Agenda item

Creu balconi allanol cefn gyda sgrin preifatrwydd  

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Tudor Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gwrthod yn groes i’r argymhelliad

Rheswm: Gwrthod ar sail gor-edrych, effaith ar gymdogion – yn groes i bolisi PCYFF 2

 

Cofnod:

Creu balconi allanol cefn gyda sgrin preifatrwydd

a)    Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu bod y cais dan sylw ar gyfer creu ardal balconi allanol llawr cyntaf ar gefn yr eiddo, uwchben estyniad to fflat presennol. Amlygwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn ffin ddatblygu pentref Morfa Nefyn ac o fewn ardal breswyl, a’r cais wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio ar gais yr Aelod Lleol.

 

Adroddwyd bod mwyafrif o ardal y to fflat presennol ar gefn yn eiddo yn cynnwys to ‘sedum’ sefydledig ac wedi ei orchuddio a phlanhigion, ac nad oedd bwriad defnyddio’r ardal yma i gyd fel ardal balconi allanol. Ategwyd bod wal barhaol bresennol o gwmpas 1.6m o uchder yn ymestyn 1.8m allan o brif wal gefn y tŷ uwchben yr estyniad to gwastad presennol, a’r bwriad fyddai creu’r ardal balconi allanol tu ôl i’r wal yma. Nodwyd bod bwriad darparu sgrin gwydr afloyw parhaol yn ymestyn 1.7m tu hwnt i’r wal at ymyl pellaf yr estyniad to gwastad presennol gyda chanllaw gwydr clir yn cael ei osod o ymyl y wal ar draws y to am oddeutu 4m o hyd gan gysylltu gyda sgrin gwydr afloyw arall 2.9m o hyd byddai’n cysylltu yn ôl at wal gefn yr adeilad fel ei fod y cyfyngu’r ardal allanol tu cefn i’r wal bresennol.

 

Yng nghyd-destun mwynderau gweledol, ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol ar sail dyluniad a graddfa a’i leoliad uwchben rhan o do fflat presennol ar gefn yr eiddo. Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli rhwng tai preswyl deulawr eraill gyda chaeau amaethyddol agored i’r cefn.

 

Wrth ystyried mwynderau cyffredinol a phreswyl, nodwyd bod lleoliad y datblygiad arfaethedig yng nghornel y to presennol, gyda wal barhaol bresennol yn ymestyn yn rhannol ar hyd y to. Ni fyddai’r ardal balconi bwriedig yn ymestyn tu hwnt i’r wal yma ac fe gyfyngir ar y gallu i fynd tu hwnt i ben y wal drwy osod canllaw gwydr parhaol ar draws ardal y to. Ategwyd bod bwriad gosod sgrin o wydr afloyw fyddai’n ymestyn allan o’r wal bresennol i ben draw’r do fflat presennol, ynghyd ac ochr arall yr ardal balconi bwriedig. Byddai hyn yn golygu bod unrhyw or-edrych tuag at yr eiddo bob ochr yn gyfyngiedig iawn i fannau pellaf y cwrtilau bob ochr. Ystyriwyd fod y sgriniau o wydr afloyw hefyd yn gwarchod prif rannau gerddi'r eiddo bob ochr; ardal breswyl sefydledig a chymharol ddwys sydd yma ble mae gerddi yn ymylu a'i gilydd, a ffenestri yn gor-edrych a tharfu presennol yn anorfod o ganlyniad. Ni ystyriwyd y byddai'r datblygiad yn amharu ar fwynderau preswyl eiddo cyfagos i raddau sylweddol annerbyniol.

 

Tynnwyd sylw nad oedd y bwriad am falconi wedi ei wrthod ar yr eiddo yma gydag esboniad mai’r ymgeisydd oedd wedi dileu’r elfen balconi o gais blaenorol yn wirfoddol.

 

Ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol ac felly argymhellwyd caniatáu’r cais gydag amodau.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol

·       Er mai Tŷ Pen yw enw’r tŷ, nid dyma’r eiddo olaf yn y rhes

·       Yn gwrthwynebu ar sail goredrych a gorddatblygiad (cyfeiriad: CDLl PCYFF 2 p.7)

·       Tocenistiaeth fyddai gosod sgrin preifatrwydd

·       Byddai’r balconi yn amharu yn sylweddol ar breifatrwydd a mwyniant tai cyfagos

·       Tŷ Hâf sydd yma gyda’r hen dy wedi ei chwalu

·       Caniatawyd yr estyniad i’r eiddo yn ddiweddar gydag amod clir na fyddai balconi yn cael ei ganiatáu

·       Er nodi bod yr ymgeisydd wedi dileu’r elfen balconi o gais blaenorol yn wirfoddol, ymddengys ei fod yn parhau yn anfodlon ac angen balconi

·       Byddai’r balconi yn creu effaith barhaol ar drigolion Morfa

·       Bod rhai tai gyda balconi ym Morfa, ond dim ar y stryd yma - buasai hwn yn sefyll allan.

 

c)    Cynigiwyd ac eiliwyd gwrthod y cais yn groes i’r argymhelliad

 

Rheswm:

Gor-edrych ac effaith ar fwynderau cyffredinol a phreswyl – (cyf polisi PCYFF 2)

PENDERFYNWYD: Gwrthod

Rheswm: Gwrthod ar sail gor-edrych, effaith ar fwynderau cyffredinol a phreswyl – yn groes i bolisi PCYFF 2

 

Dogfennau ategol: