r trefniant blaenorol
i fynd a’r tywod ar draethau megis Grugan, a holiwyd a yw y drefn hon wedi dod
i ben? Cadarnhawyd mai Cyfoeth Naturiol
Cymru (CNC) sydd â chyfrifoldeb am draeth Glandon. Mae hanner wedi ei werth a hanner wrth gefn,
ac mae YGC wedi rhoi cais i symud y tywod i Grugan yn yr Hydref. Dŵr Cymru sydd yn berchen ar y tir, ac
mae yr her i gadw y tywod i lawr yng ngheg yr Harbwr yn parhau. Cadarnhawyd bod y Gwasanaeth mewn lle cryf i
werthu y tywod nawr, a'r gobaith fyddai ei werthu.
Mae carthu basn y marina yn sialens, yn
enwedig gan fod y lagwnau yn llawn, a chyfeiriwyd at y Rhaglen Waith ble mae
trafodaethau ar y gweill gyda CNC i edrych ar roi y llaid yn y môr, ond bod
angen gwneud y gwaith carthu yn Hydref 2023.
Cadarnhawyd bod gwerthu y tywod ar £5.17 y
dunnell, yn cyfrannu tua £130,000 ond bod £50,000 ohono yn mynd i Stad y Goron
a chytunwyd bod angen llythyru Stad y Goron.
Nodwyd bod ymgais i’w gael yn gost niwtral, gan gofio bod carthu ceg yr
Harbwr yn £100,000 ar ei ben ei hun, ac yn her enfawr. Mae angen datrysiad ynglŷn â beth i’w
wneud gyda y carthu, gan fod angen carthu yn rheolaidd heb amharu ar ddefnydd
o’r Harbwr.
Cwestiynwyd yr hyn sydd yn y lagŵn, a’r
pryder nad oes modd iddo fynd i’r chwarel?
Cadarnhawyd bod y rheolau/safonau wedi newid, a’i fod yn cael ei brofi
yn aml, a bod Jones Brothers yn edrych ar ei gywasgu, ond bod gwaith ar
ddatrysiad yn parhau. Yn sgil hyn,
cadarnhawyd bod y tywod 2% rhy uchel i’w roi ar Draeth Berch. Nodwyd pryder am y sefyllfa a nodwyd bod lle
ar Domen Tŷ Towyn. Holiwyd oni
fyddai modd trafod gyda CNC a chadarnhawyd bod sgwrs fuddiol wedi bod rhwng YGC
a CNC. Yn ychwanegol nodwyd bod Rheolwr Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli wedi amlinellu y sialens
wrth CNC wrth drafod y Cynllun Perygl Llifogydd Pwllheli, sydd yn rhaglen
hirdymor. Cadarnhawyd bod y Swyddog YGC
yn trafod hyn, ynghyd a’r drwydded forol, heblaw am adeiladu lagwnau. Nodwyd mai y rith sydd wedi ei lygru, gyda
thua 40,000 tunnell i’w waredu, a’r bwriad fyddai gwaredu 10,000 tunnell y
flwyddyn.
1.3 Materion Ariannol
Cyfeiriodd Rheolwr Masnachol
Hafan a Harbwr Pwllheli at y gwaith uwchraddio, gan gadarnhau y bydd y
bont cei tanwydd wedi ei dileu ar ôl y Pasg.
Nodwyd bod cydweithio gydag Antur Waunfawr drwy osod y rac beics,
ail-leoli beics i Beics Antur, edrych ar osod banc dillad a defnyddio eu
gwasanaeth gwaredu papur. Cadarnhawyd o
ran tanwydd y bydd y pontŵn yn cyrraedd cyn Pasg ond na fydd y newidiadau
yn cael eu gwneud nes ar ôl y Pasg, ac y bydd yr hen bont tanwydd yn parhau i
weithio.
1.4 Ffioedd
a Thaliadau 2023/2024
Cadarnhawyd bod y ffioedd wedi eu cymeradwyo
gan y Cyngor a’i bod yn sefyllfa heriol iawn.
Mae Cytundebau wedi eu danfon a 303 wedi eu derbyn a 26 yn unig wedi
canslo. Cadarnhawyd ei bod yn edrych yn
dda yn yr Hafan gyda llawer eisiau dod i Bwllheli. Nodwyd bod nifer heb dderbyn y cytundebau
trwy’r post ac yn edrych i symud i sustem electronig y flwyddyn nesaf, ond
teimlwyd y byddai yr Hafan yn llawn erbyn Mawrth.
Cyfeiriwyd at Adolygiad y Cyngor, gan nodi
bod tair elfen o arbedion yn yr Hafan. Codwyd pryder am y patrwm yn y toriadau
a chwestiynwyd y synnwyr y tu ôl i'r toriadau, yn enwedig torri yn ôl ar yr
Harbwr yn flynyddol, yn hytrach na buddsoddi.
Cymerodd yr Aelod Cabinet y cyfle i ddweud
ei bod wedi ymweld â’r Harbwr ac wedi gweld y gwaith gwych. Serch hynny, nododd bod yn rhaid i bob Adran
yn y Cyngor edrych ar arbedion oherwydd y bwlch ariannol a’r codi mewn
chwyddiant, ac nad oedd dewis ond gofyn am arbedion o bob Adran, gan bwyso a
mesur anghenion trigolion Gwynedd.
Nododd nad yw toriadau byth yn hawdd a bod penderfyniadau anodd wedi eu
gwneud. Ategodd Rheolwr Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli y sylw, gan nodi bod y
toriad yn llai nag Adrannau eraill.
Nododd y nod i gynyddu targed incwm, wrth aros yn gystadleuol. Cyfeiriodd at arbediad hanesyddol, gan nodi
nad yw canran Stad y Goron wedi cynyddu ers blynyddoedd. Cadarnhaodd hefyd na fydd staff ychwanegol yn
cael eu penodi dros yr Haf.
Ategwyd sylwadau yr Aelod
Cabinet gan y Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned, gan nodi fel y bu yn
rhaid i bob Adran adnabod arbedion of 20% o’r gyllideb yn y lle cyntaf oedd yn
her aruthrol o ran blaenoriaethu.
Cadarnhaodd nad oes neb yn hoffi toriadau/arbedion ond nododd ei fod yn
eithaf hyderus na fyddai yn cael effaith andwyol ar drigolion Gwynedd. Nododd bod pwysau aruthrol ar gyllideb
gyhoeddus. Cadarnhaodd nad oedd y
ffioedd wedi eu codi yn uwch na chwyddiant.
Atgoffwyd pawb am yr angen i gadw yr uchelgais, gan gofio am y
buddsoddiad yn y Cynllun Datblygu Pwllheli/Glan Don.
Gwnaed y sylwadau canlynol gan y
Pwyllgor
-
Mae tanwydd
yn rhatach mewn mannau eraill, a nodwyd yr ymdeimlad
bod llawer ddim yn mynd allan oherwydd
costau tanwydd a nodwyd hefyd ei
fod yn arfer bod yn rhatach yn y Marina.
-
Nid
oes neb wedi gwrthwynebu y codiad mewn ffioedd ond
nodwyd anfodlonrwydd gyda y costau trydan
a’r angen am system decach, megis mesurydd
clyfar neu dechnoleg fodern. Mewn ymateb, nodwyd,
yn hanesyddol, bod trydan
yn cael ei gyfrifol yn ôl metredd cwch, a bod gwaith chwilio am ddatrysiad megis edrych ar bwyntiau
gwefru ar y gweill, ond nad
oedd modd newid ar hyn
o bryd. Y gobaith oedd y byddai ffioedd trydan yn gostwng er mwyn cael pris teg i bawb.
1.5
Eitemau Gweithredol
Mordwyo – ar 20
Mawrth 2023, nodwyd bod popeth yn ei le.
Staffio -
rhoddwyd clod mawr i’r tîm, oedd wedi derbyn 91% bodlonrwydd mewn holiadur
deiliaid angorfeydd, sef gwasanaeth ‘ardderchog’ neu ‘dda iawn’.
Graff - o’r
canlyniadau mae modd targedu gwaith megis wifi a’r
maes parcio, mae hwn yn waith pwysig sydd wedi dangos canlyniadau gwerthfawr
sydd wedi ei gael o’r holiadur.
Llongyfarchwyd y tîm ar y ffigyrau boddhad cwsmer.
Badau Personol -
adroddwyd yn flaenorol nad oeddynt yn cael eu hadnabod fel cychod, ac o
ganlyniad nad oedd yn glir ar hyn o bryd pwy fyddai a’r hawl erlyn, petai achos
yn codi. Adroddwyd y bwriad nawr i
hyrwyddo y ffaith bod badau personol gyda dirwy neu ddedfryd carchar erbyn hyn
a bod darn o waith i’w wneud yma.
Cwestiynwyd onid mater i Gymdeithas Llywodraeth Leol fyddai hyn, gan fod
materion ehangach? Cadarnhawyd bod y
Rheolwr Gwasanaeth Morwrol Newydd yn cyfarfod gydag Awdurdodau Harbwr y DU i
godi y mater, gan fod nifer o faterion aneglur sydd â disgwyliadau yn codi
ohonynt. Diolchwyd i’r cyn-Reolwr
Gwasanaeth Morwrol am y gwaith ar hwn a chytunodd yr Aelod Cabinet i holi
ymhellach.
Nodwyd yr ymdeimlad bod yr
holiadur yn adlewyrchiad o sut oedd pobl yn teimlo a’i fod yn farina gwych ar y
cyfan. Awgrymwyd bod badau personol yn cael eu barnu yn annheg braidd ac y
dylai unrhyw arwyddion o rybudd fod ar gyfer sylw pawb. Nododd Rheolwr Masnachol Hafan a Harbwr
Pwllheli yr angen i berchnogion badau personol cael eu haddysgu er mwyn gwella yr
amser ar y dŵr i bawb.
Cynllun Strategol -
cadarnhawyd bod cyfarfod cychwynnol wedi cymryd lle gyda Blue Sea Consulting, a’u bod yn ymweld
eto
28 Mawrth - Swyddogion a
Chynghorwyr Sir i groesawu yr Ymgynghorwyr
29 Mawrth - Sesiynau galw mewn
ym Mhlas Heli - croeso i bawb alw i mewn neu drefnu amser
30 Mawrth – Bydd yr Ymgynghorwyr
o gwmpas yn y bore.
Cadarnhaodd y Rheolwr Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli y
byddai yn ysgrifennu at y Pwyllgor gyda y dyddiadau uchod.
Cadarnhaodd y byddent yn cynnal Adolygiad o ardal Glan Don,
Cae Ceffyl ayyb a Chynllun Strategol Glan Don.
Cymerwyd y cyfle i
-
Hysbysu
y Pwyllgor y bydd Prosiect Pum Mil ym Mhlas Heli yn gweithio ar brosiect
cymunedol i osod mwy o gyfleusterau
cawod. Un bwriad yw codi
arian at awtistiaeth ac anogwyd y Pwyllgor i fynychu ar
y diwrnod
-
Nodi bod Plas Heli a’r Clwb hwylio wedi
ennill nifer o gystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol i ddod
i Bwllheli yn ddiweddar.
PENDERFYNWYD :
Nodi
a derbyn yr adroddiad a chytuno i’r Aelod Cabinet godi mater y Ddeddfwriaeth
Newydd o Amgylch Badau Dwr Personol gyda Cymdeithas Llywodraeth Leol.
Diolchwyd i bawb am eu cyfraniadau
gwerthfawr.
Dogfennau ategol: