Penderfyniad:
PENDERFYNWYD:
Cofnod:
·
Polisi Trwyddedu Gyrru Cerbyd Hacni
/ Hurio Preifat Cyfunol
·
Polisi Trwyddedu Cerbydau Hacni
/ Hurio Preifat
·
Polisi Trwyddedu Gweithredwyr Hurio Preifat
·
Polisi Meini Prawf Addasrwydd Gyrwyr a Gweithredwyr
Cyflwynwyd
adroddiad gan Pennaeth Adran Amgylchedd yn manylu ar wybodaeth gefndirol
polisïau cyfredol Gwynedd ynghyd a chyhoeddiadau gan Llywodraeth Cymru mewn
ymateb i geisio rheoli a chysoni’r diwydiant tacsi yn unol â’r Safonau Tacsi
Cenedlaethol.
Atgoffwyd yr
Aelodau bod y Pwyllgor Trwyddedu, yn Medi 2015 wedi awdurdodi Pennaeth yr
Amgylchedd i ddechrau adolygu’r polisïau gan gynnig polisi tacsi unedig i
Wynedd yn hytrach na thair dogfen bolisi ar wahân. Ystyriwyd y byddai cyflwyno
polisi unedig yn sicrhau gwasanaeth teg a chyson ac yn cwrdd ag anghenion y
diwydiant a’r defnyddwyr.
Amlygwyd, yng
nghyd-destun Safonau Cenedlaethol, bod amodau trwyddedu gyrwyr, cerbydau a
gweithredwyr tacsi yng Ngwynedd eisoes yn cyd-fynd gyda rhan helaeth o’r
disgwyliadau sydd yn cael eu cynnwys yn y Safonau, ond bod bwriad ychwanegu
rhai mesurau diogelu i’r broses ceisio am drwydded. Bydd mesurau megis sicrhau
bod ymgeisydd am drwydded yn derbyn ymchwiliad meddygol i safon Grŵp 2
DVLA, gyrwyr yn cwblhau Hyfforddiant Diogelu Plant fel rhan o’r broses ymgeisio
am drwydded a bod gwiriad ar system Intel troseddol cenedlaethol yn cael ei
wneud ar gyfer pob cais am drwydded gyrrwr o’r newydd, yn cael eu cynnwys yn
swyddogol yn y Polisi Unedig newydd.
Ategwyd y byddai’r
Pwyllgor, ymhen y 12 mis nesaf, yn cael cyfle i roi barn ar y polisi drafft
unedig, cyn y bydd ymgynghoriad cyhoeddus statudol yn cael ei gynnal.
Diolchwyd am yr
adroddiad.
Sylwadau yn codi
o’r drafodaeth ddilynol gan Aelodau:
·
Bod y polisïau wir angen eu diweddaru
·
Bod y newidiadau i’w croesawu ac yn cyfarch safonau
cenedlaethol
Mewn ymateb i
bryder bod gyrwyr o du allan i Wynedd gyda’r hawl i weithio yng Ngwynedd,
nodwyd bod trafodaeth genedlaethol wedi ei chynnal ar y pwnc gydag adolygiad
gan Lywodraeth Cymru i geisio sicrhau rheolaeth dros ffiniau Cymru a Lloegr (Uber yn un enghraifft o hyn). Er hynny, nid oedd y drefn
bresennol yn caniatáu gwrthod gweithio trawsffiniol cyn belled a bod trefniant
ymlaen llaw wedi ei wneud. Ategwyd mai’r gobaith yw y bydd Llywodraeth Cymru yn
ail afael yn yr agenda ac yn ceisio rheolaeth drawsffiniol i’r dyfodol.
Mewn ymateb i
gwestiwn ategol bod angen cydweithio gyda siroedd ffiniol i sicrhau bod gyrwyr tu allan i Wynedd yn
cydymffurfio gyda pholisïau diogelwch Gwynedd, nodwyd bod Gwynedd yn rhan o
gyfundrefn rhannu gwybodaeth sy’n gweithredu gwiriadau yn genedlaethol. Mewn
ardaloedd gwledig, mynegwyd bod cytundebau cludiant ysgolion yn ddibynnol ar
weithredwyr o siroedd eraill, a bod rheolaeth dda o’r sefyllfa i sicrhau
bod gyrwyr a cherbydau yn cyd-fynd â’r
gofynion perthnasol. Pwysleisiwyd yr angen i gyfeirio unrhyw amheuon o
addasrwydd cerbydau a / neu yrwyr at yr Uned Trwyddedu a mynegwyd y byddai’r
gwaith o alinio polisïau ac amodau gyda siroedd eraill yn cyfrannu at wasanaeth
cyson a diogel.
Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â threfniadau cludo cleifion gan y Gwasanaeth Iechyd a bod
y trefniant hwnnw yn cael ei wneud drwy'r gwasanaeth / ysbyty yn hytrach na
dymuniadau’r claf, nodwyd bod y trefniant yma, fel arfer yn cael ei wneud drwy
ddefnydd gwasanaeth cludiant cymunedol sy’n cael ei reoli gan y Comisiynydd
Traffig. Nodwyd bod yr un rhagolygon megis prawf meddygol, cofnod a gwiriad
DBS, a gwiriadau mecanyddol i’r car yn cael eu gweithredu yn yr un modd a
gofynion Uned Trwyddedu Cyngor Gwynedd.
Mewn ymateb i sylw
am yrwyr tacsi yn defnyddio eu cerbydau i gludo nwyddau, nodwyd nad oedd
rheolaeth dros ddefnyddio’r cerbyd i’r pwrpas yma, ond bod pob ymgais yn cael
ei wneud i sicrhau bod y gyrwyr wedi derbyn hyfforddiant diogelwch o ystyried y
nifer ymweliadau / danfoniadau maent yn ei wneud a’r sefyllfaoedd gwahanol y
byddant yn debygol o ddod ar eu traws.
PENDERFYNWYD:
·
Derbyn yr adroddiad
·
Croesawu cysoni gwasanaeth ar draws y Sir i gwrdd
ag anghenion y diwydiant a defnyddwyr gan gadw ystyriaethau diogelwch yn
sylfaen greiddiol i gyfeiriad y polisi
·
Cymeradwyo’r angen i adolygu’r polisi yn unol â’r
egwyddorion a gytunwyd yn 2017, ac er mwyn alinio gyda Safonau Cenedlaethol
Cymerodd y Cyng.
Elfed Williams y cyfle i ddiolch i Aelodau’r Pwyllgor ac i’r Swyddogion am eu
cefnogaeth tra’n Gadeirydd y Pwyllgorau Trwyddedu.
Dogfennau ategol: