Cais llawn i godi 8 tŷ fforddiadwy (safle
eithrio) gyda datblygiadau cysylltiedig gan gynnwys creu mynedfa gerbydol,
ffordd stâd, tirlunio ac ardal draenio dwr wyneb cynaliadwy
AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Williams
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Gohirio penderfyniad a chynnal ymweliad
safle
Rheswm: I asesu effaith y bwriad ar fwynderau’r trigolion
cyfagos
Cofnod:
Cais llawn i godi 8 tŷ par fforddiadwy (safle eithrio) gyda datblygiadau
cysylltiedig gan gynnwys creu mynedfa
gerbydol, ffordd stad, tirlunio ac ardal draenio dŵr
wyneb cynaliadwy
Tynnwyd sylw
at y ffurflen sylwadau hwyr
a)
Amlygodd y Rheolwr
Cynllunio bod y bwriad yn cynnwys codi 3 byngalo 2 ystafell wely, 4 tŷ
deulawr 3 ystafell wely ac1 tŷ deulawr 4 ystafell wely i gyd i’w orffen
gyda chymysgedd o rendr, cladin carreg a choed ar y
waliau a tho llechen naturiol. Ategwyd bod clawdd naturiol presennol i flaen y
safle i’w drawsleoli i ffin ogleddol y safle gyda gwrychoedd newydd i’w codi ar
weddill ffiniau’r safle.
Adroddwyd bod safle’r datblygiad arfaethedig yn bresennol yn dir
amaethyddol agored gyda ffiniau o’i amgylch yn bennaf yn wrychoedd naturiol
gyda thai preswyl yn gyfochrog a’r safle i gyfeiriad y gogledd, gorllewin a’r
de gydag edrychiadau o ran dyluniad, ffurf a gorffeniadau amrywiol. Saif y
cyfan tu allan i ffin ddatblygu gyfredol pentref Aberdaron ac felly yng nghefn
gwlad agored gyda ffin orllewinol a deheuol y safle arfaethedig yn cyffwrdd a’r
ffin datblygu bresennol. Ategwyd bod ffordd gyhoeddus dosbarth 3 wedi ei leoli
yn gyfochrog gyda’r ffin orllewinol a’r hyn fyddai blaen y safle, gyda mynediad
a hawl tramwy i mewn i diroedd amaethyddol yn rhedeg ar hyd ffin ogleddol y
tir. Y safle oddi mewn dynodiadau AHNE Llŷn a Thirlun o Ddiddordeb Hanesyddol
Eithriadol Llŷn ac Ynys Enlli ac o fewn parth 500m i heneb gofrestredig.
Eglurwyd bod pentref Aberdaron wedi ei ddiffinio fel pentref gwledig /
arfordirol yn y CDLl gydag oddeutu 95 o dai ac
ychydig o gyfleusterau o fewn y ffin datblygu gyfredol. Ar sail maint yr
anheddle nodwyd bod y datblygiad yn golygu twf o 7.6% i’r anheddle, ond gyda
chaniatâd diweddar wedi ei gymeradwyo ar gyfer safle eithrio arall am 5 uned i’r
anheddle, bydd twf o 12.35% yn ei gyfanrwydd sy’n gyfystyr a’r lefel twf
disgwyliedig i’r anheddle yma.
Gyda’r safle wedi ei leoli y tu allan i’r ffin datblygu disgwylid i’r
holl unedau fod ar gyfer angen fforddiadwy lleol. Ar gyfer Aberdaron diffinnir
hyn fel pobl sydd mewn angen tŷ fforddiadwy ac sydd wedi byw o fewn y
Pentref, neu yn yr ardal wledig o gwmpas am bum mlynedd neu fwy yn olynol, unai
yn union cyn cyflwyno cais neu yn y gorffennol. Diffiniwyd ‘ardal wledig’ yn yr
achos yma fel pellter o 6km o safle'r cais a holl ardal unrhyw Gyngor Cymuned
sy'n cael ei rannu gan y pellter 6km, gan eithrio eiddo o fewn ffin datblygu
unrhyw anheddiad oni bai am yr anheddiad hwnnw lle mae’r cais wedi’i leoli.
Cyflwynwyd tystiolaeth ar ffurf Datganiad Anghenion Tai a Thai
Fforddiadwy sy’n cyfeirio at angen sydd wedi ei amlygu ar Gofrestr Tai
Cymdeithasol a Thai Teg yn Aberdaron a phentref Rhiw, gan nodi fod Rhiw wedi ei
leoli o fewn 6km i’r dwyrain o Aberdaron ac nad yw wedi ei gynnwys fel
anheddiad dynodedig, gan gynnwys clwstwr, ac felly nid oes posib darparu unrhyw
ddatblygiad tai newydd o fewn yr anheddiad. Cadarnhawyd y data cyfunol o’r
Gofrestr Tai Cymdeithasol a Thai Teg ar gyfer Aberdaron a Rhiw, a bod ystyriaeth
wedi ei roi i’r cyfraniad y byddai cais a ganiatawyd ar gyfer 5 uned hunanadeiladu yn ddiweddar yn ei gynnig i’r ardal.
Byddai’r bwriad yn darparu cynllun niwtral o ran daliadaeth; yn cynnig
cymysgedd o dai rhent cymdeithasol, tai rhent fforddiadwy canolradd a
rhanberchenogaeth er mwyn gallu diwallu ystod eang o angen a galluogi i
aelwydydd symud o rentu i ranberchenogaeth wrth i’w hamgylchiadau newid. Bydd
hyn yn cynnig darpariaeth fforddiadwy leol gwbl wahanol i’r hyn sydd eisoes
wedi ei ganiatáu ar safle arall ar gyrion y pentref fel cynllun 5 uned hunanadeiladu yn ddiweddar. Ar sail y wybodaeth a
gyflwynwyd fel rhan o’r cais ystyriwyd bod yr angen wedi ei gadarnhau ar gyfer
y datblygiad, a’r bwriad yn ffurfio estyniad rhesymegol i’r pentref.
Lleolir y safle o fewn yr AHNE, ac er cydnabuwyd ei fod yn safle eithrio
ac yn ymestyn allan i dir agored amaethyddol, ni ystyriwyd y byddai’n cael
effaith andwyol yn weledol ac y byddai yn gweddu cyd-destun adeiledig yr ardal
bresennol a gweddill y pentref. Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a
phreswyl, yn dilyn asesiad llawn, ystyriwyd bod y bwriad wedi ei ddylunio er
mwyn lleihau unrhyw effaith ar eiddo cyfagos, ac felly’n dderbyniol.
Tynnwyd sylw at sylwadau’r Uned Bioamrywiaeth, a’r effaith posib o
lygredd yn cyrraedd yr Ardal Cadwraeth Arbennig Pen Llyn a’r Sarnau. Nodwyd bod
y mater wedi derbyn sylw perthnasol, ac o ganlyniad i osod mesurau rheoli
llygredd yn ystod y gwaith adeiladau ac o’r ardal draenio gynaliadwy, ni
ystyriwyd y byddai’r bwriad yn cael effaith sylweddol ar nodweddion yr Ardal
Cadwraeth Arbennig.
Ategwyd bod materion draenio, trafnidiaeth, ac iaith wedi derbyn sylw ac
yn dderbyniol yn ddarostyngedig i amodau cynllunio perthnasol. Ystyriwyd fod y
bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau lleol a chenedlaethol ac felly
argymhellwyd caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i osod amodau perthnasol.
b)
Yn manteisio ar yr hawl
i siarad, nododd Asiant ar ran yr ymgeisydd y sylwadau canlynol;
·
Bod y cais yn un i
ddarparu wyth cartref fforddiadwy yn cael ei arwain gan Grŵp Cynefin gyda
chefnogaeth Cyngor Gwynedd i gyfarch Strategaeth Tai Gwynedd
·
Bod ymgynghori wedi
cymryd lle
·
Bod y cynllun yn
dderbyniol
·
Cyfarfodydd wedi eu
cynnal gyda’r Cyngor Cymuned a’r Cyngor Sir
·
Y cynllun yn cydymffurfio gyda pholisïau lleol a
chenedlaethol
·
Nad oedd gwrthwynebiad
wedi ei dderbyn gan yr Uned Priffyrdd
·
Sylw wedi ei roi i’r
llwybr cyhoeddus
·
Bod yr Uned Strategol
Tai yn amlygu bod y cynllun yn cyfarch yr angen
·
Byddai’r bwriad yn cael
effaith gadarnhaol ar yr iaith - yn debygol o apelio at Gymry Cymraeg sydd wedi
ymateb i’r galw yn lleol
c)
Yn manteisio ar yr hawl
i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol;
·
Bod y pentref yn un
gwledig
·
Bod llawer o
wrthwynebiad i’r cais yn lleol
·
Bod y bwriad yn orddatblygiad – pum tŷ oedd y cynnig gwreiddiol – hyn
yn gweddu yn well i’r safle
·
Byddai’r bwriad yn cael
effaith ar gymdogion Y Ddol - dyma’r eiddo agosaf at y safle. O edrych ar y
cynllun, byddai’r tŷ mwyaf o fewn y datblygiad yn gôr edrych dros Y Ddol.
Rhwystredigaeth bod diffyg ymgynghoriad am y dyluniad a gosodiad y datblygiad
·
Er trafodaeth gyda’r
ymgeisydd a chynnig addasiad i’r cynllun i osod y ddau fyngalo i gefn Y Ddol,
siom na chafwyd newid i’r cynllun
·
Er y nifer coed yn y
cynlluniau, pethau prin yw coed - ardal Deunant yn agored i dywydd garw a go
brin caiff coed lonydd i dyfu
·
Yn awgrymu i’r Pwyllgor
ymweld â’r safle cyn penderfynu - byddai hyn yn rhoi cyd-destun gwell na llun
mewn adroddiad
·
Gyda’r tai yn rhai
cymdeithasol ac wedi eu hariannu gan grant Llywodraeth Cymru, anodd felly yw
i’r Cyngor wrthwynebu
·
Bod cais gan berson
lleol i adeiladau chwe thŷ tu allan i'r ffin datblygu wedi ei wrthod -
diffyg cysondeb
·
Oes wir angen tai yma?
Yn ôl yr adroddiad mae 14 o deuluoedd ar y rhestr - hwn yn ffigwr uchel ac yn cael ei gwestiynu
yn lleol
·
Bod angen addasu rheolau
fel bod Aelodau Lleol yn cael gweld y gofrestr aros
·
Bod angen i’r Pwyllgor
ystyried sywldau’r Cyngor Cymuend
a thrigolion y pentref
d)
Cynigiwyd ac eiliwyd
cynnal ymweliad safle ar sail asesu’r effaith ar fwynderau preswyl
Mewn ymateb i gwestiwn os oedd arolwg arbenigol unigol wedi ei gwblhau
gan hwylusydd tai gwledig ar gyfer y datblygiad, nodwyd mai cyfrifoldeb yr
ymgeisydd fyddai gofyn am arolwg o’r fath. Ategwyd nad oedd arolwg unigol yn
angenrheidiol, a bod gwybodaeth a thystiolaeth yr Uned Strategol Tai wedi
cadarnhau bod yr angen yn bodoli. Mewn ymateb, nodwyd bod angen darparu data a
thystiolaeth mewn adroddiadau ac nid barn yn unig. Rhaid cynnwys gwybodaeth
addas a phriodol ar gyfer amlygu’r angen yn lleol.
ch) Yn ystod y drafodaeth
ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan yr Aelodau:
·
Bod priodoldeb data
cyflawn yn berthnasol
·
Bod angen ystyried gwir angen yn llawn
·
Bod anghysondeb mewn geiriad ‘maint’ y datblygiad – angen sicrwydd clir
·
Gostyngiad mewn niferodd
Ysgol Botwnnog yn amlygu bod pobl ifanc yn gadael yr ardal
PENDERFYNIAD:
Gohirio penderfyniad a chynnal ymweliad safle
Rheswm: I asesu effaith y bwriad ar fwynderau’r trigolion cyfagos
Dogfennau ategol: