Agenda item

Cais llawn i ddymchwel 107 uned byw, 3 adeilad a ddefnyddir fel 4 uned llety ymwelwyr, cartref nyrsio, ystafelloedd cysgu sgowtiaid, neuadd a gweithdy, adeilad llyfrgell/neuadd, swyddfeydd a modurdai a chodi 107 uned preswyl (100% tai fforddiadwy) yn eu lle ynghyd a newidiadau i'r ffordd fynediad fewnol gyda gwaith cysylltiol a thirlunio.

AELODAU LLEOL: Cynghorydd Angela Russell a’r Cynghorydd  Anwen Davies

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu yn ddarostyngedig i amodau cynllunio a cytundeb 106 ar gyfer cyfraniad addysgol

1.         5 mlynedd

2.         Unol â’r cynlluniau a’r dogfennau a gyflwynwyd fel rhan o’r cais

3.         Llechi ar y to/cytuno gorffeniad to a paneli pv

4.         Cytuno gorffeniad allanol

5.         Cytuno manylion

6.         Cytuno materion tai fforddiadwy

7.         Amod dymchwel a datblygu cam wrth gam

8.         Amodau Llygredd Tir

9.         Cyflwyno manylion cynllun naill ai i warchod y cyflwr strwythurol neu ddargyfeirio'r prif gyflenwad dŵr sy'n croesi'r safle.

10.       Cyflwyno cynllun delio gyda dŵr budr

11.       Cynllun rheoli llwch, sŵn a dirgryniad o ganlyniad i’r gwaith dymchwel

12.       Oriau gwaith 08:00-18:00 Llun i Gwener 08:00-13:00 Sadwrn a dim o gwbl ar y Sul a Gŵyl y Banc.

13.       Cyflyno a chytuno cynllun rheoli ecolegol, cynefin a glaswelltir/dol blodau

14.       Rhaid i arbenigwr coed fod yn bresennol ar y safle drwy gydol y gwaith.

15.       Ni chaniateir unrhyw waith a fyddai’n amharu ar nythod adar yn ystod y cyfnod nythu rhwng 1af Fawrth a 31 Awst oni bai y cytunir fel arall o flaen llaw.

16.       Amodau archeolegol

17.       Tynnu hawliau dirprwyedig a ganiateir

18.       Tirweddu

19.       Hysbysebion Cymraeg

 

Cofnod:

Cais llawn i ddymchwel 107 uned byw, 3 adeilad a ddefnyddir fel 4 uned llety ymwelwyr, cartref nyrsio, ystafelloedd cysgu sgowtiaid, neuadd a gweithdy, adeilad llyfrgell/neuadd, swyddfeydd a modurdai a chodi 107 uned breswyl (100% tai fforddiadwy) yn eu lle ynghyd a newidiadau i'r ffordd fynediad mewnol gyda gwaith cysylltiol a thirlunio.

Roedd rhai o’r aelodau wedi ymweld â’r safle 5ed o Fedi 2023

a)    Amlygodd yr Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu bod safle'r cais llawn, unigryw yma yn cynnwys Pentref Pwylaidd Penrhos sydd wedi ei leoli rhwng tref Pwllheli a Llanbedrog gyda mynediad i'r safle ar hyd trac preifat uniongyrchol o'r A499. Mae’r safle wedi ei leoli yn gyfan gwbl yng nghefn gwlad agored a thu allan i unrhyw ffin datblygu.

 

Byddai’r gwaith dymchwel yn digwydd mewn 3 rhan gyda’r cam cyntaf yn golygu dymchwel yr adeiladau sydd wedi eu lleoli ar y dde wrth fynediad y safle. Byddai’r Eglwys, ffreutur ac ystafell fwyta ynghyd a’r ardd goffa, rhandiroedd a’r orsaf bws yn parhau. Mae bwriad gwneud newidiadau i’r ffordd stad fewnol gan gynnwys darparu rhai rhannau newydd.

 

Bydd yr adeiladau newydd hefyd yn cael eu hadeiladu mewn 3 cam, gyda’r cam cyntaf yn sicrhau llety ar gyfer y preswylwyr presennol; codi 44 uned yn y cam cyntaf sy’n cynnwys 12 byngalo, 2 a 30 o fflatiau; codi 49 uned yng ngham 2 ac 14 yng ngham 3. Mae’r holl unedau yn cael eu cynnig fel unedau fforddiadwy ar ffurf cartrefi gydol oes.

 

Yng nghyd-destun y cyn-gartref Gofal, adroddwyd bod y cartref gofal wedi gweithredu fel elfen bwysig o’r safle a bod y sylwadau a dderbyniwyd yn amlygu bod y gymuned wedi siomi pan gaewyd y cartref yn fuan wedi i’r safle drosglwyddo i feddiannaeth yr ymgeisydd. Ategwyd bod ymrwymiad i drosglwyddo ardal benodol o’r safle i Cyngor Gwynedd gyda chytundeb drafft wedi ei chytuno rhwng Clwyd Alun a’r Cyngor gyda bwriad i’w harwyddo’n fuan. Nodwyd bod Cabinet Cyngor Gwynedd wedi cytuno i wneud cais am £14.6 miliwn gan Lywodraeth Cymru i ariannu codi a datblygu cartref gofal newydd ar y safle. I’r perwyl hyn, oherwydd goblygiadau hyfywedd ar gyfer parhau a gwella’r cartref presennol ac yn seiliedig ar ymrwymiad yr ymgeisydd i drosglwyddo tir i ddigolledu cyfleusterau presennol ac ymrwymiad gan y Cyngor i ddarparu cartref gofal a nyrsio ynghyd a darpariaeth gofal a chymunedol,  ystyriwyd fod y bwriad yn cyd-fynd gydag amcanion polisi ISA 2 o ran gwarchod cyfleusterau cymunedol.

 

O ran camau 2 a 3, bydd bwriad i’r ddarpariaeth sicrhau adnoddau staffio ac y bydd rhai tai yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer pobl sydd yn gweithio ar y safle neu o fewn y sector iechyd a gofal lleol ehangach. Pan fo anghenion unigolion yn newid, gall y rheiny ag anghenion gofal uchel/cymhleth gael yr opsiwn o symud i'r cartref gofal a nyrsio ar y safle. Bydd y cartref gofal a nyrsio hefyd yn darparu anghenion gofal uchel/cymhleth a gyfyd o'r gymuned leol. Mae dealltwriaeth fod anghenion pobl yn newid dros amser ac mi fydd y cydbwysedd tai yn cael ei adolygu'n flynyddol. 

 

Yng nghyd-destun mwynderau gweledol, nodwyd er bod rhai o’r unedau bwriedig yn fwy o ran maint ac uchder na’r adeiladau presennol, bod y safle yn eang iawn a bod bwriad cadw rhan helaeth o’r tirweddu mewnol. O gofio fod y safle eisoes wedi ei ddatblygu a bod yr effaith weledol wedi ei gyfyngu, ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn achosi effaith weledol sylweddol ar y dirwedd ac, yn ddarostyngedig i amodau tirlunio, yn cydymffurfio a gofynion polisïau PCYFF 2, 3 a 4 o’r CDLl.

 

Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl, ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol ac na fydd yn achosi effaith andwyol sylweddol ar fwynderau trigolion lleol ac felly mae’r bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau PCYFF 2 a 3 o’r CDLl. Yng nghyd-destun materion trafnidiaeth a mynediad, nodwyd nad oedd gan yr Uned Drafnidiaeth unrhyw wrthwynebiad i’r bwriad ond eu bod wedi cyfeirio at yr arwyddion busnesau lleol ar y gyffordd gyda’r briffordd A499. Nid yw’r gyffordd o fewn perchnogaeth yr ymgeisydd nac yn ffurfio rhan o’r cais cynllunio ac felly nid oes modd rheoli’r arwyddion drwy’r cais gerbron.

 

Mynegwyd bod y bwriad yn gynllun unigryw, yn darparu unedau preswyl ar gyfer poblogaeth hŷn Ardal Llŷn, ac yn eu galluogi i dderbyn cartrefi gydag elfennau o ofal heb orfod symud o’r ardal leol. Mae’r cais yn rhan o gynllun ehangach ar gyfer pentref gofal gyda chartref nyrsio a darpariaeth eang o gyfleusterau meddygol a chymdeithasol. Nodwyd bod yr ymgeisydd yn gweithredu gyda Cyngor Gwynedd i gyrraedd y nod yma. Cydnabuwyd bod y safle presennol yn unigryw ac wedi gweithredu fel model o ddarparu cartrefi gofal hunangynhaliol ynghyd â chartref nyrsio a chyfleusterau cymdeithasol ers blynyddoedd, ond fod yr adeiladau a’r costau cynnal yn golygu fod y safle angen ei ailwampio’n sylweddol gyda rhaglen o fuddsoddiad ac ailddatblygiad.

 

Ystyriwyd bod y nifer sylwadau a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus wedi derbyn sylw llawn. Roedd y bwriad yn dderbyniol ac yn cydymffurfio â gofynion  polisïau cenedlaethol a lleol.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd gwrthwynebydd i’r cais y sylwadau canlynol;

·         Bod y pentref yn bentref cymunedol yn darparu gofal ychwanegol

·         Bod y cais yn un i ddymchwel y cyfan ac ailadeiladu tai. Dim cynlluniau i ail osod ystafelloedd cyfarfod, golchdy na siop trin gwallt.

·         Dim sicrwydd bod y staff arbenigol yn cael lle yn y tai

·         Dim sicrwydd bod cyfleusterau cymunedol ar gael i’r pentref - rhaid cael y rhain fel rhan o’r cais

·         Dim gweledigaeth sydd yma ond bwriad i gael gwared â chymuned ffyniannus

·         Bod ymweliad i Gartref Cefni i weld cynllun tebyg wedi bod yn agoriad llygad, ond bod y cynnig gerbron dim byd tebyg i’r hyn a welwyd yno

·         Cais i’r Pwyllgor wrthod cynllun Clwyd Alun ac ystyried yr anghenion yn llawn. Byddai’r cynllun yn anheg ar drigolion Llŷn

 

c)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol;

·         Clwyd Alun wedi bod yn berchnogion y safle ers Medi 2020 a hynny oherwydd nad oedd gan y gymdeithas tai Pwyleg y gallu i barhau i gynnal y gwasanaeth

·         Bod bwriad dymchwel 107 o’r unedau presennol ac ail adeiladu cymysgedd o 107 o dai dros 3 cam.

·         Bod ymgyrchu helaeth dros y ddwy flynedd i sicrhau bod y cynllun yn addas - trafodaethau wedi eu cynnal gyda’r Bwrdd Iechyd Lleol, Llywodraeth Cymru a'r Awdurdod Cynllunio Lleol

·         Bod yr elfen gofal wedi dod i ben Rhagfyr 2020 - hyn yn ergyd drom i’r ardal - Clwyd Alun wedi cydweithio gyda Chyngor Gwynedd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ail ddatblygu - ymrwymiad cadarn yma i ddatblygu

·         Nad oedd yr adeiladau presennol yn addas

·         Bod y tai a gynigir yn dai fforddiadwy ac yn dai gydol oes - y cynllun yn cynnig cymysgedd o dai gydag unedau hyblyg

·         Bod Cynllun Penrhos yn unigryw ac y byddai adeiladu’r tai yn gatalyst i ddatblygiad cartref gofal ar y safle.

 

d)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelodau Lleol y sylwadau canlynol;

 

Cynghorydd Anwen Davies

·         Bod y cynllun yn cynnig 100% tai fforddiadwy

·         Er bod yr adeiladau presennol, sydd wedi dirywio, yn cael eu dymchwel, bod y newid er gwell

·         Bod angen gwarchod yr elfen ieithyddol - pobl leol angen gofal yn eu mamiaith

·         Bod y safle gyda darpariaeth safle bws

·         Byddai’r cynllun yn hwb i’r economi leol

·         Bod y safle yn ganolog i’r trigolion

·         Bod angen cadarnhad pryd fydd y cartref gofal yn cael ei ddatblygu

·         Bod materion llifogydd a mynedfa wedi cael sylw

·         Y safle yn safle braf, bendigedig ac yn well o fod yn cael ei adnewyddu

·         Ei bod yn gefnogol i’r cynllun

 

Cynghorydd Angela Russell

·         Bod ganddi atgofion melys o fyw gerllaw ardal y safle

·         Bod pryderon mawr wedi codi pan ddaeth yn amlwg nad oedd y gymdeithas tai Pwyleg yn gallu parhau i wasanaethu’r gymuned Pwylaidd

·         Yn diolch i Cyngor Gwynedd am gamu fyny - cais cynllunio wedi ei gyflwyno Mai 2020

·         Llawer o waith trafod ymysg partneriaethau – y sefyllfa yn llawer cliriach erbyn hyn a’r weledigaeth i weld yn glir (llythyr yn datgan hyn wedi ei lofnodi Hyd 2023)

·         Bod y tai yn 100% fforddiadwy ac yn cynnig elfen gofal - yn cadw’r cyswllt lleol, yn cynnig buddiannau lleol ac yn darparu gofal yn lleol

·         Bod y cynllun i’w wneud mewn 3 cam ac felly ni fydd pob dim yn cael ei chwalu ar yr un pryd

·         Croesawu bod trigolion presennol, lleol yn cael blaenoriaeth

Bod y datblygiad yn cryfhau’r economi, y gadwyn cyflenwi ac yn sicrhau gwaith - yn cynnig swyddi yn y maes gofal - hyn yn hwb ac yn gyfle i gadw pobl yn lleol

·         Bod ystyriaethau i greu academi gofal ar y safle - hyn i’w groesawu

·         Bod cysylltiadau trafnidiaeth dda

·         Bod y cais yn gyfle i wireddu gweledigaeth - yn ymateb i ethos Penrhos gan sicrhau bod gofal yn y gymuned yn parhau

·         Yn gyfle unigryw; yn gynnig arloesol

 

Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais

 

e)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan yr aelodau:

·         Yn diolch am y cyfle i ymweld â’r safle - yn leoliad braf

·         Bod angen lleol am gartref gofalangen amod i sicrhau bydd y cartef yn cael ei ddatblgyu. Cyfle yma i sicrhau bod gofal ar gael i bobl o fewn eu cymuendau

·         Cefnogol i 100% o dai fforddiadwy gydag amod 106, ond dim digon o fanylion am y cynllunbeth am yr effaith ar yr AHNE? Effaith ar fwynderaudymchwel 107 o dai? Hapusach petai’r cartref gofal yn rhan o’r cais

·         Angen sicrhau bod canllawiau Tai Gwynedd yn cael eu defnyddio

·         Y cynllun yn gaffaeliad os caiff ei wneud yn iawnpryder mai cynllun tai yn unig sydd yma

·         Nifer wedi gwrthwynebu - yn orddatblygiad, yn straen ar y gwasanaethau lleol, diffyg gwybodaeth a deiseb wedi ei harwyddo

·         Bod y fynedfa yn wael – dim digon o wybodaeth

·         Nad yw'r datblygiad yn llesol i’r Gymraeg - angen sicrhau asesiad llawn o’r angen lleol

·         Awgrym o oedi’r cais er mwyn derbyn mwy o wybodaeth ar effaith y datblygiad ar yr ardal leol, effaith ar y preswylwyr lleol, anghenion tai'r preswylwyr presennol a faint o bobl fydd yn bwriadu symud yno?

 

Mewn ymateb, nododd Pennaeth Amgylchedd Cynorthwyol bod y sylwadau ynglŷn â’r cartref gofal yn bwyntiau teg, ond bod y Cyngor wedi mabwysiadau gweledigaeth ar gyfer y safle ac wedi ymrwymo gyda phartneriaid eraill i flaenoriaethu pentref gofal gydol oes ar y safle; Yn fodel unigryw, yn ddyluniad hyblyg ac yn ymateb i anghenion preswylwyr a’r ardal ehangach. Ategodd bydd y tai i gyd yn destun amodau cynllunio priodol gyda’r amodau yn cael eu llunio fesul gwedd. Y bwriad yw canolbwyntio ar yr elfen gofal, gyda’r wybodaeth yn cael ei gyflwyno i’r adran tai fel bod modd sicrhau bod yr eiddo yn cwrdd â’r amrediad anghenion. Bydd Polisi Gosod Tai y Cyngor yn weithredol ar gyfer pob cam o’r datblygu. O ran y pryder o ddiffyg gwybodaeth, nodwyd bod yr adroddiad yn cyfarch nifer o’r materion cynllunio a bod yr angen wedi ei adnabod.

 

PENDERFYNWYD Caniatáu yn ddarostyngedig i amodau cynllunio a chytundeb 106 ar gyfer cyfraniad addysgol

1.         5 mlynedd

2.         Unol â’r cynlluniau a’r dogfennau a gyflwynwyd fel rhan o’r cais

3.         Llechi ar y to/cytuno gorffeniad to a phaneli pv

4.         Cytuno gorffeniad allanol

5.         Cytuno manylion

6.         Cytuno materion tai fforddiadwy

7.         Amod dymchwel a datblygu cam wrth gam

8.         Amodau Llygredd Tir

9.         Cyflwyno manylion cynllun naill ai i warchod y cyflwr strwythurol neu ddargyfeirio'r prif gyflenwad dŵr sy'n croesi'r safle.

10.       Cyflwyno cynllun delio gyda dŵr budr

11.       Cynllun rheoli llwch, sŵn a dirgryniad o ganlyniad i’r gwaith dymchwel

12.       Oriau gwaith 08:00-18:00 Llun i Gwener 08:00-13:00 Sadwrn a dim o gwbl ar y Sul a Gŵyl y Banc.

13.       Cyflyno a chytuno cynllun rheoli ecolegol, cynefin a glaswelltir/dol blodau

14.       Rhaid i arbenigwr coed fod yn bresennol ar y safle drwy gydol y gwaith.

15.       Ni chaniateir unrhyw waith a fyddai’n amharu ar nythod adar yn ystod y cyfnod nythu rhwng 1af Fawrth a 31 Awst oni bai y cytunir fel arall o flaen llaw.

16.       Amodau archeolegol

17.       Tynnu hawliau dirprwyedig a ganiateir

18.       Tirweddu

19.       Hysbysebion Cymraeg

 

Dogfennau ategol: