Agenda item

Cais llawn ar gyfer codi gweithdy/swyddfa newydd, adeilad gweithdy/weldio ac uned golchi cerbydau ynghyd â thanc storio tanwydd preifat a mannau ategol eraill

 

Aelod Lleol: Cynghorydd Dewi Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu

 

1.         5 mlynedd

2.         Unol a’r cynlluniau a’r holl ddogfennau a gyflwynwyd fel rhan o’r cais

3.         Lliw gorffeniad i’w gytuno

4.         Cytuno manylion paneli PV

5.         Cwblhau’r tirweddu yn unol â’r cynllun a gynhwysir o fewn yr AEWT (Asesiad Effaith  Weledol Tirwedd)

6.         Rhaid cwblhau’r gwelliannau Bioamrywiaeth yn unol a’r hyn a gynhwysir yn adran 4 o’r adroddiad ecolegol

7.         Enw Cymraeg

8.         Arwyddion Cymraeg

9.         Amod canfod llygredd heb ei adnabod

10.       Amodau Dwr Cymru

11.       Rhaid i’r cyfarpar/deunydd a fydd yn cael ei storio yn yr ardal storio allanol fod ddim uwch na 4m.

 

Nodiadau:

Gwyliadwriaeth Natur

SUDS

Ceisiadau mawr

Llythyr Dwr Cymru

Llythyr Cyfoeth Naturiol Cymru

 

Cofnod:

Cais llawn ar gyfer codi gweithdy/swyddfa newydd, adeilad gweithdy/weldio ac uned golchi cerbydau ynghyd â thanc storio tanwydd preifat a mannau ategol eraill

 

a)    Amlygodd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd gyda’r bwriad yn cynnwys yr elfennau isod:

·         Adeilad Gweithdy a Swyddfa

·         Uned Gweithdy a Weldio

·         Uned Golchi Cerbydau

·         Ardal Storio Allanol

·         15 o lecynnau parcio HGV

·         40 o lecynnau parcio gan gynnwys 3 anabl a 8 pwynt gwefru EV.

·         Ardal storio beiciau

 

Adroddwyd bod y safle wedi ei leoli ar Lon Cae Darbi (ffordd ddi-ddosbarth) ar gyrion dwyreiniol Ystâd Ddiwydiannol Cibyn ac o fewn ffin ddatblygu Caernarfon a safle cyflogaeth i’w warchod. Ategwyd bod y safle wedi ei ddefnyddio tan yn ddiweddar fel lladd-dy gyda’r adeiladau erbyn hyn wedi eu dymchwel o dan hysbyseb o flaen llaw C22/0431/14/HD. Nodwyd bod gwastraff rwbel a sgipiau yn parhau ar y safle yn dilyn y gwaith dymchwel a’r llystyfiant o gwmpas y safle wedi ei dorri neu ei dynnu ymaith. Roedd y bwriad yn golygu codi adeiladau ynghyd a’i ddefnyddio ar gyfer gwasanaethu ac atgyweirio cerbydau masnachol.

 

Yng nghyd-destun mwynderau gweledol, cydnabuwyd fod y bwriad yn golygu codi adeiladau sylweddol ar y safle, sydd erbyn hyn yn weladwy o ffordd osgoi Caernarfon. Cydnabuwyd bod y safle hefyd wedi ei leoli o fewn Ystâd Ddiwydiannol bresennol ac yn ffurfio rhan o ddynodiad ar gyfer ei warchod ar gyfer defnydd cyflogaeth B1, B2 a B8. Byddai adeiladau mewn cyswllt a’r defnyddiau cyflogaeth yn sylweddol o ran eu natur ac mae’r cynlluniau trawsdoriad yn cadarnhau fod y bwriad gerbron yn achosi effaith weledol debyg i’r hyn sydd wedi bodoli ar y safle yn y gorffennol. Ategwyd bod bwriad darparu ardal storio allanol ar y safle, ac y gellid cyfyngu uchder yr hyn a fydd yn cael ei storio yma i 4m drwy amod Cynllunio; rhan helaeth o’r coed a’r gwrychoedd oedd o gwmpas y safle wedi eu torri ond bod bwriad tirweddu’r safle er mwyn digolledu’r llystyfiant yma.

 

Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl, nodwyd bod y safle wedi ei leoli o leiaf 170m i ffwrdd o unrhyw eiddo preswyl, gyda’r tai agosaf wedi eu lleoli un ai ar y Stad Ddiwydiannol, neu'r ochr arall i’r ffordd osgoi sy’n rhedeg heibio cyrion y safle. Ar sail hyn, a bod y safle wedi ei leoli ar Ystâd Ddiwydiannol bresennol yn gyfochrog ag unedau diwydiannol presennol eraill, ni ystyriwyd y byddai’n debygol o gael effaith sylweddol andwyol ar unrhyw drigolion cyfagos.

 

Adroddwyd, yn ogystal â’r defnydd gwasanaethu ac atgyweirio cerbydau masnachol bod bwriad darparu 15 o lecynnau parcio HGV, 40 o lecynnau parcio cyffredinol ( yn cynnwys 3 anabl a 8 pwynt gwefru EV) ac ardal storio beiciau. Amlygwyd bod Cynllun Rheoli Traffig Adeiladu a Rheoli Amgylcheddol wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais yn dangos bwriad o ddefnyddio’r mynedfeydd presennol i’r safle  ac ardal cylch droi cerbyd HGV o fewn y safle. Roedd yr Uned Drafnidiaeth ac Adran Trafnidiaeth y Cynulliad wedi cadarnhau nad oedd ganddynt wrthwynebiad ac felly’n cydymffurfio gyda gofynion polisïau TRA 2 a TRA 4.

 

Yng nghyd-destun materion bioamrywiaeth, nodwyd bod gwelliannau bioamrywiaeth megis creu cynefinoedd drwy blannu, gosod blychau nythu a blychau ystlumod ar y safle wedi eu cynnig fel rhan o’r adroddiad ecolegol. Er nad oedd datganiad seilwaith gwyrdd wedi ei gyflwyno’n ffurfiol fel rhan o’r cais, ystyriwyd bod modd asesu’r bwriad a chadarnhau eu bod y cydymffurfio gyda gofynion polisi PS19 o’r CDLl a diweddariad i bennod 6 o Bolisi Cynllunio Cymru.

 

Adroddwyd bod Datganiad Iaith wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais, ac mae’n datgan y byddai’r bwriad yn debygol o gael effaith bositif ar yr Iaith Gymraeg. Gyda’r bwriad yn un ar gyfer darparu busnes ar safle sydd wedi ei leoli o fewn Ystâd Ddiwydiannol bresennol, roedd y datganiad Iaith yn cadarnhau ymrwymiad presennol y busnes i’r Iaith a bod bwriad clymu’r safle i’r ymrwymiad yna; nid oedd tystiolaeth i ddangos bydd y datblygiad yn peri niwed i’r iaith a drwy osod amodau, ystyriwyd fod y bwriad yn unol gyda pholisi PS1.

 

Ni ystyriwyd fod y bwriad yn groes i unrhyw bolisi cynllunio perthnasol o fewn y CDLl a bod y datblygiad a gynigiwyd yn briodol ar gyfer y safle ac yn debygol o fod yn fuddiol ar gyfer yr economi lleol. Wedi ystyried yr holl ystyriaethau cynllunio materol ni ystyriwyd fod y bwriad yn debygol o achosi effeithiau andwyol annerbyniol i drigolion gerllaw na’r gymuned yn gyffredinol ac roedd yr Awdurdod Cynllunio yn argymell caniatáu’r cais gydag amodau.

 

b)      Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd asiant ar ran yr ymgeisydd y sylwadau canlynol;

·         Mai cais sydd yma i adeiladu adeilad i atgyweirio cerbydau masnachol

·         Bod bwriad creu 23 swydd fyddai’n cynnwys 15 mecanic

·         Bydd y cwmni yn cydweithio gyda cholegau lleol i sefydlu prentisiaethau

·         Bod cyngor cyn cyflwyno cais wedi ei dderbyn

·         Bod y cais yn dderbyniol – yr adeilad yn well na’r adeilad blaenorol

 

c)      Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais - y cynllun yn rhy dda i’w golli.

 

PENDERFYNWYD: Caniatáu

 

1.            5 mlynedd

2.            Unol a’r cynlluniau a’r holl ddogfennau a gyflwynwyd fel rhan o’r cais

3.            Lliw gorffeniad i’w gytuno

4.            Cytuno manylion paneli PV

5.            Cwblhau’r tirweddu yn unol â’r cynllun a gynhwysir o fewn yr AEWT (Asesiad Effaith  Weledol Tirwedd)

6.            Rhaid cwblhau’r gwelliannau Bioamrywiaeth yn unol â’r hyn a gynhwysir yn adran 4 o’r adroddiad ecolegol

7.            Enw Cymraeg

8.            Arwyddion Cymraeg

9.            Amod canfod llygredd heb ei adnabod

10.          Amodau Dwr Cymru

11.          Rhaid i’r cyfarpar/deunydd a fydd yn cael ei storio yn yr ardal storio allanol fod ddim uwch na 4m.

 

Nodiadau:

Gwyliadwriaeth Natur

SUDS

Ceisiadau mawr

Llythyr Dwr Cymru

Llythyr Cyfoeth Naturiol Cymru

 

Dogfennau ategol: