Agenda item

Cais llawn i adeiladu 9 tŷ fforddiadwy (dosbarth defnydd C3) gyda datblygiadau cysylltiol gan gynnwys ymestyn ffordd stad bresennol, creu llecynnau parcio a tirlunio  

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Tudor Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Amgylchedd ganiatáu’r cais gyda’r amodau canlynol:

1.       Amser

2.       Datblygiad yn cydymffurfio gyda chynlluniau a gymeradwywyd

3.       Amod tai fforddiadwy

4.       Cytuno’r deunyddiau allanol gan gynnwys y llechi to

5.       Tynnu Hawliau Datblygiadau a Ganiateir

6.       Amod Dŵr Cymru

7.       Amodau Priffyrdd

8.       Amodau Bioamrywiaeth

9.       Angen cyflwyno Cynllun Rheolaeth Adeiladu cyn dechrau’r gwaith datblygu

10.     Rhaid rhoi enw Cymraeg i’r stad a’r tai unigol.

11.     Cyfyngu’r defnydd i ddosbarth defnydd C3 yn unig

12.     Cwblhau tirlunio

13.     Cytuno trefniadau goleuo bwriedig safle.

 

Nodyn :  Dŵr Cymru

Draeniad cynaliadwy

Cyfoeth Naturiol Cymru

 

Cofnod:

Cais llawn i adeiladu 9 tŷ fforddiadwy (dosbarth defnydd C3) gyda datblygiadau cysylltiol gan gynnwys ymestyn ffordd stad bresennol, creu llecynnau parcio a thirlunio

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)     Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod safle’r cais wedi ei leoli yn rhannol o fewn ffin datblygu Morfa Nefyn (3 uned yn disgyn o fewn y ffin datblygu a 6 uned yn gyfan gwbl y tu allan i’r ffin) ac felly yng nghyd-destun egwyddor y datblygiad, bod angen cyfiawnhau’r cais oherwydd gosodiad y 6 tŷ annedd tu allan i’r ffin datblygu a bod ffigyrau tai Morfa Nefyn eisoes wedi mynd dros y ffigwr cyflenwad dangosol a adnabyddir o fewn y CDLl.

 

Eglurwyd bod tystiolaeth a gyflwynwyd gyda’r cais yn cynnwys gwybodaeth gan Tai Teg yn dangos bod 17 o bobl yn gymwys i brynu tŷ canolradd a 6 o bobl eisiau tai rhent. Ategwyd bod gwybodaeth wedi ei dderbyn gan yr Uned Polisi Cynllunio yn dangos fod bron i 75% o aelwydydd Morfa Nefyn wedi eu prisio allan o’r farchnad tai a bod yr Uned Strategol Tai wedi cadarnhau fod y bwriad yn cyfarch yr angen yn yr ardal.  Gyda’r bwriad yn cynnig 100% tai fforddiadwy, gan gynnwys yr unedau sydd o fewn y ffin datblygu, ystyriwyd bod yr angen wedi ei brofi a bod cyfiawnhad am y datblygiad.

 

Amlygwyd y byddai’r tai yn cael eu datblygu gan y Cyngor trwy Cynllun Tŷ Gwynedd ac y byddant yn cael eu gwerthu ar sail perchnogaeth rhannol sy’n golygu bod modd eu prynu am bris fforddiadwy. Golygai hyn y bydd y Cyngor yn cadw canran o ecwiti ym mhob eiddo er mwyn sicrhau pris prynu fforddiadwy a sicrhad y byddai’r unedau yn parhau fel unedau fforddiadwy i’r dyfodol. Ategwyd bod y cais yn nodi gall yr unedau eu gosod ar rent canolradd gan gynnig disgownt o oddeutu 20% ar brisiau cyffelyb ar y farchnad agored – y materion hyn i’w rheoli trwy osod amod cynllunio.

 

Nodwyd y byddai’r tai yn ffurfio estyniad i stad bresennol gyda dyluniad y tai yn eithaf safonol. Ystyriwyd bod gosodiad, dyluniad a deunyddiau'r datblygiad arfaethedig yn gweddu i’r lleoliad mewn modd priodol gyda maint y tai yn cwrdd gydag anghenion y CCA ar gyfer tai fforddiadwy. O ystyried lleoliad, dyluniad, gogwydd a maint y tai arfaethedig, ni ystyriwyd y bydd effaith niweidiol arwyddocaol ar fwynderau preifat yn deillio o’r datblygiad hwn ac adroddwyd na dderbyniwyd gwrthwynebiadau gan y cyhoedd yn dilyn y cyfnod ymgynghori.

 

Derbyniwyd Asesiad Effaith Iaith Gymraeg fel rhan o’r cais oedd yn dod i gasgliad y byddai’r datblygiad arfaethedig yn cael effaith fuddiol gyffredinol ar y Gymraeg a’r gymuned ym Morfa Nefyn; darpariaeth tai fforddiadwy yn ateb y galw, a’r angen wedi ei brofi ar gyfer trigolion lleol. Nododd y Datganiad, drwy ddarparu tai fforddiadwy sydd wedi eu targedu at ddiwallu’r angen lleol, byddai’r rheiny sy’n chwilio am dai fforddiadwy’n gallu parhau i fyw yn eu cymunedau lleol.

 

Yng nghyd-destun materion technegol megis, trafnidiaeth a mynediad, bioamrywiaeth, llecynnau agored ac isadeiledd, nodwyd fod y bwriad yn dderbyniol ac yn cwrdd â pholisïau cynllunio perthnasol.  Roedd y Swyddogion yn argymell caniatáu’r cais gydag amodau.

 

b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol:

·        Bod diffyg tai i deuluoedd lleol. Croesawu’r datblygiad - angen dybryd am dai fforddiadwy yn Llŷn

·        Ardal y bwriad yn ddelfrydol – lleoliad addas a chyfleus i wasanaethau

·        Y tai yn fodern. Cartrefi i deuluoedd  ifanc ac unigolion fyddai fel arall yn cael eu prisio allan o’r farchnad

·        Bydd yn gefnogaeth i’r ysgol leol (potensial y byddai 15-18 o blant yn byw yn y tai)

·        Cyngor Trefn Nefyn yn awyddus i’r cais gael ei ganiatáu - byddai’n adfywio’r gymuned gan ganiatáu i fwy o bobl aros yn lleol yn eu milltir sgwâr

 

c)     Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais

 

   ch)    Mewn ymateb i gwestiwn pwy fydd yn adeiladu’r tai o ystyried mai Cyngor  Gwynedd yw’r ymgeisydd, nodwyd nad oedd ‘pwy sydd yn adeiladu’r tai’ yn ystyriaeth i’r Pwyllgor Cynllunio. Mewn ymateb i gwestiwn ategol bod cyfle wedi ei golli yma i gydweithio gyda Hunanadeiladu Cymru, nodwyd nad oedd hyn yn ystyriaeth i’r cais gerbron.

 

PENDERFYNWYD: Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Amgylchedd ganiatáu’r cais gyda’r amodau canlynol:

 

1.    Amser

2.    Datblygiad yn cydymffurfio gyda chynlluniau a gymeradwywyd

3.    Amod tai fforddiadwy

4.    Cytuno’r deunyddiau allanol gan gynnwys y llechi to

5.    Tynnu Hawliau Datblygiadau a Ganiateir

6.    Amod Dŵr Cymru

7.    Amodau Priffyrdd

8.    Amodau Bioamrywiaeth

9.    Angen cyflwyno Cynllun Rheolaeth Adeiladu cyn dechrau’r gwaith datblygu

10.  Rhaid rhoi enw Cymraeg i’r stad a’r tai unigol.

11.  Cyfyngu’r defnydd i ddosbarth defnydd C3 yn unig

12.  Cwblhau tirlunio

13.  Cytuno trefniadau goleuo bwriedig safle.

 

Nodyn : 

Dŵr Cymru

Draeniad cynaliadwy

Cyfoeth Naturiol Cymru

 

Dogfennau ategol: