Cais cynllunio llawn ar gyfer 17 annedd
fforddiadwy, ynghyd a chreu mynediad newydd i gerbydau a ffordd fynedfa fewnol,
cau 2 bwynt mynediad amaethyddol presennol, creu mynediad newydd i wasanaethu
is-orsaf newydd, gwaith ymestyn Ffordd Glanffynnon ynghyd a gwaith tirlunio,
draenio a gwaith arall cysylltiedig.
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Beca Brown
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau ac yn ddarostynedig i gytundeb 106 neu gytundeb unochrog ar gyfer sicrhau
cyfraniad llecynnau agored
1. Amser
2. Unol a’r cynlluniau
3. Deunyddiau
4. Amod tai fforddiadwy
5. Amodau priffyrdd
6. Amodau bioamrywiaeth
7. Amod tirlunio
9. Tynnu hawliau
dirprwyedig a ganiateir yn ymwneud ag
ymestyn a defnydd
10. Materion draenio
11. Cynllun Rheoli
Adeiladu
12. Gwarchod llwybr
cyhoeddus
13. Amodau Archeolegol
14. Amodau Gwarchod y
Cyhoedd a SPEnergy Networks
Nodiadau:
Priffyrdd
Trwydded Ystlumod
Cyfoeth Naturiol Cymru
Dwr Cymru
Llwybrau
SUDS
Datblygiad Mawr
Uned Draenio Tir
Cofnod:
Cais cynllunio llawn ar gyfer 17 annedd fforddiadwy,
ynghyd a chreu mynediad newydd i gerbydau a ffordd fynedfa fewnol, cau 2 bwynt
mynediad amaethyddol presennol, creu mynediad newydd i wasanaethu is-orsaf
newydd, gwaith ymestyn Ffordd Glanffynnon ynghyd a
gwaith tirlunio, draenio a gwaith arall cysylltiedig.
Tynnwyd sylw at y
Ffurflen Sylwadau Hwyr
Roedd rhai o’r
aelodau wedi ymweld â’r safle 25-03-26
a)
Amlygodd y Rheolwr
Cynllunio bod y cais llawn yn cynnwys, 5 tŷ deulawr 2 ystafell wely, 4
byngalo 2 ystafell wely, 6 tŷ deulawr 3 ystafell wely, 1 byngalo 4
ystafell wely ac 1 tŷ deulawr 5 ystafell wely. Byddai bwriad o ddarparu
100% o dai fforddiadwy gyda chymysgedd o ddeiliadaethau rhent cymdeithasol a
chanolradd. Lleoli’r y safle y tu allan, ond yn ffinio gyda ffin datblygu
Llanrug gydag anheddau preswyl presennol i'r De, Ffordd Glanffynnon
i'r Gorllewin, cae amaethyddol a thir gwag wedi gordyfu i'r Dwyrain a thai
preswyl i'r Gogledd. Bydd bwriad cadw hawddfraint 3 medr o led rhwng y
datblygiad a chwrs dŵr sy’n rhedeg ar hyd terfyn dwyreiniol y safle, creu
coridor ecolegol yng nghornel de ddwyreiniol y safle a datblygu basn cadw
dŵr yng nghornel gogleddol a deheuol y safle. Bydd y llwybr cyhoeddus sy’n
rhedeg drwy’r safle yn cael ei warchod.
Cyfeiriwyd at sylwadau hwyr a dderbyniwyd gan
y Cyngor Cymuned, oedd yn cefnogi’r cais, yn ogystal â sylwadau a chadarnhad
gan Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd yn mynegi nad oedd ganddynt wrthwynebiad, yn
ddarostyngedig i osod amodau i warchod mwynderau trigolion y tai gerbron a’r
rhai o fewn y datblygiad. Ategwyd bod SP Energy
Networks wedi cadarnhau’r angen i drafod ail-osod gwifrau a bod hyn i’w osod fel amod
cynllunio.
Gyda’r safle wedi ei leoli y tu allan i’r
ffin ddatblygu, atgoffwyd yr Aelodau bod disgwyl i’r holl unedau fod ar gyfer
angen fforddiadwy lleol. Ar gyfer Llanrug, diffinnir hyn fel pobl mewn angen
tŷ fforddiadwy sydd wedi byw o fewn y Pentref neu yn yr ardal wledig o
gwmpas am 5 mlynedd neu fwy yn olynol, un ai yn union cyn cyflwyno cais neu yn
y gorffennol. Diffinnir yr ardal wledig yn yr achos yma fel pellter o 6km o
safle'r cais a holl ardal unrhyw Gyngor Cymuned sy'n cael ei rhannu gan y
pellter 6km, gan eithrio eiddo o fewn ffin datblygu unrhyw anheddiad oni bai am
yr anheddiad hwnnw lle mae’r cais wedi’i leoli.
Cyflwynwyd tystiolaeth ar ffurf Datganiad Tai
Fforddiadwy a Thystiolaeth o’r Angen a Strategaeth Gosod yn cyfeirio at yr
angen oedd wedi ei amlygu ar Gofrestr Tai Cymdeithasol a Thai Teg yn Llanrug a
Chwm y Glo. Amlygwyd bod Cwm y Glo yn bentref gyda ffin sydd wedi ei leoli o
fewn 6km i Lanrug, gyda chadarnhad nad oedd cyfle ar
gyfer datblygu tai ar gyfer cyfarch ei angen ei hun.
Cadarnhawyd bod yr angen cyfunol o’r Gofrestr
Tai Cymdeithasol a Thai Teg gyda chysylltiad 5 mlynedd ar gyfer Llanrug yn 42,
a bod yr angen cyfunol ar gyfer Cwm y
Glo yn 10 (er nodi y gall y ffigwr ar gyfer Cwm y Glo gynnwys dyblygu o’r
rhestr ar gyfer Llanrug). Eglurwyd bod y wybodaeth yn dangos sut bydd y
datblygiad yn darparu ar gyfer teuluoedd sydd eisoes yn byw yn Llanrug, ond
mewn tai sydd o faint anaddas. Ar sail y wybodaeth a gyflwynwyd fel rhan o’r
cais, ystyriwyd bod yr angen wedi ei
gadarnhau ar gyfer y datblygiad, a’r bwriad yn ffurfio estyniad rhesymegol i’r
pentref.
Yng nghyd-destun mwynderau gweledol, lleolir
y safle ar gyrion y pentref a ni ystyriwyd y byddai’n cael effaith weledol
sylweddol ar y dirwedd, ac y byddai yn cydweddu cyd-destun adeiledig yr ardal
bresennol a gweddill y pentref. Yn yr un modd, yng nghyd-destun mwynderau
cyffredinol a phreswyl, ni ystyriwyd bod y bwriad yn debygol o gael effaith
andwyol sylweddol ar drigolion cyfagos.
Cyfeiriwyd at ohebiaeth helaeth a dderbyniwyd
gan drigolion lleol yn codi pryderon ynglŷn ag effaith y bwriad ar
ddiogelwch ffyrdd. O ganlyniad,
derbyniwyd gwybodaeth bellach ar ffurf Archwiliad Diogelwch Ffyrdd gan yr
ymgeisydd, ynghyd â chynllun oedd yn dangos gwelliannau megis lledu’r troad i’r
de o’r safle. Adroddwyd bod yr Uned Drafnidiaeth yn fodlon gyda’r gwelliannau a
gynigwyd ynghyd a manylion materion technegol fyddai
yn destun cytundeb s278 sydd ar wahân i’r caniatâd cynllunio. Er cydnabod y
gwrthwynebiadau a dderbyniwyd ynglŷn â diogelwch ffyrdd a cherddwyr,
parcio a chynnydd mewn traffig, ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol ac yn
cydymffurfio â gofynion polisïau PS4, TRA 2 a 4 o’r CDLl.
Yng nghyd-destun materion Bioamrywiaeth,
nodwyd bod yr Uned Bioamrywiaeth yn fodlon gyda’r bwriad, yn ddarostyngedig i
ddilyn y cynllun tirweddu, y mesurau lliniaru a’r gwelliannau oedd wedi eu
cynnwys yn yr arolygon a gyflwynwyd fel rhan o’r cais.
Yng nghyd-destun mannau agored, eglurwyd
oherwydd maint y safle, bydd disgwyl i’r bwriad gynnig darpariaeth addas o
fannau agored. Er nad oedd darpariaeth wedi ei gynnig ar y safle, bod
cyfyngiadau’r safle, (ardaloedd agored anffurfiol megis llwybr cyhoeddus a
chwrs dwr presennol, darparu coridor ecolegol a darpariaeth SUDS), yn golygu
nad oedd yn bosib darparu man chwarae agored a chyfarpar o fewn y safle. O
ganlyniad, ac ar sail yr angen oedd wedi ei gyfrifo, bydd cyfanswm cyfraniad
oddeutu £10,000 ar gyfer darparu man chwarae gyda chyfarpar i’w sicrhau drwy
gytundeb 106 neu unochrog.
Wedi ystyried yr holl ystyriaethau Cynllunio
ystyriwyd fod y cynnig fel a gyflwynwyd yn dderbyniol ac yn bodloni gofynion
polisïau perthnasol. Roedd y Swyddogion yn argymell caniatáu’r cais gydag
amodau.
b)
Yn manteisio ar yr hawl
i siarad, nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:
·
Bod bwriad adeiladu 17 o
gartrefi fforddiadwy
·
Y datblygiad yn gyfle
gwych i ddarparu cartrefi o ansawdd i ddiwallu’r gwir angen lleol a chyfrannu
at ddyfodol cynaliadwy'r gymuned argyfwng tai
·
Bydd 11 cartref ar rent
cymdeithasol a 6 ar rent canolraddol i ddiwallu’r angen lleol
·
Os bydd y cais yn cael
ei gymeradwyo, bydd Adra yn mabwysiadu Polisi Gosod Lleol fydd yn sicrhau mai
trigolion sydd mewn angen tai, sydd gyda chysylltiad o bum blynedd neu fwy
gyda’r Cyngor Cymuned fydd yn gymwys am y cartrefi
·
Bod dros 400 wedi mynegi
diddordeb i fyw yn Llanrug, gyda lleiafswm o 42 yn gymwys i’r datblygiad heb
ddyblygiadau - gydag angen tai profedig a chysylltiad o dros 5 mlynedd i’r
Cyngor Cymuned
·
Cyfle gwirioneddol i
drawsnewid bywyd 17 o aelwydydd lleol
·
Yn gynllun sy’n cynnig
cartrefi diogel, modern, ynni effeithlon a rhoi cyfle i deuluoedd lleol gael
sefydlogrwydd hir dymor
·
Bod proses ymgynghori
wedi ei chynnal lle cafwyd noson agored lwyddiannus gyda’r gymuned leol, lle
derbyniwyd 50 o enwau trigolion ar y noson
·
Y cais yn cydymffurfio
gyda pholisïau lleol a chenedlaethol
·
Bod yr Uned Drafnidiaeth
yn hapus gyda’r cais a’r asesiad diogelwch a gyflwynwyd
·
Bod Adra wedi ymateb i’r
pryderon lleol drwy ymrwymo i ledu’r ffordd o flaen y safle a’i gwneud yn fwy
diogel a chynaliadwy
·
Bydd llwybr troed addas
yn cael ei wneud i gysylltu’r datblygiad gyda gweddill y pentref, a bod
parodrwydd i gydweithio gyda’r Adran Priffyrdd i sicrhau mesurau i oleuo’r
llwybr
·
Y safle yn gynaliadwy,
yn addas ac yn cyd-fynd â strategaethau
·
Trwy fabwysiadu Polisi
Gosod Lleol a fydd yn blaenoriaethu aelwydydd lleol, bydd y cartrefi yn debygol
o gael eu gosod i aelwyd Gymraeg, ac o brofiad datblygiadau blaenorol a
thystiolaeth glir, nodwyd bod 89% yn gallu’r Gymraeg mewn datblygiad ym Mhwllheli, 94% yn Dinas a 94% ym Methel
- rhain yn ganlyniadau positif iawn
·
Yn gyfle i ddarparu
cartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel i bobl leol ac ymateb i’r angen lleol sydd
wedi ei dystiolaethu yn glir
·
Yn annog y Pwyllgor i
gefnogi’r cais er lles 17 teulu lleol.
c)
Yn manteisio ar yr hawl
i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol;
·
Dylai cael byw mewn
cartref diogel, cynnes ac addas fod yn hawl dynol, sylfaenol i bawb, ond bod
llawer gormod yn y Sir ac yn ardal
Llanrug dal heb dŷ - rhai wedi bod yn aros yn llawer rhy hir ar
restr aros tai
·
Bod nifer o resymau dros
fethu cael tŷ, a bod heb dŷ neu heb dŷ addas yn rhoi straen ar
bobl - bod clywed straeon yn gallu bod yn dorcalonnus iawn
·
Dim dwywaith bod galw am
dai yn Llanrug a bod ymdeimlad o fwrlwm yn y noson agored wedi amlygu hynny
·
Pryderon wedi ei mynegi
am draffig, cornel dynn ger y safle, colled posib o fioamrywiaeth a phwysau chapasiti traeaniad yn yr ardal yma o’r pentref. Er hynny,
yn croesawu ymrwymiad i ledu’r ffordd a gosod llwybr troed diogel i’r ysgol a
bod gwybodaeth ychwanegol wedi ei rannu mewn ymateb i ymholiadau am fanylion
wedi tawelu’r pryderon
·
Yng nghyd-destun Iaith -
teg dweud mai Llanrug ydy pentref mwyaf Cymraeg y Byd a’r dymuniad yw i Lanrug gadw gafael ar y teitl er yn dymuno i bentrefi
eraill eu herio fel bod y Gymraeg yn cryfhau ymhob man
·
Hysbys bellach bod
stadau tai newydd mewn ardaloedd o gwmpas tref Caernarfon yn aml yn fwy Cymreig
eu hiaith na’r cymunedau maent yn rhan ohono
·
Yn clywed llawer am yr
hawl i fyw adre, ac un ffordd o gadw’r Cymreictod, fel yn Llanrug, yw creu
amodau sy’n caniatáu i bobl ifanc yr ardal aros yn eu cymunedau neu ddychwelyd
iddynt wedi cyfnod i ffwrdd
·
Yn deall anghysur pobl o
weld eu pentrefi yn newid a thyfu wrth i fwy o dai gael eu codi
·
Ei bod yn cefnogi
sylwadau Cyngor Cymuned Llanrug sy’n nodi
byddai angen lliniaru sgil effaith negyddol bosib o gael y tai
·
Fel y Cyngor Cymuned, yn
gefnogol i’r cynllun, ac yn falch o gael meddwl am y bobl leol fydd yn cael
tŷ addas, cynnes a diogel ar ôl aros am rywbeth mae cymaint yn gymryd yn
ganiataol
ch) Cynigiwyd ac eiliwyd
caniatáu y cais
PENDERFYNWYD: Caniatáu gydag amodau ac yn ddarostyngedig i gytundeb 106
neu gytundeb unochrog ar gyfer sicrhau cyfraniad llecynnau agored
1. Amser
2. Unol a’r cynlluniau
3. Deunyddiau
4. Amod tai fforddiadwy
5. Amodau priffyrdd
6. Amodau bioamrywiaeth
7. Amod tirlunio
9. Tynnu
hawliau dirprwyedig a ganiateir yn ymwneud ag ymestyn a defnydd
10. Materion draenio
11. Cynllun Rheoli
Adeiladu
12. Gwarchod llwybr
cyhoeddus
13. Amodau Archeolegol
14. Amodau Gwarchod y
Cyhoedd a SPEnergy Networks
Nodiadau:
Priffyrdd
Trwydded Ystlumod
Cyfoeth Naturiol Cymru
Dwr Cymru
Llwybrau
SUDS
Datblygiad Mawr
Uned Draenio Tir
Dogfennau ategol: