Agenda item

Dymchwel y siediau presennol a chodi dwy sied da byw ynghyd a chyfleusterau atodol a pharlwr godro, clawdd tirweddu a gwaith cysylltiedig.

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Llio Elenid Owen

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

 

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i Bennaeth Cynorthwyol Amgylchedd ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau isod: -

 

1.         5 mlynedd.

2.         Yn unol â’r dogfennau a’r cynlluniau a gyflwynwyd fel rhan o’r cais.

3.         Cyflwyno manylion edrychiadau allanol.

4.         Cydymffurfio gyda Rhan 5 (Dehongli a Chyngor) o’r ddogfen Asesiad Effaith Ecolegol ynghyd ag Asesiad Rheoliadau Rhywogaethau Cysgodol a sylwadau’r Uned Bioamrywiaeth.

5.         Cwblhau’r cynllun tirlunio o fewn cyfnod penodol.

6.         Cydymffurfio gyda chynnwys yr Asesiadau Coedyddiaeth.

7.         Amodau safonol Gwasanaeth Cynllunio Archeolegol Gwynedd parthed cyflwyno manylion rhaglen waith cofnodi archeolegol yn gyntaf ac, yn dilyn hyn, cyflwyno adroddiad manwl o’r gwaith archeolegol o fewn 6 mis o gwblhau’r gwaith archeolegol ar y safle. 

 

Cofnod:

Dymchwel y siediau presennol a chodi dwy sied da byw ynghyd a chyfleusterau atodol a pharlwr godro, clawdd tirweddu a gwaith cysylltiedig.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr oedd yn amlygu cynllun lleoliad diwygiedig yn dangos terfyn safle’r cais wedi ymestyn i gynnwys tir ar gyfer mesurau lliniaru Bioamrywiaeth.

 

a)      Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd ar gyfer dymchwel siediau amaethyddol is-safonol presennol a’u disodli gyda dwy sied da byw (defaid) ynghyd a chyfleusterau atodol, parlwr godro, clawdd tirweddu a gwaith cysylltiedig ar un o lecynnau wyneb caled daliad amaethyddol Coleg Glynllifon. Ategodd bod sawl elfen i’r bwriad:

·         Dymchwel yr adeiladwaith is-safonol presennol sy’n cynnwys dwy sied amaethyddol.

·         Codi adeilad ar gyfer parlwr godro defaid ac ardal ar gyfer cadw 300 o ddefaid.

·         Codi adeilad ar gyfer wyna

·         Codi seilo porthiant newydd

·         Creu llecyn parcio lorïau newydd

·         Creu ardal gwasanaethu a throi newydd

·         Darparu corlan ymdrin â defaid.

·         Darparu llecynnau parcio ceir.

·         Creu clawdd/bwnd 1m o uchder ynghyd a phlannu gwrych cynhenid

·         Torri rhai coed ynghyd â chynnig gwelliannau Bioamrywiaeth.

 

Yng nghyd-destun egwyddor y datblygiad, eglurwyd bod Polisi PCYFF 1 o’r CDLl yn datgan y byddai cynigion (tu allan i ffiniau datblygu) yn cael eu gwrthod oni bai eu bod yn unol â pholisïau penodol y CDLl neu bolisïau Cynllunio cenedlaethol, neu fod y cynnig yn dangos bod ei leoliad yng nghefn gwlad yn hanfodol. Nodwyd bod y cais yma yn ymwneud a gwella cyfleusterau ffermio defaid presennol o fewn Coleg Glynllifon ac felly ei leoliad yng nghefn gwlad yn hanfodol.

 

Adroddwyd y byddai’r prosiect yn ceisio datblygu model i hybu gwybodaeth o fewn y sector amaethyddol i ddangos manteision hybu marchnad llaeth defaid cynaliadwy yng Nghymru. Byddai’r bwriad yn cynnig incwm ychwanegol posib i fentrau amaethyddol gyda’r Coleg yn chwarae rhan bwysig yn datblygu’r sector laeth drwy ddatblygu gwell dealltwriaeth o’r cyfleoedd masnachol. Cyflwynwyd y cais cyfredol er mwyn ehangu a diwallu anghenion y Coleg Amaethyddol i bwrpas addysg a’i gyfraniad pwysig i’r economi leol.

 

Yng nghyd-destun mwynderau gweledol nodwyd bod y siediau newydd yn disodli adeiladau is-safonol ac er ychydig yn fwy o ran maint, bydd edrychiadau allanol y siediau newydd o ddeunyddiau traddodiadol sy’n gweddu’r math yma o adeiladau amaethyddol o fewn cefn gwlad. Ategwyd bod y safle yn eistedd oddi fewn tirwedd donnog, heb unrhyw ddynodiant amgylcheddol. O ystyried yr amrywiaeth o lystyfiant, ymgymryd â chynllun tirweddu ynghyd a gwneuthuriad ac edrychiadau’r adeiladwaith, ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn cael ardrawiad sylweddol arwyddocaol o fewn y tirlun lleol. O ran mwynderau cyffredinol a phreswyl, gyda’r bwriad cyfredol yn disodli adeiladwaith amaethyddol presennol ar y safle, ni ystyriwyd y byddai’r cais yn tanseilio mwynderau preswyl na chyffredinol deiliaid lleol.

 

Yng nghyd-destun materion bioamrywiaeth, saif y safle gyfochrog a nifer o adeiladau/strwythurau rhestredig gradd II* Fort Williamsburg ac o fewn Parc a Gerddi Hanesyddol Cofrestredig gradd I Glynllifon gan CADW; nepell o Ardal Cadwraeth Arbennig Glynllifon (ACA), Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Glynllifon a Safle Bywyd Gwyllt Afon Llifon (SBG) sydd oddeutu 600m i’r gorllewin o’r safle. Cyflwynwyd nifer o adroddiadau ac asesiadau ecolegol gyda’r cais.

 

Yn unol â gofynion y Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau, 2017 er mwyn dangos na fyddai’r bwriad arbennig hwn, ynghyd a’r effaith gronnol o ganiatáu datblygiadau eraill o fewn Glynllifon, yn tanseilio dynodiant yr Ardal Cadwraeth Arbennig a’r Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, ymgymerwyd ag asesiad gan yr Uned Bioamrywiaeth oedd yn nodi na fyddai’r bwriad yn effeithio’n andwyol ar gyfanrwydd Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Glynllifon. Ail-ymgynghorwyd gyda CNC ar adborth yr Uned Bioamrywiaeth ac roeddynt o’r un farn, ar yr amod bod y datblygiad yn cael ei wneud yn unol â’r amodau roeddynt yn eu hargymell yn eu hadroddiadau ecolegol. Nodwyd bod CNC hefyd wedi cyflwyno sylwadau ynglŷn â rhywogaethau a warchodir ynghyd a phryder effaith posib peryglon llygredd i’r amgylchedd dwr.

 

Mewn ymateb i’r pryderon hynny, cyflwynodd yr ymgeisydd fanylion pellach parthed mesurau lliniaru golau, cynllun yn cynnwys plannu cloddiau ychwanegol, ymgorffori atig ystlumod pwrpasol sy'n addas ar gyfer Ystlum Pedol Leiaf, plannu rhywogaethau coed gwlypdir addas, manylion pellach parthed system draenio breifat a Chynllun Rheoli’r Amgylchedd Adeiladu; gyda chais pellach gan CNC am gynllun rheoli tymor hir a chynllun archwilio cydymffurfiaeth Ecolegol. Bydd yr amodau hyn yn rheoli ac yn diogelu unrhyw rywogaethau gwarchodedig sydd ar y safle.

 

Yng nghyd-destun asedau treftadaeth ac agosatrwydd yr adeiladau rhestredig gerllaw, daw’r Asesiad Treftadaeth i’r canlyniad mai dyma’r lleoliad mwyaf addas ar gyfer yr adeiladwaith newydd - yn cynnig yr effaith lleiaf ar yr amgylchedd hanesyddol sy’n cynnwys caer restredig ynghyd a thirwedd gofrestredig gradd I Glynllifon. Ategwyd nad oedd gan CADW wrthwynebiad i’r datblygiad ac y byddai rhaid gosod amodau rheoli a chydymffurfio gydag anghenion archeolegol y safle.

 

Ni ystyriwyd bod y bwriad yn groes i bolisïau lleol na chenedlaethol ac nad oedd unrhyw fater cynllunio perthnasol yn gorbwyso’r ystyriaethau polisi hyn. Ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol ac argymhellwyd caniatáu’r cais yn unol â’r amodau perthnasol.

 

b)         Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd asiant yr ymgeisydd y sylwadau canlynol;

·         Bod y cais yn un i ddatblygu dwy sied - 1 ar gyfer godro defaid a’r llall i fagu wyn sy’n cael eu dyfnu

·         Bod y bwriad yn cydymffurfio gyda pholisïau lleol a chenedlaethol

·         Bod buddion economaidd ac addysg yma

·         Yn brosiect sy’n darparu cyfleuster newydd, amhrisiadwy i fasnach godro defaid

·         Yn trosglwyddo gwybodaeth i hybu marchnad laeth

·         Yn cynnig ffrwd incwm ychwanegol i’r Coleg

·         Y Coleg yn buddsoddi yn sylweddol i ddarparu amrediad o adnoddau newydd fydd yn sicrhau cyfleusterau ar gyfer sefydlu ‘Canolfan Defaid Cymreig’

·         Er yn sensitif o ran lleoliad, cydweithio da wedi bod rhwng y swyddogion, CNC a’r Coleg i ymrwymo i warchod yr ardal

 

c)         Cynigwyd ac eiliwyd caniatáu y cais a chroesawyd y fenter arloesol hon

 

PENDERFYNWYD: Dirprwyo’r hawl i Bennaeth Cynorthwyol Amgylchedd ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau isod: -

 

1.         5 mlynedd.

2.         Yn unol â’r dogfennau a’r cynlluniau a gyflwynwyd fel rhan o’r cais.

3.         Cyflwyno manylion edrychiadau allanol.

4.         Cydymffurfio gyda Rhan 5 (Dehongli a Chyngor) o’r ddogfen Asesiad Effaith Ecolegol ynghyd ag Asesiad Rheoliadau Rhywogaethau Cysgodol a sylwadau’r Uned Bioamrywiaeth.

5.         Cwblhau’r cynllun tirlunio o fewn cyfnod penodol.

6.         Cydymffurfio gyda chynnwys yr Asesiadau Coedyddiaeth.

7.         Amodau safonol Gwasanaeth Cynllunio Archeolegol Gwynedd parthed cyflwyno manylion rhaglen waith cofnodi archeolegol yn gyntaf ac, yn dilyn hyn, cyflwyno adroddiad manwl o’r gwaith archeolegol o fewn 6 mis o gwblhau’r gwaith archeolegol ar y safle. 

 

Dogfennau ategol: