Cais llawn i adeiladu 15 tŷ fforddiadwy gyda datblygiadau cysylltiedig gan gynnwys creu mynedfa gerbydol newydd a ffordd stad, tirlunio a chreu ardal draenio dwr wyneb cynaliadwy.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Jina Gwyrfai
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i
ganiatáu’r cais gyda’r amod isod:
Cwblheir y gwaith drwy hyn yn llwyr unol â'r manylion a ddangosir ar gynlluniau diwygiedig, Cynllun Lleoliad rhif 673-01B, Edrychiad diwygiedig, Cynllun Llawr Daear a Chynllun Llawr cyntaf a gyflwynwyd i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ar 12 Ionawr 2026, ac a gynhwysir yn y ffurflen gais ac mewn unrhyw ddogfennau eraill gyda'r cais, os nad oes amod(au) sy'n ei diwygio wedi ei gynnwys ar y dyfarniad hwn. Er gwaethaf y diwygiadau a ganiateir drwy hyn rhaid cwblhau gweddill y datblygiad mewn cydymffurfiad gyda'r manylion ac amodau a gynhwysir o fewn caniatâd cynllunio rhif C21/0411/46/LL.
Cofnod:
Cais llawn i adeiladu 15 tŷ fforddiadwy
gyda datblygiadau cysylltiedig gan gynnwys creu mynedfa gerbydol newydd a
ffordd stad, tirlunio a chreu ardal draenio dŵr wyneb cynaliadwy
Tynnwyd sylw at y Ffurflen
Sylwadau Hwyr
Roedd rhai o’r aelodau
wedi ymweld â’r safle 25-03-26
a)
Amlygodd Arweinydd Tîm Rheolaeth
Datblygu mai cais cynllunio llawn ydoedd i godi 15
tŷ fforddiadwy newydd ynghyd a gwaith cysylltiol ar safle cyfochrog, ond y
tu allan i ffin datblygu gyfredol pentref Trefor. Ategwyd y byddai’r
ddarpariaeth yn cynnig cymysgedd o dai -
4 byngalo 2 ystafell wely, 5 tŷ deulawr 3 llofft, 1 tŷ deulawr 4
llofft, ac 1 tŷ 6 llofft. Yn allanol, byddant wedi eu gorffen gyda
chymysgedd o rendr, cladin carreg a sment ar y waliau
a tho llechi naturiol a phaneli solar.
Derbyniwyd cadarnhad gan yr ymgeisydd mai ar
ffurf cynllun niwtral o ran deiliadaeth y cyflwynwyd y datblygiad, fydd yn darparu 100% o dai fforddiadwy.
Grŵp Cynefin fyddai’r perchennog, yn darparu cymysgedd deiliadaeth megis
tai rhent cymdeithasol, tai rhent fforddiadwy canolradd a rhan berchnogaeth yn
unol â’r galw.
Adroddwyd mai cae amaethyddol yw’r tir ar hyn
o bryd gyda thai preswyl i’r gorllewin a thai yn union gyferbyn. Nodwyd bod
ffens, cloddiau a gwrychoedd ar y terfynau a ffordd gyhoeddus dosbarth 3 yn
rhedeg gyda’r terfyn gogleddol, gyda’r safle a’r ardal ehangach o fewn
dynodiadau Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac o fewn Tirwedd o Ddiddordeb
Hanesyddol Llŷn ac Enlli.
Yn unol â threfniadau Cynllun Dirprwyo
Gwasanaeth Cynllunio, cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor gan ei fod yn gais am 5
tŷ neu fwy. Ystyriwyd bod y bwriad, fel a gyflwynwyd yn dderbyniol ar
sail:
·
Bod polisïau mabwysiedig
yr Awdurdod yn datgan y bydd Cynghorau’n ceisio sicrhau lefel briodol o dai
fforddiadwy yn ardal y CDLl
·
Byddai’r bwriad yn darparu datblygiad 100% fforddiadwy
gyda’r Uned Strategol Tai wedi cadarnhau fod tystiolaeth o angen yn
cyfiawnhau’r ddarpariaeth, er mwyn cyfarch anghenion y gymuned leol.
·
Mai 49 yw’r ffigwr
cyfunol ar gofrestr Tai Teg ar gyfer tai canolradd, a chofrestr Tai
Cymdeithasol ar gyfer Trefor ynghyd â phentrefi cyfagos Llanaelhaearn,
Llithfaen a Clynnog am dai. Er hynny, ac yn sgil derbyn gwybodaeth ychwanegol,
fanylach a phenodol gan yr asiant, bod y ffigwr angen bellach wedi ei adnabod
fel isafswm o 25, sef y nifer o bobl sydd ar restr angen tai sydd wedi eu
hadnabod i fod â chysylltiad 5 mlynedd gyda’r ardal. Ystyriwyd bod y ffigyrau
hyn yn cadarnhau bod gwir angen lleol fforddiadwy yn bodoli i gyfiawnhau’r
datblygiad o 15 tŷ i gyfarch angen lleol.
·
Bod ymateb pellach wedi
ei dderbyn gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar sail eu pryderon am effaith ar
yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE). Roeddynt yn datgan “Rydym yn
dal i fod â phryderon ynglŷn â'r cais fel y cyflwynwyd oherwydd nad yw
digon o wybodaeth wedi'i darparu i gefnogi'r cynnig. Er mwyn mynd i'r afael â'r
pryderon hyn, dylech geisio mwy o wybodaeth gan yr ymgeisydd ynglŷn â'r
dirwedd. Os na ddarperir y wybodaeth hon, byddem yn gwrthwynebu'r cais
cynllunio hwn”. Ategwyd bod eu sylwadau hefyd yn cynnwys, mai “mater i chi fel
Awdurdod yw gorbwyso graddfa’r niwed wrth ystyried y buddion a ddaw o’r
cynllun”.
·
Bod Asesiad Effaith
Weledol ar Dirwedd manwl wedi ei dderbyn mewn ymateb i sylwadau diweddaraf CNC
oedd yn cynnwys lluniau golygfeydd o amrywiol leoliadau o fewn a thu allan i’r
pentref. Nodwyd bod yr asesiad yn dod i’r casgliad mai effaith weledol fach fyddai
ar gymeriad y tirlun ac ar dderbynyddion lleol.
·
Bod natur y dirffurf ar
derfynau dwyreiniol a deheuol y cae yn codi’n raddol oedd yn awgrymu y byddai’r
golygfeydd o’r datblygiad yn gyfyngedig, neu wedi ei osod yn erbyn cyd-destun
adeiledig. O bwyso a mesur ei osodiad o fewn yr AHNE, a’r golygfeydd i mewn ac
o du allan i’r AHNE, ystyriwyd bod y safle yn cynnig ei hun fel estyniad
rhesymegol i’r pentref ac na fyddai effaith arwyddocaol ar y dynodiad.
Wedi ystyried yr holl ystyriaethau Cynllunio
ystyriwyd fod y cynnig fel a gyflwynwyd yn dderbyniol ac yn bodloni gofynion
polisïau perthnasol. Roedd y Swyddogion yn argymell caniatáu’r cais gydag
amodau.
b)
Yn manteisio ar yr hawl
i siarad, nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:
·
Bod y datblygiad yn un i
ddarparu 15 cartref fforddiadwy fyddai’n cyfrannu at ddiwallu anghenion tai'r
Sir
·
Byddai’r datblygiad yn
cael ei arwain gan Grŵp Cynefin, gyda chefnogaeth ariannol Grant Tai
Llywodraeth Cymru, o dan reolaeth Cyngor Gwynedd drwy raglen datblygu
·
Yn cyfarch Strategaeth Tai Gwynedd mewn ymateb i’r
argyfwng tai gan ddarparu tai fforddiadwy i bobl leol
·
Wedi cydweithio gyda’r
ymgynghori perthnasol i sicrhau bod y cynlluniau yn dderbyniol iddynt
·
Wedi cyfarfod sawl
gwaith gyda’r Cyngor Cymuned a’r Cyngor Sir i rannu a thrafod y cynllun, a lle
bod modd wedi ei ddiwygio i adlewyrchu eu hadborth
·
Y cynllun yn
cydymffurfio gyda pholisïau lleol a chenedlaethol
·
Bod sylwadau'r Uned
Strategol Tai yn amlygu bod y wybodaeth a gyflwynwyd yn gyson gyda’r angen yn yr ardal
·
Byddai’r datblygiad yn
cael effaith gadarnhaol ar yr iaith - yn debygol o apelio at Gymry Cymraeg yr
ardal gyda maint y datblygiad yn debygol o gyfarch y galw yn lleol am gartrefi
·
Defnydd o’r Polisïau
Gosod ar ddatblygiadau diweddar wedi dangos bod tai yn cael eu gosod i bobl
gyda chysylltiad lleol gyda chanran uchel yn siarad Cymraeg
·
Bod Polisi Tai Cyffredin
Cyngor Gwynedd wedi ei drafod yn ddiweddar gyda’r Comisiynydd Iaith oedd o’r
farn bod y polisi yn hollol briodol.
·
Argymell caniatáu i
gymeradwyo’r cais fel bod 15 o gartrefi newydd i bobl yn y gymuned yn cael yr
hawl i fyw adre
c)
Yn manteisio ar yr hawl
i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol;
·
Mai dyma’r cais cyntaf
ers y chwedegau i godi tai cymdeithasol yn Nhrefor.
58 o dai cymdeithasol yno eisoes, ond llawer ohonynt yn hen dai bychain y
chwarel (un neu ddwy lofft, dim gardd).
·
Yn diolch i bawb oedd
wedi paratoi’r holl ddogfennau, data, lluniau, adroddiadau ac asesiadau. Diolch
i swyddogion yr Adran Gynllunio am eu sylwadau, a’r cymorth, ac am sylwadau pentrefwyr - o blaid ac yn erbyn
y stad.
·
Yn fodlon â’r safle ei
hun – er bod y datblygiad tu allan i ffiniau pentref lleol Trefor, mae’n ffinio â stad fechan newydd o dai
fforddiadwy, yn agos at y ganolfan a’r cae chwarae – yr estyniad yn un
rhesymegol i’r pentref
·
Fforddiadwyedd: 100% fforddiadwy ar rent - yn union beth sydd ei angen i helpu’r
ganran frawychus, uchel o bobl lleol na fydd byth yn gallu prynu cartref.
·
Cymysgedd o dai priodol fyddai’n diwallu anghenion lleol
amrywiol, yn enwedig tai tair llofft a byngalos.
·
Bod dyluniad y stad, er
ddim yn cydweddu â cherrig traddodiadol yr ardal, yn dderbyniol. Yn dai o safon, ac ynni effeithiol.
·
Olion Oes Efydd: bod angen rhagor o ymchwil archeolegol; lluniau LIDAR yn dangos
‘adeilad’ yn glir, a’r ardal o gwmpas Tre’r Ceiri yn sensitif. Nid yw’r
adroddiadau na’r crafiadau safle yn llwyr argyhoeddedig.
·
Isadeiledd: Pryderon yn
y pentref am allu’r hen bibellau carthffosiaeth i ymdopi efo’r llwyth
ychwanegol. Dŵr wyneb yn broblem arall. Er bod Dŵr Cymru / CNC wedi
datgan pryderon, ac er addewid o wella wedi cael caniatâd cynllunio, a fydd
monitro trwyadl o hyn? Elfen o
ansicrwydd yma.
·
Dim yn amau na bychanu’r
argyfwng tai, ond rhaid bod yn siŵr beth sydd ar droed yma. O’r cais,
ymddengys bod rhaid edrych tu hwnt i bentref Trefor ac felly faint o wir angen
sydd yn Trefor, Llanaelhaearn, Llithfaen a Clynnog? Ai pobl Band 1A a 2 fydd yn
cael blaenoriaeth? Dyma’r bandiau i
weithredu’r polisi gosod lleol ar lefel cymunedol. Polisi gosod lleol sydd ei
angen, ac nid polisi cyffredin. Pwy sy’n gwarantu hyn? Pwy sy’n monitro? Bod
tai cymdeithasol yn Nhrefor wedi eu gosod yn
ddiweddar i bobl o’r tu allan i’r ardal,
sydd wedi achosi drwgdeimlad garw. A oes sicrwydd, os caiff y cais ei ganiatáu,
mai pobl o’r pedwar pentref fydd yn cael blaenoriaeth?
·
Beth yw’r angen yn
lleol? Er bod digon o ddata yn honni’r angen am dai yn y pentrefi hyn, a yw’r
dystiolaeth yn ddibynadwy? Bod data Rhestr Aros Cyngor Gwynedd a ddyfynnir yn
nogfen Axis yn amheus - ymwrthodiad yw’r posibilrwydd
am ddyblygu - ym mhob pentref! Ymarfer
pen desg yw Arolwg diweddaraf Hwyluswyr Tai Gwledig, a’u canfyddiadau’n bur
wahanol i’r ymgynghoriad cyhoeddus llawn a gynhaliwyd yn 2022 pryd datgelwyd yn
siomedig mai dim ond 8 o bobl gyda chysylltiad lleol oedd eisiau tŷ
cymdeithasol ym mhentrefi ward yr Eifl.
·
Amhosib yw gwybod yr
union faint o bobl sydd ar y rhestr aros sydd eisiau byw yn Nhrefor.
Faint fuasai wedi rhoi Trefor fel dewis cyntaf ar y ffurflen gofrestru, petai
modd nodi hynny?
·
Bod diffygion yn y dull
cofrestru presennol yn golygu bod gwybodaeth bwysig ar lefel pentref ar goll.
Dyfaliad, amcangyfrifiad yw’r ffigyrau ar y gorau, yn
gallu bod yn gamarweiniol, neu efallai’n anghywir.
Bod elfen o risg, gambl yma. Ffigwr o
242 o bobl ar y rhestr aros am dai yn y Ward. Anhygoel! 155 oedd y
ffigwr ym mis Chwefror, gydag ond 33 yn Fand 1A.
·
Da gweld ffigyrau a
gyflwynwyd yn ddiweddarach yn datgan mai 25 yw’r nifer sydd â chyswllt lleol
dilys. Ydy hynny’n ddigon i gyfiawnhau 15 aelwyd newydd? Y Pwyllgor sydd i
benderfynu. Beth yn union yw hyd y ‘cyswllt lleol’? - 5 mlynedd i Gyngor
Gwynedd, ond 12 mis i Tai Teg, sydd ddim yn deg o gwbl.
·
O ran deiliadaeth, yr
addewid gwreiddiol oedd tai fforddiadwy ar rent canolradd i bobl leol. Pam
newid hyn?. A yw cymysgedd niwtral o wahanol denantiaid yn dderbyniol?
·
Pryder am wead
cymdeithasol cymuned Gymraeg - Yr iaith Gymraeg a materion PS1.
Yn diolch am asesiad iaith gynhwysol, fanwl
gan gwmni Burum, llawn data, ffeithiau,
a dadansoddiad wedi ei seilio ar fethodoleg, cyfoes blaengar. ‘Effaith
cadarnhaol bach’ yw canlyniad ‘tebygol’ y datblygiad. Nodwch y geiriau
‘tebygol’ ... ‘bach’ ydynt yn sicr ? Oes amheuaeth ? Oes!
·
Mae’r ffaith nad oes
data am bentref Clynnog Fawr yn peryglu cywirdeb y casgliad
·
Bod gweithgarwch yn y
pentref: Clwb Bowlio, Cinio Cymunedol, Merched y Wawr, Cymdeithas Pysgotwyr,
Clwb Gwau, Seindorf Trefor, Adran yr Urdd, Clwb Seiclo, Clwb Chwaraeon, Oedfaon Capel, Tîm Twtio Trefor, a dosbarth
Cymraeg i Oedolion: pob un o’r rhain yn
y Gymraeg. Pentref cynhwysol ydyw, yn groesawgar, yn naturiol Gymraeg. Fel
ymhob man, erydwyd y Gymraeg yn ystod
y blynyddoedd diwethaf. Er bod dros 70%
o drigolion yn siarad Cymraeg yn 2021, rydym ar ffin dyngedfennol ieithyddol.
Mae’r ffordd Gymraeg o fyw yn y fantol a gall 15 o deuluoedd wneud gwahaniaeth
andwyol.
·
Er derbyn bod polisïau
lu a da yn bodoli i warchod tirluniau, bioamrywiaeth, safonau adeiladu,
ystlumod, amgylchedd, isadeiledd, mae gwarchod cymunedau Cymraeg sy’n crebachu
a phrinhau o flwyddyn i flwyddyn cyn bwysiced, ond lle mae’r polisi i’w
hamddiffyn? Gweithredu i fywhau’r cymunedau Cymraeg yw bwriad ‘Adroddiad
Grymuso Cymunedau, Cryfhau’r Gymraeg’ a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn
2024. Ynddo ceir amodau i gadw iaith
pentrefi fel Trefor yn hyfyw a chreu amodau iddynt ffynnu. Bod Simon Brooks yn pwyso
am barhad y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg, am fuddsoddiad mewn stadau fel y
cais yma fel modd i rymuso’r Gymraeg yn eu cadarnleoedd.
·
Cyngor Cymuned Trefor
wedi galw am ‘sicrwydd’ nid
‘tebygolrwydd’ y bydd y stad o dai yn llwyddo, nid yn unig i leihau’r rhestr
aros, ond i amddiffyn a hyrwyddo’r Gymraeg fel iaith gymunedol fyw. Dymuniad y
Cyngor Cymuned yw i’r Pwyllgor fynd gam ymhellach a thrin y cais fel un
arloesol, trwy wneud ‘medru’r Gymraeg’ yn amod gosod y tai yn Trefor. Ar sail
hyn yn unig mae’r Cyngor Cymuned yn cefnogi’r cais, ac mae posib gwneud iddo
ddigwydd.
·
Bod Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg wedi derbyn barn
gyfreithiol sy’n datgan yn ddiamwys ei bod yn gwbwl gyfreithlon gwneud medru’r
Gymraeg yn amod tai cymdeithasol - Cyngor Gwynedd a’r cymdeithasau tai yn
ymwybodol o hyn.
·
Bod Ysgrifennydd Cabinet
dros Lywodraeth Leol a Thai Llywodraeth Cymru, Jayne
Bryant wedi cadarnhau bod cyfiawnhad
dros gynnwys siaradwyr Cymraeg cymunedau Cymraeg yn rhestr blaenoriaethau gosod
tai cymdeithasol .
ch) Cynigwyd gohirio’r cais fel bod modd cynnal
ymgynghoriad pellach gyda CNC ynglŷn â’r effaith ar yr AHNE
d)
Ni eiliwyd y cynnig
dd)
Cynigiwyd ac eiliwyd
caniatáu’r cais
e) Yn ystod y drafodaeth
ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:
·
Bod y cais yn estyniad
rhesymol i’r pentref a’r gymysgedd o ddeiliadaeth yn dda
·
Adroddiadau diweddar yn
manylu ar y nifer o dai sydd wedi eu gosod i siaradwyr Cymraeg, ond rhaid cofio
bod dyletswydd statudol gan y Cyngor i ystyried y meysydd blaenoriaeth
·
Bod 25 ar y rhestr aros
sydd angen tŷ yn yr ardal. 15 tŷ yma, felly 10 yn parhau ar y rhestr
·
Bod tystiolaeth ddigonol
o’r angen lleol wedi ei gyflwyno
·
Bod y cae yn ofnadwy o
wlyb
·
Siomedig nad oedd
sylwadau gan Swyddogion AHNE wedi eu derbyn o ystyried bod y safle o fewn yr
AHNE
·
Asesiad Uned Iaith - y
datblygiad ‘yn debygol o apelio’ - dim
pendantrwydd na sicrwydd yn y gosodiad yma
·
Dylai pobl Trefor,
Llanaelhaearn, Llithfaen a Clynnog gael y cynnig cyntaf
·
Dim eisiau i’r Cyngor
weithredu yn anghyfreithlon, na gwrthod y cais, a cholli ar apêl
Mewn ymateb i sylw Cyngor Cymuned ynglŷn â gosod amod iaith Gymraeg
ac y dylid ystyried cyngor cyfreithiol i ddiwygio polisi gosod tai lleol fydd y
gosod amod i ddiogelu’r Iaith i geisiadau i’r dyfodol, nododd y Pennaeth
Cynorthwyol bod Polisi Cynllunio Cymru,
yn nodi “Ni ddylai polisïau a phenderfyniadau gyflwyno unrhyw elfen o
wahaniaethu rhwng unigolion yn seiliedig ar eu gallu ieithyddol, ac ni ddylent
geisio rheoli deiliadaeth tai ar sail ieithyddol”
Buasai’r defnydd o amod cynllunio i gyfyngu’r feddiannaeth y tai i
siaradwyr Cymraeg yn unig, yn anghyfreithlon.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r angen am dŷ 6 llofft,
cadarnhawyd bod yr angen wedi ei brofi ar gyfer tŷ 6 lofft, a bod teulu
eisoes wedi eu clustnodi ar ei gyfer.
PENDERFYNWYD:
Caniatáu gydag amodau ac yn ddarostyngedig i
gytundeb 106 neu gytundeb unochrog ar gyfer sicrhau cyfraniad llecynnau agored
1. Amser
2. Unol a’r cynlluniau
3. Deunyddiau
4. Amod tai fforddiadwy
5. Amodau priffyrdd
6. Amodau bioamrywiaeth
7. Amod tirlunio
8. Amod Dŵr Cymru
9. Tynnu
hawliau dirprwyedig a ganiateir yn
ymwneud ag ymestyn a defnydd
10. Materion draenio
11. Cynllun Rheoli
Adeiladu
12. Materion yn ymwneud a
phympiau aer
Dogfennau ategol: