Agenda item

Cais llawn i godi 8 tŷ fforddiadwy (safle eithrio) gyda datblygiadau cysylltiedig gan gynnwys creu mynedfa gerbydol, ffordd stâd, tirlunio ac ardal draenio dwr wyneb cynaliadwy.

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau 

 

1.         Amser

2.         Unol a’r cynlluniau

3.         Deunyddiau

4.         Amod tai fforddiadwy

5.         Amodau priffyrdd

6.         Amodau bioamrywiaeth/gwarchod clawdd

7.         Amod tirlunio

8.         Amod Dŵr Cymru

9.         Tynnu hawliau dirprwyedig a ganiateir yn  ymwneud ag ymestyn a defnydd

10.       Materion draenio

11.       Cynllun Rheoli Adeiladu

12.       Datganiad dull trawsleoli clawdd

 

Cofnod:

Cais llawn i godi 8 tŷ par fforddiadwy (safle eithrio) gyda datblygiadau cysylltiedig gan gynnwys creu mynedfa gerbydol, ffordd stad, tirlunio ac ardal draenio dŵr wyneb cynaliadwy 

 

          Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

          Roedd rhai o’r Aelodau wedi ymweld â’r safle 03-12-25

 

a)          Amlygodd y Rheolwr Cynllunio y gohiriwyd y cais ym Mhwyllgor Cynllunio Tachwedd 2025 er mwyn trefnu ymweliad safle i asesu effaith y bwriad ar fwynderau’r trigolion cyfagos. Nodwyd bod cynlluniau diwygiedig wedi eu cyflwyno oedd yn amnewid lleoliadau dau fyngalo pâr gyda’r pâr o dai 3 a 4 llofft.

 

Adroddwyd bod safle’r datblygiad arfaethedig yn bresennol yn dir amaethyddol agored gyda ffiniau o’i amgylch yn bennaf yn wrychoedd naturiol gyda thai preswyl yn gyfochrog a’r safle gydag edrychiadau o ran dyluniad, ffurf a gorffeniadau amrywiol. Saif y cyfan tu allan i ffin ddatblygu gyfredol pentref Aberdaron ac felly yng nghefn gwlad agored gyda ffin orllewinol a deheuol y safle arfaethedig yn cyffwrdd a’r ffin datblygu bresennol. Ategwyd bod ffordd gyhoeddus dosbarth 3 wedi ei leoli yn gyfochrog gyda’r ffin orllewinol a’r hyn fyddai blaen y safle, gyda mynediad a hawl tramwy i mewn i diroedd amaethyddol yn rhedeg ar hyd ffin ogleddol y tir. Y safle oddi mewn dynodiadau AHNE Llŷn a Thirlun o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Ynys Enlli ac o fewn parth 500m i heneb gofrestredig.

 

Eglurwyd bod pentref Aberdaron wedi ei ddiffinio fel pentref gwledig / arfordirol yn y CDLl gydag oddeutu 95 o dai ac ychydig o gyfleusterau o fewn y ffin datblygu gyfredol. Ar sail maint yr anheddle, nodwyd bod y datblygiad yn golygu twf o 7.6% i’r anheddle, ond gyda chaniatâd diweddar wedi ei gymeradwyo ar gyfer safle eithrio arall am 5 uned i’r anheddle, bydd twf o 12.35% yn ei gyfanrwydd sy’n gyfystyr a’r lefel twf disgwyliedig i’r anheddle yma.

Gyda’r safle wedi ei leoli y tu allan i’r ffin datblygu disgwylid i’r holl unedau fod ar gyfer angen fforddiadwy lleol. Ar gyfer Aberdaron diffinnir hyn fel pobl sydd mewn angen tŷ fforddiadwy ac sydd wedi byw o fewn y Pentref, neu yn yr ardal wledig o gwmpas am bum mlynedd neu fwy yn olynol, unai yn union cyn cyflwyno cais neu yn y gorffennol. Diffiniwyd ‘ardal wledig’ yn yr achos yma fel pellter o 6km o safle'r cais a holl ardal unrhyw Gyngor Cymuned sy'n cael ei rannu gan y pellter 6km, gan eithrio eiddo o fewn ffin datblygu unrhyw anheddiad oni bai am yr anheddiad hwnnw lle mae’r cais wedi’i leoli.

 

Nodwyd bod Arolwg Hwylusydd Tai Gwledig wedi ei gyflwyno mewn ymateb i’r hyn a godwyd ym Mhwyllgor Tachwedd 2025 a’r arolwg yn cadarnhau bod yr angen wedi ei brofi o’r prif ffynonellau, a thystiolaeth gan yr ymgeisydd. Yn yr achos yma, ac yn unol gyda gofynion y Canllaw Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy, nid oedd pwrpas cynnal arolwg lleol gan Hwylusydd Tai Gwledig ond bod yr Arolwg oedd wedi ei gyflwyno yn mynd tu hwnt i ofynion canllawiau a pholisïau cynllunio'r CDLl.

 

Cyflwynwyd tystiolaeth ar ffurf Datganiad Anghenion Tai a Thai Fforddiadwy sy’n cyfeirio at angen sydd wedi ei amlygu ar Gofrestr Tai Cymdeithasol a Thai Teg yn Aberdaron a phentref Rhiw, gan nodi fod Rhiw wedi ei leoli o fewn 6km i’r dwyrain o Aberdaron ac nad yw wedi ei gynnwys fel anheddiad dynodedig, gan gynnwys clwstwr, ac felly nid oes posib darparu unrhyw ddatblygiad tai newydd o fewn yr anheddiad. Cadarnhawyd y data cyfunol o’r Gofrestr Tai Cymdeithasol a Thai Teg ar gyfer Aberdaron a Rhiw, a bod ystyriaeth wedi ei roi i’r cyfraniad y byddai cais a ganiatawyd ar gyfer 5 uned hunanadeiladu yn ddiweddar yn ei gynnig i’r ardal.

 

Byddai’r bwriad yn darparu cynllun niwtral o ran daliadaeth; yn cynnig cymysgedd o dai rhent cymdeithasol, tai rhent fforddiadwy canolradd a rhanberchenogaeth er mwyn gallu diwallu ystod eang o angen a galluogi i aelwydydd symud o rentu i ranberchenogaeth wrth i’w hamgylchiadau newid. Bydd hyn yn cynnig darpariaeth fforddiadwy leol gwbl wahanol i’r hyn sydd eisoes wedi ei ganiatáu ar safle arall ar gyrion y pentref fel cynllun 5 uned hunanadeiladu yn ddiweddar. Ar sail y wybodaeth a gyflwynwyd fel rhan o’r cais ystyriwyd bod yr angen wedi ei gadarnhau ar gyfer y datblygiad, a’r bwriad yn ffurfio estyniad rhesymegol i’r pentref.

 

Lleolir y safle o fewn yr AHNE, ac er cydnabuwyd ei fod yn safle eithrio ac yn ymestyn allan i dir agored amaethyddol, ni ystyriwyd y byddai’n cael effaith andwyol yn weledol ac y byddai yn gweddu cyd-destun adeiledig yr ardal bresennol a gweddill y pentref. Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl, yn dilyn asesiad llawn, ystyriwyd bod y bwriad wedi ei ddylunio er mwyn lleihau unrhyw effaith ar eiddo cyfagos, ac felly’n dderbyniol.

 

Tynnwyd sylw at sylwadau’r Uned Bioamrywiaeth, a’r effaith posib o lygredd yn cyrraedd yr Ardal Cadwraeth Arbennig Pen Llyn a’r Sarnau. Nodwyd bod y mater wedi derbyn sylw perthnasol, ac o ganlyniad i osod mesurau rheoli llygredd yn ystod y gwaith adeiladau ac o’r ardal draenio gynaliadwy, ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn cael effaith sylweddol ar nodweddion yr Ardal Cadwraeth Arbennig.

 

Ategwyd bod materion draenio, trafnidiaeth, ac iaith wedi derbyn sylw ac yn dderbyniol yn ddarostyngedig i amodau cynllunio perthnasol. Ystyriwyd fod y bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau lleol a chenedlaethol ac felly argymhellwyd caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i osod amodau perthnasol.

 

b)          Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol;

·       Bod y pentref yn un gwledig

·       Bod llawer o wrthwynebiad i’r cais yn lleol

·       Bod y bwriad yn orddatblygiad – pum tŷ oedd y cynnig gwreiddiol – hyn yn gweddu yn well i’r safle

·       Yn dilyn trafodaethau gyda’r ymgeisydd ei fod yn ddiolchgar bod addasiad i’r cynllun i osod y ddau fyngalo i gefn Y Ddol - hyn yn lleddfu pryderon gan mai dyma’r eiddo agosaf at y safle.

·       Er y nifer coed yn y cynlluniau, pethau prin yw coed - ardal Deunant yn agored i dywydd garw a go brin caiff coed lonydd i dyfu

·       Ei fod yn diolch i’r Pwyllgor am ymweld â’r safle cyn penderfynu - byddai hyn wedi rhoi cyd-destun gwell na llun mewn adroddiad

·       Gyda’r tai yn rhai cymdeithasol ac wedi eu hariannu gan grant Llywodraeth Cymru, anodd felly yw i’r Cyngor wrthwynebu

·       Ymddengys bod ceisiadau gan asiantaethau tai yn cael ffafriaeth, gydag argymhelliad cryf o'u caniatáu, ond ceisiadau preifat yn cael pob math o rwystrau ac argymhelliad o wrthod yn aml iawn.

·       Oes wir angen tai yma? Bod 14 o deuluoedd ar y rhestr  - hwn yn ffigwr uchel ac yn cael ei gwestiynu yn lleol

·       Bod angen addasu rheolau fel bod Aelodau Lleol yn cael gweld y gofrestr aros

·       Bod angen i’r Pwyllgor ystyried sylwadau’r Cyngor Cymuned a thrigolion y pentref

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â rhannu rhestr aros gyda’r Aelodau Lleol, nodwyd nad oedd modd gwneud hynny oherwydd rheolau rheoli data.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â ffafriaeth i asiantaethau tai, nododd y Swyddog Monitro bod pob cais yn cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun.

 

a)          Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:

·       Bod y ffigyrau sydd yn profi’r angen yn ymddangos yn amwys

·       Er derbyn yr angen i warchod data, bod angen rhannu gwybodaeth gydag Aelodau

·       Bod sylwadau’r uned iaith yn nodi ‘mae’n debyg bod maint y datblygiad yn cyfarch y galw’ - nid yw hyn yn cadarnhau sicrwydd o’r angen

·       Bod sylwadau Uned Strategol Tai hefyd yn nodi ‘ymddengys bod y cynllun yn cyfarch angen yn yr ardal’ - nid yw hyn yn bendant

·       Pryder y bydd nifer y tai yn newid Aberdaron - rhybudd yma o berygl gorddatblygiad

·       Nad oeddynt wedi eu hargyhoeddi bod y data yn gwarantu 8 tŷ

·       Croesawu bod y byngalos wedi cael eu symud

·       Pam cwestiynu nifer sydd ar y rhestr aros - y ffigyrau yn unol â system y Cyngor

 

Mewn ymateb i gwestiwn pam nad oedd adroddiad llawn wedi cael ei gyflwyno gan Hwylusydd Tai Gwledig, nodwyd bod yr angen wedi ei brofi o’r prif ffynonellau a thystiolaeth gan yr ymgeisydd, ac yn unol gyda gofynion y CCA nid oedd pwrpas cynnal arolwg lleol gan Hwylusydd Tai Gwledig.

         

          Caniatáu gydag amodau 

 

1.            Amser

2.            Unol a’r cynlluniau

3.            Deunyddiau

4.            Amod tai fforddiadwy

5.            Amodau priffyrdd

6.            Amodau bioamrywiaeth/gwarchod clawdd

7.            Amod tirlunio

8.            Amod Dŵr Cymru

9.            Tynnu hawliau dirprwyedig a ganiateir yn  ymwneud ag ymestyn a defnydd

10.          Materion draenio

11.          Cynllun Rheoli Adeiladu

12.          Datganiad dull trawsleoli clawdd

 

 

Dogfennau ategol: