Cyflwyno adroddiad Rheolwr
Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli.
Penderfyniad:
COFNODION:
Cyfeiriwyd at yr adroddiad oedd wedi ei
chreu gan Reolwr Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli
gan adrodd fel a ganlyn :
Adroddwyd bod rhybudd i forwyr wedi cael ei
gyflwyno er mwyn rhagrybuddio bod gwaith o garthu’r sianel yn parhau ar 8fed
Mawrth gam gyfnod o wythnos. Cydnabuwyd bod y gwaith hwn yn parhau i fod yn her
i’r gwasanaeth a bod swyddogion yn cydweithio gydag Ymgynghoriaeth Gwynedd i
ganfod datrysiad i’r sefyllfa. Eglurwyd bod tua 12,000 o dunelli yn mynd i gael
ei dynnu o geg yr harbwr yn ystod y cyfnod hwn. Sicrhawyd bod arolwg
hydrograffig wedi cael ei gwblhau ar yr ardal briodol a bydd contractwyr yn
defnyddio teclynnau arbenigol er mwyn sicrhau eu bod yn gweithio yn y lleoliad
cywir ac yn tynnu’r swm cywir o dywod o’r safle.
Eglurwyd bod gwaith wedi cael ei gwneud ar
yr hen ynys, yn dilyn oediad yn sgil cytuno ar gostau contractwyr. Diolchwyd i
Gynghorwyr lleol am gynorthwyo i ymgysylltu gyda thrigolion lleol Bron y De a
Morfa Garreg am y gwaith a gwblhawyd gan swyddogion. Nodwyd bydd y lagŵn
distyllu yn cael ei wagio’n rhannol. Eglurwyd bod swyddogion wedi torri’r gwair
ar yr ynys yn ddiweddar ac wedi canfod bod y tir yn rhy wlyb i osod y gwaddod
gwlyb arno i’w sychu. O ganlyniad, cadarnhawyd mai oddeutu 10,000 tunnell bydd
yn cael ei wagio o’r lagŵn distyllu yn lle ei wagio’n gyfan gwbl.
Cadarnhawyd y dymunir cwblhau’r gwaith ar yr
ynys yn ystod mis Mawrth cyn symud ymlaen i garthu tywod o rhai adrannau.
Adroddwyd bydd modd carthu oddeutu 10,000 tunnell o fasn y marina yn cael ei
wneud unwaith bydd gwaith ar yr hen ynys wedi’i gwblhau. Ymhelaethwyd bydd
arolwg hydrograffig yn cael ei wneud ar y safle er mwyn sicrhau bod y gwaith
cywir yn cael ei gwblhau. Cydnabuwyd bod gwaith cyfathrebu gyda cymdogion am y
gwaith hwn wedi bod yn ddiffygiol ar ddechrau’r broses ond mae pob ymdrech yn
cael ei wneud i’w wella i’r dyfodol.
Mewn ymateb i ymholiad ar dderbyn trwydded
gan Gyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer pwmpio’r gwaddod i ‘r traeth agosaf (traeth
Glandon) yn hytrach na’i gludo ymhellach, cadarnhaodd y Rheolwr Masnachol bod y
tywod wedi cael ei asesu a'i fod yn glir ac y bydd yn cael ei ddefnyddio ar
draeth Carreg y Defaid oherwydd ei fod o dan reolaeth y Cyngor. Nid oes modd ei gludo i draeth
Glandon oherwydd mae’r traeth dan reolaeth Cyfoeth Naturiol Cymru ac nid yw’r
tywod yn pasio eu profion yn ddigonol i gael ei bwmpio yno. Eglurwyd bod y
gwasanaeth wedi datblygu cynllun ar y cyd gydag Ymgynghoriaeth Gwynedd er mwyn
llunio 4 opsiwn i’r dyfodol. Cadarnhawyd mai un o’r opsiynau cryfaf yw gwaredu
gwaddod y basn i’r môr gan dderbyn trwydded forol gan Gyfoeth Naturiol Cymru.
Ymhelaethwyd bod y gwasanaeth wedi derbyn cyfarfodydd cychwynnol gyda Chyfoeth
Naturiol Cymru ac maent yn gadarnhaol iawn.
Sicrhawyd bod swyddogion yn cydweithio gyda
Ymgynghoriaeth Gwynedd ar nifer o opsiynau er mwyn penderfynu ar y ffordd
ymlaen i’r dyfodol a bod nifer ohonynt yn ddibynnol ar dderbyn trwydded forol.
Eglurwyd bod y broses yn ddibynnol ar ofynion amrywiol ac yn broses sy’n cymryd
amser. Eglurwyd ar ôl paratoi’r prosesau, mae Cyfoeth Naturiol Cymru angen
edrych ar y cais hefyd. Pwysleisiwyd bod y broses yn heriol ac felly mae o am
gymryd amser i’w dderbyn. Sicrhawyd bod swyddogion yn cydweithio gyda’r Prif
Weithredwr ac Arweinydd y Cyngor er mwyn rhoi pwysau ar Gyfoeth Naturiol Cymru
i gydweithio gyda swyddogion.
Tywyswyd drwy berfformiad ariannol yr harbwr
gan nodi bod gwariant wedi cael ei wneud i uwchraddio nifer o asedau. Diolchwyd
i’r gymdeithas angorfeydd am gynnal arolwg ar yr harbwr er mwyn derbyn adborth
gan cwsmeriaid. Sicrhawyd bod y gwasanaeth yn gwrando ar adborth boddhad
cwsmer. Rhannwyd esiampl o uwchraddio’r wifi er mwyn gwella lefelau boddhad cwsmer
i’r dyfodol. Pwysleisiwyd bod boddhad cwsmeriaid a staff wedi cynyddu yn
gyffredinol.
Tynnwyd sylw bod niferoedd y cychod sydd
wedi angori ger yr Hafan wedi cynyddu 60% ers 2020. Eglurwyd bod incwm yr
harbwr wedi cynyddu yn unol â chwyddiant. Nodwyd nad yw gwariant cyffredinol yr
harbwr wedi cynyddu ar yr un raddfa oherwydd bod yr harbwr wedi defnyddio
oddeutu £250,000 o gronfeydd ar gyfer gwelliannau a diweddariadau i’r harbwr.
Ymfalchïwyd bod yr harbwr wedi cyrraedd cyfanswm yr angorfeydd posibl a chadarnhawyd
bod rhestr aros o bobl sy’n dymuno angori eu cychod yno. Adroddwyd bod
swyddogion wedi cynnal trafodaethau gyda phrif swyddogion y Cyngor ar sut
gallai’r harbwr cael ei ddatblygu i’r dyfodol a sut byddai hynny yn dylanwadau
ar yr economi leol, gan gadw mewn ystyriaeth bod y Cyngor yn arwain drwy
argyfwng ariannol ar hyn o bryd.
Adroddwyd bod ffioedd a thaliadau ar gyfer y
flwyddyn 2024/25 wedi cael eu cymeradwyo ers mis Rhagfyr 2023. Ymhelaethwyd bod
contractau bellach wedi mynd allan i gwsmeriaid gan ddefnyddio system
electronig newydd. Sicrhawyd bod tri chwarter y cwsmeriaid wedi diweddaru eu
cytundebau hyd yma. Gwelwyd nad oes llawer o gwsmeriaid yn diddymu eu
contractau hyd yma o gymharu â’r flwyddyn ddiwethaf ble be u 10% o gwsmeriaid
ganslo eu cytundeb. Nodwyd bod y cynnydd i ffioedd ar gyfer y flwyddyn yn unol
â chwyddiant
Darparwyd diweddariad ar faterion staffio a
chydymdeimlwyd gydag Arweinydd Tîm yr harbwr sydd wedi derbyn triniaeth ar
gyfer cyflwr meddygol yn ddiweddar. Diweddarwyd ei fod wedi dychwelyd i’r
gwaith a'i fod yn parhau i wella a derbyn triniaeth. Rhannwyd dymuniadau da
iddo am wellhad buan. Cadarnhawyd hefyd bod Is-reolwr/Harbwrfeistr yr harbwr
wedi cychwyn cyfnod ymddeoliad hyblyg. Nodwyd y golyga hyn ei fod yn parhau i weithio
am dri diwrnod yr wythnos er mwyn parhau i gynorthwyo a chefnogi’r tîm.
Atgoffwyd yr Aelodau ei fod wedi bod yn gweithio gyda’r harbwr ers amser maith
ac yn meddu ar lawer o wybodaeth am yr harbwr. Diolchwyd iddo am barhau i
weithio yn ystod cyfnod gwaeledd yr Arweinydd Tîm.
Diolchwyd i bawb a fu’n rhan o’r
ymgynghoriad diweddar ar y Cynllun Strategol. Diweddarwyd bod yr ymgynghorwyr
yn hapus gyda’r nifer o ymatebion a dderbyniwyd ym Mhlas Heli, y Cyngor Tref,
ac yn electronig. Eglurwyd bod yr ymgynghoriad bellach wedi dod i ben ac mae
drafft gorffenedig o’r cynllun wedi cael ei ddatblygu er mwyn ystyried y camau
nesaf. Pwysleisiwyd bod pedair prif amcan wedi cael eu nodi yn y cynllun gan
gynnwys:
1.
Carthu
2.
Isadeiledd Morwrol (Pontoons) - Eglurwyd bod arolwg o’r
Pontoons eisoes wedi cael ei gwblhau er mwyn datrys problemau’r Pontoons i
ddatblygu’r ardal ymhellach.
3.
Buddsoddiad Hir-dymor – Cadarnhawyd bod swyddogion yn
edrych ar buddsoddiadau addas ar hyn o bryd. Ymhelaethwyd bod swyddogion wedi
gosod Bid mewn i’r Gronfa Rheoli Asedau. Nodwyd hefyd bod swyddogion wedi
gwneud cais i’r Cyngor ail-ystyried ble mae elw’r harbwr yn cael ei leoli, gan
ymdrechu i sicrhau bod cyfran o elw’r harbwr yn cael ei glustnodi ar gyfer
gwelliannau.
4.
Penderfyniadau cydlynol - Nodwyd bod yr amcan hwn yn
ystyried sut mae’r harbwr yn ymgorffi i’r Cynllun Canol Tref a Phartneriaeth
Natur Gwynedd a nifer o gynlluniau gwahanol all yr harbwr gyfrannu ac elwa
ohonynt.
Sicrhawyd bydd y cynllun yn cael ei
ddefnyddio’n barhaus er mwyn gwireddu’r amcanion hyn ac i ddatblygu’r harbwr
i’r dyfodol.
Cydnabuwyd bod gorsaf Bad Achub Pwllheli
wedi profi cyfnod heriol yn y misoedd diwethaf gan orfodi’r orsaf i gau am
gyfnod byr. Cadarnhawyd bod yr orsaf wedi ail-agor ers 15 Chwefror a bod
hyfforddiant wedi ail-gychwyn yno. Gobeithiwyd bydd yr orsaf yn gallu bod yn
weithredol ac ateb galwadau erbyn y Pasg, yn ddibynnol ar ddatblygiad yr
hyfforddiant a niferoedd yr unigolion sydd yn rhan o’r criw. Nodwyd mai prif
nod yr orsaf ar hyn o bryd yw derbyn y prif bad achub yn ei ôl. Cadarnhawyd bod
materion recriwtio dros yr wythnosau diwethaf wedi bod yn gadarnhaol iawn a
diolchwyd i’r gymuned am eu hymateb ffafriol. Ymhelaethwyd bod 13 o unigolion
wedi rhoi eu henwau ymlaen i wirfoddoli a diolchwyd iddynt am eu hamser a’u
cefnogaeth.
Nodwyd y disgwylir i bencampwriaethau hwylio
Plas Heli fod yn brysur iawn dros yr haf gan fod nifer fawr o enwau wedi eu
derbyn i gymryd rhan. Nodwyd hefyd bod nifer o welliannau wedi cael ei wneud
i’r safle gan gynnwys tar ar rhan o’r ffordd i lawr i’r traeth a rhannwyd
gobaith o osod mwy o gawodydd er budd defnyddwyr. Tynnwyd sylw bod nifer o
ddiffygion yn yr adeilad sydd heb dderbyn sylw gan swyddogion. Ymhelaethwyd bod
maint fesurwr wedi bod ar y safle a gobeithir bydd yr adroddiad hwn yn cyrraedd
yn fuan er mwyn datrys diffygion.
Diolchwyd i bawb am eu gwaith dros y gaeaf
a'u hymroddiad i’r harbwr a’r hafan.
Dogfennau ategol: