Agenda item

Cyflwyno adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau.

Penderfyniad:

Nodi a derbyn yr adroddiad.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiadau isod a gwahoddwyd adborth gan yr aelodau ar faterion diogelwch a materion gweithredol yr Harbwr.

 

(1)        Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad bras i’r pwyllgor ar faterion yr Harbwr am y cyfnod rhwng mis Hydref 2024 a Mawrth 2025.

 

Angorfeydd Porthmadog a Chofrestru Cychod

 

Adroddwyd bod gwaith adnewyddu a chynnal a chadw’r cadwyni ac angorfeydd , sydd wedi’u lleoli yn yr harbwr, yn cael ei gwblhau gan gontractwr angorfeydd a benodwyd yn lleol. Mynegwyd y disgwyliad y dylai cwsmeriaid sy’n dymuno sicrhau angorfa yn yr harbwr, neu gofrestru eu cychod dŵr ar gyfer y tymor sydd i ddod, gwblhau’r broses berthnasol ar-lein yn brydlon o 1 Ebrill ymlaen, drwy wefan Cyngor Gwynedd. Tanlinellwyd, os oes angen cymorth neu arweiniad i gwblhau’r prosesau angenrheidiol, bod croeso i gwsmeriaid gysylltu â swyddfa’r harbwr, lle bydd staff yn hapus i helpu. Mynegwyd gobaith y bydd cyfnod yr haf eleni yn gyfnod prysur.

 

Cod Diogelwch Morol Porthladdoedd

 

Adroddwyd bod y gwasanaeth yn adolygu’r Cod Diogelwch Morol yn rheolaidd ar gyfer yr harbyrau o fewn ei awdurdodaeth, er mwyn sicrhau ei bod yn parhau i gydymffurfio’n llawn â gofynion presennol y Cod. Nodwyd, fel rhan o’r broses adolygu, ei bod yn angenrheidiol derbyn sylwadau a barn Aelodau’r Pwyllgor Ymgynghorol ar ba mor addas yw’r Cod Diogelwch Morol, ac i dderbyn sylwadau’n rheolaidd ar ei gynnwys.

 

Materion Staffio

 

Adroddwyd bod Mr Daniel Cartwright, cyn-Harbwrfeistr Harbwr Abermaw, wedi’i benodi fel Uwch Swyddog Harbyrau yn lle Mr Arthur Jones. Dechreuodd Mr Daniel Cartwright gymryd cyfrifoldeb am ei rôl ar 1 Rhagfyr 2024, gan fod Mr Arthur Jones yn ymddeol yn swyddogol o’r Gwasanaeth ar 31 Mawrth. Diolchwyd i Mr Arthur Jones am ei waith yn y gwasanaeth ac ar y Pwyllgor hwn dros y blynyddoedd.

 

Nodwyd bod Harbwrfeistr, Mr Malcolm Humphreys, a’i gymhorthydd, Mr Richard Hughes, yn parhau i ddarparu gwasanaeth i ymwelwyr a chwsmeriaid yr harbwr, gyda staff morwrol wedi’u lleoli yn harbyrau Abermaw ac Aberdyfi hefyd ar gael i gynorthwyo os bydd angen.

 

Nodwyd bod swyddogion wedi ymgymryd â gwaith cynnal a chadw yn yr harbwr, yn ogystal â gwaith ychwanegol ym Mhorth-y-Gest ac ar draethau cyfagos Morfa Bychan a Chricieth. Nodwyd ymhellach bod bwriad penodi swyddogion traethau tymhorol ar draethau Morfa Bychan a Chricieth ar gyfer tymor prysur yr haf.

 

Adroddwyd bod perchenog llong cludo y ‘Terra Marique’ wedi cysylltu â’r Uwch Swyddog Harbyrau i drafod y posibilrwydd o ddychwelyd i draeth Morfa Bychan  . Nodwyd y bydd adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor pan fydd mwy o fanylion ar gael.

 

Materion Ariannol

 

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol grynodeb byr o gyllidebau’r Harbwr ar gyfer y cyfnod 01/04/24 – 31/03/25 (Adolygiad Tachwedd 2024), a gynhwyswyd fel atodiad i’r adroddiad. Nodwyd yn benodol:

 

           Bod gorwariant o dan y pennawd Gweithwyr oherwydd costau goramser. Nodwyd bod staff yr Harbwr wedi bod yn cynorthwyo mewn harbyrau eraill ac ar draeth Morfa Bychan. Nodwyd ymhellach bod costau ychwanegol wedi codi gan fod Mr Arthur Jones wedi aros yn ei swydd yn hirach nag a ragwelwyd. Tanlinellwyd bod y gorwariant hwn wedi’i ragweld.

           Bod tanwariant sylweddol o dan y pennawd Eiddo, gan nad oedd difrod sylweddol wedi digwydd o ganlyniad i’r stormydd. Nodwyd y gellid defnyddio’r arian hwn i gwrdd â gorwariant o dan benawdau eraill o’r gyllideb, megis Gwasanaethau a Chyflenwadau.

           Bod tanwariant hefyd o dan y pennawd Trafnidiaeth, ond rhagwelir y bydd y gwariant yn cynyddu yn yr wythnosau nesaf gan fod tanciau’r Dwyfor wedi cael eu llenwi â disel.

           Bod gorwariant o dan y pennawd Gwasanaethau a Chyflenwadau am nifer o resymau, yn benodol oherwydd y gost sylweddol o brynu a chynnal offer arbenigol. Mynegwyd y farn nad oedd digon o gyllideb wedi’i glustnodi ar gyfer y pennawd hwn.

           Bod gwariant o’r Gronfa Forwrol yn debygol o gynyddu, gan fod y compownd yn mynd i gael ei ail-wynebu. Rhagwelir y bydd tua £10,000 yn cael ei wario i’w uwchraddio. Nodwyd bod y £525 sydd eisoes wedi’i nodi yn cyfarch gwaith o blannu planhigion a gwella cefn y compownd.

           Rhagwelir tanwariant yn y cyfanswm gwariant, ond, er hynny, nodwyd nad yw’r gwasanaeth wedi llwyddo i gyrraedd ei darged incwm, yn bennaf oherwydd y tywydd gwael a gafwyd.

           Rhagwelir y bydd costau rhedeg yr Harbwr ar gyfer y cyfnod yma yn dod i £38,728, gyda diffyg o tua £8,000.

 

Pwysleisiwyd y newidiadau i’r broses o gofrestru beiciau dŵr a chychod pŵer, sydd bellach ar-lein. O ganlyniad, mae’r holl incwm bellach yn mynd i’r gyllideb  Traethau yn hytrach nag i’r Harbwr, fel ag yr oedd dan y drefn flaenorol. Nodwyd ymhellach bod cyllideb yr Harbwr wedi’i heffeithio’n negyddol gan y gostyngiad yn nifer y beiciau dŵr a gofrestrwyd gyda Chyngor Gwynedd eleni (lleihad o 368), sy’n golygu bod llai o ffioedd lansio wedi’u talu i’r Harbwr.

 

Ffioedd a Thaliadau 2025/26

 

Adroddwyd bod y Gwasanaeth yn bwriadu addasu’r ffioedd yn unol â chyfradd chwyddiant ar y pryd, sef 2.89%. Ymhelaethwyd bod targed incwm yr harbwr yn codi ar yr un gyfradd i £88,590, ac felly bod angen dod o hyd i’r arian ychwanegol i gyrraedd y targed hwn. Nodwyd bod y Gwasanaeth wedi codi rhai ffioedd yn uwch na’r gyfradd chwyddiant a rhai yn is, er mwyn sicrhau cysondeb rhwng harbyrau.

 

Adroddwyd bod ffioedd cofrestru badau pŵer yn dod ag oddeutu £200,000 i mewn i’r Gwasanaeth Traethau. Serch hynny, nodwyd bod angen cynyddu’r ffi gofrestru flynyddol o £70 i £75; a’r ffi hawlen flynyddol lansio o £180 i £190. Ar gyfer cychod sydd â llai na 10 ‘horse power’, bydd y ffi un tro yn codi o £40 i £42. Nodwyd ymhellach bod y ffi lansio ddyddiol yn bwriadu cael ei chodi o £22 i £23. Ymhelaethwyd bod angen bod yn ofalus gyda chodi’r ffi yma, gan fod perygl y gallai defnyddwyr droi at safleoedd lansio mewn ardaloedd eraill os bydd y pris yn codi’n ormodol.

 

(2)        Adroddiad yr Harbwrfeistr yn crynhoi’r materion Mordwyo a Gweithredol a wnaed ac a brofwyd yn y cyfnod rhwng mis Hydref 2024 a Mawrth 2025, gan gynnwys materion cynnal a chadw.

 

Cyn cychwyn cyflwyno ei adroddiad, diolchodd yr Harbwrfeistr i Mr Arthur Francis Jones (Uwch Swyddog Harbyrau) am ei waith caled dros yr un ar ddeg mlynedd ddiwethaf. Croesawyd Daniel Arthur Cartwright i’r Gwasanaeth yn ei swydd newydd fel Uwch Swyddog Harbyrau.

 

Adroddwyd bod Hysbysiad Lleol i Forwyr wedi’i gyhoeddi ar gyfer Bwi Rhif 11 a’r "Bwi Tramwyo ". Ymhelaethwyd bod Bwi Rhif 11 wedi’i ail-leoli yn ddiweddar , a disgwylir i’r Bwi Tramwyo  gael ei adleoli o fewn y pythefnos nesaf – mae’r gwasanaeth yn aros am y contractwr ar hyn o bryd.

 

Nodwyd, gan fod ffi cofrestru beiciau dŵr a chychod pŵer wedi cynyddu, bod nifer cynyddol o bobl bellach yn dewis talu am hawlen lansio flynyddol. O ganlyniad, mae’r harbwr yn colli allan ar incwm. Nodwyd ymhellach bod y gwasanaeth yn ceisio annog cwsmeriaid i drosglwyddo i’r system ddigidol newydd ar gyfer cofrestru cychod. Ymhelaethwyd bod llawer o bobl yn anfodlon defnyddio’r system newydd gan ei bod ar-lein.

 

Adroddwyd bod gwaith wedi cychwyn yn dilyn yr archwiliad a gynhaliwyd ar 3 Rhagfyr 2024, i osod cadwyni codi newydd ar 13 o angorfeydd. Mynegwyd gobaith y bydd y gwaith hwn wedi’i gwblhau o fewn yr wythnos. Nodwyd bod gwaith yn parhau i ail-wynebu’r compownd, ond bod ansicrwydd a fydd modd cwblhau’r holl ardal oherwydd maint y safle a’r costau sy’n gysylltiedig, sydd yn fwy na’r gyllideb sydd wedi’i glustnodi. Nodwyd ymhellach bod coed newydd  wedi’u derbyn i’w gosod ar y meinciau eistedd ym Mhorth-y-Gest.

 

Adroddwyd bod 40 o blanhigion Griselinia wedi’u plannu o flaen ffensys pren yr harbwr sy’n wynebu llithrfa’r harbwr, gyda’r nod o wneud yr ardal yn fwy deniadol yn weledol. Yn ogystal, adroddwyd, yn dilyn cyngor, bod y ddraig o’r enw "Dixie" bellach wedi’i lleoli ar wely o lechi y tu ôl i swyddfa’r harbwr, mewn amgylchedd diogel. Mynegwyd gobaith y bydd Aelodau’r Pwyllgor yn cyfrannu syniadau ar eiriau i’w gosod ar y bwi addurnol sydd wedi’i leoli ar ochr y bont.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Gwilym Jones y dylid cynnwys geiriau sy’n ymwneud ag 200fed pen-blwydd yr harbwr ar y bwi addurnol. Awgrymodd y Cynghorydd June Jones y gallai enwau’r holl gychod a adeiladwyd yn Harbwr Porthmadog gael eu cynnwys ar y bwi, gyda mewnbwn gan yr Amgueddfa Forol yn Mhorthmadog. Mynegwyd gobaith hefyd o adfer hen winsh o Gob Crwn, Llyn Bach, y gellid ei osod o bosib yn Harbwr Porthmadog fel rhan o ddathliadau’r 200 mlynedd. Ymhelaethwyd bod angen darganfod pwy sy’n gyfrifol am y winsh, a chytunodd y Cynghorydd June Jones i edrych ymhellach i mewn i’r mater.

 

Diolchwyd am yr adroddiad. Ategwyd gan Reolwr y Gwasanaeth Morwrol ei fod wedi derbyn hysbysiad am y posibilrwydd fod llong  y Terra Marique, yn ymweld â Phorthmadog  (Traeth Morfa Bychan) cyn gwyliau’r haf. Nodwyd bod y llong wedi ymweld ddwywaith yn y gorffennol, a bod y trefniadau wedi gweithio’n effeithiol ar y ddau achlysur.. Fodd bynnag, nodwyd bod croesawu’r cwch yn brosiect sylweddol sy’n golygu newidiadau sylweddol i bentref Morfa Bychan. Ymhelaethwyd y bydd aelodau’r Pwyllgor yn cael eu diweddaru yn ôl y galw wrth i ragor o wybodaeth ddod i’r fei.

 

PENDERFYNIAD Nodi a derbyn yr adroddiad.

Dogfennau ategol: