Cynnig i godi hyd at 48 o Anheddau a Datblygiad Cysylltiedig
AELODAU LLEOL: Cynghorydd Nigel Pickavance a’r Cynghorydd Dylan Fernley
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau
Cofnod:
Cynnig i godi hyd at 48 o Anheddau a Datblygiad Cysylltiedig
Tynnwyd sylw at y Ffurflen
Sylwadau Hwyr
a)
Amlygodd Arweinydd Tîm
Rheolaeth Datblygu mai cais cynllunio llawn ydoedd ar gyfer codi unedau preswyl
ynghyd â gwaith cysylltiedig ar gae amaethyddol ar gyrion Dinas Bangor ar safle
sydd o fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol. Ategwyd bod y safle
wedi ei ddynodi yn benodol ar gyfer codi tai a’i fod tu mewn i’r ffin datblygu
cyfredol.
Adroddwyd bod prif elfennau’r bwriad yn
cynnig codi 48 o unedau preswyl, darparu
mynedfa a ffordd ystâd safonol gysylltiedig, creu llecynnau parcio, mannau
chwarae, gwaith tirlunio a darparu system ddraenio bwrpasol. Bydd y
ddarpariaeth yn cynnwys 8 x fflat 1 llofft, 6 x fflat 2 llofft, 5 x byngalo 2
llofft, 1 x byngalo (byw a chymorth) 3 llofft, 13 x tŷ deulawr 2 llofft,12
x tŷ deulawr 3 llofft, 2 x tŷ deulawr 4 llofft ac 1 x tŷ deulawr
5 llofft; yn ddatblygiad 100% o dai fforddiadwy gan Gymdeithas Dai Cymdeithasol
gyda bwriad o ddarparu cymysgedd o wahanol ddaliadaeth (e.e. rhent cymdeithasol
a rhent fforddiadwy canolradd) i ddiwallu’r angen sydd wedi ei adnabod yn y
Ddinas ac yng Ngwynedd.
Eglurwyd bod y safle gyferbyn ag Amlosgfa
Bangor ac yn cael ei ystyried yn safle sensitif oherwydd bod Heneb Gofrestredig
Rheilffordd Chwarel Penrhyn yn ffinio terfyn dwyreiniol y safle, dynodiad Safle
Treftadaeth y Byd tu hwnt i hwnnw yn cynnwys tiroedd Parc Cofrestredig gradd II
seren o amgylch Castell Penrhyn, ac adeilad rhestredig gradd 11 Bwthyn Incline sydd ar y terfyn dwyreiniol.
Nodwyd bod cais blaenorol wedi ei gyflwyno yn 2020 ar gyfer datblygiad
66 tŷ ar y safle, ond bod y cais wedi ei dynnu yn ôl yn sgil gwrthwynebiad
gan CADW am yr effaith ar y dynodiadau treftadaeth. O’r dogfennau amrywiol a
gyflwynwyd gyda’r cais yma, ymddengys bod trafodaethau wedi eu cynnal gyda
chyflwyniad datblygiad mwy ystyriol o’i leoliad sensitif.
Yn unol â threfniadau cynllun dirprwyo
Gwasanaeth Cynllunio, cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor gan ei fod yn ddatblygiad
dros 5 tŷ ac yn ddatblygiad a ddiffinnir fel “datblygiad mawr” oherwydd
nifer yr unedau a gynigir. Yn unol â’r drefn briodol, derbyniwyd Adroddiad
Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio fel rhan o’r cais a’r datblygwr wedi hysbysebu’r
bwriad i’r cyhoedd ac ymgynghorwr statudol cyn cyflwyno cais cynllunio
ffurfiol.
Wedi ystyried y wybodaeth a gyflwynwyd, ystyriwyd fod y bwriad yn
dderbyniol ar sail:
·
Bod polisïau mabwysiedig yr Awdurdod yn datgan y
bydd Cynghorau’n ceisio sicrhau lefel briodol o dai fforddiadwy yn ardal y CDLl. Y bwriad yn paratoi datblygiad fyddai’n cynnwys 100%
o unedau fforddiadwy gyda’r Uned Strategol Tai wedi dangos tystiolaeth o’r
angen a chadarnhau fod y cynllun yn cyfarch angen yr ardal.
·
Bod y safle wedi ei ddynodi yn benodol ar gyfer
codi tai, ac er bod y nifer unedau yn llai na’r 72 dwysedd uned a awgrymwyd yn
y CDLl, ystyriwyd bod y rhesymeg dros warchod
buddiannau’r dynodiadau treftadaeth sensitif yn cyfiawnhau dwysedd llai yn yr
achos yma.
·
Bod y materion a godwyd
gan yr Uned Priffyrdd ynglŷn â pharcio wedi eu datrys a bod modd gosod
amod bod y gwaith yn cydymffurfio gyda’r Cynllun Gosodiad ‘Masterplan’
diweddaraf
·
Bod modd cyflawni gwaith
i gynnwys croesfan a llwybr diogel i gerddwyr o’r datblygiad tua chanol y
ddinas drwy gytundeb gyda’r Uned Priffyrdd o dan adran 278; fydd yn
gysylltiedig hefyd gyda’r gwaith o ffurfio mynedfa gerbydol addas i’r
datblygiad. Y datblygwr wedi cytuno i hyn a gellid gosod amod yn cytuno’r
gwelliannau a darparu’r groesfan cyn meddiannu’r tai.
·
Ni fydd Cytundeb 106 ar
gyfer cael cyfraniad ariannol i welliannau ffyrdd bellach yn angenrheidiol.
·
Bod sylwadau’r Uned Polisi wedi amlygu bod angen
215 m2 o lecyn chwarae yn yr ardal i gyfarch angen yr ardal. Nodwyd bod y
llecyn sydd wedi ei leoli ger Bwthyn Incline yn mesur
oddeutu 185m2 a’r llall sydd ar derfyn
deheuol y safle yn 130m2 - gyda’i gilydd yn 315m2 sydd 100m2 yn fwy na’r
ddarpariaeth angenrheidiol.
Ystyriwyd bod y cynnig yn dderbyniol ag yn bodloni gofynion polisïau
lleol a chenedlaethol. O ganlyniad, roedd y Swyddogion yn argymhell
caniatáu’r cais yn ddarostynedig i osod amodau
perthnasol.
b)
Yn manteisio ar yr hawl
i siarad, nododd asiant ar ran yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:
·
Bod y cynllun yn helpu
tuag at ddarparu cartrefi fforddiadwy mewn ymateb i’r argyfwng tai yng Ngwynedd
·
Bod y safle wedi ei
ddynodi ar gyfer tai - byddai polisi yn disgwyl i 20% o’r datblygiad fod yn
gartrefi fforddiadwy, ond y cynllun yma yn cynnig 100% sydd yn diwallu’r angen
sydd wedi ei nodi am y math yma o gartrefi ym Mangor
·
Yn dilyn ymgynghoriad
gyda’r Uned Strategol Tai am y nifer a'r math sydd ei angen bod y cynllun, o 48
uned, yn cynnig cymysgedd da o gartrefi fydd yn cael eu cynnig fel tai rhent
cymdeithasol a rhent fforddiadwy canolradd
·
Bod y nifer unedau yn
llai na’r 72 dwysedd uned a awgrymwyd yn y CDLl - hyn
yn amlygu parch tuag at sensitifrwydd y safle
·
Bod y dyluniad wedi ei
wneud o gwmpas Heneb Gofrestredig Rheilffordd, Safle Treftadaeth y Byd ac
adeilad rhestredig gradd 11 Bwthyn Incline; bod ardal
wyrdd o ansawdd uchel yn annatod i’r cynllun ac amwynder trigolion
·
Y dyluniad wedi arwain at drafodaethau a
chydweithio gyda CADW sydd, ynghyd a swyddogion y Cyngor, yn gefnogol i’r
cynllun
·
Bod llefydd parcio
digonol yn cael eu cynnig. Y safle gerllaw rhwydwaith lleol dda a chapasiti digonol i’r llwyth ychwanegol. Cysylltiad yr A5
hefyd yn hwylus iawn
·
Bod gwelliannau i
safleoedd bysus a llwybrau cerdded wedi eu cynnig
·
Yn ystyriol wrth sicrhau
bod coed presennol o amgylch y safle yn cael eu cadw – bod y coed o werth
ecolegol a bioamrywiaeth ac yn cael eu gwerthfawrogi . Y cynllun yn cyfrannu at
y gwerth yma gyda thirlunio gofalus o’i gwmpas
·
Systemau dwr wyneb a
budr yn cydymffurfio gyda gofynion Dwr Cymru sydd yn fodlon gyda’r cynnig a'r
cynllun
·
Bod adroddiadau a
chanlyniadau positif i sŵn, ansawdd aer a materion archaeoleg wedi eu
cyflwyno ac yn dderbyniol
·
Bod y cais yn un o
ansawdd uchel, yn cynorthwyo i ddiwallu’r angen sylweddol am dai yn y Ddinas
·
Defnydd o safle a
ddyrannwyd yn cael ei ymdrin mewn modd sensitif - yn parchu’r lleoliad
·
Ymgynghorwyr a
swyddogion y Cyngor yn fodlon gyda’r cynnig
·
Yn cydymffurfio gyda pholisïau cenedlaethol a lleol
c)
Yn manteisio ar yr hawl
i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol;
·
Ei fod yn gefnogol i’r
cais
·
Byddai’r datblygiad yn
cyfrannu at leihau’r rhestr aros am dai cymdeithasol yn y Ddinas
·
Bod y dyluniad o safon
dda
·
Byddai’n hoffi gweld
defnydd Polisi Tai Lleol
·
Pryder am y cyfyngiad
cyflymder - bod cyfyngder cyflymder ger yr amlosgfa yn 40mya ond yn lleihau i
30mya wrth fynedfa arfaethedig y bwriad - hanfodol bod cyfyngiad 30mya yn cael
ei ymestyn i fyny at fynedfa’r amlosgfa fel bod gyrwyr yn arafu wrth ddod i
lawr yr allt
·
Yn edrych ymlaen at y
datblygiad
d)
Cynigiwyd ac eiliwyd
caniatáu y cais
ch) Yn ystod y drafodaeth
ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:
·
Croesawu bod y datblygiad yn 100% fforddiadwy
·
Yn cytuno gyda’r Aelod Lleol bod angen gostwng
y cyfyngiad cyflymder
·
Bod y datblygiad yn cwrdd â’r angen
·
Croesawu gweld byngalos yn rhan o’r cymysgedd
` Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â
darparu mannau gwefru ceir trydan o fewn y datblygiad fel cyfraniad at gyrraedd
targed net sero'r Cyngor, nodwyd nad oedd pwyntiau gwefru wedi eu hymgorffori
yn y cais, ond byddai modd i ddarpar breswylwyr wneud cais. Ni fyddai modd
cynnwys hyn fel amod. Ategwyd bod
addasiadau i drafnidiaeth gyhoeddus ac i groesfan wedi eu cymeradwyo - rhain yn
gwneud y datblygiad yn un cynaliadwy
Mewn
ymateb i sylw bod y datblygwr yn talu am asesiad ieithyddol fydd o bosib yn
ymddangos yn bositif o’u plaid, ac i bryder bod ‘diffyg ystyriaeth o’r effaith
cronnus anuniongyrchol’, a pham felly nad yw’r Cyngor yn comisiynu asesiad
ieithyddol sydd ddim ynghlwm a’r datblygwr, pwysleisiwyd nad oedd y gwasanaeth
yn derbyn bod y wybodaeth sy’n cael ei gyflwyno gan ddatblygwyr yn fanwl gywir,
a bod pob elfen o unrhyw gais yn cael ei herio. Ategwyd bod materion ieithyddol
yn cael eu hystyried gan arbenigwyr Uned
Iaith y Cyngor ac yn ychwanegol, o ran effaith gronnol, nid oedd
datblygiad tebyg i’r datblygiad yma wedi ei gynnig ym Mangor ers sawl blwyddyn.
Nodwyd bod y cynllun yma yn cyfarch angen tra gwahanol i’r ceisiadau blaenorol
(megis fflatiau ar y Stryd Fawr), sydd wedi eu cyflwyno i’r Pwyllgor yn y
gorffennol. Y cynllun yn fodd o ddiwallu anghenion pobl Gwynedd, a’r
tebygolrwydd yw y byddai canran uchel o’r tenantiaid yn medru’r Gymraeg.
Mewn ymateb i sylw bod y deunyddiau allanol
arfaethedig i gynnwys llechi Cymreig ar gyfer y toeau, ond bod yr amod yn nodi
‘llechi’ yn unig, nodwyd bod yr amod cynllunio yn cyfeirio at liw, edrychiad a
thebygolrwydd ac nad oedd modd cyfyngu'r llechen i un Gymreig. Er bod y Cyngor
wedi codi hyn drwy apêl yn y gorffennol, bod yr apêl wedi methu - bod rheswm
cyfreithiol dros osod yr amod fel y mae.
Derbyniwyd sylw nad oedd Cyngor Dinas Bangor
wedi cyflwyno sylwadau ar y cais a bod hyn bellach yn fater sydd yn amlygu ei
hun yn rheolaidd. Nododd y Pennaeth Cynorthwyol, nad oedd gan yr Awdurdod yr
hawl i fynd ar ofyn ymateb.
Yng nghyd-destun amddiffyn a diogelu llwybrau
cyhoeddus i’r dyfodol a’r angen am fanylion pellach, nodwyd nad oedd pryder
ynglŷn â llwybrau yn cael eu hatal yma, ond byddai trafodaethau yn cael eu
cynnal rhwng yr asiant a swyddog llwybrau i gael datrysiadau.
Mewn ymateb i gais gan y cynigydd i ystyried
cyfyngiad cyflymder fel amod, nodwyd, er yn cydnabod y pryder, bod y cynllun
wedi cael ei asesu gan yr Uned Trafnidiaeth oedd heb grybwyll yr angen i ostwng lefel cyflymder yn eu hasesiad. O
ganlyniad nid oedd tystiolaeth i weithredu ac felly dim modd amodi. Anogwyd yr
Aelod Lleol i gynnal trafodaeth bellach gyda’r Uned Trafnidiaeth.
PENDERFYNWYD: Caniatáu gydag amodau
1.
Amser 5 mlynedd
2.
Yn unol â’r cynlluniau
3.
Rhaid cyflwyno a chytuno ar raglen
ddarparu tai fforddiadwy
4.
Cyfyngu'r defnydd i anheddau preswyl
dosbarth defnydd C3 yn unig
5.
Tynnu’r Hawliau Datblygu a Ganiateir
6.
Llechi
7.
Cytuno gorffeniad
8.
Amodau Tirlunio
9.
Gweithredu amcanion Datganiad Seilwaith
Gwyrdd
10.
Cytuno manylion cyfarpar chwarae
11.
Amod Dŵr Cymru
12.
Amodau Priffyrdd
13.
Amodau Gwarchod y Cyhoedd i gynnwys
oriau gweithio
14.
Amodau Cadw
15.
Amod Archeolegol
16.
Rhaid rhoi enw Cymraeg i’r stad/tai
Dogfennau ategol: