Agenda item

Cais ol weithredol i drosi adeilad allanol i lety gwyliau. 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Elwyn Jones  

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Penderfyniad:

PENDERFNWYD: Gwrthod yn groes i’r argymhelliad.

Rheswm: Y cais yn groes i bolisi PCYFF 3 oherwydd byddai’r datblygiad yn cael effaith andwyol ar fwynderau preswyl a byddai’r ffenestri talcen yn achosi gor-edrych ac effaith ymwthiol.

Cofnod:

 

a)     Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais ôl weithredol i drosi adeilad allanol i lety gwyliau hunangynhaliol oedd dan sylw – yr adeilad gwreiddiol yn adeilad allanol oedd yn cael ei ddefnyddio fel defnydd atodol i eiddo Plas Coch. Gohiriwyd penderfyniad ar y cais yn mhwyllgor Ionawr 2024 er mwyn rhoi cyfle i’r ymgeisydd ymateb i’r sylwadau ynglŷn a lleihau gor-edrych ar dai cyfagos a rhoi cyfle iddo gyflwyno gwybodaeth am fesurau lliniaru a chynllun rheoli’r uned gwyliau, fyddai’n lleddfu pryderon cymdogion. Cyfeiriwyd at y wybodaeth a ddaeth i law yn y ffurflen sylwadau hwyr ynghyd a llun yn dangos bod llenni wedi cael eu gosod yn ddiweddar iawn ar y ffenest fawr. Derbyniwyd copi o reolau ar gyfer yr uned wyliau oedd yn gofyn i westeion beidio a defnyddio’r twba poeth ar ôl 9yh ac i gadw sŵn i’r lleiafswm ar ôl 10yh. Nid ydynt yn caniatáu partïon gan gynnwys rhai iar a stag nac yn caniatáu ymwelwyr oedd heb gofrestru i aros yn y llety. 

 

Yng nghyd-destun egwyddor y datblygiad, nodwyd mai Polisi TWR 2 oedd y polisi perthnasol. O safbwynt y CDLl er bod y safle yng nghefn gwlad agored mae’r Polisi yn caniatáu llety gwyliau hunangynhaliol newydd yng nghefn gwald ar safleoedd a ddatblygwyd o’r blaen. Eglurwyd, gan fod y safle o fewn cwrtil tŷ preswyl roedd yn cydymffurfio gyda diffiniad y CDLl a Pholisi Cynllunio Cymru o dir a ddatblygwyd o’r blaen. Adroddwyd y dylai ceisiadau o’r fath gael eu cefnogi gan adroddiad strwythurol ond gan fod y gwaith eisoes wedi ei gwblhau, ystyriwyd nad oedd gwerth gofyn am adroddiad bellach. Amlygwyd bod sylwadau a dderbyniwyd yn codi pryder am ansawdd y gwaith a bod yr Uned Rheolaeth Adeiladu yn ymwybodol o’r sefyllfa ac yn gallu gweithredu pe byddai angen. Elfen allweddol arall  o Bolisi TWR 2 yw asesu gormodedd o lety gwyliau hunangynhaliol  - yn yr achos yma, nid oedd tystiolaeth o ormodedd yn y rhan yma o’r Sir ac nid oedd y bwriad yn golygu colled o stoc tai parhaol.

 

Yng nghyd-destun mwynderau gweledol, derbyniwyd sylwadau yn nodi pryderon nad oedd y Uned Gwyliau yn gweddu gyda’r dirwedd a bod y deunyddiau gwreiddiol wedi cael eu gwaredu a’u disodli gan ddeunyddiau mwy modern. Mewn ymateb, er nad yw’r deunyddiau gwreiddiol wedi eu cadw, ni ystyriwyd fod y defnyddiau a ddefnyddiwyd yn annerbyniol ac nid oeddynt yn effeithio ar gymeriad yr ardal yn ddigon sylweddol i greu effaith negyddol ar y dirwedd.

 

Cyfeiriwyd at bryderon a dderbyniwyd oedd yn nodi bod y newid yn yr adeilad yn creu effaith weledol negyddol, er nad oedd y cynlluniau yn dangos newid sylweddol mewn siâp na maint i'r adeilad gwreiddiol gydag uchder yr adeilad yn eistedd yn gyfforddus wrth ochor tŷ Plas Coch. Derbyniwyd bod newid sylweddol wedi bod i dalcen yr adeilad gyda gwydr wedi ei osod ar hyd yr edrychiad. Er hynny, ystyriwyd nad oedd yr edrychiad yn wynebu’n uniongyrchol at dai cyfagos ac nid oedd yn sylweddol nodweddiadol o’r ffordd. Ategwyd nad oedd y dyluniad yn achosi effaith negyddol ar fwynderau preswyl eiddo cyfagos ac y byddai modd adnewyddu edrychiad allanol yr adeilad heb yr angen am hawl cynllunio.

 

Nodwyd bod pryderon ynglŷn â lleoliad yr uned gwyliau ar ffordd gul sydd yn cael ei ddefnyddio gan bobl leol ac y byddai defnydd uned gwyliau yn cynyddu prysurdeb ar y ffordd gul gan amharu ar fwynderau trigolion cyfagos. Mewn ymateb, cydnabuwyd bod  symudiadau o uned gwyliau yn gallu bod yn wahanol i dŷ preswyl arferol ond mai graddfa fechan yw’r datblygiad fydd ddim yn debygol o arwain at effaith andwyol ar fwynderau preswylwyr cyfagos na chynnydd sylweddol mewn traffig ar y lonydd sy’n gwasanaethu’r safle. Ymgynghorwyd gyda’r Uned ynglŷn a'r y mater ac nid oedd ganddynt wrthwynebiad.

 

Eglurwyd, er bod sawl cais wedi ei wneud i’r ymgeisydd am dystiolaeth ynglŷn â sylw a roddwyd i’r iaith, ni dderbyniwyd unrhyw wybodaeth fyddai’n cefnogi’r cais. O ganlyniad, daethpwyd i’r casgliad gan fod y bwriad fel arall yn dderbyniol ac yn cydymffurfio gyda gweddill y polisïau, yn enwedig o safbwynt gormodedd, nad oedd tystiolaeth i ddangos y  byddai’r bwriad yn cael effaith negyddol ar yr iaith ac ategwyd y byddai’n bosib sicrhau rhai mesurau lliniaru trwy amod. Yn ychwanegol, nodwyd bod yr ymgeisydd wedi mynegi yn ei gynllun busnes ei fod yn cefnogi busnesau lleol.

 

Wedi ystyried yr holl bolisïau a’r canllawiau cynllunio perthnasol, ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol a y byddai modd rheoli’r datblygiad trwy amodau cynllunio. Atgoffwyd yr Aelodau y gellid ceisio cywiro effeithiau'r datblygiad anawdurdodedig a pheidio cosbi'r person(au) sy'n gyfrifol am y datblygiad. Nid yw cwblhau gwaith datblygu cyn cael caniatâd cynllunio yn reswm dilys i wrthod cais. Roedd y Swyddogion yn argymhell caniatáu y cais gydag amodau.

 

b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol:

·        Bod diffyg ymateb a chyfathrebu ar ran yr ymgeisydd

·        Bod y cais wedi dod i’w sylw oherwydd bod y datblygiad wedi ei gwblhau heb ganiatâd

·        Bod y bwriad yn cael effaith ar dai cyfagos

·        Bod ymweliad safle wedi ei drefnu ar gyfer yr Aelodau

·        Nad oedd yr adeilad gwreiddiol o’r un uchder a’r adeilad newydd – siomedig nad oes modd profi hyn bellach

·        Bod elfen o or-edrych ar eiddo cyfagos

·        Diffyg ymateb i geisiadau swyddogion am wybodaeth

·        Petai’r cais yn un arferol, byddai’n sicr yn cael ei wrthod

·        Pryder mai’r neges sydd yma yw datblygu cyn cael caniatâd

 

c)     Cynigiwyd ac eiliwyd gwrthod y cais

Rheswm: Y cais yn groes i bolisi cynllunio PCYFF 3 – effaith ar fwynderau preswyl

ch)  Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan yr aelodau:

·     Nad oedd gosod llenni yn ddigonol ar gyfer lliniaru gor-edrych

·     Bod y ffenestr ar dalcen yr adeilad yn rhy fawr ac yn debygol o amharu yn sylweddol ar gymdogion - yn creu effaith ymwthiol

·     Bod y Cyngor Cymuned yn gwrthwynebu’r cais

·     Bod nifer fawr o bryderon wedi eu cyflwyno gan drigolion lleol – rhaid cymryd sylw o’r pryderon hyn

·     Bod diffyg parch at y broses cynllunio – dim ymdrech i gydweithio

·     Bod y ffordd at yr eiddo yn gul ac anaddas – dim angen mwy o ddefnydd

 

PENDERFYNWYD: GWRTHOD yn groes i’r argymhelliad.

Rheswm: Y cais yn groes i bolisi PCYFF 3 oherwydd byddai’r datblygiad yn cael effaith andwyol ar fwynderau preswyl a byddai’r ffenestri talcen yn achosi gor-edrych ac effaith ymwthiol.

 

Dogfennau ategol: