Agenda item

Cyflwyno adroddiad Rheolwr Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli

Penderfyniad:

Nodi a derbyn yr adroddiad

 

Cofnod:

Cyfeiriwyd at yr adroddiad oedd wedi ei chreu gan Reolwr Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli gan adrodd fel a ganlyn :

 

1.1           Cod Diogelwch Morol Porthladdoedd

 

Cadarnhawyd ei bod yn parhau i fod yn flaenoriaeth gan yr Uwch Swyddog Harbwr, ynghyd â'r Rheolwr Gwasanaeth Morwrol newydd, Bryn Pritchard Jones, i ddiweddaru'r Côd Diogelwch ar gyfer pob harbwr yng Ngwynedd.  Atgoffwyd pawb eto, i gysylltu os oedd unrhyw drafferth.

 

1.2           Carthu’r Sianel

 

Adroddwyd bod carthu’r sianel yn parhau i fod yn her er bod gwaith cydweithio gyda YGC wedi ei wneud i gynnal gwerthusiad.  Yr opsiwn llawn fyddai i gynnal y basn, sianel a cheg yr Harbwr.  Nodwyd bod YGC wedi bod yn aflwyddiannus yn cael eu grant eleni a maethu Cerrig y Defaid.

 

Nodwyd mai un opsiwn fyddai gwagio y ‘stilling lagoon’ ond fod y gost o £1miliwn wedi ei rhoi trwy dendr ar y gwaith. Mae trafodaethau yn parhau gyda y cwmni i weld a oes datrysiad gwell.  Cadarnhawyd y bydd y tendr i garthu basn y marina allan yn fuan, ond mai y prif fater oedd ble i roi y gwaddod.  Er gwybodaeth, adroddwyd bod yr Arweinydd a’r Aelod Cabinet wedi gofyn am adroddiad ar y sefyllfa.

 

Codwyd pryder na lwyddodd YGC i gael y grant eleni i faethu traeth Cerrig y Defaid, sydd yn meddwl fod y tywod ar geg yr harbwr i’w werthu yn ei gyfanrwydd.  Cadarnhawyd mai ar gyfer y flwyddyn hon maent wedi bod yn aflwyddiannus a’u bod yn edrych ar y Cynllun Llifogydd tymor hir, gan gadarnhau bod gwagio ceg yr Harbwr yn fater blynyddol ac yn gost niwtral i’r Hafan ar hyn o bryd.

 

Cwestiynwyd ymhellach y pryder o ran ceg yr Harbwr gan holi tybed a oes unrhyw un wedi edrych ar y sefyllfa yn greadigol?  Megis ei chwythu gyda phwmp ar hyd traeth megis Traeth Glandon? Mantais hyn fyddai y gost gan mai unwaith yn unig fyddai angen ei symud.

Atgoffodd y Rheolwr Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli fod Traeth Glandon o dan reolaeth Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a’u bod wedi gwrthod y tywod oherwydd nid oedd yn cyrraedd y safonau bioamrywiaeth, a bod eisoes cyd-weithio ar y Cynllun Risg Llifogydd.

 

Atgoffodd y Cadeirydd bawb bod cyfarfod wedi ei drefnu yn Siambr y Cyngor Tref gyda Chyfoeth Naturiol Cymru ac estynnwyd gwahoddiad i Reolwr Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli ac unrhyw aelod o’r Pwyllgor fynychu y cyfarfod ar 22/11/23.

 

Nodwyd bod y sefyllfa carthu yn rhwystredig a bod y basn mewn angen dirfawr o’i garthu a holiwyd beth yw y rhagolygon o ran gwneud y gwaith carthu?

 

Adroddodd y Rheolwr Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli bod y Gwasanaeth yn gweithio mor galed â phosib ac yn ceisio gwneud gwaith.  Adroddodd bod lle bychan yn y lagwnau ac mae’r bwriad fyddai defnyddio y lagwnau tra bod y trafodaethau ar y gweill.

 

Roedd un Aelod yn teimlo bod llwyddiant yr Hafan a’r Harbwr yn dibynnu ar y gwaith carthu, gydag incwm o £1.8 miliwn, ac yn wirioneddol nad oedd rheswm i beidio â darganfod yr arian i wneud y gwaith, a’i wneud ar frys.  Cwestiynodd, onid fyddai modd gosod rhaglen iawn o waith, a gosod y gwaith hwn fel y gwaith pwysicaf.  Yn ychwanegol, holiwyd onid oes angen ei wneud i gydymffurfio a Strategaeth 2016?

 

Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet ei bod yn clywed y neges yn glir ac yn sylweddoli ei fod yn fater pwysig iawn.  Diolchodd i Reolwr Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli a’r Pennaeth Cynorthwyol Adran Economi a Chymuned am eu gwaith a’r bartneriaeth sydd gyda CNC gan nodi y byddai yn herio y sefyllfa.

 

Adroddodd Pennaeth Cynorthwyol Adran Economi a Chymuned ei fod yntau yn rhannu y rhwystredigaeth ynglŷn ar sefyllfa carthu, gan gadarnhau mai y prif rwystr yw beth i wneud gyda y gwaddod.  Cadarnhaodd bod y syniad o’i bwmpio i’r môr wedi ei wrthod a bod gwaith o gyd-weithio gyda chwmnïau preifat heb ddod a datrysiad.  Cadarnhaodd eu bod wedi ail-edrych ar yr opsiynau hefyd.  Cadarnhaodd mai CNC sydd nawr yn arwain ar y gwaith llifogydd a bod angen ail-edrych ar faterion cynhennus maes o law.

 

Cadarnhaodd bod dymuniad i gael datrysiad, ac nad oherwydd diffyg ariannol nac ymgais oeddynt yn y sefyllfa bresennol.

 

Nododd y Cadeirydd bod angen bod mwy cadarn gyda CNC a bod yn barod i’w herio.

 

1.3       Materion Ariannol

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli bod yr elw y cyfeiriwyd ato uchod wedi ei ymrwymo ond bod 3 gronfa - carthu, gwelliannau a chychod, a bod cyfleoedd weithiau yn codi i gael pethau newydd.

 

Cyfeiriodd at yr holiadur PMBHA oedd wedi tynnu sylw at y diffyg cysylltiad wifi a materion yn ymwneud a’r maes parcio.  Cadarnhaodd bod y sefyllfa wifi yn llwyddiannus erbyn hyn a bod gosod paneli solar a mannau gwefru ceir trydan ar waith, gyda phrosiect yn ei le, ond dim amserlen.

 

Nododd bod yr Adroddiad Incwm yn cadarnhau bod yr Hafan a’r Harbwr wedi cyrraedd y targed er ei bod wedi bod yn flwyddyn ddistaw, gyda llai o ymwelwyr a llai o gychod wedi mynd allan.  Adroddwyd bod hyn yn rhannol oherwydd y tywydd ac yn rhannol oherwydd y sefyllfa costau byw.

 

Adroddwyd bod y deiliaid angorfeydd yn hapus gyda y gwelliannau, gan gadarnhau nawr bod rhai o’r cychod mawr wedi symud ymlaen bod y lle yn edrych yn dda.  Adroddwyd mai y peth pwysicaf yw gwybod faint fydd y ffioedd fel y gall pobl gyllidebu, ac erfyniwyd i gael gwybod cyn gynted â phosib.  Yn ychwanegol, nodwyd gan fod costau trydan wedi gostwng yn ystod y flwyddyn bod pobl yn edrych i adfer rywfaint.  Adroddodd hefyd bod cost y tanwydd yn fater o bryder, a’i fod tua 20c yn ddrytach na garejys lleol, a’r gobaith y byddai yn dod i lawr yn ei bris.

 

Adroddwyd bod nifer yr ymwelwyr wedi haneru a chwestiynwyd sawl cwch oedd wedi ei throi i ffwrdd, gan nodi bod ymwelwyr yn gwario yn y Dref.  Nodwyd petai y piles yn dda, byddai pontwns yn hynod fanteisiol a nodwyd bod angen edrych ar fwy o bontwns.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli eu bod wedi derbyn nifer is o alwadau ac nad oeddynt yn gwrthod neb oddi ar y môr.  Nododd ei fod wedi gweld gwahaniaeth flwyddyn yma ac yn derbyn y sylwadau uchod.

 

Cyfeiriwyd at ymgynghoriad sydd ymlaen ar hyn o bryd, sydd yn cadarnhau nad y Cyngor yn unig fydd yn arwain ar y Strategaeth, ac nad yw yr arian ar gael i gynnal popeth sydd yn y Cynllun.

 

Cwestiynwyd y sefyllfa is-osod a chadarnhawyd nad yw y Cyngor yn edrych ar is-osod angorfeydd, ond petaent yn edrych ar is-osod byddai costau blynyddol wedyn, o ganlyniad, yn codi.   Cadarnhawyd nad yw marinas eraill lleol yn ei gynnig a bod Hafan a Harbwr mewn lle da ar hyn o bryd, ond y byddai modd ei ystyried petai y sefyllfa  yn newid.

 

Cyfeiriwyd at restrau aros blaenorol oedd wedi codi o 0, i 75 i 222.  Cadarnhawyd bod sefyllfa debyg wedi bodoli o’r blaen ac mai yr ymateb oedd codi y ffi, ond codwyd y pryder bod modd gorgodi ffioedd.  Cywirwyd yr uchod gan gadarnhau bod Plas Heli yn is-osod ond ei fod yn creu llawer o waith a’r manteision yn fychan.

 

Nodwyd bod Hafan a Harbwr yn llawn, bod rhestr aros yn ymddangos yn helaeth, ond drwy grafu drwy y rhestrau aros ei bod wedi dod yn fwy amlwg bod y farchnad yn fregus a bod hyn wedi ei nodi i’r Cyngor fel risg.  Nodwyd bod y farchnad yn un heriol, a bod llawer o ymholiadau yn dod i mewn o ran pobl eisiau gwerthu eu cychod.

 

1.4       Ffioedd a Thaliadau 2023/2024

 

Cadarnhawyd bod y Rheolwr Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli  a’r Pennaeth Cynorthwyol Adran Economi a Chymuned yn awyddus i gael y prisiau allan cyn gynted â phosib.  Cadarnhaodd mai y cynnig gerbron y Cabinet fydd codi ffioedd yn unol â chwyddiant.  Cyfeiriodd at heriau sydd wedi dod yn amlwg, megis cychod yn rhoi badau dwr ynghlwm ynddynt a bod angen edrych ar ffioedd yn sgil hyn.  Cadarnhawyd bod y gwaith papur yn ei le a bod disgwyl i Benaethiaid edrych arno maes o law.

 

Mynegwyd pryder y byddai y Cyngor yn torri yn ôl yn y maes, gan gwestiynu onid cadw yr iâr sydd yn dodwy  byddai orau a bwysicaf?

 

Adroddodd y Rheolwr Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli bod arbedion a thoriadau wedi eu gwneud flwyddyn ddiwethaf drwy beidio â llenwi swydd, codi lefi tanwydd a derbyn ad-daliad o Stad y Goron.  Cadarnhawyd nad oes toriadau ar restr Hafan a Harbwr ar hyn o bryd. 

 

Gofynnodd y Cadeirydd i’r Aelod Cabinet adrodd yr uchod i’r Cabinet a chadarnhaodd yr Aelod Cabinet ei bod yn clywed y neges.  Adroddodd yr Aelod Cabinet ei bod yn derbyn cyflwyniad 11/10/23 ar sefyllfa ariannol y Cyngor ac mai rôl Aelodau fyddai dewis a dethol y ffordd ymlaen.  Cadarnhaodd hefyd, yn dilyn cyfarfod gyda’r Gweinidog Cyllid na fydd Gwynedd yn ymwybodol o’r setliad nes 18/12/23.

 

Adroddwyd ar ran y deiliaid angorfeydd y balchder eu bod yn cael gwerth am arian, ac wrth dderbyn y sylwadau ynglŷn â diffyg ymwelwyr, byddai rhai morwyr yn hoffi ad-daliad megis is-osod, ond yn amlwg yn deall y rhesymeg.  Yn amlwg pan mae yr angorfeydd yn llawn, nid oes angen ystyried hyn ond gofynnwyd i’r posibiliadau gael eu gadael yn agored.

 

Cwestiynwyd pryd fydd y system ar-lein ar gyfer angorfeydd a thaliadau yn barod?  Cadarnhawyd bod y system Havenstar mewn trafodaethau gyda'r Adran Gyllid, gan nad yw y Rheolwr Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli yn ymwneud a’r ochr ariannol.  Cadarnhawyd y bydd y cytundeb blynyddol yn cael ei ddanfon drwy e-bost er mwyn gwneud y broses yn haws a lleihau costau postio.

 

1.5        Eitemau Gweithredol

 

Mordwyo - cadarnhawyd nad oedd unrhyw rybuddion ar hyn o bryd.  Adroddwyd bod llain o forwellt ar draeth Abererch a Cherrig y Defaid ar hyn o bryd

 

Staffio - adroddwyd bod Andy Green yn gwella ac yn cryfhau a bod y Rheolwr Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli mewn cyswllt ag o, a’r gobaith  y daw adref yn fuan.  Adroddwyd ei bod wedi bod yn sefyllfa heriol, gan fod Andy yn aelod o staff canolog i lwyddiant yr Hafan.  Gofynnodd y Cadeirydd i neges o wellhad buan gael ei ddanfon ato ar ran y Pwyllgor.

 

Cwestiynwyd lleoliad y morwellt gan gwestiynu tybed a oedd rhai yn angora yn y safle hwn?  Cadarnhawyd bod angorfeydd bloc yn yr ardal hon, a nodwyd os yw y morwellt yn rhwystr onid yw angorfeydd dros dro yn bwysicach?  Cadarnhaodd y Rheolwr Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli nad yw yn agos i’r brif fynedfa ond cytunodd i wirio y sefyllfa.

 

Cynllun Strategol - cadarnhawyd bod cyfarfod cychwynnol wedi cymryd lle gyda yr Ymgynghorwyr, ond eu bod wedi bod yn wael iawn dros yr Haf.  Cadarnhawyd eu bod yn dod yn ôl i’r ardal 12 ac 13 o Hydref ac y bydd cyfle am sgwrs neu gyfarfodydd un i un i drafod syniadau am yr ardal dan sylw sef Cei Gogledd, Hen Ynys, Harbwr Allanol, Harbwr Mewnol a Chae Ceffyl a gobeithiwyd y bydd yr Adroddiad yn barod erbyn y Nadolig 2023.

 

PENDERFYNWYD :

Nodi a derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: